Ieithoedd Modern
- Nod & Amcanion
- Blwyddyn 7
- Blwyddyn 8
- Blwyddyn 9
- Cyfnod Allweddol 4
- Y Chweched
- Dulliau Addysgu
- Bywyd Allgyrsiol yr Adran
Nod & Amcanion
- Mae dysgu Iaith Fodern yn ehangu gorwelion pobl : I nifer o ddisgyblion sy’n dechrau mewn ysgol uwchradd, mae’n agoriad llygad i fyd newydd. Mae’r pwnc yn galluogi disgyblion i ddysgu sgiliau newydd ac i feithrin y sgiliau hyn i fynegi eu hun yn eu hail neu drydedd iaith. Yn ogystal, mae dysgu Iaith Fodern yn hybu dealltwriaeth a gwybodaeth ddiwylliedig/ hanesyddol/ ddaearyddol y wlad neu’r gwledydd hynny y siaredir yr iaith darged.
- Ein prif nod fel cyfadran yw ateb gofynion amrywiol pob un disgybl gan sicrhau eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial wrth gyfathrebu yn hyderus o fewn eu gwybodaeth ieithyddol. Hanfodol felly yw darparu cyfleoedd i holl ddisgyblion yr ysgol i gyfathrebu mewn Ieithoedd Tramor ar lafar ac yn ysgrifenedig ac i ddeall yr ieithoedd hynny trwy ddarllen neu wrando ar yr ieithoedd mewn cyd-destun a fydd yn datblygu i fod yn fwyfwy naturiol yn ôl safon eu cyrhaeddiad.
- Mae’r Gyfadran yn addysgu Rhaglen Astudio pob cyfnod allweddol , a hynny mewn ffyrdd sy’n briodol i’w galluoedd a’u haeddfedrwydd datblygedig. Darpara’r Gyfadran waith o safon wahaniaethol er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn dangos cyflawniad a chynnydd pellach.
- Yn sgil y ddarpariaeth yma, disgwylir i ddisgyblion fedru cyflawni gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol i’r safon gorau posib yng Nghyfnod Allweddol 3. (Gweler dogfen y C.C. am ddisgrifiadau'r lefelau cyrhaeddiad gwahanol yng Nghyfnod Allweddol 3). Yn dilyn hyn, y mae’n ddisgwyliedig i’r sawl sy’n dewis astudio Iaith Fodern/ Ieithoedd Modern yng Nghyfnod Allweddol 4/ yng Nghyfnod Allweddol 5 ddatblygu eu sgiliau er mwyn cyrraedd safon TGAU/ UG/ SU.
- Pwysleisiwn mai nid yn unig ar elfennau ieithyddol y canolbwyntiwn. Yr ydym hefyd yn sicrhau bod elfennau trawsgwricwlaidd yn cael eu cynnwys yn ein rhaglen ddysgu:- Agorwn lygaid disgyblion i natur ymarferol y pwnc – mae ffeithiau technolegol/ hanesyddol/ daearyddol a gwybodaeth ynglŷn â sawl maes megis cerddoriaeth, a’r celfyddydau yn mynd law yn llaw gyda nifer o’r testunau yr astudiwn mewn gwersi Ieithoedd Modern.
- Yn ein rôl fel athrawon Ieithoedd Tramor Modern, teimlwn ei fod yn angenrheidiol ein bod yn dod ag elfen o hwyl a mwynhad i mewn i’r ystafell ddosbarth. Wrth wneud sesiynau Chwarae Rôl gyda disgyblion mae eu sgiliau ieithyddol a’u gwybodaeth gefndirol yn cael eu hymestyn. Wrth i’r unigolyn ddatblygu'r math yma o elfennau, medda ar y gallu i adlewyrchu ar gymdeithas ehangach - Ewrop a’r Byd. Anogwn yr unigolyn i fod yn ddinesydd cydwybodol a chyfrifol trwy agor eu llygaid i ffyrdd eraill o fyw, i draddodiadau ac i arferion gwahanol.
- Allweddol yw gwella sgiliau cyfathrebu ein disgyblion. Mae astudio iaith fodern yn hybu hyder, diddordeb ac ymwybyddiaeth yr unigolyn. Anelwn i wneud ein disgyblion yn amlieithog gan ein bod bellach wrth gwrs yn rhan o Ewrop a’i bod hi’n holl bwysig bod disgyblion yr ysgol yn deall pwysigrwydd dysgu ieithoedd ar lefel economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.
Blwyddyn 7
Yng Nghymru, cynhwysir Iaith Dramor Fodern yn y Cwricwlwm yn statudol o Gyfnod Allweddol 3 ymlaen. Rhaid i’r ysgol gynnig un neu fwy o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd: Ffrangeg yw’r iaith a gynigir i ddisgyblion yr ysgol ym mlwyddyn 7.
Yn hytrach na dilyn gwerslyfrau, yr ydym fel Cyfadran yn creu llyfrynnau gwaith thematig. Yn ystod wythnosau cyntaf y tymor, ca ddisgyblion blwyddyn saith gyflwyniad i elfennau sylfaenol yr iaith darged – rhifau, misoedd, dyddiau’r wythnos, tymhorau, lliwiau.
Dyma’r themâu yn fras:
- Cyflwyno’r hun
- Y Teulu
- Yn yr Ystafell Ddosbarth
- Anifeiliaid Anwes
- Hobïau / Chwaraeon
- Yr Amser
- Y Tywydd
- Yr Ysgol
Asesu
Asesir cynnydd pob disgybl fesul modiwl o waith. Er mwyn sicrhau cynnal y safonau gorau yn nhermau cyfathrebu gweithredol y disgyblion, bydd prawf asesu llafar ac ysgrifennu ar ddiwedd pob hanner tymor. Hefyd, i sicrhau deallusrwydd pob disgybl o’r unedau, bydd profion darllen a gwrando yn digwydd ar ddiwedd pob tymor.
Defnyddir ystod o strategaethau asesu ffurfiol megis gwaith unigol/ pâr, defnydd o TGCh, fideo i ddatblygu eu Sgiliau Allweddol ar yr un pryd.
Sefydlwyd patrwm marcio tebyg i’r system Ffrengig, sef i farcio darnau o waith asesu allan o 20 ar draws y Nodau Asesu. Galluoga hyn i ddisgybl dracio ei berfformiad ei hun yn gyson ar hyd y flwyddyn. Trosglwyddir y marciau yma i lefelau Cwricwlwm Cenedlaethol pan adroddir yn ôl i rieni.
Gwaith Cartref
Darperir llyfryn uned i ddisgyblion . Galluoga hyn i bob disgybl gael mynediad i dasgau, geirfa a help ar bob adeg. Gosodir amryw o dasgau Gwaith Cartref gan gynnwys :- Dysgu gwaith/ geirfa ar gyfer profion sillafu/ ysgrifennu/ llafar. Cwblhau tasgau Darllen a Deall/ Ysgrifennu. Ymchwil i destun/ thema. Ac ati
Blwyddyn 8
Addysgir pum wers Ieithoedd Modern y bythefnos. Darperir pedair gwers Ffrangeg ym mlwyddyn 8 ac y mae un o’r gwersi Ffrangeg yn cael ei chyfosod gan un wers o ail Iaith Fodern, sef Sbaeneg. Cyflwynir ail Iaith Fodern er mwyn cynnal diddordeb a cheisio ehangu cyfleoedd a dewisiadau'r disgyblion erbyn diwedd y Cyfnod Allweddol.
Yn yr un modd, yr ydym yn parhau gyda’r dysgu trwy gyfrwng llyfrynnau thematig. Wrth i safon y gwaith godi, cyflwynir mwy o ramadeg er mwyn ymestyn dealltwriaeth a lefel cyfathrebu disgyblion, er enghraifft berfau’r amser gorffennol, berfau atblygol ac ati.
Gyda chyflwyno Sbaeneg ar y llaw arall, cyflwynwn eirfa a strwythurau hanfodol i ddechreuwyr – sgwrsio syml ynghyd â rhifau, dyddiau’r wythnos ac yn y blaen.
| Themâu Ffrangeg | Themâu Sbaeneg |
|---|---|
| Trafnidiaeth | Cyflwyno’r Hun |
| Gwyliau | Yn yr Ystafell Ddosbarth |
| Penwythnos Diwethaf | Y Teulu |
| Amser Hamdden | Anifeiliaid Anwes |
| Caffi/Bwydydd/Diodydd | Cenhedloedd |
| Siopa | Y Tywydd |
| Dillad | Yr Amser |
| Y Dref | |
| Trefnu Cwrdd | |
| Cyfarwyddiadau | |
| Rwtîn Dyddiol |
Asesu
(Gweler trefniadaeth asesu bl.7)
Mae’r profion asesu yn deillio o waith pob uned ar wahân, er, bydd disgwyl i ddisgyblion ddatblygu ac ehangu eu gwaith yn gynyddol drwy gyfeirio at waith a ddysgwyd mewn unedau blaenorol ym mlwyddyn 7 er mwyn cyrraedd gofynion lefelau uwch y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Blwyddyn 9
Fel ym mlwyddyn 8, addysgir pedair gwers Ffrangeg ac un wers Sbaeneg y bythefnos. Yn yr un modd, yr ydym yn parhau gyda’r dysgu trwy gyfrwng llyfrynnau thematig. Wrth i safon y gwaith godi, ymestynnir yn bellach ddealltwriaeth a lefel cyfathrebu disgyblion, er enghraifft berfau’r amser gorffennol – y perffaith a’r amherffaith, yr amser dyfodol, berfau atblygol ac ati.
Yn ystod y flwyddyn hon, canolbwyntir y llyfrynnau thematig ar themâu diddorol gyda Ffrainc a gwledydd Ffrangeg eu hiaith fel cyd destun i’r llyfrynnau Ffrangeg. Er enghraifft:
Themâu Ffrangeg
La France et les pays francophones - Daearyddiaeth a hanes Ffrainc a’r gwledydd sy’n siarad Ffrangeg; Ffilmiau, Cerddoriaeth, Chwaraeon, Ieithoedd, Swyddi, Trip Cyfnewid, System Addysg Ffrainc.
Themâu Sbaeneg
Yn y Caffi; Yn y dref/ Cyfarwyddiadau; Addysg/ Yr Ysgol; Siopa; Gwyliau/ Llety.
Yn ogystal, yr ydym yn dechrau cwblhau darn o waith cwrs TGAU ar ddechrau’r trydydd tymor er mwyn rhoi blas i ddisgyblion o’r gwaith sydd i ddod yn CA4, ac i roi hwb cychwynnol iddynt yn eu hastudiaethau.
Asesu
Fel ym mlwyddyn 7 a blwyddyn 8, deillir y profion asesu o waith pob uned ar wahân. Bydd disgwyl i ddisgyblion ddatblygu eu gwaith yn gynyddol drwy gyfeirio at waith a ddysgwyd mewn unedau blaenorol yn gynharach yn y Cyfnod Allweddol er mwyn cyrraedd gofynion lefelau uwch y Cwricwlwm Cenedlaethol. Er yr adroddir yn ôl i ddisgyblion a rhieni mewn targedau, fe asesir darnau gwaith cwrs TGAU yn unol â disgrifiadau graddau y TGAU newydd.
Gwaith Cartref
Darperir llyfryn uned i ddisgyblion . Galluoga hyn i bob disgybl gael mynediad i dasgau, geirfa a help ar bob adeg. Gosodir amryw o dasgau Gwaith Cartref gan gynnwys :- Dysgu gwaith/ geirfa ar gyfer profion sillafu/ ysgrifennu/ llafar, Cwblhau tasgau Darllen a Deall/ Ysgrifennu. Ymchwil i destun/ thema/ cyflwyniadau pwynt pŵer/ paratoi darnau gwaith cwrs TGAU eu natur, ac ati.
Cyfnod Allweddol 4
Pam astudio Ffrangeg i TGAU?
Ffrainc yw’r wlad sy’n derbyn y nifer fwyaf o dwristiaid bob blwyddyn – mae’n croesawu 75 miliwn o dwristiaid yn flynyddol! Siaredir Ffrangeg mewn dros 43 o wledydd ar draws y byd. A wyddoch mai Ffrangeg yw’r iaith a ddysgir mwyaf ar ôl Saesneg? Mae Ffrangeg yn ogystal yn un o 2 iaith swyddogol y Cenhedloedd Unedig, y Cyngor Ewropeaidd, y Gemau Olympaidd, ac y mae’n brif iaith ym myd technoleg, busnes, cyfathrebu ac ymchwil meddygol. Ym marn rhai, nid oes yna le i Ieithoedd Modern yn ein gwlad ni.
Dyma’r sefyllfa yng Nghymru:
Mae 19% o gwmnïau’n colli busnes oherwydd prinder sgiliau iaith. Wyneba 20% o fusnesau anawsterau diwylliannol. Wrth fasnachu dramor wyneba 42% o gwmnïau rwystrau ieithyddol oherwydd methiant i gyfathrebu yn iaith y prynwr/gwerthwr. (Adroddiad Cynulliad 2004)
Y Cwrs Tgau Ffrangeg
Cewch gyfle i ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu ymhellach. Astudir themâu byrlymus, hwylus e.e. twristiaeth, y cyfryngau, yr amgylchfyd… Byddwn yn defnyddio nifer o ddulliau dysgu, gan gynnwys Technoleg Gwybodaeth, Fideo gynadledda, Gemau Iaith, Chwarae Rôl ac ati.
Asesu : Gwrando 20%, Siarad 30%, Darllen 20%
Ysgrifennu : Gwaith Cwrs 30%
Pam astudio Sbaeneg i TGAU?
Gyda 500 miliwn o bobl yn siarad yr iaith, Sbaeneg yw’r drydedd iaith y siaredir mwyaf yn y byd. Mae hefyd yn iaith swyddogol mewn pedwar cyfandir. Ym maes cyfathrebu rhyngwladol, Sbaeneg yw’r ail iaith a ddefnyddir mwyaf, ac mae hefyd yn iaith a chyfrwng swyddogol y Cenhedloedd Unedig. Rhaid cofio bod ein byd yn prysur ddod yn amlieithog ac yn ôl ymchwilwyr iaith, y ddwy iaith allweddol i’r dyfodol yw Arabeg a Sbaeneg. Ac yn olaf, Sbaeneg yw un o’r ieithoedd estron hawsaf i ddysgu. Yn ôl rhai, dysgu a chyfieithu yw’r unig swyddi, ar gyfer y sawl sydd wedi astudio Ieithoedd, ond …
Y meysydd lle mae graddedigion Ieithoedd 2007 yn gweithio:
- Gwasanaethau busnes, 26.9%
- Gweithgynhyrchu, 12.7%
- Manwerthu, 11.6%
- Iechyd/Cymuned/Gwasanaeth y Gymuned, 11.1%
- Bancio/Cyllid, 10.4%
- Cludiant/Cyfathrebu, 9.4%
- Gweinyddiaeth gyhoeddus, 5.9%
- Addysg (heblaw am ddysgu), 5.3%
- Gwestai/Llety, 3.7%
- Meddygaeth/ Deintyddiaeth/ Milfeddygaeth, 0.5%
- Sefydliadau Rhyngwladol, 0.2%
- Meysydd eraill, 2.8%
Y CWRS TGAU SBAENEG
Cewch gyfle i ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu ymhellach. Astudir themâu byrlymus, llawn hwyl e.e. twristiaeth, y cyfryngau, siopa, yr amgylchfyd. Byddwn yn defnyddio nifer o ddulliau dysgu, gan gynnwys Technoleg Gwybodaeth, Fideo gynadledda, Gemau Iaith, Chwarae Rôl ac ati.
Asesu: Gwrando 20%, Siarad 30%, Darllen 20%
Ysgrifennu: Gwaith Cwrs 30%
Y Chweched
SBAENEG UWCH GYFRANNOL/SAFON UWCH
Pam Sbaeneg? Er mwyn…
- Astudio y drydedd iaith y siaredir fwyaf yn y byd.
- Ennill hyder a datblygu’n berson mwy cyflawn wrth werthfawrogi diwylliannau eraill.
- Cael cyfuniad gwerthfawr a defnyddiol o bynciau yn y Chweched Dosbarth.
- Ennill sgil a fydd yn cadarnhau cyfleoedd gyrfaol mewn nifer fawr o feysydd gan gynnwys busnes, peirianneg, marchnata, gwyddoniaeth ayyb
- Gallu cyfathrebu ar draws y byd.
- Codi safon eich mamieithoedd a chydio mewn ieithoedd eraill.
- Gallu teithio’n hwylus gan fod Sbaeneg yn iaith swyddogol ar bedwar cyfandir.
- Astudio neu fyw tramor am gyfnod.
- Ennyn disgyblaeth academaidd sy’n cryfhau sgiliau cyfathrebu, sgiliau meddwl a sgiliau cof.
Beth yw cynnwys y cwrs?
- Astudir themâu diddorol sy’n gweddu i bobl ifanc, e.e. amser hamdden a chwaraeon, y byd ffasiwn, adloniant a thwristiaeth.
- Astudir themâu a ddatblyga ymwybyddiaeth o faterion cymdeithasol megis problemau’r ifanc, iechyd, y byd addysg, materion moesol a gwleidyddol.
- Ardaloedd, Llenyddiaeth a Ffilmiau Sbaeneg.
Cyfleoedd
- Gwersi llafar gyda chynorthwy-ydd Sbaeneg.
- Taith ddiwylliannol i Madrid.
- Taith Ymwybyddiaeth Ewropeaidd i Strasbourg.
- Clwb Ffilmiau Tramor.
- Cynorthwyo disgyblion iau yn eu gwersi iaith.
Dulliau a Chyfryngau Dysgu
- Ffilmiau a llenyddiaeth Sbaeneg.
- Papurau, cylchgronau, rhaglenni radio a theledu Sbaeneg.
- Gwefannau a fideo gynadledda.
- Gweithgareddau llafar e.e. cyflwyniadau, dadleuon, rhaglenni teledu, ymchwil trwy holiaduron.
- Sgiliau datblygu meddwl a chof, datrys problemau a gweithgareddau hwyl.
| Uned 1 SB1 | Llafar: sgwrs gyffredinol am eich hun a dwy themâu a astudir. | Arholiad 15mun gydag arholwr allanol 40% o’r UG 20% o’r U2 |
| Uned 2 SB2 | Arholiad gydag gwrando, darllen ac ysgrifennu. | Arholiad 2 awr a hanner60% o’r UG 30% o’r U2 |
| Uned 3 SB3 | Llafar: trafodaeth yn seiliedig ar erthygl ac exposé llafar. | Arholiad 20mun gydag arholwr allanol 20% of U2 |
| Uned 4 SB4 | Arholiad gydag ymarferion gwrando, darllen, cyfieithu ac ysgrifennu. | Arholiad 3 awr 30% of U2 |
FFRANGEG UWCH GYFRANNOL/SAFON UWCH
Pam Ffrangeg? Er mwyn …
- CYFATHREBU! – Mae’n brif iaith ym myd technoleg, busnes, ymchwil meddygol, diwydiant, twristiaeth.
- Yn ogystal, mae’n un o ddwy iaith swyddogol y Cenhedloedd Unedig, y Cyngor Ewropeaidd, y Gemau Olympaidd.
- Ennill hyder a datblygu’n berson mwy cyflawn wrth werthfawrogi diwylliannau eraill.
- Cael cyfuniad gwerthfawr a defnyddiol o bynciau yn y Chweched Dosbarth.
- Ennill sgil a fydd yn cadarnhau cyfleoedd gyrfaol mewn nifer fawr o feysydd gan gynnwys busnes, peirianneg, marchnata, gwyddoniaeth ayyb
- Gallu cyfathrebu ar draws y byd.
- Codi safon eich mamieithoedd a chydio mewn ieithoedd eraill.
- Astudio/ gweithio neu fyw tramor am gyfnod.
- Ennyn disgyblaeth academaidd sy’n cryfhau sgiliau cyfathrebu, sgiliau meddwl a sgiliau cof.
Beth yw cynnwys y cwrs?
- Astudir themâu diddorol sy’n gweddu i bobl ifanc, e.e. amser hamdden a chwaraeon, y byd ffasiwn, adloniant a thwristiaeth.
- Astudir themâu a ddatblyga ymwybyddiaeth o faterion cymdeithasol megis problemau’r ifanc, iechyd, y byd addysg, materion moesol a gwleidyddol.
- Ardaloedd, Llenyddiaeth a Ffilmiau Sbaeneg.
Cyfleoedd
- Gwersi llafar gyda chynorthwy-ydd Sbaeneg.
- Cyfle i wneud profiad gwaith yn ardal y Vendée.
- Taith Ymwybyddiaeth Ewropeaidd i Strasbourg.
- Clwb Ffilmiau Tramor.
- Cynorthwyo disgyblion iau yn eu gwersi iaith.
Dulliau a Chyfryngau Dysgu
- Ffilmiau a llenyddiaeth Ffrangeg.
- Papurau, cylchgronau, rhaglenni radio a theledu Ffrangeg.
- Gwefannau a fideo gynadledda.
- Gweithgareddau llafar e.e. cyflwyniadau, dadleuon, rhaglenni teledu, ymchwil trwy holiaduron.
- Sgiliau datblygu meddwl a chof, datrys problemau a gweithgareddau hwyl.
| Uned 1 FF1 | Llafar: sgwrs gyffredinol am eich hun a dwy themâu a astudir. | Arholiad 15mun gydag arholwr allanol 40% o’r UG 20% o’r U2 |
| Uned 2 FF2 | Arholiad gydag ymarferion gwrando, darllen ac ysgrifennu. | Arholiad 2 awr a hanner60% o’r UG 30% o’r U2 |
| Uned 3 FF3 | Llafar: trafodaeth yn seiliedig ar erthygl ac exposé llafar. | Arholiad 20mun gydag arholwr allanol 20% of U2 |
| Uned 4 FF4 | Arholiad gydag ymarferion gwrando, darllen, cyfieithu ac ysgrifennu. | Arholiad 3 awr 30% of U2 |
Dulliau Addysgu
Hanfodol bwysig yw datblygu sgiliau addysgu sydd yn gwella sgiliau cof a hunanddisgyblaeth yr unigolyn. Ein prif amcan yw datblygu unigolion i fod yn ieithyddwyr, yn ddysgwyr ac yn fyfyrwyr annibynnol yn eu hastudiaethau yn yr ysgol a thu hwnt…
Dulliau Gweithredol
Canolbwyntiwn ar addysgu disgyblion trwy Ddulliau Gweithredol lle mae’r disgyblion eu hun yn cydio yn yr awenau mewn gwersi. Wrth gwrs, mae rhai o’r gwersi yn athro-ganolog (wrth ddechrau uned newydd er enghraifft) , yna mae’r disgyblion yn dilyn llyfrynnau thematig trwy weithio’n annibynnol, yn hunan asesu ac yn asesu cymheiriaid.
Sgiliau Ymchwil
Er mwyn darganfod ffeithiau diwylliedig, hanesyddol neu ddaearyddol, a fydd ynghlwm wrth thema, holl bwysig yw ymestyn sgiliau Ymchwil disgyblion. Trefnwn fod nifer o’m gwersi yn cael eu dysgu yn yr ystafelloedd TGCh ac yn y llyfrgell er mwyn i ddisgyblion gael mynediad i’r wybodaeth angenrheidiol sydd angen arnynt er mwyn ateb gofynion tasg arbennig.
Rhannu a Chydweithio
O fewn ein pwnc, mae’n allweddol bod disgyblion yn cydweithio, yn cydgynllunio, yn cyd-adolygu, yn cydgwerthuso ac yn asesu cymheiriaid - boed hyn ar lefel gwaith grŵp neu waith pâr. Y dystiolaeth y gwelwn fel Cyfadran fod cydweithio o’r fath yn dwyn ffrwyth yw:- Bod disgyblion yn dysgu o wallau cyffredin ei gilydd, yn gweld arfer da eu cyd-ddisgyblion ac yn ymgorffori hyn i’w gwaith ei hun. Yn ogystal, maent yn cynnig cymorth neu awgrymiadau i’w gilydd o’r hyn sy’n gweithio’n dda er mwyn cael canlyniadau gwell ac yn bwysicach fyth, gwelwn fod unigolion yn magu hyder wrth sylwi ar ffyrdd i wella safon eu gwaith.
Gwaith Llafar / Cyflwyniadau
Addysgir sut i ofyn cwestiynau a rhoi gwybodaeth, rhoi cyfarwyddiadau ac esboniadau. Mae pwyslais clir a chryf ar fynegi teimladau a safbwyntiau personol gan gofio y gall hyn olygu cytuno neu anghytuno. Addysgir sut i ddefnyddio iaith anffurfiol i gychwyn gan symud tuag at iaith ffurfiol fel bod sefyllfa ac aeddfedrwydd y disgyblion yn datblygu. Fe fydd disgyblion yn creu ac yn cael eu cyflwyno i gyflwyniadau pwrpasol i’w lefel gallu tra bod yr athro yn sicrhau'r ddarpariaeth o ddeallusrwydd elfennol pwysig a fydd ynghlwm wrth y testun dan sylw.
Addysgu trwy ddulliau cyfryngol cyfredol
Ca ddisgyblion yr ysgol y cyfle i ddefnyddio, a chael cymorth oddi wrth amrywiaeth o adnoddau, gan gynnwys TGCh, er mwyn cael mynediad i wybodaeth a’i throsglwyddo.
Sgiliau meddwl / dysgu annibynnol
Cyflwynir technegau ar gyfer cofio geiriau, ymadroddion a pharagraffu byrion i ddechrau. Cyfeirir yn gyson at sut i ddefnyddio'r cyd-destun a chliwiau eraill i ddehongli ystyr. Anogir y disgyblion yn gynnar i ddefnyddio geirfa a geiriaduron dwyieithog a deunyddiau cyfeiriol eraill e.e. trwy ddefnyddio TGCh a hynny yn effeithiol. Bydd hyn yn galluogi i ddisgyblion ddatblygu annibyniaeth wrth ddysgu a defnyddio iaith.
Bywyd Allgyrsiol yr Adran
Er mwyn cyfoethogi ac ategu at yr hyn a ddysgir yn yr ystafell ddosbarth cynigir amryw glybiau a thripiau. Yn ystod oriau cinio ysgol, cynigir clwb Almaeneg a chlwb Mandarin i bob cyfnod allweddol. Mae cynnig clybiau o’r math yma yn annog disgyblion i ddefnyddio’r ieithoedd y tu allan i wersi ac i ddysgu manylion am y pwnc mewn awyrgylch mwy hamddenol.
Newidir yr ystafelloedd dosbarth unwaith bob hanner tymor i Gaffi Ffrangeg neu Sbaeneg a cheir Caffi Almaeneg Nadoligaidd blynyddol yn ystod amserau egwyl. Rhydd hyn wrth gwrs gyfle i’r disgyblion gael blas, (yn llythrennol) ar yr amryw ddanteithion sydd gan rai o wledydd Ewrop a De’r Amerig i’w cynnig.
Yr ydym fel cyfadran hefyd yn dathlu Diwrnod ieithoedd Ewropeaidd (mis Medi) Diwrnod Cenedlaethol Sbaen (mis Hydref) a Diwrnod Cenedlaethol Ffrainc/ Diwrnod y Bastille (mis Gorffennaf) trwy greu diwrnod o weithgareddau megis ‘boules’, gwneud a blasu ‘churros’ neu weithio ar ffilm neu gynhyrchu gwaith fideo trwy gyfrwng yr iaith darged.
Yr ydym wedi bod yn ffodus dros ben i wahodd chwaraewyr Sbaeneg yr Elyrch i ymweld â’n disgyblion sy’n astudio Sbaeneg.
Mae’r profiad o ymweld â’r wlad lle y siaredir yr iaith darged yn un gwerthfawr gan ei fod yn cyfoethogi diddordeb a dealltwriaeth disgyblion o werthoedd ieithyddol a diwylliannol y wlad honno. Yr ydym wedi cydlynu pedwar Trip Cyfnewid llwyddiannus i ddisgyblion o flynyddoedd 8, 9 a 10. Manteision di-ri ar lefel ieithyddol, diwylliedig a chymdeithasol a welwn wrth i’r berthynas gyda’n hysgol bartner ddatblygu’n effeithiol.
Yn y gorffennol, llwyddiannus dros ben bu trip Boulogne. Yn y dyfodol agos fe fyddwn yn trefnu ymweliad â Marchnadoedd Nadoligaidd Ewropeaidd i flynyddoedd cynnar yr ysgol, yn ogystal â threfnu tridiau i brifddinas Sbaen Madrid i ddisgyblion bl.10 ac i fyny.