Cymraeg

Nod & Amcanion

Athroniaeth yr Adran Gymraeg

Ein prif nod fel adran yw gosod yr unigolion a’i amryfal anghenion yn y canol, gan roi pob cefnogaeth a chyfle iddo ddatblygu ei ddoniau’n llawn.

Iaith yw’r cyfrwng sy’n ein galluog i roi trefn ar ein meddyliau, ein profiadau a’n teimladau. Mae’n hanfodol felly datblygu’r gallu i drin iaith a chyfathrebu’n effeithiol. Gwneir hyn trwy greu cyfleoedd i’r disgyblion gael mynegi eu hunain yn rhydd ar lafar ac yn ysgrifenedig. Rhaid meithrin ynddynt hunan hyder a’r ffydd fod eu cyfraniad a’u syniadau yn bwysig ac yn cael eu gwerthfawrogi. Mae’n hanfodol dangos yn glir bod y gwrandawiad/darlleniad a gânt yn un hydeiml. Trwy gyd-drafodaeth â chyfoedion ac â’r athrawon, datblygir y gallu ieithyddol angenrheidiol i ymdrin â phrofiadau a theimladau. Gobeithir hefyd gyfrannu at ddatblygiad emosiynol, dychmygol ac ysbrydol y disgyblion gan eu cynorthwyo i adnabod eu hunain yn well ac i’r hunan adnabyddiaeth honno arwain at well adnabyddiaeth o bobl eraill a’r byd yn gyffredinol.

Teimlwn gyfrifoldeb dros ddatblygu o fewn i’r disgyblion y gallu i gymryd rhan adeiladol a hydeiml yn y gymdeithas. Ceisiwn feithrin a datblygu gallu’r unigolyn i ddefnyddio’r iaith yn hyblyg, effeithiol, sensitif ac i’r holl ddibenion amrywiol y defnyddiwn ein mamiaith yn y gymdeithas ac ym myd gwaith. Gobeithir hefyd ddatblygu dealltwriaeth o faterion gwleidyddol, cymdeithasol a moesol ac yn fwy na dim y gallu i ddefnyddio iaith yn hyderus er mwyn dysgu, cyfathrebu a manteisio ar fywyd yn ei gyfanrwydd.

Mae iaith yn ymwneud â’r creadigol, yr aesthetaidd a’r ysbrydol a cheisiwn sicrhau fod y disgyblion yn cael mwynhad o rym creadigol iaith. Hybir hyn drwy sicrhau profiad eang o lenyddiaeth. Mae i lenyddiaeth le canolog yn ein rhaglen waith. Trwy lenyddiaeth sicrheir ehangder profiadau nas cynigir gan ein bywydau bob dydd. Pwysleisiwn y mwynhad sydd i’w gael o ddarllen ac ysgrifennu.

Amcanwn hefyd at feithrin ymwybyddiaeth yn y disgyblion o’u Cymreictod. Trwy ddangos fod yr iaith yn iaith fyw, naturiol ac allweddol i ddiwylliant cyfoes amrywiol ynghyd â thynnu sylw at ei hanes a’i thraddodiadau, gobeithir peri i’r disgyblion ymfalchïo yn eu hetifeddiaeth a’u gallu i ddefnyddio’r iaith.

Ceisir cyflwyno hyn o fewn awyrgylch hapus a chefnogol sy’n hybu’r awydd i lwyddo. Rydym am geisio sicrhau fod y disgyblion yn cael mwynhad o’r gwaith. Pan fo disgyblion yn cael mwynhad y maent yn dysgu orau.

Blwyddyn 7

Tymor 1: Dirgelwch yr Ogof

  • Ffeil o ffeithiau o gymeriadau’r nofel
  • Portread o Mari Fforin
  • Cyfansoddi cerddi
  • Erthygl Papur Newydd
  • Gwaith mynegi barn
  • Tasgau darllen amrywiol

Tymor 2: Chwedlau

  • Perfformio’r chwedlau
  • Llythyr Branwen at Bendigeidfran
  • Rysáit Blodeuwedd
  • Dyddiadur Rhiannon

Tymor 3: Hamdden

  • ‘Tegwch ym myd chwaraeon’
  • Ymson Seren Byd Chwaraeon
  • Cywaith
  • Cyflwyniad llafar yn seiliedig ar amser hamdden

Blwyddyn 8

Tymor 1: Pethau Rhyfedd

  • Cyflwyniad llafar ar ‘Bethau Rhyfedd’
  • Tasgau darllen amrywiol
  • Stori Ias a Chyffro
  • Cyfansoddi cerddi
  • Ffeil o ffeithiau
  • Pamffled

Tymor 3: Dyn ac Anifail

  • Ymson anifail mewn caethiwed
  • Araith ‘Y Sw’
  • Mynegi barn ar berthynas dyn ac anifail

Tymor 3: Anifeiliaid

  • Pamffled
  • Llyfryn gwybodaeth
  • Cywaith/creu cylchgrawn

Blwyddyn 9

Tymor 1: Gwreiddiau

  • Astudio cerddi e.e. Hen Daid/Glas
  • Portread o aelod o’r teulu
  • Gwaith mynegi barn yn seiliedig ar Dryweryn
  • Llythyr ffurfiol
  • Dyddiadur

Tymor 2: Gwrthdaro

  • Ymson mewn protest
  • Erthygl Papur Newydd yn seiliedig ar hanes Rosa Parks
  • Cyflwyno gwybodaeth/cywaith ar unrhyw brotest
  • Dyddiadur

Tymor 3: Hedd Wyn

  • Astudio’r bardd a’r ffilm
  • Ymson/Llythyr milwr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf
  • Cywaith
  • Ffeil o ffeithiau
  • Adolygiad

Cyfnod Allweddol 4

Cwrs Cymraeg TGAU
Cymraeg a Llenyddiaeth Gymraeg

Byddwch yn dilyn dau gwrs o fewn y gwersi Cymraeg:

  • Cymraeg – Iaith
  • Llenyddiaeth Gymraeg

Bydd y gwaith ar gyfer y ddau gwrs yn ymestyn dros gyfnod o ddwy flynedd.

Cymraeg – Iaith

Bydd y cwrs Cymraeg Iaith yn cynnig cyfle i chi ehangu a datblygu ymhellach eich sgiliau iaith sylfaenol, sef gwrando a siarad, darllen ac ysgrifennu. Cewch gyfle i wylio a gwrando, darllen, trafod, clywed ac ysgrifennu pob math o ddeunydd yn ogystal â mynegi eich teimladau personol, safbwyntiau a’ch syniadau. Yn bennaf oll, y bwriad yw i chi brofi pleser a mwynhad wrth astudio’r Gymraeg.Asesir eich datblygiad a’ch cyrhaeddiad o fewn y sgiliau amrywiol yn y modd canlynol:

Llafar

Rhaid pwysleisio mai trwy asesiadau rheolaidd ym mlynyddoedd 10 ac 11 y cofnodir eich cyrhaeddiad llafar. Bydd yr asesiadau yn rhan naturiol o waith y dosbarth a byddwn yn nodi’r marciau yn ofalus.

Cewch eich asesu mewn amgylchiadau ffurfiol ac anffurfiol, mewn sefyllfa grŵp ac fel unigolion.

Disgwylir i chi:

  • gyflwyno gwybodaeth
  • drafod a mynegi barn
  • gyfleu profiadau personol
  • gyflwyno pwnc
Darllen

Bydd disgwyl i chi ddarllen ystod eang o destunau llenyddol amrywiol yn ystod y ddwy flynedd, er enghraifft, nofelau, straeon byrion, cerddi, dramâu, erthyglau.

Disgwylir i chi:

  • ymateb yn bersonol ac yn sensitif i ddeunydd darllen
  • ddethol gwybodaeth berthnasol o ffynonellau amrywiol a’i defnyddio i bwrpas arbennig
  • fynegi dealltwriaeth o destunau amrywiol o ran arddull a chymhlethdod gan ddeall yr hyn sydd ymhlyg mewn testun
  • esbonio sut y gellir defnyddio iaith i greu effeithiau penodol mewn amrywiaeth o ddeunydd darllen

Asesir eich sgiliau darllen trwy gyfrwng gwaith cwrs a gwaith a wneir yn yr arholiad terfynol.

Ysgrifennu

Asesir eich sgiliau ysgrifennu trwy gyfrwng dwy dasg a gyflwynir gennych o waith cwrs ynghyd â gwaith a wneir yn yr arholiad terfynol.

Disgwylir i chi:

  • ysgrifennu’n effeithiol i gyfleu profiadau, mynegi barn, gwybodaeth a ffrwyth y dychymyg
  • ddangos eich bod yn ymwybodol o briodoldeb iaith ac arddull o fewn y sefyllfaoedd amrywiol
  • ddangos rheolaeth dros ffurfiau ysgrifennu gwahanol, sillafu, gramadeg a chystrawen
Gwaith Cwrs

Rhaid cyflwyno ffolio o dair tasg. Rhaid i un dasg fod wedi ei gwneud o dan arolygiaeth athro/athrawes yn y dosbarth. Ni chaniateir ail-ddrafftio.

  1. Ysgrifennu Creadigol yn seiliedig ar waith llenyddol (Darllen)
    Bydd cyfle i chi ddefnyddio eich dychymyg i ysgrifennu darn o waith sydd wedi ei seilio ar gymeriadau, digwyddiadau a phrofiadau o ddrama deledu neu lwyfan, nofel, stori fer, cerdd ac ati.
  2. Trafod a Mynegi Barn (Ysgrifennu)
    Bydd cyfle i chi fynegi barn a chyflwyno safbwynt ar nifer o bynciau, gan ddefnyddio iaith addas gan geisio perswadio, amddiffyn safbwynt yn drefnus ac yn eglur. (Dan arolygiaeth)
  3. Ysgrifennu Creadigol/ Personol (Ysgrifennu)
    Bydd cyfle i chi ddewis un o amrywiaeth o ffurfiau llenyddol, megis ymson, stori fer, ysgrif, dyddiadur, a mynegi eich profiadau personol yn grefftus ac yn synhwyrus.
Crynodeb

Asesiad o waith Llafar, 33.3%
Asesiad o waith cwrs (Darllen ac Ysgrifennu), 33.3%
Asesiad terfynol o Ddarllen ac Ysgrifennu, 33.3%

Llenyddiaeth Gymraeg

Wrth ddilyn y Cwrs Llenyddiaeth Gymraeg cewch gyfle i fwynhau amrywiaeth helaeth o ddeunydd sy’n adlewyrchu cyfoeth ein traddodiad llenyddol, yn ogystal â dod i adnabod rhai o’n llenorion mwyaf cyfoes a chyffrous.

Cynnwys y Cwrs Llenyddiaeth

Disgwylir i chi astudio barddoniaeth, rhyddiaith a llunyddiaeth. Fe fyddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng gwaith cwrs, arholiad ysgrifenedig ac arholiad llafar.

Barddoniaeth

Byddwch yn astudio nifer o gerddi ar y themâu:

  • Ieuenctid a Bywyd Cyfoes
  • Byd Natur
  • Rhyfel a Thrais
  • Cymru a Chymreictod
  • Pigo Cydwybod
Nofel
  • Y Stafell Ddirgel
  • Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr
  • I Ble’r aeth Haul y Bore?
  • Llinyn Trôns

Cynnwys yr arholiad ysgrifenedig

Yn yr arholiad ysgrifenedig terfynol fe fydd disgwyl i chi ateb dau gwestiwn, un ar farddoniaeth ac un ar y nofel.

Arholiad Llafar

Disgwylir i chi drafod llunyddiaeth yn yr arholiad llafar.

Byddwch yn ymateb i waith ffilm ond sydd wedi ei seilio ar lenyddiaeth mewn print

Naill ai Dihirod Dyfed neu Mynydd Grug (Te yn y Grug)

Gwaith Cwrs

Rhaid cyflwyno ffolio o ddwy dasg. Rhaid i un o’r tasgau fod wedi eu gwneud o dan arolygiaeth athro/athrawes yn y dosbarth. Ni chaniateir ail-ddrafftio.

  1. Darn o waith beirniadol wedi ei seilio ar ddetholiad o ryddiaith.
  2. Darn o waith creadigol wedi ei seilio ar ddrama deledu/ ffilm, drama a berfformir neu ddrama a ddarllenir. (Gellir cyflwyno’r dasg hon ar gyfer y ffolio Cymraeg Iaith). (Dan arolygiaeth)
Crynodeb

Arholiad ysgrifenedig terfynol, 50%
Arholiad llafar terfynol, 20%
Gwaith Cwrs, 30%

Y Chweched

Cymraeg - Uwch Gyfrannol

Rydych chi wedi penderfynu astudio’r Gymraeg yn y Chweched Dosbarth – Llongyfarchiadau! Dyma grynodeb o’r cwrs eleni er mwyn rhoi blas i chi o’r hyn y byddwch chi yn ei wneud yn ystod y flwyddyn hon.

Beth yw cynnwys y cwrs?

Nod ac amcan y cwrs Cymraeg ydy datblygu’ch sgiliau er mwyn sicrhau eich bod yn medru mynegi’ch hunain yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig. Byddwch chi’n cael eich annog i ddefnyddio iaith a dychymyg wrth ymateb i lenyddiaeth a deunyddiau diwylliannol cyfoes.

Bydd y cyfleodd hyn yn codi wrth i chi astudio Drama, Ffilm a Barddoniaeth yr Ugeinfed Ganrif a’r Unfed Ganrif ar Hugain. Rhoddir cyfle hefyd i chi ymchwilio i bynciau llosg ein hoes ac i fynegi barn arnynt. Mae astudio’r pethau hyn i gyd yn ehangu’ch ymwybyddiaeth o’r iaith ac o le’r Gymraeg yn nhraddodiad llenyddol Ewrop.

UG Bl 12
Uned Cynnwys Asesu
CY1 Y Ffilm a’r Ddrama a Llafaredd Arholiad Llafar – Allanol (20%)
CY2 Ffolio o Waith Cwrs Ysgrifenedig Asesiad Mewnol (15%)
CY3 Defnyddio’r Iaith a Barddoniaeth Arholiad Ysgrifenedig (15%)
U2 Bl 13
Uned Cynnwys Asesu
CY4 Y Nofel a Llafaredd Arholiad Llafar - Allanol (15%)
CY5 Y Chwedlau, Yr Hengerdd a’r Cywyddau Arholiad Ysgrifenedig (15%)
CY6 Gwerthfawrogi Llenyddiaeth a Defnyddio’r Iaith Arholiad Ysgrifenedig (20%)

UWCH GYFRANNOL (Blwyddyn 12)

CY1: Y FFILM A’R DDRAMA A LLAFAREDD (40%)

Y Ffilm: HEDD WYN

Byddwch chi’n astudio’r ffilm ‘Hedd Wyn’. Enwebwyd y ffilm hon ar gyfer Oscar ac fe’i hystyrir yn ffilm wych ledled byd, yn ogystal ag yma yng Nghymru. Yn yr arholiad llafar, bydd disgwyl i chi drafod y pethau canlynol:

  • Datblygiad cymeriadau a’r berthynas rhyngddynt
  • Golygfeydd penodol
  • Defnydd o lun, sain neu gerddoriaeth gefndirol
  • Bwriadau’r awdur a’r cynhyrchydd
  • Mynegi barn ar y ffilm
  • Themâu’r ffilm

Y Ddrama: SIWAN

Byddwch chi’n astudio’r ddrama ‘Siwan’ gan Saunders Lewis. Ystyrir y ddrama hon yn un o glasuron yr iaith Gymraeg ac ynddi trafodir themâu megis serch, cariad, cenfigen a brad. Yn yr arholiad llafar, bydd disgwyl i chi drafod y pethau canlynol:

  • Plot ac adeiladwaith y ddrama
  • Datblygiad cymeriadau a’r berthynas rhyngddynt
  • Deialog
  • Themâu
  • Cynhyrchu
  • Agwedd yr awdur at fywyd yn ei waith

Asesu

  • Asesiad allanol yw hwn, ond fe fydd yr athrawon Cymraeg yn asesu eich gwaith llafar ar hyd y flwyddyn. Bydd arholwr allanol yn ymweld â’r ysgol yn ystod tymor yr haf (tua mis Mai) er mwyn eich asesu’n swyddogol.
  • Byddwch chi’n cael eich asesu mewn grwpiau o 3 a dewisir y grwpiau yn ôl eich gallu.
  • Bydd yr arholiad yn para hyd at awr.
CY2: FFOLIO O WAITH CWRS YSGRIFENEDIG (30%)

TASG UN: Sgriptio Stori Fer

Yn y dasg hon, byddwch yn addasu golygfeydd trawiadol mewn stori fer ar gyfer naill ai’r llwyfan, teulu neu’r radio.

TASG DAU: Ysgrifennu Creadigol

Ysgrifennu naill ai:

  • Stori fer
  • Portread o gymeriad
  • Darn o hunangofiant
  • Dyddiadur
  • Ymson

TASG TRI: Traethawd yn mynegi barn ar bwnc llosg (tasg o dan amodau arbennig)

Llunio traethawd neu araith ysgrifenedig, yn cyflwyno’ch barn ar bwnc llosg. Yn y dasg hon bydd angen i chi ymchwilio’r testun yn fanwl gan ddefnyddio ffynonellau amrywiol a chroesgyfeirio rhyngddynt.

Asesu

Athrawon yr Adran Gymraeg fydd yn marcio’ch Gwaith Cwrs. Byddwch chi’n derbyn cynllun marcio cyn pob tasg er mwyn i chi anelu at y marciau uchaf.

CY3: DEFNYDDIO IAITH A BARDDONIAETH (30%)

Adran A: Defnyddio Iaith

Bydd yr agwedd hwn o’r cwrs yn gofyn i chi astudio a deall gramadeg yr iaith Gymraeg. Byddwch chi’n trafod agweddau megis:

  • berfau
  • arddodiaid
  • treiglo
  • cymalau
  • sillafu ac atalnodi a.y.b.

Adran B: Barddoniaeth yr Ugeinfed Ganrif a’r Unfed Ganrif ar Hugain

Gosodir cwestiwn traethawd ar y farddoniaeth. Wrth ymateb yn bersonol, bydd disgwyl i chi drin materion megis themâu, crefft, iaith ac agwedd y bardd at fywyd. Bydd hefyd angen i chi ystyried dehongliadau beirniaid eraill gan ddyfynnu a chymharu gwaith beirdd gyda’i gilydd.

Byddwch chi’n astudio’r beirdd canlynol:

  • T. H. Parry-Williams
  • Waldo Williams
  • Gerallt Lloyd Owen
  • Gwyn Thomas
  • Iwan Llwyd
  • Myrddin ap Dafydd
  • Ceri Wyn Jones
  • Twm Morys

Asesu

Bydd Barddoniaeth yr 20fed Ganrif a’r 21ain Ganrif yn ogystal â’r Ramadeg yn cael eu arholi mewn arholiad ysgrifenedig ar ddiwedd Blwyddyn 12. Bydd yr arholiad yn para 2 awr.

Cofiwch:

  • Byddwn ni’n disgwyl eich ymroddiad chi o’r cychwyn cyntaf.
  • Disgwylir i chi gyflwyno unrhyw ddarn o waith cartref/gwaith cwrs yn brydlon ac i’r safon orau posib. Os cyflwynir mwy nag un darn o waith cartref/gwaith cwrs yn hwyr, bydd yr Adran Gymraeg yn gorfod ystyried eich tynnu oddi ar y cwrs.
  • Bydd disgwyl i chi wneud gwaith darllen ac ymchwil personol wrth astudio e.e. darllen erthyglau, ymchwilio ar y we, darllen llyfrau a dramâu ychwanegol a.y.b.
  • Mae gan yr Adran ystafell astudio yn arbennig i ddisgyblion y Chweched Dosbarth sy’n astudio Cymraeg. Bydd swyddfa CY3 (ystafell Miss Jones) ar gael i chi weithio’n dawel unrhyw bryd.
  • Os ydych chi’n benthyg llyfr neu’n mynd i lungopïo unrhyw ddeunyddiau o’r ystafell hon, bydd disgwyl i chi gofnodi yn y llyfr perthnasol er mwyn sicrhau bod dim o’r adnoddau yn mynd ar goll.
  • Cofiwch fod aelodau o’r Adran Gymraeg ar gael i chi siarad â hwy ar unrhyw adeg. Os ydych chi’n poeni am agwedd o’r cwrs neu’n wynebu unrhyw anawsterau, rhaid i chi ddod i weld un ohonom.

Mae’r cwrs Uwch Gyfrannol yn gwrs cyffrous ac rydyn ni’n edrych ymlaen at astudio’r agweddau hyn i gyd gyda chi. POB HWYL I CHI!

Yn ôl at y brig

Dulliau Addysgu

Manylion i ddilyn

Bywyd Allgyrsiol yr Adran

Manylion i ddilyn