skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Rhestr Staff

Corff y Llywodraethwyr

EN
Clerc
Mrs Jayne Bowen
Pennaeth
Mr Simon Davies
Cymunedol
Mr Heini Gruffudd - 03/11/2023
Mrs Sarah East - 22/11/2023
Mrs Carys Davies - 08/03/2025
Mrs Davida Lewis - 03/11/2023
Mr Dylan Williams - 27/06/2027
Mr Alun Jones Is Gadeirydd - 16/11/2023
AALl
Mrs Jan Rowlands - 19/01/2027
Mrs Eleni Maria Cordingley - 26/11/2024
Mr David Williams - 29/03/2027
Parch Eirian Wyn - 15/10/2023
Mrs Margaret Greenaway - 21/08/2023
Mr Richard Taylor - 21/04/2025
Rhiant
Mrs Esther Wood, Cadeirydd - 25/10/2026
Mrs Bethan James - 17/11/2025
Mrs Adele Thomas - 09/12/2023
Benjamin Saunders - 21/10/2024
Mrs Rebecca Barker – 25/10/2026
Mrs Emma Davies – 25/10/2026
Staff
Mr Chris Shaw (Athro) - 30/9/2024
Mrs Naomi Tootill Evans (Athrawes)- 12/03/2026
Mr Geraint Davies (Staff) – 25/10/2026

Uwch Dîm Arwain

EN
Mr Simon Davies
Pennaeth
Mrs Rhian Edwards-Jones
Dirprwy Bennaeth / Athrawes y Gymraeg
Mr Mark Bridgens
Pennaeth Cynorthwyol / Athro Dylunio a Thechnoleg
Mrs Emma Howells
Pennnaeth Cynorthwyol / Pennaeth yr Adran Hanes
Mr Christopher Shaw
Pennaeth Cynorthwyol / Pennaeth yr Adran Saeneg
Mrs Nerys Vaughan
Pennaeth Cynorthwyol / Athrawes Hanes

Tîm Bugeiliol

EN
Miss Angharad Jenkins
Cydlynnydd Pontio
Mrs Naomi Tootill-Evans
Arweinydd Dysgu Blwyddyn 8
Miss Lindzi Miller
Arweinydd Dysgu Blwyddyn 9
Mr Chris Jones
Arweinydd Dysgu Blwyddyn 10
Miss Heledd Clarke
Arweinydd Dysgu Blwyddyn 11
Mrs Rhian Davis
Arweinydd Dysgu Blwyddyn 7
Mr Ben Davies
Pennaeth y Chweched Dosbarth
Miss Catrin Lyall
Dirprwy Bennaeth y Chweched Dosbarth

Staff Addysgu

EN
Adran Mynediad i Ddysgu
Mrs Bethan Williams - CADY
Mrs Angharad Stephens - CADY
Cymraeg
Miss Meinir Jones - Pennaeth Cyfadran y Gymraeg/Llythrennedd
Miss Heledd Clarke – Pencampwraig y Gymraeg / Arweinydd Dysgu Bl.11
Miss Catrin Lyall – Dirprwy Bennaeth y Chweched Dosbarth / Cydlynydd CA3 Adran y Gymraeg
Mr Sion Roberts
Miss Nerys Williams
Miss Gwen Shenton
Mrs Rhian Edwards Jones
Saesneg
Mr Chris Shaw - Pennaeth yr Adran Saesneg
Miss Ailish Saer
Mrs Sarah Swanson
Mrs Hannah John
Miss Rhiannon Howells
Miss Hannah Stokes - Cydlynydd CA3 yr Adran Saesneg
Mrs Naomi Tootill-Evans – Arweinydd Dysgu Bl.8
Ieithoedd Modern
Mrs Mali Jones - Pennaeth yr Adran Ieithoedd Modern
Miss Eleri Williams
Mathemateg
Mrs Carly Shanklin - Pennaeth y Gyfadran Fathemateg
Mr Neil Jones
Mrs Catrina Williamson
Mr Rhys Havard - Amserlennydd / Swyddog Data
Miss Angharad Jenkins - Cydlynydd Rhifedd CA3 a Chydlynydd MDaPh Mathemateg a Rhifedd
Mr Rhydian Griffiths
Mr Owen Llywelyn
Gwyddoniaeth
Mr Aled Mason - Pennaeth y Gyfadran Wyddoniaeth
Mr Christopher Nettle – Pennaeth Ffiseg
Mr Chris Jones - Pennaeth Bioleg / Arweinydd Dysgu Bl.10
Mrs Rhiannon Williams - Cydlynydd CA3 yn yr Adran Wyddoniaeth a Chydlynydd MDaPh Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Miss Hannah Griffiths – Arweinydd Seicoleg
Miss Siwan Gruffudd - Ymarferydd Arweiniol
Miss Ffion Evans
Miss Molly Ubsdell
Addysg Gorfforol
Mr Rhodri Thomas – Pennaeth yr Adran Addysg Gorfforol
Miss Nia Jones
Mr Gruffudd Jones - Arweinydd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Cwrs Awyr Agored / Cydlynydd Dug Caeredin
Mr Llion Jones
Miss Carys Bryant
Cerdd
Mr Alun Williams - Pennaeth yr Adran Gerdd a Chydlynydd MDaPh Celfyddydau Mynegiannol
Hanes
Miss Lydia Morgan – Pennaeth Hanes a Gwleidyddiaeth / Cydlynydd y Tystysgrif Her Sgiliau CA4
Mrs Emma Howells
Mr Steffan Lloyd
Mrs Nerys Vaughan
Daearyddiaeth
Mrs Rhian Davis – Pennaeth yr Adran Ddaearyddiaeth / Arweinydd Dysgu Bl.7
Mr Ben Davies – Pennaeth y Chweched Dosbarth
Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
Mrs Ruth Jenkins - Pennaeth yr Adran Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg
Miss Hana Jones – Arweinydd MDaPh Y Dyniaethau
Drama ac Astudiaethau'r Theatr
Mrs Bethan Harkin Pennaeth yr Adran Ddrama
Mrs Meleri Cole - Cydlynydd y MDaPh Iechyd a Lles
Dylunio Technoleg
Mr Ciaran Lloyd - Pennaeth yr Adran Dechnoleg
Mrs Nerys Stephens - Pennaeth Yr Adran Gelf
Mrs Judith Morgan - Cydlynydd Technoleg Bwyd
Miss Catrin Thomas - Athrawes Celf a Ffotograffiaeth
Mr Steffan Davies – Athro DT
Mr Mark Bridgens
TGCh
Mr Gary Davies - Pennaeth yr Adran TGCh ac Arweinydd Cymhwysedd Digidol
Mr Emyr Walters – Arweinydd Astudiaethau Busnes ac Athro TGCh
Mr Hywel Pugh
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Miss Lindzi Miller - Cydlynydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Arweinydd Dysgu bl9
Athrawon Cyflenwi
Mr Gwion James

Staff Cynorthwyol

EN
Mrs Eirian Leonard
Rheolwr Busnes Yr Ysgol
Mr Omar Bechar
Rheolwr y Rhwydwaith TGCh
Mr Billy Williams
Technegydd TGCh
Mrs Jayne Bowen
Rheolwr Swyddfa
Miss Bethan Price
Derbynnydd
Miss Lynwen Matthews
Swyddog Gweinyddu’r System Gofrestru / Gronfa’r Ysgol
Mrs Sue Lewis
Swyddog Gweinyddu'r System Gofrestru
Mrs Margaret Bartlett
Swyddog Gweinyddol Llungopio
Mrs Rhian Davies
Swyddog Arholiadau
Mr Geraint Davies
Rheolwr Safle
Mr Nigel Rees
Gofalwr
Mrs Rachel Vallance
Pennaeth Adran Yr Uned Iaith a Lleferydd
Mrs Ruth Davies
Uned Iaith a Lleferydd/Cynorthwy-ydd
Mrs Mair Wilson
Uned Iaith a Lleferydd/Cynorthwy-ydd
Mrs Sera Cairns
Uned Iaith a Lleferydd/Cynorthwy-ydd
Mrs Jayne Hughes
Cynorthwy-ydd Llythrennedd Cymraeg
Mr Luke Morgan
Cynorthwy-ydd Llythrennedd Saesneg
Mr Morgan Jenkins
Cynorthwy-ydd Yr Adran Mathemateg
Mrs Debbie Lloyd
Technegydd Gwyddoniaeth
Mr Joanthon Hammill
Technegydd DT
Mrs Nia Jenkins
Athrawes Teithio Telyn a chanu
Miss Catrin Pugh
Cydlynnydd Yr Uned Gwella
Miss Cleo Lucas
Cynorthwy-ydd Bugeiliol
Mr Duncan Rowe
Adran yr Uned Gwella/Prosiect Cynnydd
Mr Anton Jones
Cynorthwy-ydd Bugeiliol
Miss Delyth Evans
Cynorthwy-ydd Bugeiliol
Miss Whitney Glover
Swyddog ADY
Mrs Auriona Evans
Cynorthwy-ydd Dysgu
Mrs Sandra Morgan
Cynorthwy-ydd Dysgu
Mr Derrick Thomas
Cynorthwy-ydd Dysgu
Mr Ioan Imms
Cynorthwydd Dysgu
Miss Llinos Williams
Cynorthwydd Dysgu
Mr Jac Lewis
Cynorthwy-ydd Dysgu
Miss Tia Rae Evans
Cynorthwy-ydd Dysgu

Swyddi Gwag

Athro Mathemateg / Gwyddonieth

Rydym yn chwilio am athro ysbrydoledig ac uchelgeisiol i ymuno ag adran lwyddiannus. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus i addysgu Mathemateg a Gwyddoniaeth ar draws CA 3+4, gyda chyfle i ymgeisydd â’r profiad addas i gyfrannau at gyrsiau Safon Uwch.

Gyda datblygiadau cyffrous iawn ym myd addysg, â’r ffocws ar ddatblygu medrau rhifedd a meddwl dwfn disgyblion, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus â’r cyfle i gyfrannu’n helaeth at ddatblygu rhifedd ein disgyblion, yn uniongyrchol a thrwy gefnogi athrawon eraill ar draws yr Ysgol.

Wedi ei leoli ar gyrion Dinas Abertawe ac yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4, ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer eu holl ddisgyblion. Mae staff gweithgar a thalentog yr ysgol yn allweddol wrth yrru llwyddiannau’r ysgol yn ogystal â sicrhau’r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.

Rydym yn gallu cynnig:

  • y cyfle i weithio gyda disgyblion brwdfrydig, hapus a gweithgar
  • y cyfle i weithio o fewn y Adrannau Mathemateg a Gwyddoniaeth sydd yn ymrwymedig i gydweithio’n agos er mwyn sicrhau llwyddiant pob disgybl o bob gallu.
  • y cyfle i weithio gyda thîm o athrawon a staff cefnogol proffesiynol, talentog a blaengar, sydd yn llwyr ymrwymedig i sicrhau llwyddiant yr ysgol ac yn barhaus yn barod i fynd yr ail filltir er lles ein disgyblion.
  • datblygiad gyrfa bellach o fewn y ddwy Adran a’r ysgol.

Dylid cyflwyno ffurflen a llythyr cais i reolwraig busnes yr ysgol, Mrs Eirian Leonard. Am unrhyw fanylion pellach ynglŷn â’r swydd, cysylltwch gyda Mrs Leonard ar: 01792 560605; neu drwy e-bost: LeonardE18@hwbcymru.net

  • Dyddiad Cau: Dydd Llun 8fed o Ebrill 2024 am 12:00y.h.
  • Graddfa gyflog: Prif raddfa gyflog - fe ystyrir cydnabyddiaeth Recriwtio a Chadw ar gyfer ymgeisydd a’r profiad perthnasol
  • Telerau’r swydd: Llawn amser.
  • Dyddiad Dechrau: 1af o Fedi 2024

Bydd angen dychwelyd y ffurflen gais drwy e-bost yn uniongyrchol at Mrs Eirian Leonard, Rheolwraig Busnes yr ysgol erbyn y dyddiad cau uchod.

Lawrlwythwch ffurflen gais


Hysbyseb Ymarferydd Arweiniol i ddysgu Gwyddoniaeth (Bioleg neu Ffiseg)

Mae corff Llywodraethu yr ysgol am apwyntio ‘Ymarferydd Arweiniol’ gyda’r gallu i ddysgu Gwyddoniaeth (Cemeg neu Ffiseg) hyd at safon Uwch. Bydd gan y person yma hanes o ardderchogrwydd mewn addysg, bydd yn gallu ysbrydoli disgyblion a chydweithwyr ac yn barod i ddatblygu strategaethau dysgu blaengar i wella safonau disgyblion. Rydym am i’r person a benodir ddechrau ym mis Medi 2020.

Ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer ei holl ddisgyblion. Mae staff gweithgar a thalentog yr ysgol yn allweddol wrth yrru llwyddiannau’r ysgol yn ogystal â sicrhau’r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.

Bydd yr Ymarferydd Arweiniol Gwyddoniaeth yn:

  • ymarferydd rhagorol â phrofiad o ysbrydoli disgyblion o bob gallu i gyrraedd safonau uchel yn gyson.
  • athro Gwyddoniaeth (Bioleg neu Ffiseg) rhagorol, sydd yn darparu addysgu rhagorol, gyda'r canlyniadau i'w brofi; sy'n uchelgeisiol ac yn llawn cymhelliant i arwain eraill ar agweddau o addysgu a dysgu yn yr ysgol.
  • gwneud popeth posibl i godi ansawdd yr addysgu a'r dysgu yn yr Adrannau / MDaPh cyswllt yn ogystal ag ymuno â'r tîm ymchwil sydd yn arwain addysgu a dysgu ar draws yr ysgol.
  • gwneud popeth posibl i godi ansawdd yr addysgu a'r dysgu ar draws yr ysgol ac yn uniongyrchol gyda'r bobl y maent yn cyd-weithio gyda hwy.
  • cefnogi’r Uwch Dîm Arwain i greu diwylliant o welliannau cyson a bod yn arweinydd ysbrydoledig, wedi ymrwymo i’r cyflawniadau uchaf i bawb ym mhob maes o waith yr ysgol.
  • unigolyn gyda’r safonau a’r disgwyliadau uchaf o ran cyflawniad ac ymddygiad ar gyfer pob disgybl yn yr ysgol.
  • gweithio i oresgyn unrhyw rwystrau dysgu; yn angerddol dros welliant parhaus yr ysgol ac yn gweithredu’n deg ac yn gyson gyda disgyblion a staff yr ysgol yn ddyddiol.
  • rhoi blaenoriaeth i ddatblygu’r Gymraeg yn iaith fyw ymysg disgyblion a’u rhieni.
  • gyfathrebwr arbennig fydd yn ysbrydoli disgyblion, rhieni a holl randdeiliaid yr ysgol
  • ymrwymedig i ddatblygu ymhellach ac adeiladu ar bartneriaethau presennol gyda’n teuluoedd a’r gymuned yn ehangach.

Os ydych chi’n berson sydd yn meddu ar y rhinweddau rydym ni yn chwilio amdanynt, byddem yn falch iawn i dderbyn llythyr cais (heb fod yn fwy na dwy ochr A4) gennych yn amlinellu’ch:

  1. gweledigaeth i wella dysgu o fewn yr ysgol;
  2. profiad a’r rhesymau pam y byddech yn gallu gwireddu’r weledigaeth yma.

Gweler y swydd ddisgrifiad am fanylion pellach y rôl.

  • Graddfa cyflog arweinyddiaeth: L5-L8
  • Dyddiad Cau: Dydd Llun 8fed o Ebrill 2024 am 12:00 y.h.
  • Rhestr fer: Dydd Llun 8fed o Ebrill 2024
  • Cyfweliadau: I’w cadarnhau

Dylid cyflwyno ffurflen a llythyr cais i reolwraig busnes yr ysgol, Mrs Eirian Leonard. Am unrhyw fanylion pellach ynglŷn â’r swydd, cysylltwch gyda Mrs Leonard ar: 01792 560605; neu drwy e-bost: LeonardE18@hwbcymru.net

DISGRIFIAD SWYDD

  • Swydd: Ymarferydd Arweiniol
  • Rheolwr llinell: Pennaeth Cynorthwyol â chyfrifoldeb am Ddysgu ac Addysgu

GRADDFA GYFLOG ARWEINYDDIAETH

Dyletswyddau

Mae Dogfen Rheoliadau Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (a ddiweddarir yn flynyddol) yn nodi dyletswyddau proffesiynol cyffredinol yr holl ymarferwyr arweiniol. Yn ogystal, mae'n ofynnol ac yn rhesymol i ofyn i’r dyletswyddau penodol gael eu harfer a'u cwblhau mewn modd rhagorol.

ATHRAWON
Cyflawni rolau presennol fel athro a neu bennaeth adran a thiwtor fel y disgrifir yn y disgrifiad swydd ar gyfer athro cyffredinol.

CYFRIFOLDEBAU YCHWANEGOL FEL YMARFERYDD ARWEINIOL

  1. Datblygu a gweithredu mentrau a strategaethau Addysgu, Dysgu ac Asesu ledled yr ysgol sy'n gwella arfer addysgu pob aelod o staff ac felly'n codi safonau a chynnydd disgyblion. E.e. trefnu a chynnal digwyddiadau arbennig yn yr ysgol sy'n hyrwyddo addysgu / dosbarthu deunyddiau rhagorol sy'n berthnasol i anghenion y staff addysgu / cyflwyno profiadau dysgu proffesiynol staff cyfan, sy'n briodol i flaenoriaethau’r ysgol.
  2. Datblygu'r defnydd o dechnegau ac arddulliau hyfforddi a mentora i sicrhau arfer addysgu rhagorol i'r holl staff addysgu a fydd yn cynnwys y canlynol:
    • Cynnal o leiaf 5 cylch o arsylwadau gwersi (cyd-gynllunio – arsylwi – adborth) bob hanner tymor gydag adborth defnyddiol ac adeiladol ac arsylwadau dilynol i olrhain cynnydd a gweld effaith yn unol â model ‘NAID’ yr ysgol.
    • Gweithredu ‘polisi drws agored’ i’w dysgu eu hunain fel eu bod ar gael i fodelu yr arferion cryfaf i unrhyw athrawon / staff o fewn yr ysgol.
    • Cydweithio â Phenaethiaid Adran / MDaPh cyswllt i ddarparu cefnogaeth a chyngor yn dilyn adborth ar addysgu ac asesu.
    • Cynnal teithiau dysgu ysgol gyfan a rhoi adborth i staff addysgu.
    • Ymateb i geisiadau unigol am gefnogaeth gan staff addysgu.
    • Hyfforddi aelodau o staff fel rhan o raglen hyfforddi yr ysgol.
  3. Cymryd rhan mewn deialog broffesiynol gyda chydweithwyr penodol er mwyn hyrwyddo gwelliannau mewn dysgu ac addysgu sydd yn arwain at effaith gadarnhaol ar ddysgu disgyblion drwy ffocysu ar feysydd i’w datblygu.
  4. Cymryd rôl gyfrannol a blaenllaw yng ngwaith y Tîm Ymchwil sydd yn darparu strategaethau ymarferol i hyrwyddo a gwella blaenoriaethau dysgu yn yr ysgol.
  5. Dadansoddi a dehongli data perthnasol, ymgymryd mewn ymchwilio gweithredol a gwerthuso dogfennau perthnasol eraill er mwyn llywio ymarfer, cynnal a chodi disgwyliadau a datblygu a mireinio dulliau dysgu i’r dyfodol.
  6. Cyfrannu at raglen anwytho staff newydd, sefydlu ANG a Darpar Athrawon drwy ein rhaglenni AGA a Llwybrau Amgen i Ddysgu, pan fo hynny'n briodol.
  7. Chwarae rôl arweiniol mewn adolygiadau ysgol gyfan ac adrannol / MDaPh ble’n berthnasol.
  8. Cyfrannu at lunio a gweithredu polisïau ysgol perthnasol e.e. Dysgu ac Addysgu ac Asesu.
  9. Cynnal sesiynau hyfforddi ysgol gyfan sy'n canolbwyntio ar flaenoriaethau dysgu ac addysgu yr ysgol yn flynyddol.
  10. Cysylltu â llywodraethwyr i sicrhau bod eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ddysgu ac addysgu yn cynyddu.
  11. Adrodd i'r UDA ar sail hanner tymor i ddangos effaith y rôl.

NODIADAU:

Nid yw'r disgrifiad swydd hwn o reidrwydd yn ddiffiniad cynhwysfawr o'r swydd. Bydd yn cael ei adolygu o leiaf unwaith y flwyddyn a gall fod yn destun addasiad neu welliant ar unrhyw adeg ar ôl ymgynghori â deiliad y swydd. Gellir amrywio'r dyletswyddau i fodloni gofynion newidiol yr ysgol yn ôl disgresiwn rhesymol y Pennaeth.

Lawrlwythwch ffurflen gais


SWYDD DERBYNYDD/GWEINYDDOL

Mae ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe yn edrych am dderbynnydd/clerc brwdfrydig a chyfeillgar i ymuno â swyddfa brysur.

Ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer eu holl ddisgyblion ac wedi ei leoli ar gyrion Dinas Abertawe, yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4. Mae staff gweithgar a thalentog yr ysgol yn allweddol wrth yrru llwyddiannau’r ysgol yn ogystal â sicrhau’r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.  

 

Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm o staff gweinyddol  profiadol, brwdfrydig, gweithgar a chyfeillgar 

 

Mae’r gallu i gyfathrebu drwy’r Gymraeg yn allweddol ar gyfer y rôl hon.  

Bydd y swydd yn amodol ar  wiriad cymwysterau a dau eirda. Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi.         

Os oes gennych chi’r sgiliau, y weledigaeth a’r awydd i fod yn rhan o gymuned ddysgu arbennig iawn yna dylid cyflwyno ffurflen a llythyr cais I Mrs Eirian Leonard, Rheolwr Busnes  Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Heol Gwyrosydd, Penlan, Abertawe, SA5 7BU.   

Dylid dychwelyd ffurflen cais erbyn:  Dydd Iau 21ain o Fawrth 2024 i leonarde18@hwbcymru.net os ydych am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mrs Eirian Leonard ar 01792560605  

 
  • Dyddiad Cau cyflwyno cais: Dydd Iau 21ain o Fawrth 2024
  • Cyflog: Graddfa Cyflog 5  Pro Rata
  • Cytundeb: PARHAOL  37 awr yr wythnos, amser tymor yn unig
  • Dyddiad cau: Dydd Iau 21ain o Fawrth 2024
 

PWRPAS Y SWYDD 

O dan arweiniad uwch staff: bod yn gyfrifol am ymgymryd â phrosesau gweinyddol, ariannol, trefniadol o fewn yr ysgol. Cynorthwyo gyda chynllunio a datblygu gwasanaethau cymorth. 

  

Sefydliad 

  
  • Cefnogi rheolaeth effeithiol o swyddfa'r ysgol trwy ddarparu swyddogaeth weinyddol ganolog i'r ysgol gyfan ac ymdrin â materion derbyn/ymwelwyr.
  • Ymgymryd â dyletswyddau derbynfa; ateb ymholiadau arferol dros y ffôn ac wyneb yn wyneb; arwyddo ymwelwyr; dosbarthu post a lletygarwch.
  • Gweithredu ar eich menter eich hun dros ystod lawn o weithgareddau, gan gynnwys: delio ag ymholiadau mewn modd cynorthwyol a diplomyddol; datrys problemau lle bo modd; gosod a chwrdd â therfynau amser.
  • Cynorthwyo gyda threfniadau ar gyfer teithiau ysgol, digwyddiadau ac ati yn ôl yr angen
  • Cyfrannu at gynllunio, datblygu a threfnu systemau/gweithdrefnau/polisïau gwasanaethau cymorth.
  • Goruchwylio, hyfforddi a datblygu staff fel y bo'n briodol
  •          Dyletswyddau gweinyddol/Adnoddau
  • Rheoli systemau cofnod/gwybodaeth gyfrifiadurol a llaw.
  • Gweithredu offer perthnasol/pecynnau TGCh cymhleth.
  • Gweithredu systemau cofnod/gwybodaeth gyfrifiadurol a llaw (gan gynnwys SIMS, system Cinio Ysgol di arian a danfon neges destun at rieni)
  • .
  • Darparu cymorth personol – gweinyddol a threfniadol i staff eraill.
  • Ymgymryd â thasgau teipio a phrosesu geiriau a thasgau TG cymhleth
  • Darparu cymorth personol, gweinyddol a threfniadol i staff eraill
  • e.e. Post/llythyrau pennaeth i rieni
  • Cynorthwyo'r Uwch Staff i drefnu digwyddiadau mawr yn yr ysgol, megis y Noson Wobrwyo flynyddol.
  • Ymgymryd â gweithdrefnau gweinyddol cymhleth a gweithredu pecynnau TGCh perthnasol.
  • Darparu cyngor ac arweiniad i rieni, staff, disgyblion ac eraill.
    

Cyfrifoldebau 

  
  • Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud ag amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeled, cyfrinachedd a diogelu data a chydymffurfio â nhw, gan adrodd am bob pryder i berson priodol.
  • Bod yn ymwybodol o wahaniaethau a'u cefnogi a sicrhau cyfle cyfartal i bawb.
  • Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
  • Sefydlu perthnasau adeiladol a chyfathrebu ag asiantaethau/gweithwyr proffesiynol eraill.
  • Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd perthnasol yn ôl yr angen.
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill a datblygu perfformiad yn ôl yr angen.
  • Adnabod eich cryfderau a'ch meysydd arbenigedd eich hun a defnyddio'r rhain i gynghori a chefnogi eraill.
    

Cyfrifoldebau Ychwanegol

    

a) Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy'n gymesur â lefel y swydd.
b) Bod y Pennaeth a'r Llywodraethwyr yn cadw'r hawl i weithredu newidiadau mewn disgrifiadau swydd i adlewyrchu newidiadau yng ngofynion y swydd. Fodd bynnag, bydd newidiadau o'r fath yn cael eu gwneud mewn ymgynghoriad â chi.
c) Cefnogi tîm cymorth cyntaf yr ysgol
d) Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy'n gymesur â lefel y swydd.

    

Atebol i 

  

Pennaeth / Rheolwr Busnes / Rheolwr Swyddfa 

  

Cyflawni cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â dogfen Cyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch yr Ysgol. 

     

Mae Diogelu Plant yn gyfrifoldeb craidd yr holl staff. Disgwylir i staff dynnu sylw at unrhyw bryderon sydd ganddynt ynghylch cam-drin Plentyn neu Berson Ifanc yn amhriodol. 

Yng Nghyngor Abertawe mae egwyddor ‘Mae Diogelu yn Fusnes i Bawb’, ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.

Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.swansea.gov.uk/corporatesafeguarding 

Lawrlwythwch ffurflen gais


Swydd Athro / Athrawes
Graddfa Cyflog Athrawon

Mae’r ysgol yn awyddus i benodi Athro / Athrawes sy’n bodloni’r meini prawf canlynol;

  • Athrawon cynradd yng Nghymru ac â diddordeb mewn datblygu gyrfa mewn ysgol uwchradd.
  • Athrawon cynradd neu uwchradd sydd yn gweithio mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru, neu y tu hwnt i Gymru ond am ddychwelyd i ddysgu mewn ysgol uwchradd yng Nghymru ac angen cefnogaeth i bontio’n ieithyddol ac o ran gofynion y cwricwlwm.
  • Athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn ar ôl cyfnod o bum mlynedd neu fwy.

Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o’r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd. Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol uwchradd o ran y pynciau canlynol:

  • Gwyddoniaeth
  • Dylunio a Thechnoleg
  • Technoleg Gwybodaeth
  • Mathemateg
  • Ieithoedd Tramor Modern
  • Cymraeg
  • Saesneg

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe yn ysgol gymunedol, benodedig Gymraeg i ddisgyblion 11-18 oed ac yn cael ei chynnal gan awdurdod lleol Sir Abertawe. Wedi ei leoli ar gyrion Dinas Abertawe ac yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4, ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer eu holl ddisgyblion. Mae staff gweithgar a thalentog yr ysgol yn allweddol wrth yrru llwyddiannau’r ysgol yn ogystal â sicrhau’r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.   Mae 922 o ddisgyblion yn yr ysgol bellach gyda 128 o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth.

Mae’r cynllun hwn yn cynnig blwyddyn o gyflogaeth yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant byddwch yn derbyn cefnogaeth i drosglwyddo’n llwyddiannus i addysgu yn y sector uwchradd.

Bydd ffocws penodol ar yr agweddau canlynol:

  • Cynllunio gwersi
  • Asesu, marcio ac adborth
  • Rheolaeth ddosbarth
  • Datblygu dycnwch
  • Sgiliau ieithyddol (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn).

Bydd gennych Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn cynnal deialog broffesiynol rheolaidd er mwyn eich cefnogi. Bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu.

Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae’r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.

Mae’r cynllun hwn wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru.

Proses ymgeisio:

Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi’r ffurflen gais sydd wedi ei hatodi a’i dychwelyd i AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru erbyn y dyddiad cau, sef dydd Mawrth 19eg o Fawrth 2024.

Dyddiad cyfweliad i’w gadarnhau

Anogwn i chi gysylltu â’r ysgol i dderbyn gwybodaeth am y cynllun cyn ymgeisio.

Mae mwy o fanylion am y cyfle hwn ar https://hwb.gov.wales/datblygiad-proffesiynol/cynllun-pontio-cynradd-i-uwchradd-cyfrwng-cymraeg/

Os hoffech drefnu ymweliad â’r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Mr Simon Davies ar 01792560604 neu drwy e-bost: DaviesS456@hwbcymru.net neu Mr Chris Shaw shawc36@hwbcymru.net

Ffurflen Mynegi Diddordeb


Swyddog Presenoldeb a Chynorthwyydd Cyllid - 37 Awr yr Wythnos, Amser tymor yn unig

Lefel 6 (11-17)

Gofynion Angenrheidiol y swydd

Cymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol. Mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg hyd at lefel uchel iawn o gywirdeb yn angenrheidiol i’r swydd hon. Mae’r gallu i ohebu trwy gyfrwng y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig yn angenrheidiol.

Rheoli prosesau cofnodi Presenoldeb a Chofrestru ysgol gyfan.

  • Rheoli monitro salwch/absenoldebau disgyblion yr ysgol/clirio absenoldebau heb ganiatâd a gweinyddu’r holl broses ar draws yr ysgol.
  • Rheoli’r broses o gadw dogfennaeth yn ymwneud â phresenoldeb, cysylltu â rhieni ar y ffôn neu trwy lythyr/neges destun ac adrodd yn ôl i bersonél perthnasol yn ôl yr angen.
  • Cydweithio gyda’r personél sy’n gyfrifol am y cyfundrefnau electroneg “Groupcall” Cyd-gysylltu gyda rhieni drwy’r system yma. Rheoli cyfathrebu dyddiol drwy’r dulliau yma gyda’r rhieni -danfon gwybodaeth i ffonau symudol rhieni a staff yn ôl yr angen.
  • Adrodd nôl at y Penaethiaid Blwyddyn, Tiwtoriaid Dosbarth a’r Swyddog Lles ar faterion presenoldeb a chofrestru - darparu gwybodaeth strategol yn ôl yr angen i’r Sir ac i’r TRU.
  • Rheoli’r gyfundrefn i dalu Grantiau Cadw (EMA) i ddisgyblion y 6ed Dosbarth. Cydweithio gyda Phennaeth y 6ed Dosb. i fonitro absenoldebau disgyblion Bl.12-13 a gwirio bod myfyrwyr yn cadw at yr amodau a roddwyd ger eu bron ynglŷn â’r Grant EMA.
  • Cyfrifoldebau mewn argyfwng Tân - casglu data presenoldeb disgyblion (y cofrestrau’i dosbarthu i’r staff priodol ar y buarth blaen)

Cynorthwyydd Cyllid

  • Cyfrifoldeb am gyllid gronfa’r Ysgol
  • Monitro taliadau tripiau
  • Monitro cyfriflenni banc yn wythnosol
  • Cyfrifoldeb taliadau’r gronfa
  • Bancio yn rheolaidd
  • Cyfrifoldeb am weinyddu system gyllid y gronfa

Cyffredinol – Cynorthwyo gyda gwaith gweinyddol y swyddfa

  • Cyd groesawu ymwelwyr/ contractwyr ar y safle - cyflwyno bathodyn a'u hysbysu o’r drefn os nad yw’r derbynnydd ar gael. Dirprwyo yn ôl y galw.
  • Ateb y ffôn prif linell yr ysgol fel rhan o’r gadwyn dderbyn.
  • Cyd-gysylltu a staff ac adrannau fel bo angen
  • Trefnu sesiynau ffotograff i ddisgyblion a chyd-gysylltu a’r ffotograffydd yn ôl yr angen a threfnu disgyblion i’r Neuadd
  • Dolen gyswllt rhwng adran drafnidiaeth y Sir a’r Ysgol.
  • Derbyn a rhannu gwybodaeth gan ymdrin ag ymholiadau yn ôl yr angen.
  • Archebu bysys ar gyfer gweithgareddau/teithiau yn ôl yr angen.
  • Dosbarthu tocynnau bws i’r disgyblion ym mis Medi.
  • Estyn cymorth gyda threfnu cyngherddau a hefyd achlysuron arbennig megis y Ffair Nadolig a’r Gyngerdd Nadolig.
  • Trefnu lluniaeth i’r Tîm Rheoli Uwch yn ôl yr angen..

DYLETSWYDDAU ARALL

  • Cysuro plant sâl, ffonio rhieni, ffonio’r gwasanaethau brys yn ôl yr angen.
  • Ymgymryd ag unrhyw dasg resymol arall a ofynnir gan y Pennaeth, Rheolwr Swyddfa Rheolwr Busnes neu unrhyw aelod arall o Dim Rheoli Uwch yr ysgol.
  • Cyfrifoldeb am sicrhau ardal waith sy’n ddiogel i weithio ynddi ac sy’n addas i groesawu ymwelwyr, disgyblion a staff. Cyfrifoldeb am hysbysu’r Swyddog I&D ar unrhyw fater sy’n peri gofid o ran yr ardal waith personol neu o ran safle’r ysgol yn gyffredinol.

Swydd Swyddog Presenoldeb a Chynorthwyydd Cyllid

 

Rydym yn edrych i apwyntio swyddog presenoldeb a chynorthwyydd cyllid yn yr ysgol. 

Ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer eu holl ddisgyblion ac wedi ei leoli ar gyrion Dinas Abertawe, yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4. Mae staff gweithgar a thalentog yr ysgol yn allweddol wrth yrru llwyddiannau’r ysgol yn ogystal â sicrhau’r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.

Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm o staff gweinyddol profiadol, brwdfrydig, gweithgar a chyfeillgar

Mae’r gallu i gyfathrebu drwy’r Gymraeg yn allweddol ar gyfer y rôl hon. 

Bydd y swydd yn amodol ar  wiriad cymwysterau a dau eirda. Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi.   

Os oes gennych chi’r sgiliau, y weledigaeth a’r awydd i fod yn rhan o gymuned ddysgu arbennig iawn yna dylid cyflwyno ffurflen a llythyr cais I Mrs Eirian Leonard, Rheolwr Busnes  Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Heol Gwyrosydd, Penlan, Abertawe, SA5 7BU.  

Dylid dychwelyd ffurflen cais erbyn: Dydd Mercher 13eg o Fawrth 2024 i leonarde18@hwbcymru.net os ydych am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mrs Eirian Leonard ar 01792560605

  • Dyddiad Cau cyflwyno caisercher 13eg o Fawrth 2024
  • Cyflog: a Cyflog 6  Pro Rata
  • Cytundeb: Dros dro yr wythnos, amser tymor yn unig
  • Dyddiad cau: ercher 13eg o Fawrth 2024 12 y.p.

Lawrlwythwch ffurflen gais


Athro Cymraeg

Rydym yn chwilio am athro ysbrydoledig ac uchelgeisiol i ymuno ag Adran Y Gymraeg llwyddiannus iawn. Bydd cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus i addysgu Cymraeg i bob cyfnod allweddol, gan gynnwys TGAU a Safon Uwch.

Gyda datblygiadau cyffrous iawn ym myd addysg, â’r ffocws ar ddatblygu medrau dwyieithrwydd, digidol a meddwl dwfn disgyblion, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cyfle i ysgogi, i ysbrydoli ac i arfogi ein disgyblion â’r medrau hanfodol ar gyfer dyfodol llwyddiannus.

Wedi ei leoli ar gyrion Dinas Abertawe ac yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4, ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer eu holl ddisgyblion. Mae ein staff gweithgar a thalentog yn allweddol wrth yrru llwyddiannau’r ysgol yn ogystal â sicrhau’r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.

Rydym yn gallu cynnig:

  • y cyfle i weithio gyda disgyblion brwdfrydig, hapus a gweithgar.
  • y cyfle i ddysgu Safon Uwch, yn ogystal â ChA3 a TGAU.
  • y cyfle i weithio o fewn adran sydd yn llwyr ymrwymedig i ddatblygu creadigrwydd addysgu a chydweithio’n hynod agos er mwyn sicrhau llwyddiant pob disgybl o bob gallu.
  • y cyfle i weithio gyda thîm o athrawon a staff cefnogol, proffesiynol, talentog a blaengar, sydd yn llwyr ymrwymedig i sicrhau llwyddiant yr ysgol ac yn barhaus yn barod i fynd yr ail filltir er lles ein disgyblion.
  • datblygiad gyrfa bellach o fewn yr adran a’r ysgol.

Dylid cyflwyno ffurflen a llythyr cais i reolwraig busnes yr ysgol, Mrs Eirian Leonard. Am unrhyw fanylion pellach ynglŷn â’r swydd, cysylltwch gyda Mrs Leonard ar: 01792 560605; neu drwy e-bost: LeonardE18@hwbcymru.net

  • Dyddiad Cau: Dydd Gwener yr 8fed o Fawrth 2024 am 12:00y.h.
  • Graddfa gyflog: Prif raddfa gyflog.
  • Telerau’r swydd: Llawn amser. Cytundeb parhaol i ymgeisydd sydd a’r medrau a’r profiad addas.
  • Dyddiad dechrau: 1af o Fedi 2024.

Bydd angen dychwelyd y ffurflen gais drwy e-bost yn uniongyrchol at Mrs Eirian Leonard, Rheolwraig Busnes yr ysgol erbyn y dyddiad cau uchod.

Lawrlwythwch ffurflen gais


Cynllun Recriwtio Athrawon Uwchradd
(mewn partneriaeth gyda’r Brifysgol Agored)

Swydd: Athro / Athrawes
Cyflog : Athro Heb Gymhwyso

Mae’r ysgol yn awyddus i benodi person sydd â diddordeb mewn gyrfa fel athro/awes yn y sector uwchradd fel rhan o gynllun Tystysgrif Addysg Uwchradd gyda’r Brifysgol Agored.

Bwriad y cynllun yw recriwtio athrawon o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o’r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe am gyfnod o ddwy flynedd gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd.

Gwahoddwn geisiadau gan bobl frwdfrydig a blaengar sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol gyfun cyfrwng Gymraeg o fewn y meysydd pynciol canlynol:

  • Mathemateg
  • Gwyddoniaeth
  • Dylunio a Thechnoleg
  • Technoleg Gwybodaeth

Bydd rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus fod wedi graddio o fewn pwnc neu faes sy’n berthnasol i’r meysydd pynciol uchod.

Gyda datblygiadau cyffrous iawn ym myd addysg, â’r ffocws ar ddatblygu medrau dwyieithrwydd, digidol a meddwl dwfn disgyblion, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cyfle i ysgogi, i ysbrydoli ac i arfogi ein disgyblion â’r medrau hanfodol ar gyfer dyfodol llwyddiannus.

Wedi ei leoli ar gyrion Dinas Abertawe ac yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4, ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer eu holl ddisgyblion. Mae ein staff gweithgar a thalentog yn allweddol wrth yrru llwyddiannau’r ysgol yn ogystal â sicrhau’r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.

Mae’r cynllun yma yn cynnig dwy flwyddyn o gyflogaeth (wedi eu hariannu) yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Agored, byddwch yn derbyn cefnogaeth i hyfforddi fel athro yn y sector uwchradd a cyn derbyn statws athro cymwysedig ar ddiwedd y cwrs.

Bydd ffocws clir yn ystod yr hyfforddiant ar addysgu gyda phwyslais ar y canlynol:

  • Addysgeg
  • Cynllunio gwersi
  • Asesu, marcio ac adborth
  • Rheolaeth ddosbarth
  • Ymchwil
  • Sgiliau ieithyddol a sesiynau gloywi iaith (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn)

Bydd gennych Fentor Pynciol a Chydlynydd Ysgol i’ch cefnogi yn ogystal â thiwtor pynciol a chwricwlwm (gyda’r Brifysgol Agored) er mwyn eich cefnogi yn broffesiynol. Yn ogystal â hyn, bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu.

Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd yn awyddus i:

  • weithio gyda disgyblion brwdfrydig, hapus a gweithgar.
  • weithio mewn ysgol sydd yn ymrwymedig i ddatblygu creadigrwydd addysgu a chydweithio’n agos er mwyn sicrhau llwyddiant pob disgybl o bob gallu.
  • weithio gyda thîm o athrawon a staff cefnogol, proffesiynol, talentog a blaengar, sydd yn llwyr ymrwymedig i sicrhau llwyddiant yr ysgol ac yn barhaus yn barod i fynd yr ail filltir er lles ein disgyblion.
  • ddatblygiad gyrfa bellach

Nodwyd bod y cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.Mae’r cynllun hwn wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru.

Proses ymgeisio:

Danfonwch gopi o CV cyfredol a chwblhewch y ffurflen gais. Danfonwch y rhain at LeonardE18@hwbcymru.net erbyn hanner dydd ar ddydd Llun, 11eg Fawrth.

Am unrhyw fanylion pellach ynglŷn â’r cyfle, cysylltwch gyda Mrs Leonard Rheolwr Busnes yr ysgol ar: 01792 560605; neu drwy e-bost: LeonardE18@hwbcymru.net neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Cynorthwyol, Mr Chris Shaw yn yr ysgol neu drwy e-bost ShawC36@hwbcymru.net

Lawrlwythwch ffurflen gais


Athro Parhaol DT

Rydym yn chwilio am athro/athrawes ysbrydoledig ac uchelgeisiol i ymuno ag adran lwyddiannus yn yr ysgol ar gyfer Medi 2023. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus i addysgu Dylunio a Thechnoleg ar draws bob cyfnod allweddol, gan gyfrannau at hybu cyrsiau TGAU a Safon Uwch. Bydd y gallu i gyfrannu at addysgu pynciau STEM e.e. Electroneg neu Peirianneg hyd at TGAU a Safon Uwch, yn ffafriol wrth i ni edrych i ddatblygu ein arlwy STEM, er nad yn hanfodol.

Byddwn yn barod i gynnig cydnabyddiaeth recriwtio a chadw i ymgeisydd sydd â’r profiad perthnasol i arwain ar ddatblygu cyrsiau STEM, e.e. Peirianneg hyd at TGAU a Safon Uwch. Cysylltwch i drafod am fanylion pellach.

Gyda datblygiadau cyffrous iawn ym myd addysg, â’r ffocws ar ddatblygu medrau gydol oes, digidol a meddwl dwfn disgyblion, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cyfle i ysgogi, i ysbrydoli ac i arfogi ein disgyblion â’r medrau hanfodol ar gyfer dyfodol llwyddiannus.

Wedi ei leoli ar gyrion Dinas Abertawe ac yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4, ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer eu holl ddisgyblion. Mae staff gweithgar a thalentog yr ysgol yn allweddol wrth yrru llwyddiannau’r ysgol yn ogystal â sicrhau’r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.

Rydym yn gallu cynnig:

  • y cyfle i weithio gyda disgyblion brwdfrydig, hapus a gweithgar;
  • y cyfle i weithio o fewn Maes Dysgu a Phrofiad sydd yn ymrwymedig i gydweithio’n agos er mwyn sicrhau llwyddiant pob disgybl o bob gallu;
  • y cyfle i weithio gyda thîm o athrawon a staff cefnogol proffesiynol, talentog a blaengar, sydd yn llwyr ymrwymedig i sicrhau llwyddiant yr ysgol ac yn barhaus yn barod i fynd yr ail filltir er lles ein disgyblion.
  • y potensial ar gyfer datblygiad gyrfa pellach o fewn yr Adran a’r ysgol.
  • Dyddiad Cau: Dydd Gwener 1af o Fawrth 2024 am 12:00y.h.
  • Cyfweliadau: I’w cadarnhau
  • Graddfa cyflog: Prif raddfa gyflog, gyda ystyriaeth i wneud taliad Recriwtio a Chadw ar gyfer ymgeisydd â’r profiad addas
  • Telerau: Parhaol, llawn amser

Am ffurflen gais neu fanylion pellach, cysylltwch â Mrs Eirian Leonard, Rheolwraig Busnes yr ysgol ar y rhifau isod neu drwy e-bost: LeonardE18@hwbcymru.net

Bydd angen dychwelyd y ffurflen gais drwy e-bost yn uniongyrchol at Mrs Eirian Leonard, Rheolwraig Busnes yr ysgol erbyn y dyddiad cau uchod.

Lawrlwythwch ffurflen gais