Drama

Nod & Amcanion

Mae Drama yn bwnc sy’n gallu cyfrannu’n helaeth at weledigaeth yr Ysgol ar gyfer ein disgyblion.

Nod yr Adran yw i feithrin mwynhad a gwerthfawrogiad o ddrama fel celfyddyd a ffurf o adloniant. Gwneir hyn wrth gyflwyno profiadau cyfoethog ac amrywiol ar agweddau cyfoes, hanesyddol, diwylliannol ac ymarferol o’r gelfyddyd i’r disgyblion. Cynigir y cyfle i bob unigolyn i ddatblygu’r sgiliau sylfaenol dramatig o greu, perfformio a gwerthuso yn ogystal â sgiliau cymdeithasol cyffredinol.

Blwyddyn 7

Gweithdai ar sgiliau sylfaenol

Yn ystod y flwyddyn gyntaf mae’r cwrs yn canolbwyntio ar sgiliau sylfaenol drama megis:

  • Symud
  • Llais
  • Cymeriadu
  • Llwyfannu

O ddechrau’r flwyddyn bydd pob disgybl yn cael y profiad o weithio’n unigol, mewn parau ac mewn grwpiau cymysg (o ran gallu a rhyw.) Cânt hefyd y cyfle i gyflwyno’u gwaith eu hunain a’u chyfoedion.

Symud

Mae’r uned yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau ac ymarferion a fydd yn codi ymwybyddiaeth y disgybl o’r corff ac o’r gwagle.

Llais

O fewn yr uned yma bydd y disgyblion yn cael cyfle i ymuno mewn ymarferion a thasgau lleisiol a fydd yn codi ymwybyddiaeth o oslef, tempo, foliwm, pwyslais uchafbwynt ac effaith saib.

Cymeriadu

Caiff y disgyblion gyfle i ystyried pwysigrwydd cymeriadu o fewn cyflwyniad dramatig ac yn ymarfer yr elfennau sy’n bwysig er mwyn creu cymeriad llwyddiannus.

Llwyfannu

Cyflwynir y broses o drosglwyddo sgript o’r papur i’r llwyfan gan roi ystyriaeth i’r set, celfi addas a’r lleoliad. Rhoddir ystyriaeth hefyd i amgylchiadau gosodedig wrth feddwl am leoliad a symudiadau addas ar gyfer yr actor. Fe fydd y disgyblion yn gorfod dehongli sefyllfaoedd gwahanol, hynny ynghyd â’r holl sgiliau perfformio a adeiladwyd yn yr unedau blaenorol. Datblygir y sgil o ymarfer ac o ddysgu sgript ar y cof hefyd.

Blwyddyn 8

Yn ystod y flwyddyn hon fe fydd y disgyblion yn edrych yn fanylach ar y broses o ddyfeisio ac arbrofi gyda thechnegau a fydd yn cyfoethogi eu gwaith. Caiff y disgyblion y profiad o weithio’n annibynnol, mewn parau ac mewn grwpiau, i gyflawni darnau o waith ysgrifenedig, ymarferol a chreadigol gan barhau i ddatblygu’r sgil o ddatgan eu barn.

UNED 1: Dehongli sgript (“Brodyr Gwaed”)

Bwriad yr uned fydd cyflwyno sgript i’r disgybl er mwyn iddynt ei defnyddio i ddatblygu sgiliau dadansoddi sylfaenol a sgiliau creu cymeriad effeithiol. Defnyddir y sgript i gyflwyno technegau llwyfannu newydd yn ogystal â datblygu sgiliau sydd eisoes yn gyfarwydd iddynt.

UNED 2: Sgriptio

Yn ystod yr Uned fe fydd y disgyblion yn cadarnhau gwaith a wnaethpwyd eisoes ar fyrfyfyrio mewn unedau blaenorol a chan gyfle i ddatblygiad naratif mewn sgript. Fe fydd yna gyfle iddynt arbrofi amryw dechnegau (ymarferion) sgriptio a sicrhau dealltwriaeth gadarn ar sut y dylid gosod sgript ar bapur.

UNED 3: Astudio drama a defnyddio technegau dramatig

Defnyddir y ddrama “ Ymgilwyr” gan Marianne Cooke, yn ddechrau - bwynt i amrywiaeth o waith ymarferol ac ysgrifenedig yn ystod yr uned hon. Fe fydd hybu dealltwriaeth y disgyblion o’r ddrama fel cyfanwaith llenyddol, yn ogystal â fel sgript ymarferol. Gofynnir i’r disgyblion ymateb yn greadigol i themâu, cymeriadau ac arddull y ddrama.

Yn ystod yr uned fydd y disgyblion yn cael eu cyflwyno i’r syniad o ddrama anaturolaidd; ac ystyried y gwahaniaeth rhwng arddull y ddrama naturiolaidd ac anaturiolaidd. Fyddant yn cael y cyfle i arbrofi gyda defnyddio technegau dramatig tebyg i’r canlynol:

  • Adroddwr
  • Delweddau
  • Meddyliau (thought bubbles)
  • Ôl fflachiadau ac Amser yn neidio
  • Symudiadau araf
  • Ymson

Mae’n bwysig i’r disgyblion ystyried y ffaith defnyddio technegau dramatig, ac adnabod y lle gorau i’w defnyddio. Can gyfle i arbrofi sut gellir defnyddio technegau dramatig i greu cyflwyniad dramatig diddorol ac effeithiol.

UNED 4: Creu Cynhyrchiad Theatr Mewn Addysg

Yn ystod yr unedau canolbwyntir ar waith byrfyfyr wedi’i baratoi. Fydd y disgyblion yn cyfarwyddo gyda’r gwahaniaeth rhwng byrfyfyr o’r math yma a byrfyfyr sydyn. Gobeithir i’r disgyblion ddod i ddeall yr elfennau angenrheidiol mewn Theatr mewn Addysg, a sut dylid mynd ati i strwythur y gwaith yn effeithiol.

Cant y cyfle i ddod yn ymwybodol o bwysigrwydd:

  • Cyrraedd cynulleidfa darged
  • Creu plot diddorol
  • Thema/ Neges glir
  • Gwahaniaethu rhwng plot a thema
  • Defnyddio arddulliau gwahanol

Ac ystyriaeth sylfaenol o gyfraniad elfennau technegol, megis:

  • Set
  • Gwisgoedd
  • Propiau

Yn ôl at y brig

Blwyddyn 9

Yn ogystal â datblygu ymhellach y sgiliau a ddefnyddiwyd ym mlynyddoedd 7 a 8, bwriedir i waith y flwyddyn yma ffurfio cyflwyniad cyffredinol at y math o waith a geir fel rhan o’r cwrs TGAU. Bydd y gwaith wrth gwrs ar lefel symlach na gwaith TGAU, ond bydd natur y tasgau yn eithaf tebyg er mwyn rhoi’r cyfle i'r disgyblion asesu eu diddordeb a’u gallu yn y pwnc ym mlwyddyn eu dewisiadau.

UNED 1: Llwyfannu Golygfa

Rhoddir y cyfle i'r disgyblion ddod yn gyfarwydd ag amryw siapau llwyfannu sydd yn bodoli, er mwyn iddynt ddangos eu gwerthfawrogiad a’u defnyddio wrth lwyfannu a chyfarwyddo golygfa. Gofynni’r i’r disgyblion lwyfannu golygfa allan o’r “Tŵr” ( Gwenlyn Parry) er mwyn datblygu sgiliau sydd ynghlwm â’r broses yma e.e. gwerthfawrogi bwriad y dramodydd, cynllunio set, defnydd o symbolaeth effeithiol a.y.b.

UNED 2: Technegau Brechtaidd

O fewn yr uned hon fe fydd y disgyblion yn cael y cyfle i archwilio a meithrin Technegau Brechtaidd. Cânt gyfle i ehangu ar derminoleg bynciol, sgiliau dyfeisio a pherfformio. Rhoddir y cyfle iddynt arbrofi gyda’r technegau canlynol:

  • Placardiau
  • Rôl y Traethydd
  • Llun Llonydd
  • Clywed y cyfarwyddiadau llwyfan
  • Un actor i chwarae mwy nag un cymeriad

UNED 3: Cynhyrchiad Dosbarth

Yn ystod yr uned hon anogir y disgyblion i ddefnyddio’r sgiliau y maent wedi eu dysgu yn ystod CA 3 i gyflwyno cynhyrchiad. Yn ystod yr uned hon fe gaiff y disgyblion gyfle i edrych ar ochr dechnegol cynhyrchiad, llwyfannu o arddull o’i dewis hwy, (e.e. naturiolaidd, symbolaidd, Brechtaidd) ogystal â’r ochr berfformio. Cyflwynir llyfryn gwaith sy’n gofyn iddynt:

  • gynllunio set a chynllunio gwisg ar gyfer y cymeriadau
  • dadansoddi cymeriad
  • dewis arddull llwyfannu addas
  • perfformio
  • gwerthuso

Yn ôl at y brig

Cyfnod Allweddol 4

TGAU Drama

Dyfeisio, Perfformio a Gwerthuso

Caiff y disgyblion y cyfle i:

  • adeiladu perthynas glos ac ymddiriedol, a fydd yn hanfodol ar gyfer rhyngweithio effeithiol.
  • ddatblygu ac ymarfer sgiliau perthnasol i’r arholiad ymarferol, drwy fyrfyfyrio syniadau, arbrofi gydag amryw arddulliau a thechnegau dramatig, strwythuro syniadau a golygfeydd a chreu cyfanwaith.
  • ddatblygu’r gallu i ddethol elfennau sain, goleuo, gwisgoedd a phropiau addas ac mewn perthnasedd â’r ddrama.
  • ddatblygu sgiliau actio, dehongli a chyflwyno cymeriad drwy ddethol llais, symudiadau, rhyngweithio ac osgo priodol.
  • gadw cofnod o’r broses gyfan trwy ddyddiadur a fydd yn cael ei gyflwyno fel prosiect ar ddiwedd yr uned.
Astudio’r ddwy ddrama osod

Caiff y disgyblion y cyfle i:

  • ddarllen dwy ddrama osod
  • sicrhau dealltwriaeth gadarn o’r dramâu wrth eu hastudio’r ar lefel lenyddol, (e.e. arddull, themâu, cymeriadau a’u perthynas â’i gilydd)
  • ystyried y dramâu o safbwynt y cyfarwyddwr, cynllunydd, yr actorion a’r gynulleidfa
  • ddatblygu dealltwriaeth o ofynion strwythur a chynnwys sgript
Dehongli, Pherfformio a Gwerthuso

Caiff y disgyblion y cyfle i:

  • ddatblygu ac ymarfer sgiliau perthnasol ar gyfer yr arholiad ymarferol terfynol e.e. deall a dehongli sgript, dadansoddi cymeriad, llwyfannu, dethol nodweddion technegol addas, rhyngweithio sgiliau cymeriadu a pherfformio
  • gadw cofnod o’r broses weithio

Mae TGAU Drama yn gyfle i ddilyn cwrs cyffrous a creadigol sydd yn gymysgedd o waith academaidd (60%) ac ymarferol (40%). Y mae’n gyfle i ddatblygu eich sgiliau dadansoddi testun, creu gwaith creadigol a pherfformio yn ogystal â chynyddu eich sgiliau sylfaenol, e.e. cyfathrebu, datrys problemau, dadansoddi gwybodaeth, gweithio gydag eraill a thechnoleg gwybodaeth trwy archwilio a rheoli elfennau technegol y theatr

Mae 6 elfen i’r cwrs:

Uned 1: Adolygiad Theatr, gwaith cwrs (15%)

Cewch gyfle i weld drama broffesiynol yn Llundain, er mwyn gallu ysgrifennu adolygiad ohono yn nhymor yr haf, Blwyddyn 10.

Uned 2: Creu Perfformiad Ymarferol (20%)

Cyfle i greu a pherfformio darn o theatr ar destun sydd o ddiddordeb iddynt, tymor yr Hydref, Blwyddyn 11

Uned 3: Adroddiad Proses (15%)

Rhaid ysgrifennu mil o eiriau ar y broses o greu, ymarfer a gwerthuso eu perfformiad yn Uned 2.

Uned 4: Proses weithio (10%)

Marc a roddir gan yr athro am gyfraniad y disgybl dros y ddwy flynedd ac yn arbennig yn Uned 2. Mae gofyn felly bod y disgybl yn gweithio’n gyson trwy gydol y cwrs.

Uned 5: Arholiad Ymarferol o Destun (20%)

Dadansoddi a pherfformio darn o destun adnabyddus - arholwr allanol.

Uned 6: Arholiad Ysgrifenedig (20%)

Ateb pedwar cwestiwn arholiad ar ddwy ddrama - “Dros Bont Brooklyn” Arthur Miller a “ Diwedd y Byd” Meic Povey.

Y mae’n gwrs sydd yn gofyn bod y disgyblion yn gallu gweithio’n annibynnol ac yn gyson. Y mae’n hawlio llawer o’ch amser gan fod taflen amser ymarfer dwys ar adegau a llawer o aseiniadau ysgrifenedig i’w cwblhau.

Yn ôl at y brig

Y Chweched

UG (2 uned)

DA1 20% Perfformio ymarferol 60 marc
Teitl yr uned: Gweithdy perfformio.

Ar gyfer yr uned hon bydd disgyblion naill ai’n actio mewn grŵp neu’n cyfrannu’r sgìl cynhyrchu technegol a ddewiswyd ganddynt i berfformiad o destun gosod a darn wedi’i ddyfeisio. Byddant yn gweithio ar syniadau dau ymarferwr.

DA2 30% Papur ysgrifenedig (Papur 2 awr) 120 marc
Arholiad testun agored
Teitl yr Uned: Testun mewn Perfformiad

Bydd disgyblion yn ateb tri chwestiwn:

  • Un testun cyn-1900 o restr benodedig
  • Un testun ôl-1900 o restr benodedig
  • Adolygiad theatr fyw

SAFON UWCH (yr uchod a 2 uned arall)

DA3 30% Perfformiad ymarferol 150 marc
Teitl yr Uned: Perfformiad ar thema osod

Disgwylir i ddisgyblion weithio mewn ymateb i thema benodol wrthbaratoi dau berfformiad. Ym mhob achos bydd disgyblionnaill ai’n actio neu’n dangos sgìl cynhyrchu technegol gyda grŵp oberfformwyr. Bydd y perfformiad yn cynnwys:

  • golygfeydd / darnau o destun wedi’i gyhoeddi
  • darn a ddyfeisiwyd gan y grŵp.

Bydd angen gwerthusiad o’r gwaith perfformio ar gyfer y ddau ddarn.

DA4 20% Papur ysgrifenedig (papur 2½ awr) 80 marc
Teitl yr Uned: Testun mewn Cyd-destun

  1. Dau destun gosod o restr benodedig: un cyn-1900 ac un ôl-1900.Arholiad ‘testun agored’ yw hwn – gofynnir i ymgeiswyr drafod yddrama yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys yr agweddau canlynol:
    • cyd-destun theatraidd
    • hanes perfformio
    • heriau theatraidd y testun o ran actio/sgiliau cynhyrchu
    • ymateb personol i’r testun
  2. Dadansoddiad cyfarwyddol o destun nas gwelwyd o’r blaen.Bydd pedair adran i’r papur:
    • cynllun llawr
    • dylunio/gwisgoedd
    • goleuo/sain
    • symudiadau

Yn ôl at y brig

Dulliau Addysgu

Anelir at wneud y broses o ddysgu yn weithredol, rhyngberthnasol, ac yn hwyliog.

Yng Nghyfnod Allweddol 3 dysgir gwersi Drama yn ôl y grwpiau dosbarth (B)TAWE a dosbarth sylfaen. Mae yna drawstoriad o ystod gallu ac fe adlewyrchu’r hyn yn yr arddulliau dysgu. Mae pob un disgybl yn dysgu mewn ffordd wahanol ac mae drama yn benthyg ei hun yn naturiol i amrywiaeth o arddulliau dysgu. Mae’r Adran yn barod i arbrofi gyda’r fethodoleg ddiweddaraf er mwyn atgyfnerthu dealltwriaeth a diddordeb y disgyblion.

Mae’r arddulliau dysgu a fydd yn cael eu defnyddio yn cynnwys:

  • Dysgu carlam
  • Cyflwyno nod ar gychwyn y wers
  • Ystyried cyflwyniad effeithiol taflenni gwaith e.e. uwch oleuo terminoleg bwysig, taflenni gwaith o liwiau gwahanol
  • Hunan asesu ac asesu cyfoedion
  • Mynd am 5
  • Cardiau ffeindio partners
  • Disgyblion mewn rôl
  • Athro mewn rôl
  • Ysgrifennu sgriptiau gwreiddiol
  • Byrfyfyrio golygfeydd
  • Ysgrifennu mewn rôl
  • Gwerthuso gwaith ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Archwilio a gweithredu arddulliau perfformio gwahanol e.e. meim, tablu, rôl ar y wal
  • Gwaith unigol, pâr, grŵp, dosbarth cyfan

Medrau Allweddol

Amcanion
  • Datblygu’r disgyblion yn ddysgwyr hyblyg ac effeithlon.
  • Cynorthwyo disgyblion i gymryd rhan ganolog wrth fonitro a datblygu eu dysgu eu hunain.
  • Sicrhau bod y sgiliau wedi eu cynnwys yn effeithiol o fewn y cwricwlwm Drama.

Mae pob athro Drama yn athro Medrau Allweddol. Mae’r sgiliau a ddysgir ac a ddefnyddir yn naturiol gan ddisgyblion Drama yn hyrwyddo, a datblygu eu meistrolaeth o’r medrau Allweddol canlynol:

Cyfathrebu – trwy iaith lafar ac ysgrifenedig, gwaith grŵp, perfformio o flaen cynulleidfa, action, osgo, symudiad ac elfennau gweledol theatr.

Gweithio Gydag Eraill – gweithio tuag at amcanion y grŵp wrth greu, perfformio a gwerthuso eu gwaith o fewn parau, Grwpiau bychain o waith rôl dosbarth cyfan.

Datrys problemau – - trwy ddatrys problemau ymenyddol, creadigol, technegol, dehongli gwahanol destunau ac ysbardunau, dyfeisio theatr yn unigol ac o fewn grwpiau.

Technoleg Gwybodaeth – trwy gynllunio, drafftio ac argraffu deunydd ar gyfer y prosiectau – cynlluniau set, sain a goleuo, gwaith cwrs.

Gwella Perfformiad a Dysgu’r Unigolyn – trwy ymchwil, arbrofi’n ymarferol/technegol, perfformio o flaen gynulleidfa, gwerthuso gwaith eu hunain ac eraill, datblygu eu gwaith ar ôl derbyn gwerthusiad gan eraill, gosod targedau tymor byr a hir.

Rhifedd a Llythrennedd

Mae’r Adran yn gweithredu Polisi Rhifedd a Llythrennedd yr Ysgol. Er mwyn hyrwyddo datblygiad pob disgybl ym meysydd Llythrennedd a Rhifedd, rhoddir cyfle i ddisgyblion ymarfer a datblygu’r Medrau Allweddol hyn trwy gydol gynlluniau gwaith CA3 a CA4. Er enghraifft:

  • Arddangos, deall ac adnabod geirfa allweddol.
  • Siarad a gwrando – gwaith pâr, grwpiau, dosbarth cyfan.
  • Datblygu dealltwriaeth o wahanol arddulliau ysgrifennu.
  • Cyflwyno modelau/fframiau ysgrifennu.
  • Cwestiynau agored er mwyn ymestyn defnydd iaith y disgyblion.
  • Cyfle i ysgrifennu estynedig.
  • Cynllunio cyfle i ddisgyblion i werthuso ac ailddrafftio gwaith.
  • Rhoi cyfle i ddisgyblion werthuso testunau’n feirniadol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  • Dilyn cynllun marcio Polisi Llythrennedd yr Ysgol Gyfan.
  • “Wal iaith” yn y stiwdio.
  • Gwaith corfforol - archwilio siâp, gofod a phersbectif.
  • Onglau – llinellau gweld y gynulleidfa.

Yn ôl at y brig

Bywyd Allgyrsiol yr Adran

Mae’r Adran yn cymryd rhan allweddol wrth greu cyfleoedd i baratoi disgyblion ar gyfer perfformiadau cyhoeddus a fydd yn codi proffil Ysgol. Fe fydd modd iddynt ddatblygu’r teimlad o berchnogaeth a gwerth fel unigolion trwy amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol.

Cyfrifoldeb Adran yw sicrhau fod pob blwyddyn Ysgol yn cael y cyfle i weld perfformiadau proffesiynol safonol. Hefyd cânt y cyfle i ymuno â gweithdai a chyflwyniadau a fydd yn cyfoethogi eu profiadau yn Ysgol, a’u gallu i gyfathrebu ag eraill. Er enghraifft yn 2008-09:

Mis Gweithgaredd Blwyddyn Disgyblion
Med Taith  Cynradd - Perfformiad Drama 10 15
Med Mynychu’r theatr –Perfformiad Drama “Iesu” 11 a 12 15
Med Gweithdy “Macbeth” 9 30
Hyd Cynllun Shakespeare Perfformiad o Macbeth 9 30
Tach Ymweliad gan theatrbroffesiynol “Ystafell Aros” 9-12 30
Tach Mynychu’r Theatr- Sioe gerdd “BrodGwaed” 10-11 30
Rha Gwasanaeth Nadolig - Cyflwyniad Dramatig Iau a Hyn a pherfformiad dawns 7-12 45
Ion Mynychu’r Theatr “Ty Dôl” 12 10
Chw Mynychu Theatr - Coleg Gorseinon “Macbeth” 12 10
Chw Mynychu’r Theatr- “Dros Bont Brooklyn” 10 ac 11 15
Maw Gweithdy llais a sgript ym Mhrifysgol Morgannwg 12 8
Ebr Perfformiad o ddarnau arholiad TGAU
Technegwyr wrth gefn
11 10 12 10
Ion-Mai Eisteddfod Urdd 7-12 80
Meh Gweithdy Ymladd Llwyfan 8 30
Gor Taith Theatr “A Midsummer Night’s Dream” 7 100

Yn ôl at y brig