Newyddion

Colofnau Opsiwn Blwyddyn 10

Mae colofnau opsiwn Blwyddyn 10 (Medi 2012) nawr yn barod.

Rhaid i bob disgybl mewngofnodi i wefan Gyrfa Cymru erbyn y 27/05/12 er mwyn gwneud eu dewisiadau terfynol.

Gweler Colofnau Opsiwn Blwyddyn 10 2012 am fwy o fanylion.

Bl 11 Sesiynau Adolygu Haf 2012

Bl 11 Sesiynau Adolygu Haf 2012

Llwyddiant Athletau Sirol

Llongyfarchiadau i Carwyn Evans (Bl 12) a Ashley Morris (Bl 10) am fod yn bencampwyr athletau’r sir. Enillodd Carwyn y 400m a Ashley yn fuddugol yn y Pwysau.

Roedd nifer o berfformiadau da arall, gyda Ben Jones (Bl 10) yn dod yn 2ail yn y naid hir a 4ydd yn y clwydi, Gwilym Davies (Bl 10) yn dod yn 4ydd yn y 100m, Brogan Lloyd (Bl 10) yn dod yn 5ed yn y naid uchel a Katie Phillips (Bl 9) yn 4ydd yn y naid uchel.

Da iawn chi ac i bawb arall wnaeth gystadlu!

Gwnïo Logo Tecstilau yn Awtomatig

Disgyblion Blwyddyn 11 yn defnyddio meddalwedd cyfrifiadur i ddylunio logo llythrennau cyntaf enw ar gyfer eu gwaith cwrs TGAU.

Mae’r dyluniad yn llwytho i fyny i’r peiriant a’r logo yn cael ei gwnïo ar y defnydd yn awtomatig.

Enillwyr Clwb Cant – Ebrill 2012

Llongyfarchiadau i enillwyr clwb 100 mis Ebrill.

1af – Miss Shan Davies – Rhif 97 – £24.00

2ail – Mrs Rhian Davies – Rhif 91 – £16.00

3ydd – Mrs Nerys Vaughan – Rhif 26 - £8.00

Pob lwc i bawb ar gyfer mis Mai!

Os ydych am bod yn rhan o’r clwb 100, dewch a £4 i’r swyddfa cyn gynted a phosib. 

Cerdd Hylif Hud

Daeth Bardd Plant Cymru, Eurig Salisbury, i ymweld â chriw o 25 o ddisgyblion blwyddyn 7 Bryn Tawe, ddydd Iau, y trydydd o Fai.

Daeth ef i greu cerdd gyda ni ac adroddodd stori wrthym ni. Roedd y stori am wrach o’r enw Ceridwen. Roedd Ceridwen yn wrach gas ac roedd ganddi fab twp. Doedd hi ddim yn hoffi cael mab twp felly edrychodd Ceridwen mewn llyfr hud am gymorth. Berwodd Ceridwen hylif hud mewn crochan mawr er mwyn helpu ei mab.

Ar ôl adrodd y stori, lluniodd y dosbarth ac Eurig gerdd ar ffurf rysáit am yr hylif hud. Cyfrannodd pawb eu syniadau amrywiol. Roedd y rysáit yn wych ac roedd pawb wedi mwynhau’n fawr! Diolch Eurig am brynhawn o hwyl!

Gan Osian, Iwan a Rhys (7A)

Cyngor Cyfrifiadureg i Flwyddyn 10

Aeth 14 disgybl sy’n astudio TGAU TGCh o’r ysgol i’r Adran Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn ystod y diwrnod fe gafodd y disgyblion cyngor gyrfa am Gyfrifiadureg, gwybodaeth am astudio’r pwnc yn y Brifysgol, sesiwn rhaglenni a chyfle i weld a sgwrsio am brosiectau’r israddedigion.