Daearyddiaeth
- Nod & Amcanion
- Blwyddyn 7
- Blwyddyn 8
- Blwyddyn 9
- Cyfnod Allweddol 4
- Y Chweched
- Dulliau Addysgu
- Bywyd Allgyrsiol yr Adran
Nod & Amcanion
Nod yr adran yw darparu cwricwlwm fydd yn galluogi bob plentyn i ddatblygu'r sgiliau elfennol / allweddol - siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu, sgiliau rhifedd, technoleg gwybodaeth, hunan wella dysg a pherfformiad, gweithio gydag eraill a datrys problemau; gael y cyfle i astudio a dehongli'r amgylchfyd; feithrin agweddau cymdeithasol iach a chymwynasgar; dderbyn profiadau amrywiol cyfoethog a'r cyfle i'w mynegi. Ceisir cael y plant i fod yn ymwybodol o agweddau daearyddol, hanesyddol a chymdeithasol yr amgylchfyd lleol, a hefyd magu ymwybyddiaeth o'r dreftadaeth genedlaethol, ac i gysylltu'r wybodaeth yma a mannau byd eang. Defnyddiwn adnoddau'r ardal leol i ehangu gwybodaeth.
Amcanion cyffredinol y gyfadran
- Datblygu sgiliau llafaredd, llythrennedd a rhifedd yng nghyd-destun symbylu chwilfrydedd, dychymyg a diddordeb y plentyn.
- Cynyddu gwybodaeth y plentyn a datblygu ei allu i resymu a chydweithio ag eraill er mwyn ei gynorthwyo i addasu i fyd sy'n gyflym newid ac yn mynd yn fwy soffistigedig yn ei brosesau a'i dechnegau, yn arbennig mewn perthynas â thechnoleg fodern.
- Creu ym mhob plentyn yr awydd i geisio am fwy o wybodaeth a phrofiadau yn ystod ei fywyd, a datblygu ei feddwl a'i synnwyr moesol ac ysbrydol.
- Cynorthwyo'r plentyn i fedru byw a gweithio gydag eraill a datblygu agweddau fydd yn ei alluogi i fod yn aelod cyfrifol o gymdeithas.
- Datblygu yn y plentyn sensitifrwydd, gwerthfawrogiad esthetig a sgiliau hamdden.
- Rhoi sylw arbennig i bob plentyn sydd ag anghenion arbennig, e.e. rhai eithriadol o alluog a rhai sydd dan anfanteision amrywiol.
- Cyflwyno syniadau a chysyniadau a hynny trwy ddulliau bywiog a deinamig sy'n hawlio ymateb y disgybl.
Blwyddyn 7
Tymor yr Hydref
- Tymor yr Hydref
- Aneddiadau (ardal leol)
Tymor y Gwanwyn
- Cymru/Materion Amgylcheddol: Gwrthdaro Gwledig
- Gweithgareddau Economaidd: Y Diwydiant Twristiaeth (Cymru)
Tymor yr Haf
- Yr Arfordir
Blwyddyn 8
Tymor yr Hydref
- Poblogaeth
- Yr Eidal
Tymor y Gwanwyn
- Tywydd a Hinsawdd
- Newid Amgylcheddol: Cynhesu Byd Eang
Tymor yr Haf
- Trychineb Llifogydd
Blwyddyn 9
Tymor yr Hydref
- Brasil/Datblygiad
- Ecosystem Y Fforest Law
Tymor y Gwanwyn
- Platiau Tectoneg: Daeargrynfeydd a llosgfynyddoedd
- Adnoddau: Egni
Tymor yr Haf
- Astudiaeth Unigol: Antarctica
Cyfnod Allweddol 4
Cwrs Tgau Daearyddiaeth (Avery Hill)
Mae maes llafur TGAU Daearyddiaeth yn edrych ar agweddau ffisegol, amgylcheddol a dynol a thrwy amrywiaeth eang o enghreifftiau yn edrych ar y cysylltiadau rhyngddynt.
Mae pedair uned i’r cwrs:
- Uned 1 – Hinsawdd, Amgylchedd a Phobl
- Uned 2 – Dwr, Tirffurfiau a Phobl
- Uned 3 – Pobl a Lleoedd
- Uned 4 – Pobl, Gwaith a Datblygiad
Mae’r tabl isod yn rhoi syniad i chi o bryd fyddwn yn astudio’r unedau:
| Blwyddyn 10 | Blwyddyn 11 | |
|---|---|---|
| Tymoryr Hydref | Pobl a Lleoedd | Pobl, gwaith a Datblygiad (parhad) |
| Tymory Gwanwyn | Dwr, Tirffurfiau a Phobl | Hinsawdd, Amgylchedd a Phobl |
| Tymoryr Haf | Pobl, Gwaith a Datblygiad | Adolygu |
Wrth gwblhau’r unedau byddwch yn astudio enghreifftiau ar raddfeydd gwahanol, o’r ardal leol, Cymru, y Deyrnas Unedig, a’r Undeb Ewropeaidd i wledydd eraill ‘Mwy Datblygedig yn Economaidd’ (GMDE e.e. Japan, UDA) a ‘Gwledydd Llai Datblygedig yn Economaidd’ (GLlDE e.e. India, rhanbarthau o Affrica megis y Sahel).
Asesu
Asesir eich gwaith trwy ddau bapur arholiad (75%) a dau ddarn o waith cwrs (25%).
Arholiadau
Byddwch yn sefyll dau bapur arholiad, naill ai haen sylfaenol neu haen uwch. Mae’r papurau uwch wedi eu targedu at raddau D – A* a’r papurau sylfaenol at raddau G – C.
| Papur 1 (uwch), neu Papur 2 (sylfaenol) | Uned 2, 3 a 4. |
| Papur 3 (uwch), neu Papur 4 (sylfaenol) | Papur datrys problem yw hon sydd yn asesu Uned 1 |
Gwaith Cwrs
Byddwch yn cyflwyno dau ddarn o waith cwrs:
- Yr Astudiaeth (15%) - ymchwiliad wedi ei selio ar waith maes yn yr ardal leol.
- Tasg Draws Uned (10%) - tasg ymchwil neu ddatrys problem.
Byddwn yn cyflawni’r “Astudiaeth” ym mlwyddyn 10 a’r “Tasg Draws Uned” ym mlwyddyn 11.
Trwy gydol y cwrs byddwch yn cael cyfle i ddatblygu llawer o sgiliau daearyddol yn ogystal â sgiliau allweddol. Bydd cryn bwyslais ar ymchwilio a datrys problemau daearyddol wrth gydweithio ‘ag eraill o fewn y dosbarth ac wrth wneud gwaith maes.
Y Chweched
Daearyddiaeth Uwch Gyfrannol / Safon Uwch
Dyma’r themâu astudio ym mlwyddyn 12 a 13:
- G1: Newidiadau mewn Amgylcheddau Ffisegol
- G2: Newidiadau mewn Amgylcheddau Dynol
- G3: Themâu Cyfoes ag Ymchwil mewn Daearyddiaeth
- G4: Cynaladwyedd
Mae’r cwrs newydd yma ar gyfer flwyddyn 12 a 13 yn un hynod gyffrous.
Ym mlwyddyn 12 Astudiwyd dwy uned o waith:
- G1: Newidiadau mewn Amgylcheddau ffisegol
- G2: Newidiadau mewn amgylcheddau dynol
O fewn yr unedau hyn y prif themâu astudio fydd:
- Ymchwilio i Newid Hinsawdd
- Ymchwilio i Newidiadau Tectonig a Hydrolegol
- Ymchwilio i Newid Poblogaeth
- Ymchwilio i Newidiadau yn Aneddiadau Gwledydd MEDd
Cyflwynwyd y themâu dysgu gan ddefnyddio dulliau addysgu amrywiol gan gynnwys:
- Nodiadau pwrpasol a chlir wedi selio ar yr ymchwil diweddaraf, gydag enghreifftiau lleol, cenedlaethol a byd-eang.
- Gweithgareddau strwythuredig / ymarferol – mae ymchwilio, gwerthuso a chyfiawnhau yn sgiliau amlwg caiff eu datblygu arnynt.
- Deunyddiau gweledol – ffotograffau, delweddau lloeren, mapiau, siartiau a deunyddiau graffigol eraill.
- Gwaith maes – er nad oes gwaith cwrs fe fydd sgiliau ymholi / gwaith maes yn cael eu profi yn yr arholiad.
- Ymweliadau – bydd nifer o gyfleoedd i ymweld a chynadleddau a phrosiectau perthnasol.
Crynoded o'r asesiad
Uwch Gyfrannol (2 uned)
G1 Papur Ysgrifenedig 1 awr 30 munud - 75 marc (100 GMU)
Amgylcheddau Ffisegol Newidiol
Dwy Thema:
- Ymchwilio i newid poblogaeth
- Ymchwilio i newid aneddiadau
Tri chwestiwn strwythuredig gyda deunydd ysgogi, un ohonynt yn profi gwaith ymchwil/gwaith maes.
G2 Papur Ysgrifenedig 1 awr 30 munud - 75 marc (100 GMU)
Amgylcheddau Dynol Newidiol
Dwy Thema:
- Ymchwilio i newid poblogaeth
- Ymchwilio i newid aneddiadau
Tri chwestiwn strwythuredig gyda deunydd ysgogi, un ohonynt yn profi gwaith ymchwil/gwaith maes.
Safon Uwch (yr uchod yn ogystal â 2 uned bellach)
G3 Papur Ysgrifenedig 2 awr 15 munud - 75 marc (120 GMU)
Themâu Cyfoes ac Ymchwil mewn Daearyddiaeth
Adran A - 1 awr 30 munud
Dau draethawd - un o bob un o’r ddwy thema gyfoes. Un thema yn dod o’r tri dewis ffisegol ac un thema o’r tri dewis dynol. Ceir dewis o ddau gwestiwnar gyfer pob thema.
Adran B - 45 munud
Ar gyfer pob un o’r 10 thema, fe geir maes testun a osodir gan y Bwrdd yn Rhagfyr (cyfres Ionawr) a Mai (cyfres Fehefin) y flwyddyn flaenorol. Mae’r ymgeiswyr yn llunio a gweithredu ymholiad ymchwil seiliedig ar eu thema dewisol ac ar eu maes testun rhagnodol. Bydd hwn yn cael ei asesu gangwestiwn dwyran seiliedig ar ymholiad ymchwil ac ar ganlyniadau eu hymchwil. Dosberthir y cwestiwn hwn wedi 1 awr 30 munud pan fydd Adran Ayn cael ei rhoi i mewn.
G4 Papur Ysgrifenedig 1 awr 45 munud - 80 marc (80 GMU)
Cynaladwyedd
- Cyflenwad Bwyd Cynaliadwy
- Cyflenwad Dŵr Cynaliadwy
- Egni Cynaliadwy
- Dinasoedd Cynaliadwy
Deunydd wedi ei ryddhau o flaen llaw yn Rhagfyr a Mai cyn yr arholiad ar gyfer Ymarfer Gwneud Penderfyniad
Am fwy o wybodaeth am bob agwedd o’r cwrs ewch at wefan CBAC a’r fanyleb.
Dulliau Addysgu
Methodoleg a Chanllawiau Dysgu
Yn cydymffurfio â pholisi methodoleg yr ysgol, credwn fod y disgyblion yn dysgu orau pan ydynt yn mwynhau ac yn cael profiadau cadarnhaol yn y dosbarth. Caiff pob disgybl ei herio, o fewn amgylchedd dosbarth cyfforddus a chefnogol (low stress - high challenge), er mwyn sicrhau cynnydd parhaus mewn safon ei g/waith. Ceisiwn felly gynllunio gwersi sydd yn seiliedig ar ddulliau gweithredol, sydd yn hybu gwahaniaethu ac sydd yn symbylu’r disgybl i holi a darganfod dros ei hunan.
Cynllinio unedau o waith a gwersi
Mae’r gyfadran yn cydweithio’n agos wrth baratoi unedau o waith a gwersi. Pwrpas hyn yw rhannu syniadau a sicrhau cysondeb ym mhrofiadau’r disgyblion. Mae natur y pynciau yn ddynamig ac rydym bob amser yn awyddus i dreialu deunydd a syniadau newydd. Byddwn yn arfarnu ac yn gwerthuso bob uned o waith gan awgrymu newidiadau ar gyfer y dyfodol.
Cynllunio a pharatoiunedau
Yn gyffredinol mae pob uned o waith yn cynnwys y canlynol:-
- Datganiad o nod yr uned
- Llyfryn gwaith (gwybodaeth a thasgau)
- Gweithgareddau strwythuredig eraill
- Rhestr o eirfa allweddol
- Tasgau gwaith cartref
- Tasg lefel/estynedig neu brawf
- Cofnod cyrhaeddiad
Cynllunio ar gyfer dosbarthiadau gallu cymysg
Mae’r dosbarthiadau yn rhai gallu cymysg ac mae dysgu gwahaniaethol yn sail i’n methodoleg dysgu. Bydd pob disgybl yn gweithio ar yr un syniadau a chwestiynau allweddol a defnyddir y dulliau canlynol o wahaniaethu:-
- Tasgau gwahaniaethol
- Tasgau agored er mwyn gwahaniaethu trwy ganlyniad
- Tasgau graddedig yn ôl lefel y disgybl
- Cymorth ac amser ychwanegol i ddisgyblion sy’n cael anawsterau
Cynllunio gwarsi
- Esbonio nod y wers i’r disgybl fel ei bod yn deall pwrpas yr hyn maent yn ei wneud
- Defnyddio adnoddau gweledol, clywedol a cinesthetig
- Sicrhau ein bod yn ymarfer amrywiaeth o sgiliau pwnc penodol a sgiliau allweddol
- Sicrhau bod yr athro yn manteisio ar bob cyfle i drafod y gwaith gydag unigolion yn ystod y wers
- Sicrhau bod yr hyn a ddysgwyd yn cael ei chrynhoi ar ddiwedd y wers
- Defnyddio dulliau gweithredol ac amrywiol i hybu dealltwriaeth e.e.
Wrth gynllunio gwersi byddwn yn:-
| Ymarferion sgiliau meddwl | |
|---|---|
| Mynd am bump | trafod o fewn parau/grwpiau er mwyn dod o hyd i bump ateb |
| Dull y belen eira | nodi syniadau unigol ac yna rhannu gyda phartner/grŵp |
| Trefnu cardiau | gwybodaeth / gosodiadau / termau /lluniau/ diagramau |
| Chwarae rôl | e.e. disgyblion yn cymryd safbwyntiau gwahanol mewn ymarfer gwneud penderfyniad |
Defnydd o iaith
Mae’r dyniaethau yn gyfrwng i ehangu geirfa’r disgyblion. Rhoddwn sylw i hyn yn ein gwersi gan geisio dyfeisio tasgau sy’n atgyfnerthu dealltwriaeth y disgyblion o’r termau penodol hyn.
Trefniant y dosbarth
Mae’r dosbarthiadau wedi’u trefnu fel bod y disgyblion yn gweithio mewn grwpiau gan ofalu bod neb a’u cefn tuag at yr athro/athrawes. Mae hyn yn rhoi cyfle iddynt drafod a dysgu gyda'i gilydd ac yn creu amgylchedd sy’n magu hyder. Maent yn eistedd mewn grwpiau o bump neu chwech, gyda’r athro/athrawes yn dewis lle maent yn eistedd. Mae nifer o gyfuniadau yn bosib, megis gallu cymysg, grwpiau tebyg eu gallu, cymysg eu rhyw, parau ffrindiau, ymddygiad. Mae’r athro/athrawes yn cadw cofnod o’r grwpiau er mwyn ei g/alluogi i ad-drefnu’r dosbarth yn dymhorol neu yn ôl yr angen. Byddwn yn rhannu gwybodaeth am drefniant eistedd y disgyblion pan fydd dosbarth yn newid i gael eu dysgu gan athro/athrawes wahanol. Mae’r disgyblion yn deall mae penderfyniad yr athro/athrawes yw’r grwpio ac mae datganiad ar wal bob ystafell ddysgu (h.y. datganiad rheolau dosbarth) yn esbonio hyn.
Bywyd Allgyrsiol yr Adran
Manylion i ddilyn