Adnodd Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu

Diben yr Adnodd

Mae’r Adnodd yn cefnogi ysgolion a disgyblion cyfrwng Gymraeg a chanddynt Ddatganiad ar gyfer anghenion addysgol arbennig oherwydd anawsterau iaith a lleferydd a chyfathrebu. Mae’r Adnodd hefyd yn cefnogi disgyblion cyfrwng Gymraeg a gyfeiriwyd am gymorth tymor byr (Gweithredu Ysgol a Mwy) at dîm Fynediad i Ddysgu’r Awdurdod Addysg Lleol.

Pwy fydd yn rhoi’r gefnogaeth i’r disgybl?

Bydd y disgybl yn derbyn cefnogaeth gan Clare Watson, Athrawes Arbenigol Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu cymwysedig a fydd â gofal am yr Adnodd gyda chymorth Mair Wilson, Cynorthwyydd Dysgu Arbenigol gyda chymwysterau Gweinyddes Feithrin. Bydd Nia McVeigh, Therapydd Iaith a Lleferydd yn darparu gwasanaeth i’r disgyblion â datganiadau ac yn cydlynu, cyd gynllunio a chydweithio gyda’r athrawes a’r cynorthwyydd dysgu, y rhieni a’r ysgolion.

Pa bryd fydd y disgybl yn cael y gefnogaeth hon?

I ddisgybl â datganiad, ble bod y disgybl yn y blynyddoedd cynnar, Cyfnod allweddol 1 neu yn yr Ysgol Gyfun, yng Nghyfnod Allweddol 4, mi fydd y sesiynau i gyd yn ysgol y disgybl. Bydd sesiynau yn cael eu cynnal yn ysgol y disgybl ar ôl cydlynu â’r ysgol er mwyn trefnu amser cyfleus i’r disgybl.

I blant Cyfnod Allweddol 2 a 3, bydd cyfleodd iddynt gael eu cludo i’r Adnodd am gyfnod o sesiynau wythnosol fel arfer 5 sesiwn bore bob tymor. Bydd cludiant yn cael ei ddarparu gan yr Awdurdod Lleol. Ar ôl i’r cyfnod o sesiynau yn yr Adnodd ddod i ben, bydd y gefnogaeth yn trosglwyddo i sesiynau yn ysgol y disgybl.

Bydd yr ysgolion a’r rhieni yn cael gwybodaeth am y sesiynau unigol a sesiynau grŵp a gyda chydlynu agos bydd yr athrawon ysgol a rhieni yn cael anogaeth i roi mewnbwn i lunio targedau, monitro a gwerthuso’r canlyniadau.

Bydd rhaglenni ysgrifenedig yn nodi’r targedau a strategaethau ar gael. Bydd y staff cysylltiedig yn monitro a gwerthuso llwyddiant â’r targedau ac yn llunio adroddiadau ar gyfer adolygiadau.

O bryd i’w gilydd, bydd asesiadau ffurfiol ac anffurfiol o sgiliau iaith benodol y disgybl yn digwydd er mwyn monitro datblygiad y disgybl a hyrwyddo’r gwaith cynllunio.

Beth arall mae’r Adnodd yn cynnig?

Mae’r Adnodd yn darparu mewnbwn tymor byr ar gyfer disgyblion sydd yn cael eu cyfeirio at Adran Mynediad i Ddysgu’r Awdurdod Addysg Lleol gan Gydlynydd Anghenion Arbennig eu hysgol gyda chaniatâd y rhieni/gwarcheidwad - mewnbwn Gweithredu ysgol a mwy. Bydd y mewnbwn yn digwydd yn ysgol y disgybl ac yn cynnwys:

  • Cydlynu gan staff yr Adnodd a staff yr ysgol, rhieni ac asiantau ble eu bod yn gysylltiedig e.e. y Seicolegydd Addysg.
  • Asesiad cychwynnol ffurfiol ac anffurfiol.
  • Cydlynu â’r ysgol a’r rhieni i lunio Rhaglen o dargedau a strategaethau.
  • Mewnbwn am 6-8 wythnos.
  • Adolygiad ac argymhellion.

Mae’r Adnodd ym Mryn Tawe yn Adnodd ar gyfer:

  • Cyfrannu at Hyfforddiant Mewn Swydd i staff ysgolion Abertawe.
  • Cefnogi rhieni/gwarcheidwad disgyblion sy’n derbyn gwasanaeth wrth yr Adnodd. Cynhelir noson gefnogi rhieni bob tymor gyda ffocws penodol. Cyfleodd penodol i rieni /gwarcheidwad drafod ei plentyn a staff yr Adnodd. Argaeledd trwy ffon ac e-bost i rieni.
  • Deunyddiau cyfeiriol, gwybodaeth ac adnoddau ar gael i staff a rhieni ar draws y sector Cymraeg.

Adolygu cynnydd

I ddisgybl â datganiad, mi fydd cynnydd y disgybl gyda’r targedau yn y Rhaglen Iaith a lleferydd yn cael ei adolygu ar ddiwedd tymor y rhaglen - fel arfer bob tymor. Bydd y ddarpariaeth a fanylir yn y datganiad yn cael ei adolygu fel arfer trwy’r Adolygiad o’r datganiad sy’n digwydd o leiaf unwaith y flwyddyn.

Gyda disgybl sy’n derbyn cefnogaeth tymor byr trwy Gweithredu Ysgol a Mwy, mi fydd adolygiad o ganlyniad yr ymyriad yn digwydd ar ddiwedd y cyfnod o ymyriad er mwyn trafod unrhyw argymhellion pellach i gynorthwyo’r disgybl.

Clare Watson
Athrawes Arbenigol
Mrs Mair Wilson
Cynorthwyydd Arbenigol
Mrs Nia McVeigh
Therapydd Iaith a Lleferydd