Addysg Gorfforol
- Nod & Amcanion
- Blwyddyn 7
- Blwyddyn 8
- Blwyddyn 9
- Cyfnod Allweddol 4
- Y Chweched
- Dulliau Addysgu
- Bywyd Allgyrsiol yr Adran
- Newyddion Misol
Nod & Amcanion
Mae’r adran Addysg Gorfforol yn gweithio yn ddyddiol i adlewyrchu prif nodau’r ysgol. Teimlwn hefyd bod y canlynol yn ffurfio egwyddorion pellach yr adran :
- I gynnig cwricwlwm cytbwys ac eang i bob disgybl yn yr ysgol.
- I ymestyn pob disgybl i gyrraedd ei lawn botensial/ei llawn potensial, yn ymarferol ac yn academaidd. Fe anogir pob disgybl i ddangos lefelau uchel o ymdrech, ymroddiad ac ymrwymiad i wella ym mhob agwedd o’r pwnc. Fe’u gwneir yn ymwybodol o’r pwysigrwydd o oresgyn sialens, a’r pwysigrwydd o gynnal yr agwedd bositif yma ym mhob agwedd o’u bywyd.
- I roi’r cyfleoedd i’r disgyblion i gynllunio, perfformio a gwerthuso ym mhob gweithgaredd, gyda’r pwyslais ar berfformio.
- I godi ymwybyddiaeth disgyblion ynglŷn â’r cysylltiad hanfodol rhwng iechyd a ffitrwydd – fel i ddatblygu ffordd iach o fyw dros yr hir dymor.
- I ddatblygu gwybodaeth y disgyblion am holl elfennau theori ac academaidd y pwnc, ac i annog y disgyblion i weithio’n annibynnol, ac i gymryd cyfrifoldeb am ddysgu eu hun, ac eraill.
- Fe gynigir cyfleoedd i ddisgyblion i:
- barchu confensiynau chwarae teg
- gystadlu’n onest
- ddangos ymddygiad da wrth chwarae – fel unigolion ac mewn timau
- barchu perfformiad ac ymdrechion eraill
- ddangos sgiliau arweiniad
- gymryd cyfrifoldeb am eu hunain ac eraill
- I greu diddordeb a mwynhad yn y pwnc fel bod disgyblion yn gallu datblygu’r diddordeb yma’n bellach wedi’u dyddiau ysgol fel rhan o’u bywydau hir dymor, neu wrth fynd ati i astudio ym mhellach.
- I gynnig cyfleoedd tu allan i’r cwricwlwm i ddisgyblion ddatblygu a mireinio’u sgiliau megis mewn tîm neu fel unigolion, mewn amrywiaeth o weithgareddau, a hefyd i ennyn balchder yn eu hunain yn ogystal â’r ysgol.
- I gynnig cyfleoedd i ddisgyblion ehangu eu gorwelion yn ogystal â’u sgiliau personol a chymdeithasol drwy gyfrwng chwaraeon.
Mae’r adran yn cyfrannu at yr agweddau a’r gwerthoedd yma nid yn unig oherwydd natur ymarferol y pwnc ble mae angen cydweithio, arweinyddiaeth a disgyblaeth, ond hefyd drwy ein rhaglen lawn o weithgareddau allgyrsiol. Trwy weithgaredd corfforol rydym yn cynorthwyo’r disgyblion i ennill hyder, hunan-barch, a pharch at eraill, ac i ddatblygu ymrwymiad i ffordd weithgar o fyw.
Blwyddyn 7
ADDYSG GORFFOROL YN Y CWRICWLWM
Un o brif nodau’r Adran Addysg Gorfforol yw i gynnig cwricwlwm eang a chytbwys i bob disgybl sydd yn cyd-fynd gyda’r Cwricwlwm Cenedlaethol, ond sydd hefyd yn rhoi’r cyfle i bob disgybl i gyrraedd ei llawn potensial, ac i flasu y mwynhad sydd yn dod gyda dull actif a iach o fyw.
Y bwriad yw cynnig amrywiaeth o gyfleoedd – datblygu gweithgareddau mae’r disgyblion wedi astudio yn flaenorol, a chynnig gweithgareddau newydd.
Mae Addysg Gorfforol yn bwnc statudol i bob disgybl astudio tan ddiwedd blwyddyn 11.
Trefniant y gwersi ar gyfer cyfnod allweddol 3 (blynyddoedd 7 > 9)
- Mae pob disgybl yn derbyn 5 gwers o 50 munud pob pythefnos.
- Fe geir dwy wers ddwbl (1 awr 40 munud) ar gyfer y gemau, gymnasteg, athletau, a criced/rownderi, ac un gwers sengl (50 munud) ar gyfer nofio, badminton a ffitrwydd.
- Mae pob dosbarth yn derbyn yr un faint o wersi ym mhob gweithgaredd.
- Mae’r gweithgareddau a gynigir yn adlewyrchu gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol yn gyntaf ac yna’r cyfleusterau ardderchog sydd ar gael.
Rhaglen astudio ar gyfer cyfnod allweddol 3 (blynyddoedd 7 > 9) Fe gynigir sawl gweithgaredd gwahanol allan o’r 4 maes profiad y Cwricwlwm Cenedlaethol:
- Gweithgareddau iechyd, ffitrwydd a lles: ffitrwydd (gwaith ar y peiriannau cardiofasgwlaidd - rhwyfo/beicio/rhedeg ... a’r peiriannau gwrthiant); cylched; badminton; nofio; rhaglen ABCh i flwyddyn 8 gyda’r thema - ‘Ffitrwydd ar gyfer Iechyd’. Yn fras, rydym yn cyflwyno yr uned yn ymarferol, ac yna yn rhoi’r cyfle i’r disgyblion i weithio yn annibynnol i gynllunio rhaglen ymarfer personol dros gyfnod o 6 wythnos. Mi fydd y disgyblion yn gwerthuso eu cyfranogiad a’u ymrwymiad ar ddiwedd y 6 wythnos yn y gwersi sengl, ac yn cael digon o gyfle i drafod gyda athrawon yr adran.
- Gweithgareddau creadigol: gymnasteg
- Gweithgareddau antur: cyfeiriannu; gweithgareddau adeiladu tîm; gweithgareddau awyr agored - canolfan Rhossili (blwyddyn 8).
- Gweithgareddau cystadleuol: pêl-droed; rygbi; pêl-rwyd; hoci; pêl-fasged; nofio; athletau; rownderi; criced.
Rhoddir cyfleoedd i’r disgyblion i gynllunio, perfformio a gwerthuso yn y gweithgareddau uchod, gyda’r pwyslais ar berfformio. Rydym hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ein disgyblion yn barhaus. Yn ogystal a’r uchod, rhoddir gyfleoedd i’r disgyblion i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol cystadleuol a di-gystadleuol, a gweithgareddau 5x60.
Gosod targedau ac asesu
Pwrpas asesu yn yr adran yw i ddarparu dull positif a cynhaliol sy’n helpi disgyblion i wella’u dysgu drwy adnabod cryfderau a gwendidau. Asesir gallu’r disgyblion yn ôl y Cwricwlwm Cenedlaethol.
- Er mwyn sicrhau rhan weithredol y disgybl yn y broses asesu cyflwynir Llyfr Gosod Targedau a Hunanasesu y Disgybl - rhoddir cyfle i’r disgybl i nodi targedau personol (ar ôl trafod gyda’r athro / athrawes) yn ystod y gwersi cynnar o bob uned waith yn eu llyfrau Hunanasesu personol.
- Bydd y disgybl yn cael eu annog i asesu lefel eu hunain ag eraill yn ystod pob gwers. Bydd hyn yn digwydd ar lafar oherwydd natur ymarferol y pwnc.
- Yn ystod y wers olaf, rhoddir cyfle i’r disgybl i werthuso yr uned waith a cofnodi eu lefelau hunanasesiad.
- Yn ogystal â hyn, asesir gallu’r disgyblion yn gyffredinol ym mhob gwers, a rhoddir adborth ar lafar yn gyson.
- Bydd pob disgybl yn derbyn dau lefel pob tymor, ac yna un am y flwyddyn gyfan.
Rhestr cit ar gyfer pob gweithgaredd
| Cit | Bechgyn | Merched |
|---|---|---|
| Tu allan | crys rygbi ysgol siorts rygbi/pêl-droed ysgol sanau ysgol esgidiau rygbi neu ymarfer (yn dibynnu ar y gweithgaredd) |
crys polo a chrys chwys Addysg Gorfforolsgert pêl-rwyd ysgol a siorts seiclo/siorts pêl-droed ysgol (yn dibynnu ar y gweithgaredd) sanau ysgol esgidiau ymarfer |
| Tu fewn | crys polo Addysg Gorfforolsiorts pêl-droed ysgol esgidiau ymarfer |
crys polo Addysg Gorfforolsiorts pêl-droed ysgol esgidiau ymarfer |
| Haf | crys polo Addysg Gorfforolsiorts pêl-droed ysgol esgidiau ymarfer |
crys polo Addysg Gorfforolsiorts pêl-droed ysgol esgidiau ymarfer |
Blwyddyn 8

Blwyddyn 9

Cyfnod Allweddol 4
ADDYSG GORFFOROL TGAU
Pam astudio Addysg Gorfforol? Bwriad y cwrs yw annog disgyblion i fwynhau ac astudio Addysg Gorfforol yn bwrpasol. Mae’n gwrs cyffrous sy’n gosod sialens i bob disgybl i wella ei b/pherfformiad a dealltwriaeth yn y maes. Gofynnir i chi ddangos brwdfrydedd ac ymroddiad llawn tuag at y gwaith ymarferol a pharodrwydd i gymryd cyfrifoldeb i weithio’n annibynnol er mwyn gwella.
- Mae cynllun y cwrs TGAU wedi ei gynllunio ar faes llafur Addysg Gorfforol CBAC.
- Mae’r dosbarthiadau TGAU yn derbyn 5 gwers x 50 munud pob pythefnos.
- Rhoddir y cyfle i fynd i Rhosili ar gwrs Awyr Agored tua mis Mawrth ym mlwyddyn 10.
- Rhoddir y cyfle i ddilyn cwrs Achub Bywyd tu allan i’r gwersi ym mhwll y ganolfan hamdden yn ystod y tymor cyntaf ym mlwyddyn 11.
- Gweler y disgrifiad o’r cwrs isod.
Disgrifiad o’r cwrs
Cynnwys Ysgrifenedig: 40% - 1 arholiad
- Ffactorau sy’n effeithio ar berfformiad a chyfranogiad mewn gweithgareddau chwaraeon a iechyd.
- Dylanwadau corfforol ar iechyd, ffitrwydd a perfformiad.
- Dylanwadau seicolegol ar iechyd, ffitrwydd a perfformiad.
- Dylanwadau tactegol a thechnegol ar iechyd, ffitrwydd a perfformiad.
Cynnwys Ymarferol: 60%
- Cewch gyfle i ddewis pedwar gweithgaredd gwahanol – pob un gwerth 15% yr un.
- Rhaid i oleuaf dau weithgaredd fod fel perfformiwr, a dau arall fel naill ai perfformiwr, arweinydd neu dyfarnwr.
- Cewch y rhyddid i gynnig eich harbenigedd, er enghraifft:
| Gweithgaredd | Esiampl 1 | Esiampl 2 | Esiampl 3 | Esiampl 4 |
|---|---|---|---|---|
| 1 | Rygbi | Sgïo | Athletau | Dawns – Gwerin |
| 2 | Ffitrwydd - Rhwyfo | Pêl-Droed | Pêl-Droed - Dyfarnu | Rygbi |
| 3 | Hoci | Arweinydd - Hoci | Gymnasteg | Achub Bywyd |
| 4 | Ffitrwydd – Codi Pwysau | Dringo | Golff | Nofio |
Cynllun y cwrs ymarferol
- Byddwch yn astudio unedau mewn blociau, ac yn cael eich hasesu ar ddiwedd pob uned.
- Mi fyddwn yn disgwyl i chi gymryd rhan ym mhob gwers (o fewn rheswm yn amlwg) – cofiwch fod yr ochr ymarferol yn cymryd 60% o’ch marciau terfynol.
- Byddwn yn disgwyl i chi ddod â’r cit cywir i bob gwers ac i chi berfformio i’ch gallu gorau ym mhob gweithgaredd.
- Byddwn yn disgwyl i chi fynychu ymarferion amser cinio a chystadlu dros yr ysgol mewn o leiaf un maes chwaraeon.
- Gallwch gynnig uchafswm o ddau weithgaredd i ffwrdd o’r ysgol ar gyfer eich asesiad, ond nid oes rhaid.
Cynllun y cwrs theori
- Byddwch yn astudio unedau mewn blociau, a byddwn yn ceisio cyflwyno cymaint ag sy’n bosib o’r gwersi yn ymarferol.
- Byddwn yn disgwyl i chi ddod â’ch ffeiliau i bob gwers.
- Byddwn yn disgwyl i chi orffen eich gwaith cartref i’ch gallu gorau, ac erbyn y dyddiad cwblhau.
Mi fydd un copi o bob llyfr y byddwn yn defnyddio ar gael yn y llyfrgell.
Addysg Gorfforol a Gyrfaoedd
Bydd astudio y cwrs yn helpu i’ch paratoi am amrywiaeth eang o swyddi sy’n ymwneud ag Addysg Gorfforol a chwaraeon e.e.
- gweithio mewn/rheoli canolfan hamdden neu glwb ffitrwydd;
- hyfforddwr ffitrwydd personol;
- athro;
- yr heddlu;
- gwasanaeth carcharau;
- cynghorau chwaraeon;
- dietegydd;
- ffisiotherapydd;
- analeiddiwr;
- hyfforddwr ffitrwydd;
- seicolegydd chwaraeon; neu feiomecanydd mewn clybiau proffesiynol neu yn y sector gyhoeddus;
- hyfforddwr gweithgareddau awyr agored; neu hyd yn oed,
- rheolwr mewn clwb proffesiynol!
BTEC LEFEL 2 TYSTYSGRIF GYNTAF MEWN CHWARAEON
Hyd y cwrs: 2 flynedd
Mae’r cwrs yn cyfateb i 2 TGAU: A*-C
Pam astudio BTEC Chwaraeon?
- Mae’n gymhwyster galwedigaethol lefel 2 sydd yn benodol i chwaraeon, ac sydd yn adnabyddus yn genedlaethol.
- Bydd tystiolaeth asesu yn gallu cael eu cynhyrchu drwy amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys gwaith cwrs, asesiad yn y lle gwaith, chwarae rôl neu gyflwyniad llafar.
- Ni fydd rhaid sefyll arholiadau.
- Bydd y cwrs yn darparu gwybodaeth, deallusrwydd a sgiliau penodol sydd yn angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth o fewn y sector chwaraeon ee arweinyddiaeth chwaraeon, diwydiant hamdden ac adloniant.
- Bydd y cwrs yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau a thechnegau, rinweddau personol ac agweddau angenrheidiol tuag at berfformiad llwyddiannus yn y byd gwaith.
- Bydd y cymhwyster o gymorth wrth symud ymlaen i astudio cymwysterau pellach – BTEC Cenedlaethol ym mlwyddyn 12/13 (cyfateb i 1 Lefel A).
Strwythur Y Cwrs A Dulliau Asesu
Cynnwys - 3 uned
- Uned 1 - Y corff mewn chwaraeon
- Uned 2 - Cynllunio ar gyfer chwaraeon
- Uned 3 - Chwaraeon ymarferol
Asesu
Er mwyn pasio yr uned mae rhaid cyflwyno pob canlyniad dysgu ar gyfer yr uned. Mae’r meini prawf graddio yn cynnwys:
- Gradd sylfaenol: C TGAU;
- Gradd deilyngdod: B TGAU;
- Gradd anrhydedd: A/A* TGAU.
ADDYSG GORFFOROL STATUDOL CYFNOD ALLWEDDOL 4 (Blynyddoedd 10 a 11)
Un o brif nodau’r Adran Addysg Gorfforol yw rhoi’r cyfle i bob disgybl i gyrraedd ei lawn potensial, ac i flasu y mwynhad sydd yn dod gyda dull actif a iach o fyw.
Trwy weithgaredd corfforol dylid cynorthwyo’r disgyblion i ennill hyder, hunan-barch, a pharch at eraill, ac i ddatblygu ymrwymiad i ffordd weithgar o fyw.
Y bwriad yw i addysgu pob disgybl ym mhwysigrwydd ffitrwydd ar gyfer iechyd fel rhan annatod o fywyd tu allan y dosbarth, ac yn sicr yn yr hir dymor wedi iddynt adael yr ysgol.
Mae Addysg Gorfforol yn bwnc statudol i bob disgybl astudio tan ddiwedd blwyddyn 11.
Trefniant yn y gwersi ar gyfer Cyfnod Allweddol 4
- Mae pob disgybl yn derbyn 1 gwers o 50 munud pob pythefnos.
- Mae pob dosbarth yn derbyn yr un faint o wersi ym mhob gweithgaredd.
- Mae’r gweithgareddau a gynigir yn adlewyrchu gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol yn gyntaf ac yna’r cyfleusterau ardderchog sydd ar gael.
Rhaglen Astudio
Fe gynigir sawl gweithgaredd gwahanol allan o’r 4 maes profiad y Cwricwlwm Cenedlaethol (gweler y cynllun cwricwlwm isod) :
- Fe astudir Gemau (merched - pêl-rwyd; bechgyn - rygbi); Ffitrwydd - ymarfer yn gysylltiedig â iechyd (di-gystadleuol); badminton/tennis fwrdd fel gemau bywyd - ‘mwynhad er parhad’; pêl-fasged, athletau a criced/rownderi er mwyn rhoi amrywiaeth.
- Ymarfer yn gysylltiedig â iechyd - yn ystod blwyddyn 10 byddwn yn canolbwyntio ar roi’r profiad o fynd i gampfa y ganolfan hamdden (ACTIVA) a dilyn rhaglen ymarfer generig. Yn ystod blwyddyn 11, bwriedir rhoi’r cyfle i’r disgyblion gynllunio rhaglen bersonol, gweithredu y rhaglen yn ystod y gwersi, monitro a gwerthuso.
- Rydym hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ein disgyblion yn barhaus.
Yn ogystal â’r uchod, rhoddir gyfleoedd i’r disgyblion i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol cystadleuol a di-gystadleuol, a gweithgareddau 5x60.
Y Chweched
LEFEL UG/UWCH ADDYSG GORFFOROL
Pam astudio Addysg Gorfforol?
- Integreiddio theori a’r ymarferol mewn Addysg Gorfforol.
- Datblygu a mireinio gallu corfforol mewn gwahanol sefyllfaoedd fel perfformiwr, hyfforddwr a swyddog.
- Cynnal a datblygu cyfranogiad ac effeithiolrwydd mewn gweithgareddau corfforol ar gyfer bywyd hir dymor fel rhan o ffordd o fyw cytbwys ac iach.
- Mireinio a datblygu gwybodaeth, deallusrwydd a sgiliau sydd yn gwella perfformiad mewn gweithgaredd corfforol.
Strwythur y cwrs a dulliau asesu
Y cwrs UG yn fras (blwyddyn 12) 2 uned
UNED PE1 (25%) - asesiad mewnol
Gwella perfformiad mewn Addysg Gorfforol
- Perfformiad ymarferol - asesiad mewnol (15%). Bydd ymgeiswyr yn medru dewis naill ai perfformiad o weithgaredd arbennig NEU berfformiad o weithgaredd iechyd, ffitrwydd a lles
- Proffil Perfformiad Personol (5%)
- Hyfforddi neu ddyfarnu (5%)
UNED PE2 (25%) - papur arholiad: 1 awr 45 munud
Dulliau bywiog o fyw ac Addysg Gorfforol
- Dulliau o fyw
- Cyfranogiad mewn gweithgareddau ymarferol – corfforol, seicolegol, technegol
- Maeth ar gyfer perfformiad ac iechyd
- Buddion ffordd o fyw
Y cwrs lefel Uwch yn fras (blwyddyn 13) PE1 a PE2 a 2 uned ychwanegol
UNED PE3 (25%) - asesiad mewnol
Mireinio perfformiad mewn Addysg Gorfforol
- Perfformiad ymarferol - asesiad mewnol (17.5%). Un gweithgaredd - byddwch yn cael eich asesu yn naill ai perfformio, hyfforddi neu ddyfarnu ... eich dewis chi!
- Prosiect ymchwil (7.5%)
UNED PE4 (25%) - papur arholiad: 2 awr
Perfformiad, darpariaeth a chyfranogiad yn y byd Addysg Gorfforol
- Mireinio perfformiad ymarferol a hyrwyddo iechyd
- Dylanwadau cyfoes sy’n effeithio darpariaeth, dewis, cyfranogiad a pherfformiad mewn gweithgaredd ymarferol
BTEC LEFEL 2: DIPLOMA CYNTAF MEWN CHWARAEON
Mae’r cwrs yn cyfateb i 4 TGAU : A*-C
Pam astudio BTEC Chwaraeon?
- Mae’n gymhwyster galwedigaethol lefel 2 sydd yn benodol i chwaraeon, ac sydd yn adnabyddus yn genedlaethol.
- Bydd y cwrs yn darparu gwybodaeth, deallusrwydd a sgiliau penodol sydd yn angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth o fewn y sector chwaraeon.
- Bydd dysgwyr sy’n cwblhau'r cymhwyster yn gallu ceisio am gyflogaeth o fewn y sector chwaraeon drwy ddilyn amryw lwybr ee arweinyddiaeth chwaraeon, diwydiant hamdden ac adloniant.
- Bydd y cymhwyster o gymorth i ddysgwyr wrth symud ymlaen i naill ai’r byd gwaith neu wrth astudio cymwysterau pellach – y BTEC Cenedlaethol ym mlwyddyn 13 (cyfateb i 1 Lefel A).
- Bydd y cwrs yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu amrywiaeth o sgiliau a thechnegau, rinweddau personol ac agweddau angenrheidiol tuag at berfformiad llwyddiannus yn y byd gwaith.
- Bydd tystiolaeth asesu yn gallu cael eu cynhyrchu drwy amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys asesiad yn y lle gwaith, chwarae rôl neu gyflwyniad llafar. Ni fydd rhaid sefyll arholiadau.
Strwythur y cwrs a dulliau asesu
Cynnwys – 2 uned craidd a 4 uned arbenigol – esiamplau yn unig yw unedau 3-6
- Uned 1 – Y Corff Mewn Chwaraeon
- Uned 2 - Iechyd, Diogelwch Ac Anafiadau Mewn Chwaraeon
- Uned 3 – Chwaraeon Ymarferol
- Uned 4 – Hyfforddi Ymarfer A Ffitrwydd
- Uned 5 – Ffitrwydd Ar Gyfer Perfformiad Chwaraeon
- Uned 6 – Prosiect Byd Gwaith Mewn Chwaraeon
Asesu
Er mwyn pasio'r uned mae rhaid cyflwyno pob canlyniad dysgu ar gyfer yr uned.
Mae’r meini prawf graddio yn cynnwys:
- Gradd sylfaenol: C TGAU;
- Gradd teilyngdod: B TGAU;
- Gradd anrhydedd: A/A* TGAU.
Dulliau Addysgu
Mae’r adran yn gweithio bob dydd i ymestyn pob disgybl i gyrraedd ei lawn potensial. Er mwyn gwneud hyn mae’r adran yn ymwybodol o ofynion dysgu gwahanol pob disgybl ac felly yn darparu cyfleoedd amrywiol ar eu cyfer.
Cynllunio
Rydym yn cynllunio ein hunedau gwaith adrannol i gydymffurfio gyda’r ysgol gyfan. Yn fras :
- amcanion dysgu yn cael eu nodi yn glir
- dilyn y cylch 4 cam
- cyfeirio at y sgiliau allweddol
- defnydd o ddulliau dysgu ac addysgu amrywiol
Ffurf y wers
Mae pob gwers (theori ac ymarferol) yn gyffredinol yn dilyn patrwm penodol y cylch dysgu 4 cam :
- Cysylltu: fe adolygir y thema o'r wers ddiwethaf ac fe gyflwynir thema'r wers bresennol gan nodi amcanion y wers yn glir
- Ysgogi: mae gwybodaeth/sgiliau newydd yn cael eu trosglwyddo mewn amryw o ffyrdd yn dibynnu ar y gweithgaredd a’r dosbarth
- Arddangos: mae’r disgybl yn cael y cyfle i ymarfer y sgiliau / defnyddio’r wybodaeth
- Adolygu: rhoddir cyfle i drafod ar ddiwedd y wers i ddod at gasgliadau ynglŷn â’r amcanion gwreiddiol
Drwy wneud hyn ceir fwy o ddilyniant o wers i wers gan fod y sgiliau a’r technegau a ddysgir yn cael eu hatgyfnerthu.
Dulliau Dysgu ac Addysgu
Oherwydd natur ymarferol y pwnc fe fydd y disgyblion yn cael cyfleoedd i ddysgu trwy brofiadau gweledol, clywedol a chinesthetig yn ein gwersi:
- Gweledol - wrth arsylwi perfformiad eraill, arsylwi’r athro neu eraill yn arddangos sgiliau, arsylwi perfformiad eu hunain a/neu eraill ar fideo. Mae defnyddio cyfleoedd dysgu gweledol yn helpu gwella sgiliau dadansoddol.
- Clywedol - wrth wrando ar gyfarwyddiadau ac esboniadau o’r technegau, ac ar ei gilydd yn cynllunio a gwerthuso, cyfleoedd i weithio gyda sbardunau gwahanol e.e. cerddoriaeth, fideo.
- Chinesthetig - wrth gael cyfleoedd i berfformio sgiliau a thechnegau, i gynllunio a gwerthuso perfformiadau, i ddyfarnu gemau.
Mae’r adran hefyd yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau eraill :
- Hyrwyddo'r defnydd o ddulliau addysgu gwahanol e.e.
- gorchymyn;
- holi ac ateb;
- hunan ddarganfyddiad - ee gosod tasg i’r disgybl i ymchwilio i mewn i thema ac wedyn cyflwyno hyn ar bwynt pŵer/ffurf berthnasol i weddill y dosbarth;
- cardiau technegol gyda’r pwyntiau hyfforddi/gwerthuso ...
- defnydd o wefan CBAC ar gyfer y cwrs TGAU - fideos ymarferol/cyn papurau ac atebion ...
- Grwpio disgyblion - yn ystod gwersi a gweithgareddau gwahanol mae'r disgyblion yn cael cyfleoedd i weithio yn unigol, mewn parau, grwpiau neu unedau bach ac fel dosbarth cyfan. Wrth ddefnyddio'r dulliau yma mae'r disgyblion yn cael profiadau i weithio'n annibynnol a chydweithio gydag eraill. Maent yn cael y cyfle i wylio a dadansoddi perfformiad ei gilydd, sydd yn eu tro yn datblygu dealltwriaeth ac yn ychwanegu at y broses ddysgu.
- Mae’r disgyblion yn cael cyfleoedd i gynllunio, perfformio a gwerthuso yn y gwersi. Bydd rai gwersi â phwyslais trymach ar un neu fwy o’r themâu yma, yn dibynnu ar y gweithgaredd a'r dull addysgu.
Datblygu'r dysgwr fel dysgwr effeithiol
Dilynir meddylfryd ysgol gyfan wrth weithio i greu dysgwyr effeithiol ac annibynnol. Drwy wneud hyn, rhoddir y cyfrifoldeb dysgu i’r disgybl, ond mae hyn yn cael ei rheoli yn ofalus gan yr athro. Gwneir hyn drwy:
- osod hen bapurau arholiad a gadael i’r disgybl i ddefnyddio'r cynllun marcio;
- cael y disgyblion i gyflwyno themâu;
- rhoi profiadau hyfforddi a dyfarnu;
- gadael i’r disgyblion ddefnyddio'r disgrifiadau lefel a gosod targedau personol;
- rhoi cyfleoedd cyson i gynllunio a gwerthuso perfformiadau eu hunain ag eraill;
- disgybl neu grŵp bach i arwain rhan o’r wers;
- disgyblion i hyfforddi ei gilydd er mwyn gwella perfformiad.
Bywyd Allgyrsiol yr Adran
Mae’r adran yn cynnig nifer o weithgareddau allgyrsiol. Rhoddwn y cyfleoedd canlynol i’r disgyblion i:
- ddatblygu eu sgiliau ymarferol yn bellach;
- ddatblygu eu sgiliau personol a chymdeithasol yn bellach;
- ehangu gorwelion;
- gystadlu mewn sefyllfaoedd ffurfiol;
- datblygu iaith a Chymreictod.
Ennillwyr PelRwyd Sir Bl 8The department runs the following teams / offers the following activities:
Mae’r adran yn rhedeg timau/cynnig cystadlaethau yn y gweithgareddau canlynol:
- rygbi;
- pêl-droed;
- pêl-rwyd;
- hoci;
- nofio;
- traws gwlad;
- athletau;
- criced;
- rownderi;
- sgïo;
- pêl-fasged.
Rhoddir cyfleoedd i’r timoedd/unigolion i gystadlu yng nghystadlaethau'r Urdd, twrnameintiau sirol, treialon sirol, gemau rygbi yn erbyn ysgolion o Ganada, twrnamaint Rosslyn Park ayyb
Mae gennym raglen o weithgareddau ar gael i’r disgyblion fynychu yn ystod yr awr ginio hefyd (gweler y rhaglen wythnosol).
Cystadlaethau rhynglysol
Mae’r adran yn cyfrannu yn eiddgar dros ben tuag at weithgareddau ysgol gyfan. Dyma rai esiamplau -
Mae’r adran yn trefnu cystadlaethau rhynglysol unwaith pob tymor
- Tymor 1: hoci/pêl-rwyd, pêl-droed;
- Tymor 2: hoci/pêl-rwyd, rygbi cyffwrdd;
- Tymor 3: mabolgampau (trac y brifysgol, Heol Ashleigh), rownderi, criced.
Prif nod y cystadlaethau yma yw gosod cyfle cyfartal i bob unigolyn i gael blasu'r profiad o gystadlu, boed beth eu gallu na’i chefndir chwaraeon. Ymgymerir y disgyblion yn llwyr i’r her yma, gyda chefnogaeth brwd staff cyfan yr ysgol. Cystadlir fel timoedd llys.
Cynllun 5x60
Beth yw 5x60?
- Mae 5x60 yn golygu 5 sesiwn o weithgaredd corfforol yr wythnos sydd yn para am 60 munud.
- Creuwyd y rhaglen 5x60 gan Cynulliad Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth ar Cyngor Chwaraeon Cymru.
- Pwrpas y rhaglen 5x60 fydd i gyflawni amcan Llywodraeth Cynulliad Cymru o gael 90% o blant i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol rheolaidd ac aml yn ystod yr wythnos erbyn 2020.
Pam mae 5x60 yn bwysig?
Dim ond 24% o blant mewn ysgolion uwchradd sy’n gwneud 5x60 munud o weithgarwch corfforol yr wythnos
- Mae gweithgaredd corfforol yn bwysig ar gyfer cadw’n ffit a iachus
- Trwy 5x60 fydd cyfle i chi cwrdd a wneud ffrindiau newydd
- Cymryd rhan mewn chwaraeon mewn amgylchedd cyfeillgar
- Amrywiaeth o weithgareddau
Ymunwch mewn a mwynhau!
Pontio CA2 > CA3
Mae’r Adran yn atgyfnerthu'r cysylltiad pontio ysgol gyfan drwy gynnwys blwyddyn 6 yn y gweithgareddau canlynol:
- Mis Mawrth - gwahoddiad i gymryd rhan yng ngala nofio'r ysgol - Pwll Penlan.
- Mis Gorffennaf - gwahoddiad i gymryd rhan yng nghystadleuaeth mabolgampau Bryn Tawe.
Gobeithir fod y profiadau yma yn rhoi cyflwyniad cadarnhaol i’r disgyblion o weithgareddau'r adran, wrth roi cyfle i flwyddyn 6 i :
- fwynhau;
- i gystadlu;
- i gael profiadau ymarferol newydd;
- i flasu naws ac ethos Gymraeg yr ysgol;
- i weithio gydag eraill; ac wrth gwrs yn holl bwysig,
- i ddechrau ar y broses o ymgartrefu.
Teithiau/ymweliadau addysgiadol
Mae’r adran yn ymrwymedig i gynnig ymweliadau addysgiadol i bob disgybl.
Gwelwn werth mawr i’r gweithgareddau yma fel ffordd o ehangu gorwelion disgyblion drwy gynnig cyfleoedd ble gallent ddatblygu eu sgiliau personol a chymdeithasol.
Mae’r Gyfadran / Adran yn cynnig y teithiau canlynol eleni (2009-10):
- taith sgïo – Schladming, Awstria 2010;
- taith Cyfadran – Canada (Rygbi a Hoci) Hydref 2010;
- cyrsiau preswyl mewn gweithgareddau awyr agored - Canolfan Awyr Agored Rhosili - blwyddyn 8, blwyddyn 10 TGAU Addysg Gorfforol;
- Taith World Challenge - India 2009.
Elusennau y mae’r adran yn cefnogi
Plant Ysgol Dros Blant Ysgol
Mae’n bosib eich bod wedi clywed am fenter Plant Ysgol dros Blant Ysgol rydym ni’n rhan ohoni. Roeddem ni’n credu y byddech yn gwerthfawrogi mwy o wybodaeth am y prosiect a sut y bydd o fudd nid yn unig i’ch plentyn a’n hysgol, ond hefyd yn helpu plant ysgol mewn gwledydd sy’n datblygu.
Lansiwyd Plant Ysgol dros Blant Ysgol, elusen gofrestredig, fel prosiect peilot yng Nghymru yn 2003 gyda chefnogaeth Undeb Rygbi Cymru. Bu’r prosiect yn llwyddiannus, a bellach, cefnogir yr elusen gan yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid a Chapten Tîm Rygbi Llewod Prydain ac Iwerddon, Martin Johnson.
Caiff eich plentyn ei noddi i redeg, loncian neu gerdded am o leiaf milltir mewn cyfnod o awr ddydd Gwener, 13 Gorffennaf a/neu ddydd Gwener 28 Medi, neu ryw amser arall a bennir gan yr ysgol, a bydd yn codi £1 am gymryd rhan yn y rhaglen. Bydd hanner yr arian a godir gan y plant yn cael ei gadw gan yr ysgol i’w wario ar gyfarpar chwaraeon, tra bydd yr hanner arall yn cael ei gyfeirio gan Blant Ysgol dros Blant Ysgol at elusennau sy’n gweithio gydag ysgolion mewn gwledydd sy’n datblygu.
Y bwriad yw gwneud y profiad yn hwyl i’ch plentyn a hefyd yn un sy’n hybu ymarfer corff. Bydd y digwyddiad codi arian yn galluogi ein hysgol i wella’r cyfleusterau AG a chwaraeon yn yr ysgol, sy’n hanfodol i les a datblygiad plant. Rydym yn awyddus hefyd i gynyddu ymwybyddiaeth o anghenion ysgolion mewn gwledydd sy’n datblygu a helpu’r ysgolion hyn i dalu am lyfrau, cyfarpar a phrydau ysgol.
Yr hyn rydym yn gofyn gennych chi yw i chi helpu eich plentyn gwblhau’r ffurflen noddi, a sicrhau eu bod yn dod i’r ysgol ar y diwrnod penodol ynghyd â’r dillad a’r esgidiau addas er mwyn cymryd rhan yn y digwyddiad.
Diolch i chi am eich cefnogaeth.
Plant Ysgol Dros Blant Ysgol/Adran Addysg Gorfforol Bryn Tawe
Newyddion Misol
Cystadleuaeth Rhynglysol Nadolig 2009
| Cystadleuaeth | GWYROSYDD | CRWYS | GOMER | HOPCYN | CHWARAEWR Y TWRNAMENT |
| Hoci
Bl 7 |
30 | 20 | 10 | 40 | Ellen
Smith |
| Pêl Rwyd
Bl 8 |
10 | 30 | 40 | 20 | Georgia
Reynolds |
| Pêl Rwyd
Bl 9 |
10 | 40 | 30 | 20 | Chelsey
Arnold |
| Hoci
Bl 10 |
25 | 40 | 10 | 25 | Katie
Davies |
| Pêl Droed
Bl 7 |
35 | 20 | 35 | 10 | Ieuan
Richards |
| Pêl Droed
Bl 8 |
40 | 20 | 10 | 30 | Callum
Tinkler-Key |
| Pêl Droed
Bl 9 |
30 | 20 | 10 | 40 | Ben
May |
| Pêl Droed
Bl 10 |
30 | 20 | 10 | 40 | James
Hartson |
| CYFANSWM | 210 | 210 | 155 | 225 | |
| Trefn terfynol y llysoedd | 3ydd | 2ail | 4ydd | 1af |
Postiwyd gan: im ar 19/02/2010
Tachwedd/Rhagfyr 2009
PÊL-RWYD : SGWAD DATBLYGU Y SIR DAN 14
Mae Caitlin Rees-Godwin o flwyddyn 9, Tianna McIntosh a Georgia Reynolds o flwyddyn 8, a Megan Morris o flwyddyn 7 wedi cael eu dewis i sgwad Datblygu Pêl-Rwyd y Sir Dan 14 . Llongyfarchiadau ferched, a pob lwc i chi gyd gyda’r ymarferion a’r gemau!
PÊL-RWYD : SGWAD Y SIR DAN 16 a DAN 18
Mae Katie Llewelyn, Finny Rees Godwin a Buddug LLyr (Dan 16), ac Angharad Morris (Dan 18) wedi cael eu dewis unwaith eto eleni i fod yn sgwad Pêl-Rwyd y Sir. Maent yn ymarfer yn gyson yn wythnosol, ac yn gweithio tuag at cael eu dewis i gynrychioli y Sir ym mhencampwriaeth Cymru ym mhellach ymlaen yn y flwyddyn. Pob hwyl i chi ferched a llongyfarchiadau!
Traws Gwlad – Pencampwriaeth Y Sir
Wnaeth nifer o ddisgyblion gystadlu ym mhencampwriaeth Traws Gwlad y Sir, a gwelwyd ymdrech wych gan bawb. O ganlyniad, mae’r canlynol wedi cael eu dewis i gynrychioli y Sir ym mhencampwriaeth ysgolion Cymru. Llongyfarchiadau enfawr i chi, a phob lwc:
Hywelis Thomas, Siwan Thomas, Geraint Meek, Ben Williams a Carwyn Evans.
Cystadleuaeth Pêl-rwyd yr Urdd
Llongyfarchiadau i’r merched a wnaeth gystadlu yn nhwrnament Pêl-Rwyd yr Urdd yn ystod mis Tachwedd yng Nghaerdydd. Roedd dros 40 o ysgolion yn cystadlu ym mhob grŵp oedran. Unwaith eto, fe wnaeth y merched gynrychioli yr ysgol yn arbennig!
- Fe wnaeth merched bl.7 a 8 gystadlu yn hynod o dda, ac maent yn amlwg wedi elwa yn fawr iawn o’r profiad. Da iawn chi!
- Fe wnaeth merched bl.9 a 10 wneud yn arbennig o dda i gyrraedd y rownd gynderfynol – yn ennill eu 8 gêm pwll yn hawdd : v.St Teilos 9-0; v.Cwmtawe 6-3; v.Cymer 7-0; v.Gwynllyw 7-2; v.Esgob Gore 5-2; v.Corpus Christie 6-5; v.Bro Morgannwg 4-3; v.Glantaf 2-0. Fe wnaethant wedyn ddod lan yn erbyn ysgol Glan Y Mor yn y rownd nesaf, gan ennill o 5 gol i 2, ac wedyn ymlaen yn erbyn Cwm Rhymni yn y rownd gynderfynol. Roedd y gêm yn hynod o agos, ac fe gollwyd y gêm yn y funed olaf o un gol. Llongyfarchiadau enfawr i chi ferched!
- Fe wnaeth merched bl. 11-13 wneud yn hynod o dda hefyd wrth iddynt ddod lan yn erbyn nifer o golegau 6ed dosbarth. Dyma’r canlyniadau, ac er iddynt golli pob gêm, roeddent yn hynod o agos, ac yn amlwg wedi elwa yn fawr iawn o’r profiad : v.Coleg Dewi Sant 3-5; v.Coleg Pencoed 4-5; v.StCennydd 5-6; v.Ystalyfera 3-6; v.Coleg Sir Gar 6-4. Da iawn chi!
Athletwraig y gystadleuaeth
Wnaeth Catrin Roberts o flwyddyn 9 gystadlu ym mhencampwriaeth Athleta Dan-Dô ysgolion Abertawe cyn y Nadolig. Roedd yn noson gystadleuol, gyda Catrin yn llwyddo i ennill Athletwraig y Gystadleuaeth. Llongyfarchiadau enfawr, a phob hwyl gyda’r ymarfer ar gyfer tymor yr Haf.
Canlyniadau TRAWS GWLAD
Llongyfarchiadau i bawb â wnaeth gystadlu eleni ym mhencampwriaeth traws gwlad y sir. Roedd yr ymdrech a’r ymroddiad yn wych. Dyma rhai o’r canlyniadau:
TÎM MERCHED BLWYDDYN 7 – AMBER WILLIAMS 13EG ; MEGAN BOWDEN 14EG ; ANNEST PHILLIPS 18FED ; ELEN CHERRY 22AIN ; ELEN SMITH 25AIN ; LAUREN ROGERS 26AIN ; LUCIA FESTA 31AIN ; LUCY STEELE 35
TÎM MERCHED BLYNYDDOEDD 8 A 9 – SIWAN THOMAS 1AF ; CATRIN ROBERTS 10FED ; EMMA EYNON 23AIN; SABRINA OWEN 22AIN
TÎM BECHGYN BLWYDDYN 7 – BEN WILLIAMS 1AF ; KYLE ARTIS 13EG ; IEUAN RICHARDS 15FED ; JACK SHAW 19FED ; OLIVER DRAPER 24AIN
TÎM BECHGYN BLYNYDDOEDD 8 A 9 – DECLAN WALTERS 12FED ; RHYS UNDERDOWN 13EG ; ASHLEY MORRIS 16FED ; ALED TOMOS 19 ; GWILYM DAVIES 20FED ; MILO MEREDITH 22AIN ; GWION LEWIS 27AIN
TÎM BLYNYDDOEDD 10 A 11 – HYWELIS THOMAS 1AF ; CARWYN EVANS 2AIL ; GERAINT MEEK 5ED
Postiwyd gan: im ar 19/02/2010
Hydref 2009
Pêl-Rwyd y Sir Dan 14
Mae Sarah Llewellyn a Ameca Jones o flwyddyn 9 wedi cael eu dewis i sgwad Pêl-Rwyd y Sir Dan 14 unwaith eto eleni. Llongyfarchiadau ferched, a pob lwc i chi gyd gyda’r ymarferion a’r gemau!
Canlyniadau Hoci
Mae nifer o ferched newydd wedi ymuno gyda clybiau Hoci yr ysgol y tymor hwn, ac maent wedi cael hwyl gyda’r gemau a’r ymarferion. Dyma rhai o’r canlyniadau: Tîm Dan 14 – Colli o 1-0 yn erbyn Esgob Vaughan, a ennill 1-0 yn erbyn Cefn Hengoed. Tîm Dan 16 – Colli 1-0 yn erbyn Esgob Vaughan mewn gêm hynod o gystadleuol a cyffrous.
Canlyniadau Pêl-Rwyd
Dan 18 – Ennill yn erbyn Olchfa o 27 gol i 17 ; colli mewn gêm hynod o gystadleuol a agos i Ystalyfera o 15 gol i 16 – yn y funud olaf!
Blwyddyn 11 – Ennill yn erbyn Llandeilo Ferwallt o 14 gol i 7.
Blwyddyn 10 – Colli yn erbyn Llandeilo Ferwallt o 17 gol i 8 ; Ennill yn erbyn Ystalyfera o 18 gol i 4.
Blwyddyn 9 – Ennill yn erbyn Pontarddulais o 19 gol 2.
Blwyddyn 8 – Ennill yn erbyn Pontarddulais o 7 gol i 2.
Canlyniadau Pêl-Droed
Blwyddyn 11 – Ennill yn erbyn Daniel James o 6 i 5;
Blwyddyn 10 – Ennill yn erbyn Cefn Hengoed o 2 i 1; Colli yn erbyn Olchfa o 4 i 0 yn Cwpan Cymru Blwyddyn 8 -Colli yn erbyn Cefn Hengoed o 3 i 2;
Blwyddyn 7 – Colli yn erbyn Pentrehafod o 2 – 1 yn Cystadleuaeth Cwpan Cymru
Rygbi y Gweilch
Mae Rhys Williams a David Skone o flwyddyn 11 bellach wedi cael eu dewis fel rhan o dîm rygbi y Gweilch. Maent yn ymarfer ac yn chwarae gemau yn wythnosol gyda’r tîm! Pob hwyl i chi fechgyn!
Canlyniadau Rygbi
Tîm 1af – Gwnaeth y tîm cyntaf ennill eu gêm gyntaf o’r tymor yn erbyn Treforis/Esgob Vaughan o 19 pwynt i 15. Llongyfarchiadau iddynt – dyma’r gêm gyntaf iddynt ennill allan o 4. Daliwch ati fechgyn!
Blwyddyn 10 7 bob ochor – Gwnaeth y tîm yn hynod o dda yng nghystadleuaeth 7 bob ochor Llandeilo Ferwallt. Aeth y tîm trwyddo i rownd derfynol y plât. Wnaeth y tîm golli yn erbyn Treforis yn y gêm derfynol.
Blwyddyn 9 – Gwnaeth tîm blwyddyn 9 gystadlu yng Ngwyl Rygbi Ysgolion Abertawe yn gynharach yn y tymor. Fe wnaeth y tîm golli o 5 i 0 yn erbyn Esgob Gore yn y rownd derfynol. Llongyfarchiadau ar eich llwyddiant fechgyn! Canlyniadau eraill ar y maes rygbi – Blwyddyn 9 – Ennill yn erbyn Gwyr o 3 i 0.
Blwyddyn 8 – Ennill yn erbyn Treforis.
Blwyddyn 7 – Colli yn erbyn Esgob Gore o 5 i 0.
Postiwyd gan: im ar 17/02/2010
Tudalen: 1