Cliciwch yma am ffurflen archeb.
Archive for the ‘Cymraeg’ Category
Calendr Abertawe yr Urdd – 2011
Tuesday, September 7th, 2010Noson Gymdeithasol
Monday, September 6th, 2010Stomp!
Monday, September 6th, 2010
Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy eleni, cafodd 3 o ddisgyblion bl.13 y cyfle i gymryd rhan mewn Stomp ym mhabell Prifysgol Abertawe.
Bu Bethan Sleep, Alice Tomos a Sioned James yn cymryd rhan gyda nifer o’u ffrindiau yno’n cefnogi. Aeth Sioned James drwodd i’r ail rownd gan gipio’r stol yn erbyn rhai o’n prifeirdd!
Llongyfarchiadau mawr iddi ar ennill y Stomp a diolch i Tudur Hallam o Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe am drefnu. Yn wir, roedd ein disgyblion yn ffodus o fod wedi rhannu’r un llwyfan a’r un a enillodd y Gadair y prynhawn hwnnw yn yr Eisteddfod!
Cwrs Sefydlu Y Chweched
Thursday, September 2nd, 2010
Er mwyn helpu ein disgyblion newydd yn y Chweched addasu at eu hastudiaethau, mae’r ysgol wedi trefnu cwrs sefydlu. Bydd y cwrs yn cael ei chynnal dros ddau ddiwrnod, ar ddydd Iau 9 a dydd Gwener 10 Medi, ym Mharc Margam ac yng Ngholeg y Drindod yng Nghaerfyrddin.
Mae amrywiaeth o weithgareddau wedi’i drefni iddynt er mwyn helpu datblygu eu sgiliau hanfodol ac fe fydd sesiynau sgiliau astudio pwysig yn y Coleg. Bydd adloniant ac ychydig o ddiwylliant ar dap ar y nos Iau i gydbwyso’r holl waith caled!
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.
Taith Siopa Nadolig y CRA
Thursday, September 2nd, 2010
Fe fydd Taith Siopa Nadolig blynyddol y CRA i Cheltenham ar Ddydd Sadwrn 27 Tachwedd 2010.
Byddwn yn gadael Bryn Tawe am 8yb ac yn dychwelyd o Cheltenham am 5.30yp, a chost y daith fydd £15 y person.
Anfonwch eich enw a’ch manylion cyswllt â’r taliad llawn i swyddfa’r ysgol, AT SYLW Margaret Bartlett, cyn gynted os gwelwch yn dda.
Blwyddyn 11 a’r Chweched
Thursday, July 22nd, 2010
Cofiwch fod croeso i ddisgyblion Blwyddyn 11 a’u Rhieni i gysylltu â Miss Rhian Rees, Pennaeth y Chweched, os am drafod unrhyw faterion yn ymwneud â’r Chweched.
Am wybodaeth ychwanegol, cofiwch ddefnyddio Llawlyfr y Chweched a dosbarthwyd yn gynharach y flwyddyn yma, neu mae hwn ar gael ar-lein yma.
Cyfeiriad e-bost Miss Rees: ygb-rar@bryntawe.swansea.sch.uk
Gwisg y Chweched
Thursday, July 22nd, 2010
Bydd modd prynu gwisg ysgol Chweched Bryn Tawe yn yr un modd â gwisg ysgol blynyddoedd iau yr ysgol sef trwy Swyddfa’r Ysgol.
Manylion y wisg: (Prisiau a’r ffurflen archebu yma)
- crys gwyn penodol (ar werth drwy’r ysgol yn unig);
- siwmper ddu benodol a bathodyn y Chweched Dosbarth arni (ar werth drwy’r ysgol yn unig);
- trowsus du plaen neu sgert ddu hyd addas (i’w prynu’n annibynnol);
- esgidiau du (i’w prynu’n annibynnol).
Gwisg Addysg Gorfforol – fel y blynyddoedd iau, er bydd tracwisg ar gyfer myfyrwyr a fydd yn dilyn cyrsiau’r Adran Addysg Gorfforol (manylion gan yr Adran Addysg Gorfforol ym mis Medi).
Diwrnodau prynu’r wisg:
- Dydd Mawrth, Awst 24;
- Dydd Gwener, Awst 27;
- Dydd Mercher, Medi 1.
Y Chweched – LCA – Lwfans Cynhaliaeth Addysg
Thursday, July 22nd, 2010
Yn y Chweched, gallwch ennill hyd at £1,500 y flwyddyn gyda LCA os byddwch yn parhau i ddilyn cwrs addysg bellach. Mae hyn yn ddibynnol ar incwm eich rhieni/gwarcheidwaid.
Mr Roger Williams fydd yn gyfrifol am geisiadau yn yr ysgol.
Ewch i’r gwefan yma am fwy o wybodaeth.
Rhwydwaith Cynghorau Ysgolion Sir Abertawe
Wednesday, July 21st, 2010


Ar_ddydd Llun 12fed o Orffennaf fe gynhaliwyd ‘Diwrnod Cynghorau Ysgol’ yn Ysgol Gyfun Bryn Tawe. Drefnwyd y diwrnod ar gyfer ysgolion Saesneg Sir Abertawe i gwrdd â’n cyngor a Phwyllgor Cymreictod er mwyn trafod ffyrdd y gall ein hysgol ni helpu eu hysgolion nhw gwella eu dwyieithrwydd/Cymreictod. Daeth Ysgol Gyfun Pontarddulais, Cefn Hengoed a Daniel James i ymweld â’r ysgol.
Yn ystod y diwrnod roedd llawer o drafod am sut allwn ni wneud Cymraeg yn bwnc hwylus yn ysgolion Saesneg. Cafwyd syniadau megis gweithdy roc, yn debyg i’r fath o weithdai sydd wedi bod yn digwydd yn ystod y flwyddyn o dan yr enw ‘Sgol Sŵn, gweithdai ffilmio, a mynd mewn i’r ysgol i gynnal Twmpath gyda blynyddoedd iau’r ysgol. Roedd creu murlun Cymraeg a gadael i flwyddyn un ar ddeg ei arwyddo yn syniad poblogaidd yn ogystal.
Ar ôl trafod syniadau, aeth yr ysgolion ar daith o amgylch yr ysgol er mwyn gweld ein cyfleusterau arbennig, a sut cynhaliwyd gwersi trwy gyfrwng y Gymraeg. Cafodd y daith yma effaith enfawr ar lawer o ddisgyblion, gyda rhai yn teimlo’n euog am beidio ymdrechi yn eu gwersi Cymraeg.
Daeth pawb yn ôl at ei gilydd ar ôl y daith i drafod sut roedd modd trosglwyddo eu brwdfrydedd i ddisgyblion eu hysgolion ac i gytuno ar gynllun gweithredu. Roedd llawer o syniadau positif i gael, ac aeth y disgyblion yn ôl i’w hysgolion gyda’r bwriad o wneud y Gymraeg yn bwnc oedd yn fwy ymarferol a hwylus. Yn ogystal â hyn bydd y tri chyngor yn gweithio gyda’n Pwyllgor Cymreictod i drefnu diwrnodau ‘Cymraeg’ lle bydd ein Pwyllgor Cymreictod yn ymweld â’r ysgolion Saesneg ac yn cynnal gweithdai/gweithgareddau Cymraeg.
Ysgrifennwyd gan Lewis Gardiner, Prif Fachgen a Chadeirydd y Cyngor Ysgol.
Diwrnodau Canlyniadau
Tuesday, July 20th, 2010
Dosberthir canlyniadau UG/Uwch eleni yn y Ganolfan Astudio (llawr un) ar:
Dydd Iau, Awst 19, 8.30 – 12.30
Dydd Gwener, Awst 20, 10.00 – 2.00
Bydd staff ar gael ar y ddau ddiwrnod i gynghori a thrafod gyda chi yn ôl yr angen. Am fwy o fanylion, darllenwch y llythyr i Flwyddyn 12 neu’r llythyr i Flwyddyn 13.
Canlyniadau TGAU, Dydd Mawrth, Awst 24, 8.30 – 12.30
Cynghori – Dydd Mercher, Awst 25, 10.00 – 2.00
Diwrnod Mabolgampau 2010
Friday, July 16th, 2010








Ar_ddydd Iau 15 Orffennaf cynhaliwyd mabolgampau blynyddol Ysgol Bryn Tawe lawr ar drac Heol Ashley. Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus iawn gyda’r glaw yn cadw i ffwrdd am ran helaeth o’r dydd! Braf oedd hi i weld nifer o ddisgyblion yn cymryd rhan, gyda nifer o berfformiadau da yn ystod y dydd.
Llongyfarchiadau i aelodau Llys Gomer ar eu buddugoliaeth, a hefyd i Katie Phillips (Bl 7), Kyle Artis (Bl 7), Emily Jones (Bl 8), Ashley Morris (Bl 8), Catrin Rogers (Bl 9), Huw Strafford (Bl 9), Lily Bolton (Bl 10) a Carwyn Evans (Bl 10) am fod yn bencampwyr athletau eu blynyddoedd.
Cliciwch ar y ffotos uchod i’w agor a gwyliwch fideo byr o’r diwrnod yma.
Ffarwel Mr Williams, Croeso Mr Daniels
Wednesday, July 14th, 2010
Fel y gŵyr llawer ohonoch erbyn hyn, byddaf yn ymddeol o’m swydd fel Pennaeth Bryn Tawe ar ddiwedd y tymor yma. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i bawb a gydweithiodd gyda fi dros yr blynyddoedd ers 2003 er mwyn sicrhau bod Bryn Tawe erbyn hyn wedi hen ennill ei phlwy’ fel un o ysgolion gorau Cymru!
O’m safbwynt i, bu’r amser fel Pennaeth yn gyfnod cyffrous ac yn un na fyddaf fyth yn ei anghofio. Anaml iawn y daw’r cyfle i sefydlu ysgol o’r newydd, a dros y saith mlynedd ers sefydlu Bryn Tawe, fe aeth yr ysgol o nerth i nerth. Rhan sylweddol o lwyddiant yr ysgol yw’r cydweithio ardderchog a ddatblygom gyda’n gilydd dros y blynyddoedd, yn staff, yn rhieni, yn llywodraethwyr ac yn bennaf oll, chi’r disgyblion. Rwy’n gwbl hyderus y bydd yr ysgol yn parhau i lwyddo’n helaeth o dan arweinyddiaeth Pennaeth newydd Bryn Tawe, Mr Graham Daniels. Dymunaf bob llwyddiant i chi i gyd.
I gloi, hoffwn ddiolch yn ddidwyll iawn i bawb a gyfrannodd at fy anrheg ymddeoliad, ac yn arbennig i aelodau’r CRA am gydlynu’r casgliad. Gyda’r arian rwy’n bwriadu prynu darn o gelf a gaiff le anrhydeddus yn ein cartref yn Llandeilo.
Dyddiadau Pwysig
Thursday, July 8th, 2010
Gweler dyddiadau digwyddiadau diwedd tymor:
15 Gorffennaf– Mabolgampau, lawr yn Ashley Road.
16 Gorffennaf - Cystadlaethau Rhynglysol
19 Gorffennaf – Teithiau i Oakwood – Bl. 9 a 10, a Heatherton – Bl. 7 a 8
21 Gorffennaf – Diwrnod olaf, gorffen am 2yp. (Bysiau wedi cael ei ail-drefnu)
Gweler dyddiadau dechrau Tymor yr Hydref:
1 Medi – Diwrnod HMS
2 Medi – Bl 7 a’r Chweched yn dechrau ysgol
3 Medi – Bl 8, 9, 10 a 11 yn dechrau ysgol
Yr Adran Celf – Y Gerdd “Glas” – Dosbarth 7B
Wednesday, June 30th, 2010Abertawe Actif – Aelodaeth Arbennig Dros yr Haf
Wednesday, June 30th, 2010
Mae Dinas a Sir Abertawe yn cynnig aelodaeth arbennig am fargen i bobl ifanc dros yr haf yn ei chanolfannau hamdden Actif leol:
Siapiwch hi i gael bargen – cewch aelodaeth 6 wythnos am £30.*
Dydd Llun 19 Gorffennaf – dydd Sul 29 Awst
Mae’r manteision yn cynnwys:
- Ymgynghoriad am ddim
- Rhaglen ymarfer corff am ddim i’ch helpu i gyrraedd eich nod
- Arweiniad arbenigol a chyngor ar hyfforddi
- Defnydd diderfyn o’n pyllau a champfeydd
- Dewis eang o ddosbarthiadau ffitrwydd sy’n addas ar gyfer pob gallu
Gwnewch gais yn eich canolfan hamdden Abertawe Actif heddiw.
Dyfynnwch y cod 6WF30. *Aelodau newydd yn unig.
Ffair Haf / Noson Ffarwelio’r Pennaeth
Tuesday, June 29th, 2010
Croeso cynnes i unrhyw rheini / ffrindiau / gyd-ddisgyblion a darpar ddisgyblion fynychu ein ffair haf / noson ffarwelio’r Pennaeth sydd yn cael ei chynnal nos yfory – Nos Fercher 30 Mehefin rhwng 3.30yp a 8yh.
Mi fydd y noson yn cynnwys adloniant gan fandiau disgyblion a staff ac eitemau o Eisteddfod yr Urdd eleni. Mi fydd barbiciw, stondinau amrywiol, gweithgareddau hwyl, e.e. stocs athrawon a pheintio gwyneb. Mi fydd llyfr ar agor ar y noson i adael unrhyw neges o ddymuniad da i’r Pennaeth, yn ogystal â’r CRA yn cyflwyno rhodd i Mr Williams tua 7 o’r gloch.
Gobeithio gallwn gynnal noson arbennig i ffarwelio â Mr Williams, ar ôl yr holl waith caled y mae wedi rhoi i Fryn Tawe dros y blynyddoedd diwethaf.
(Cais caredig i chi barcio ym maes parcio’r ysgol o.g.y.dd.)
Diolch, CRA.
Gwaith Cwrs Celf a Dylunio Lefel Uwch 2010
Wednesday, June 23rd, 2010








Disgyblion talentog, gweithgar, brwdfrydig a diflino ein hysgol sydd wedi creu’r gwaith yma fel rhan o’u cyrsiau Lefel Uwch Celf a Dylunio.
Cynhelir arddangosfa o’r gwaith yn yr ystafell Celf yr wythnos hon. Am gip olwg o safon uchel ac ystod y gwaith, cliciwch ar y lluniau uchod a/neu gwyliwch y fideo yma.
Llwyddiant Eisteddfod yr Urdd 2010
Wednesday, June 23rd, 2010
Yn ystod hanner tymor y Sulgwyn aeth tua 150 o blant o Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanercaheron.
Roedd 22 o eitem gan yr ysgol yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod gan gynrychioli Gorllewin Morgannwg. Rhai o’r cystadlaethau hyn oedd, y ddawn greadigol, parti bechgyn iau, unawd bechgyn dan 19, a chôr blynyddoedd 7 – 9 i enwi ond ychydig gystadlaethau. Bu’r ysgol yn llwyddiannus gyda saith cystadleuaeth yn cyrraedd y llwyfan. O’r rhain, daeth un eitem yn gyntaf, pump yn ail ac un yn trydydd.
Llongyfarchiadau i bawb a oedd ynghlwm â’r cystadlu!
Wythnos Bontio – Croeso i Fryn Tawe!
Tuesday, June 22nd, 2010
Mae’r disgyblion a fydd yn ymuno â ni ym mis Medi yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau’r wythnos hon i helpu paratoi ar gyfer bywyd ym Mryn Tawe. Ar ddydd Llun, cafwyd blas ar nifer o wersi, ac ar ddydd Mawrth cynhaliwyd diwrnod o Fabolgampau.
O ddydd Mercher hyd at ddydd Gwener, fe fydd y disgyblion yn teithio i aros yng Ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog yng Ngorllewin Cymru gyda’u Pennaeth Blwyddyn Mrs Angharad Stephens a’u tiwtoriaid personol ar gyfer blwyddyn nesaf.
Dyma restr o ddyddiadau allweddol ar gyfer ein disgyblion newydd o nawr hyd at fis Medi ac i mewn i’w blwyddyn newydd yn yr ysgol, a llythyr yn egluro’r trefniadau ar gyfer prynu gwisg ysgol ym mis Gorffennaf.
Tlws Coffa Jennie Eirian
Thursday, June 17th, 2010
Ar brynhawn Gwener yn yr Eisteddfod yn Llanerchaeron fe dderbyniodd un o ddisgyblion blwyddyn 12 wobr arbennig iawn. Enillodd Anys Wood y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth Rhyddiaith dan 25ain. Ysgrifennodd Anys gyfres o ymsonau gwrthgyferbyniol.
Eleni roedd Tlws Coffa Jennie Eirian yn cyd-fynd â’r gystadleuaeth hon a chyflwynwyd y tlws i Anys mewn seremoni yn y Pafiliwn ar y prynhawn Gwener. Cyflwynwyd y tlws iddi gan y Prifardd Tudur Dylan Jones.
Roedd yn dipyn o fraint ac anrhydedd i Anys ennill y wobr a’r tlws, yn enwedig o ystyried fod y gystadleuaeth yn agored i fyfyrwyr Prifysgol a myfyrwyr ôl-radd. Llongyfarchiadau enfawr i ti Anys!
Gwaith Cwrs Celf TGAU 2010
Wednesday, June 9th, 2010




Eto_eleni mae disgyblion TGAU Celf yr Ysgol wedi rhagori a’u gwaith cwrs. Dyma fideo byr sy’n dangos ystod o’r gwaith ardderchog a arddangoswyd yn yr adran yr wythnos hon.
Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2010
Tuesday, May 18th, 2010
Neges Heddwch ac Ewyllys Da gan Ieuenctid Cymru i Ieuenctid y Byd 2010.
Tic-toc. Tic-toc. Mae amser yn prinhau ac rydyn ni ar groesffordd. Mae newid hinsawdd yn broblem real a rhaid gweithredu nawr.
Os bydd pethau’n parhau fel maen nhw, ni fydd yr Arctig yn bodoli yn ei ffurf bresennol mewn tair blynedd. Ffaith.
Os bydd tymheredd y blaned yn codi 4ºC, gall anialwch y Sahara ymestyn i fyny mor bell â Ffrainc. Ffaith.
Ar gyfartaledd mae pob person yng Nghymru yn creu 11 tunnell o garbon deuocsid mewn blwyddyn . Ffaith.
Mae pob person yn Kenya, ar gyfartaledd yn creu 0.2 tunnell o garbon deuocsid mewn blwyddyn. Ffaith.
Fedrwch chi ddim dweud nad oeddech yn gwybod ein bod yn defnyddio gormod o danwydd. Ein bod yn rheibio’r ddaear o’i mwynau. Ein bod yn wastraffus ac yn taflu llawer gormod o bethau. Ein bod yn lladd y blaned.
Y llynedd a’r flwyddyn cynt, yr un oedd ein neges ond dyw amser ddim yn aros i neb.
Gwahoddwn ieuenctid y byd i ymuno gyda ni bobol ifanc Cymru i wynebu’r gwirionedd a chodi llais. Gadewch i ni wneud Newid Hinsawdd yn destun i weithredu arno nawr. Galwn arnoch chi i ddewis y llwybr cywir ar y groesffordd. Does dim pwynt edrych nôl ar yr hyn sydd wedi digwydd. Mae heddiw’n gyfle newydd ac yfory’n llawn addewid.
Tic-toc. Tic-toc. Glywch chi’r cloc yn tician?
Lluniwyd gan Fforwm Ieuenctid Ceredigion
Cwrdd â Eurig
Tuesday, May 18th, 2010
Ar fore Dydd Mawrth, Mai 18fed, aeth criw o 20 disgybl bl. 9 Bryn Tawe i’r Ystafell Fideo Gynadledda i gael y profiad o gwrdd â bardd adnabyddus, sef Eurig Salisbury. Cymerodd tair ysgol ran yn y sesiwn bythgofiadwy, sef Bro Myrddin, Bro Morgannwg a Bryn Tawe. Cafodd pob ysgol y cyfle i holi cwestiynau i’r bardd; cwestiynau fel “O ble daw eich ysbrydoliaeth?”, “Beth yw eich gobeithion am y dyfodol?” a “Sawl gwobr ydych chi wedi ennill?”
Bu Eurig yn ateb y cwestiynau a bu’n darllen rhai o’i gerddi – am bethau fel ei wallt ffasiynol (!) a’r profiad o fod yn y twnnel cyn gêm o rygbi. Siaradodd Eurig am orchestion fel ennill cadeiriau eisteddfodau a’r gwahaniaeth rhwng pob un. Yn wir, mae Eisteddfod Rhyng-Gol Abertawe yn aros yn y cof am i hanner coeden gael ei throi mewn i gadair. Yn y dyfodol, hoffai Eurig ennill y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Rhoddodd beth cyngor i ni fel beirdd y dyfodol, a dywedodd, “Peidiwch â gwrando ar y bobl broffesiynol, ewch amdani!” Soniodd am gystadlaethau ysgafn fel “Stomp”.
Roedd cwrdd â Eurig yn gyfle gwych a rhoddodd llawer o gyngor defnyddiol i ni. Diolchon ni yn fawr iawn i Eurig am roi o’i amser i drafod gyda ni. Roedd yn brofiad gwych ac fe wnaethon ni fwynhau’n fawr iawn.
Gan Gwen King a Lauren Coles
Llwyddiant Eisteddfod yr Urdd – Cystadlaethau Gwaith Cartref
Thursday, May 13th, 2010
Mae sawl disgybl wedi bod yn llwyddiannus yng nghystadlaethau gwaith cartref Eisteddfod yr urdd eleni. Dyma nhw:
Bryony Devoy – 2il – Gwaith tecstiliau 3D bl. 7 – 9
Sioned Dafydd – 2il – Barddoniaeth – bl.9
Cywaith – 1af – bl 7 – 9
Catrin Hill a Dyfan Lewis – 3ydd – cyfansoddi Sgript Wreiddiol bl .10 – 13
Anys Wood – 1af – 2 ymson gwrthgyferbyniol – dan 25 oed
Llongyfarchiadau mawr iddynt oll.
Eisteddfod yr Hendy
Tuesday, May 11th, 2010
Cynhaliwyd Eisteddfod yr Hendy, ddydd Sadwrn, Mai’r 8fed a chafodd enw Ysgol Bryn Tawe ei gyhoeddi sawl gwaith o’r llwyfan. Cafodd Rhys Underdown o fl.8 lwyddiant mewn cystadlaethau offerynnol yn ystod y dydd. Daeth Eleri Gwilym o fl.12 yn ail yn y gystadleuaeth Unawd Sioe Gerdd o dan 18 oed. Enillodd Côr Bechgyn bl.10-13 yr ysgol y drydedd wobr yn y gystadleuaeth gorawl nos Sadwrn.
Un o uchafbwyntiau’r Eisteddfod oedd gwobr Tlws yr Ifanc o dan 25ain oed am ddarn o lenyddiaeth. Dr Mererid Hopwood oedd y beirniaid a chanmolwyd y 25ain ymgais a ddaeth i law am y tlws. Rhoddwyd cryn ganmoliaeth i’r buddugol, sef Anys Wood o fl.12, am ei gwaith hynod o aeddfed. Cynhaliwyd seremoni i’w hanrhydeddu.
Wedi gwobrwyo talent nifer o’n disgyblion, tro athro oedd hi nesaf. Llwyddodd Mr Efan Williams, athro Ieithoedd Modern yn yr ysgol, i gipio’r wobr gyntaf yn y gystadleuaeth her unawd.
Diwrnod llwyddiannus iawn a nifer yn canmol cyfraniad Bryn Tawe.
Dathlu Diwedd Blwyddyn Ysgol
Friday, April 23rd, 2010
Mae Blwyddyn 13 wedi trefnu eu cinio/’ball’ diwedd ysgol ar nos Wener yr 2ail o Orffennaf yng Ngwesty’r Village, Abertawe. Pris tocyn, yn cynnwys pryd o fwyd a disgo ydy £21. Noson unigryw fydd, wrth i ni ffarwelio a’n disgyblion cyntaf!
Mae tocynnau Prom Blwyddyn 11 ar gael o Ddydd Llun 26 Ebrill ymlaen. Cost y tocynnau yw £20. Cynhelir y noson ym Manor Park, Clydach ar nos Lun, Gorffennaf 5ed. Mae’r noson i ddathlu diwedd eu harholiadau TGAU.
Arholiadau i Ddisgyblion ym Mlwyddyn 7, 8, 9 a 10
Thursday, April 1st, 2010
Mae arholiadau diwedd blwyddyn yn cael eu cynnal ar ôl gwyliau’r Pasg.
Cliciwch yma i fynd i’r tudalen “Gohebiaeth – Gwybodaeth i Rieni” i lawr lwytho amserlen arholiad i’r flwyddyn benodol.
Amserlen Sesiynau Adolygu/Gwaith Cwrs dros y Pasg
Wednesday, March 31st, 2010| Diwrnod | Dyddiad | Amser | Pwnc | Athro/awes |
| Mawrth | 06/04 | 9.30 -12.30 | Hanes (Lefel A) | Nerys Vaughan |
| Mawrth | 06/04 | 9.30 -1.30 | Cyfryngau | Jan Ohlsson |
| Mawrth | 06/04 | 9.30 – 3.00 | Mathemateg (Lefel A) | Elin Thomas |
| Mawrth | 06/04 | Trwy’r dydd | TGCh (TGAU) | Julie Davies |
| Mawrth | 06/04 | 9.00 – 3.00 | TGCh (Bl.13) | Ian Michael |
| Mawrth | 06/04 | 10.00 – 1.00 | Cymraeg (Bl.12) | Rhian Edwards Jones |
| Mercher | 07/04 | 10.00 – 2.30 | Cemeg (Lefel A) | Bethan Bale |
| Mercher | 07/04 | 9.00 – 3.00 | A Gorff | Rhodri Thomas |
| Mercher | 07/04 | 9.30-11.30 | Drama (TGAU) | Meleri Cole |
| Mercher | 07/04 | 12.00 – 2.00 | Drama (Lefel A) | Meleri Cole |
| Mercher | 07/04 | 9.30 – 3.00 | Maths (Bl. 11) | Elin Thomas |
| Gwener | 09/04 | 10.00 – 2.30 | Cemeg (Lefel A) | Bethan Bale |
| Gwener | 09/04 | 9.00 – 4.00 | DT (Bl.12/13) | Mark Bridgens |
| Gwener | 09/04 | 9.00 – amser cinio | A Gorff | Rhodri Thomas |
| Gwener | 09/04 | 10.00 – 2.30 | Saesneg (Bl. 11) | Hannah Ambler |
| Gwener | 09/04 | 10.00 – 2.30 | Saesneg (Bl. 11) | Siwan Ellis |
| Llun | 12/04 | Trwy’r dydd | Cymraeg (TGAU) | Pob un o’r adran |
| Mawrth | 13/04 | 10.00 – 3.00 | Maths (Bl.12) | Gari Wyn Jones |
| Iau | 15/04 | 9.00 – 3.00 | A Gorff (Bl.12) | Simon Davies |
Gwyliau Pasg
Tuesday, March 30th, 2010Tîm y Chweched 2010-2011
Friday, March 26th, 2010Maes y Gad i Les y Wlad
Tuesday, March 23rd, 2010Daeth gwahoddiad arbennig i ddisgyblion Ysgol Bryn Tawe fynychu lawnsiad swyddogol prosiect Straeon Digidol 1939-1959 y Llyfrgell Genedlaethol. Roedd hyn yn dipyn o fraint i’r ysgol gan taw dim ond dwy ysgol yng Nghymru gafodd y gwahoddiad. Felly, ar yr ail ar hugain o Fawrth ymunodd dau ar hugain o ddisgyblion blynyddoedd saith i naw’r ysgol gyda chriw o ddisgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen yn y Llyfrgell yn Aberystwyth.
Dechreuon ni ein siwrnai i Aberystwyth am naw o’r gloch a chyrhaeddon am un ar ddeg, gyda phawb ohonom yn ein gwisgoedd lliwgar o’r cyfnod 1939-1950au. Oedd, roedd cystadleuaeth gwisg ffansi yn rhan o’r dydd. Roedd y lle fel palas enfawr a thu fewn teimlodd hyd yn oed yn fwy. Yn gyntaf, cawson ni gyflwyniad byr i’r lawnsiad, a chyfle i weld un o’r straeon digidol a grëwyd gan ddisgyblion bl.10 ein hysgol ni. Gwelsom hefyd luniau o’r cyfnod a gwrando ar draciau sain.
Wedyn, siaradon ni â dyn o’r enw Donald Parker a oedd yn ifaciwi yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Holodd disgyblion ein hysgol ni ac Ysgol Dyffryn Ogwen lawer o gwestiynau diddorol am ei blentyndod a sut deimlad ydoedd i symud o Lerpwl i Aberystwyth. Dwedodd Mr. Parker iddo symud gyda’i frawd Leonard pan oedd yn bedair blwydd oed ac roedd wrth ei fodd yn Aberystwyth.
Yna cawsom siarad ag aelodau o’r ‘Glamorgan Home Guard’ a chawsom gyfle i afael mewn dryll o’r rhyfel byd cyntaf! Roedd e’n pwyso tunnell a pheidiwch â phoeni, doedd e ddim yn llawn!
Aethom ni wedyn i ystafell fawr yn y Llyfrgell ble cawson ni de parti ar y stryd a bwyd fel brechdanau, ‘scotch eggs’, ‘sausage rolls’, jeli a threiffl. Cawsom ni luniau yn ein gwisgoedd a chafodd rhai disgyblion gyfweliadau am y diwrnod. Darlledwyd y cyfweliadau ar Radio Cymru.
Y profiad olaf oedd gwylio mwy o glipiau yn y Drwm, sef theatr yn y Llyfrgell. Cawsom weld sut newidiodd y system feddygol ar ôl yr ail ryfel byd. Yna, daeth gwobrwyo’r gystadleuaeth gwisg ffansi! Cafodd Sally-Jo Williams o flwyddyn naw, a Tomos Jenkins o flwyddyn saith Ipod shuffle yr un am eu gwisgoedd gwych.
Cafodd bob un ohonom lyfr a DVD o’r Straeon Digidol. Roedd bob un ohonom wedi mwynhau’r diwrnod yn fawr!
Gan Tiiana McIntosh, 8B.
___________________________________________________________________________________




Ar_Ddydd Llun 22 Mawrth trawsnewidiwyd rhai o ‘stafelloedd amlycaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth i gyd-fynd â thema’r Ail Ryfel Byd fel rhan o gynllun Maes y Gad, Lles y Wlad (MYGLYW).
Cymerodd disgyblion o’r Ysgol ac Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda rhan mewn gweithgareddau i gyd-fynd â thema’r Ail Ryfel Byd. Gwisgodd y disgyblion yn nillad y cyfnod a phrofi’r adeg rhwng 1939 a 1959 gyda chymorth stori ddigidol a monolog, yn ogystal â holi Donald Parker o Benparcau am ei brofiad o fod yn faciwî.
Wnaeth y “Glamorgan Home Guard Living History Group” ail creu golygfa o fywyd yn ystod y Rhyfel ar goridorau’r Llyfrgell, cyn i’r disgyblion cael cyfle i ddathlu diwedd y rhyfel trwy gael te parti i gyfeiliant cerddoriaeth o’r cyfnod.
I gloi’r diwrnod cyflwynwyd y disgyblion i gyd gyda DVD a llyfr a gynhyrchwyd yn arbennig i gyd-fynd â’r prosiect i’w hatgoffa am eu profiad. Mae’r straeon digidol yma yn ymddangos ar wefan y prosiect.
Noson Rieni Blwyddyn 7 -> 30 Mawrth
Tuesday, March 23rd, 2010
Nodyn byr i’ch atgoffa am Noson Rieni blwyddyn 7 sydd yn cael ei gynnal yn neuadd yr ysgol ar nos Fawrth 30ain o Fawrth. Bydd y noson yn dechrau am 4:00 y.h. ac yn gorffen am 6.30 y.h. Mae’r noson yn hanfodol bwysig ac mae’n gyfle euraidd i ddod i drafod datblygiad academaidd a chymdeithasol eich plentyn ym Mryn Tawe.
Byddwn yn defnyddio system apwyntiadau ar y noson, a disgwylir i’ch plentyn wneud apwyntiadau gyda’r athrawon perthnasol yn yr wythnos yn arwain i fyny at y noson.
Ar gais y Ganolfan Hamdden – oes modd i chi beidio â defnyddio maes parcio y Ganolfan Hamdden a pharcio ar safle’r ysgol os gwelwch yn dda.
Os oes unrhyw gwestiwn neu bryder gennych, yna cysylltwch â mi yn yr ysgol.
Diolch, Angharad Stephens, Pennaeth Blwyddyn 7.
Noson Rieni Blwyddyn 10 -> 25 Mawrth
Tuesday, March 23rd, 2010
Nodyn byr i’ch atgoffa am Noson Rieni Blwyddyn 10 sydd yn cael ei gynnal yn neuadd yr ysgol ar nos Iau, 25ain o Fawrth. Mi fydd y noson yn dechrau am 4yh ac yn gorffen am 6.30yh. Mae’n noson hanfodol bwysig ac mae’n gyfle euraidd i ddod i drafod datblygiad academaidd a chymdeithasol eich plentyn ym Mryn Tawe.
Byddwn yn defnyddio’r system apwyntiadau ar y noson, a disgwylir i’ch plentyn wneud apwyntiadau gyda’r athrawon perthnasol yn y dyddiau sy’n arwain i fyny at y noson.
Ar gais y Ganolfan Hamdden – oes modd i chi beidio â defnyddio maes parcio’r Ganolfan Hamdden a pharcio a’r safle’r ysgol os gwelwch yn dda.
Diolch, Mr Wyn Jones, Pennaeth 10 a 11.
Eisteddfod Sir yr Urdd, Port Talbot, 19 Mawrth
Tuesday, March 23rd, 2010
Cafwyd diwrnod llwyddiannus iawn gan ddisgyblion a staff Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe yn Eisteddfod Sir yr Urdd eleni. Aeth rhyw 150 o ddisgyblion mewn tri bws i Theatr Y Dywysoges ym Mhort Talbot ar ddydd Gwener y pedwerydd ar bymtheg o Fawrth.
Roedd hi’n ddiwrnod prysur yn llawn cyffro a phob disgybl yn awyddus iawn i gymryd rhan.
Llongyfarchiadau i bawb oedd yn cystadlu ac a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd a phob lwc yn Llanerchaeron!
| Parti Cerdd Dant 7-9 – 1af | Unawd Bechgyn dan 19 – 1af | Unawd Telyn dan 19 – 1af |
| Unawd Cerdd Dant dan 19 – 1af | Unawd Alaw Werin dan 19 – 1af | Grŵp Dawnsio Disgo – 1af |
| Dawnsio Disgo Unigol dan 15 – 1af | Dawns Greadigol Bl. 7-9 – 1af | Parti Bechgyn 7, 8 a 9 – 1af |
| Parti Merched 7, 8 a 9 – 1af | Cyflwyniad Dramatig Bl. 7-9 – 1af | Grŵp Llefaru Iau – 1af |
| Côr Merched S&A dan 19 – 1af | Côr Cerdd Dant Dan 19 – 1af | Côr Iau 7-9 – 1af |
| Unawd Chwyth dan 15 – 1af | Unawd Piano Dan 15 – 1af | Ymgom 7, 8 a 9 – 1af |
| Cyflwyniad Dramatig Hyn – 1af | Monolog – 1af | Dawnsio Gwerin Iau – 2il |
| Llefaru Unigol – 2il | Unawd Alaw Werin dan 15 – 2il | Unawd Cerdd Dant dan 15 – 2il |
| Ymgom dan 19 – 2il | Côr Bechgyn T&B Bl. 13 ac Iau – 2il | Unawd dan 19 – 2il |
| Unawd Sioe Gerdd Dan 19 – 2il | Unawd Pres Dan 19 – 2il | Unawd Merched dan 15 – 2il |
Mari Stevens yn Ymweld â’r Ysgol
Tuesday, March 23rd, 2010
Daeth Mari Stevens i’r Ysgol yn ddiweddar i gynnal gweithdy gyda rhai o ddisgyblion Blwyddyn 7 yr ysgol. Prif fwriad y sesiwn oedd ceisio annog bechgyn i ddarllen ac i ysgrifennu mwy yn y Gymraeg.
Cafodd y disgyblion weithdy diddorol iawn yn trafod llenyddiaeth ac yn gwrando ar Mari’n adrodd hanes ei hanturiaethau yn Awstralia, sy’n sail i’w nofel ddiweddar, Yani.
Mwynheuodd y bechgyn yn fawr iawn ac edrychwn ymlaen at weld eu gwaith llenyddol yn datblygu o ganlyniad! Diolch yn fawr iawn i Mari am y gweithdy diddorol!
Fideo Gynadledd gyda Dr Mererid Hopwood
Tuesday, March 23rd, 2010Cafodd myfyrwyr Blwyddyn 12 sy’n astudio Cymraeg fel pwnc Safon Uwch y cyfle i fod yn rhan o sesiwn fideo gynadledda gyda Dr Mererid Hopwood fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr eleni.
Yn ogystal â myfyrwyr Bryn Tawe, roedd yno hefyd fyfyrwyr eraill led led Cymru yn holi cwestiynau ac yn trafod gyda’r llenor. Roedd y sesiwn yn un ysbrydoledig gyda Dr Hopwood yn rhannu straeon a phrofiadau hynod o ddiddorol gyda’r myfyrwyr. Roedd ganddi hiwmor ffraeth ac angerdd tuag at ei gwaith, tuag at lenyddiaeth yn gyffredinol a thuag at y Gymraeg.
Mwynheuodd y myfyrwyr yn fawr iawn, yn enwedig wrth iddi adrodd hanes ei mab bach yn poeni y byddai Ray Gravell yn dienyddio’i fam yn ystod Seremoni Gadeirio’r Eisteddfod Genedlaethol ar ôl iddi ennill y Gadair am ei nofel ’O Ran’! Diolch yn fawr i Dr Hopwood am yr ysbrydoliaeth a’r chwerthin!
Llwyddiant Llenyddol
Tuesday, March 23rd, 2010
Yn dilyn ei llwyddiant yn ennill cadair Eisteddfod yr ysgol daeth Anys Wood o flwyddyn 12 yn fuddugol yng nghystadleuaeth rhyddiaith dan 25 oed yn Eisteddfod Llanfihangel-ar-Arth.
Derbyniodd ganmoliaeth uchel gan y beirniad am ei hysgrifennu aeddfed a chraff. Llongyfarchiadau enfawr i ti unwaith eto Anys, rydym ni Adran y Gymraeg yn falch iawn ohonot ti!
Canlyniadau Modiwlau Arholiad Lefel Uwch a TGAU
Friday, March 12th, 2010BBC Bwletin Ysgol: 11 Mawrth 2010
Thursday, March 11th, 2010

Heddiw, mae disgyblion o Ysgol Gyfun Gŵyr ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe yn cymryd rhan yng nghynllun y BBC – Bwletin Ysgol. Cynllun yw hwn sy’n rhoi’r cyfle i ddisgyblion ysgol fod yn ohebwyr am y dydd gan lunio erthyglau ac eitemau newyddion.
Y diweddaraf yma.
Diwrnod y Llyfr – 04.03.10
Monday, March 8th, 2010
Dathlwyd Diwrnod y Llyfr unwaith eto eleni gydag amrywiaeth o weithgareddau. Dechreuwyd y dathliadau gyda Gwasanaeth Diwrnod y Llyfr. Y Chweched arweiniodd y gwasanaeth eleni, gyda Sioned James yn agor trwy roi hanes Diwrnod y Llyfr. Yna cawsom ddarlleniadau Cymraeg a Saesneg am yn ail gan Anys, Camila, Naomi, Eleri, Bethan, Catrin a Rhiannon o’u hoff lyfrau neu lyfrau a ddylanwadodd arnynt.
Soniodd Catrin Hill am hanes T. Llew Jones gan i ni gynnal cystadleuaeth dros yr wythnosau diwethaf i greu dalen-nodyn i gofio T. Llew Jones. Gwobrwywyd y buddugol gan y prifathro, sef Ffion Evans o fl.7, Laura Hall o fl.8 a Ashley Rogers o fl.9. Cafodd bob un ohonynt lyfr o’r gyfres “Straeon Sydyn” a gyhoeddwyd eleni ac wy Pasg bach yn rhodd. Gwobrwywyd hefyd enillwyr y Cwisiau llyfrau Saesneg, sef Lauren, Amber, Ellen ac Angharad.
Yn ystod y dydd, cynhaliwyd cwisiau llyfrau Cymraeg yn y gwersi Cymraeg, gyda’r buddugwyr sef Branwen Cleaver, Ellie Thomas, Chloe Smith, Sioned James, Katie Morgan, Nia Evans ac Esyllt Lewis, yn cael eu gwobrwyo yn y gwasanaeth y dydd Llun canlynol. Bu criw o’r chweched hefyd yn cyd-ddarllen gyda disgyblion o flwyddyn 7 a braf oedd gweld brwdfrydedd a mwynhad y disgyblion. Cafodd y criw sy’n astudio Cymraeg yn y Chweched y fraint o ymuno mewn sesiwn fideo gynadledda i siarad â’r bardd/llenor Mererid Hopwood, ac mae’n amlwg i’r disgyblion fwynhau unwaith eto yng nghwmni eu cyn athrawes Dr Hopwood.

Yn ystod yr awr ginio, daeth Siop Tŷ Tawe i werthu llyfrau amrywiol yn y Llyfrgell. Roedd hyn yn gyfle i ddisgyblion o bob oed weld y wledd o lyfrau Cymraeg sydd ar gael iddynt. Diolch i Catrin o Siop Tŷ Tawe a’r Chweched am arwain nifer o weithgareddau yn ystod y dydd, a gobeithio i bawb gael eu hatgoffa o’r mwynhad sydd i’w gael o ddarllen llyfrau.
Erthygl gan Miss Meinir Jones, Athrawes yn yr Adran Gymraeg
Noson Rhieni Bl.8 – Nos Fawrth, 9fed o Fawrth
Thursday, March 4th, 2010
Nodyn byr i’ch atgoffa am noson rhieni Bl.8 sydd yn cael ei gynnal yn neuadd yr ysgol ar nos Fawrth, 9fed o Fawrth 2010. Mi fydd y noson yn dechrau am 4yh ac yn gorffen am 6.30yh. Mae’r noson hanfodol bwysig ac mae’n gyfle euraidd i ddod i drafod datblygiad academaidd a chymdeithasol eich plentyn ym Mryn Tawe
Byddwn yn defnyddio’r system apwyntiadau ar y nos, a disgwylir i’ch plentyn wneud apwyntiadau gyda’r athrawon perthnasol yn y dyddiau sy’n arwain i fyny at y noson.
Ar gais y ganolfan Hamdden – Oes modd i chi beidio â defnyddio maes parcio’r Ganolfan Hamdden a pharcio a’r safle’r ysgol os gwelwch yn dda.
Diolch. Mr M Bridgens, Pennaeth Bl. 8 a 9.
“Tesco for Schools and Clubs 2010″
Monday, March 1st, 2010
Mae ymgyrch “Tesco Vouchers for Schools” wedi dechrau unwaith eto. Blwyddyn ddiwethaf casglwyd dros 19,000 o dalebau yn yr Ysgol. Archebwyd camerâu digidol, microsgopau digidol a gitâr drydanol. Fe fyddwn yn gwerthfawrogi eich rhodd o’r talebau i’r Ysgol eto’r flwyddyn hon. Diolch yn fawr.
Gwibdaith Dylunio a Thechnoleg i Techniquest a Stadiwm y Mileniwm.
Thursday, February 25th, 2010
Aeth disgyblion blwyddyn 8 ar wibdaith flynyddol yr adran Dylunio a Thechnoleg i Gaerdydd cyn toriad yr hanner tymor. Treuliwyd amser yng nghanolfan Techniquest a Stadiwm y Mileniwm. Gwyliwch y fideo yma i weld y gweithgareddau a’r mwynhad!
Llwyddiant yn Eisteddfod Ffairfach!
Thursday, February 25th, 2010
Mae llwyddiant disgyblion yr ysgol yn eisteddfodau bychain Cymru yn parhau! Ar Chwefror y 5ed bu dwy o ddisgyblion blwyddyn 12 yn hynod o lwyddiannus yn Eisteddfod Ffairfach, Llandeilo.
Cafodd Eleri Williams lwyddiant mewn sawl cystadleuaeth! Cafodd gyntaf am Ganu Emyn dan 30 oed, Unawd dan 18 oed, Unawd Alaw Werin dan 18 oed a thrydydd yng nghystadleuaeth yr Her Unawd. Derbyniodd Eleri gwpan ar gyfer y person ifanc a ddangosodd y mwyaf o botensial ar y noson. Bu Anys Wood yn fuddugol yn y gystadleuaeth lenyddol dan 25 oed, a chafodd drydydd yn yr un gystadleuaeth hefyd. Roedd y beirniad yn canmol ei hysgrifennu craff a sensitif yn ogystal ag aeddfedrwydd ei hysgrifennu.
Derbyniodd y ddwy ganmoliaeth uchel a braf oedd clywed enw’r ysgol yn amlwg ar lwyfan eisteddfod unwaith eto! Llongyfarchiadau ar eich llwyddiant ferched a daliwch ati i gystadlu!
Taliadau Taith Sgïo 2011
Friday, February 12th, 2010
Diolch yn fawr am eich taliadau hyd yn hyn. Mi fyddwn yn casglu taliadau ar y Dydd Gwener 1af o bob mis. Mi fydd pob taliad misol yn £65. Os nad ydych wedi rhoi’r ail daliad, a fyddai’n bosib i chi ei ddanfon mewn gyda’ch plentyn yn ystod yr wythnos gyntaf nôl ar ôl hanner tymor?
Yn syth ar ôl hanner tymor mi fydd eich plentyn yn derbyn cerdyn taliadau, os nad ydynt wedi yn barod ac mi fydd angen iddynt ddod â’r cerdyn pob tro maent yn talu er mwyn cadw cofnod o’r taliadau.
Diolch, Mr S Davies.
WYTHNOS IAITH Y BAC – “U Learn Chinese”
Wednesday, February 10th, 2010
Fel dilyniant i’r Wythnos Iaith a gymerodd lle ym Mehefin, gwahoddwyd Mr a Mrs Niedergang o Athrofa Confucius (Prifysgol Llanbed) yn ôl i’r ysgol ar y 1af o Chwefror, er mwyn cyflwyno rhodd i ddisgyblion y chweched.
Yr ydym fel ysgol yn falch iawn mai Bryn Tawe oedd yr ysgol gyfun gyntaf yng Nghymru i weithio ar y cyd gyda Confucius ar y Bac Cymreig. Defnyddiwyd cwrs newydd ‘U Learn Chinese’ yn ystod yr wythnos – cynllun sydd yn mynd o nerth i nerth wrth i nifer fawr o wledydd fuddsoddi ynddo. Mawr yw’r gobaith y bydd ein perthynas fel ysgol gyda Confucius yn datblygu wrth i ni barhau yn flynyddol gydag uned iaith y Fagloriaeth.
Cystadleuaeth Siarad Gyhoeddus y Rotari, Rownd Abertawe 2010
Thursday, February 4th, 2010
Braf yw nodi unwaith eto llwyddiant yr ysgol yng nghystadleuaeth y Rotari yn Abertawe. Bu pedwar tîm o’r ysgol yn dadlau’n frwd ar y 3ydd Chwefror yn llyfrgell yr ysgol. Yn y gystadleuaeth iau, bu pencampwyr y llynedd yn llwyddiannus unwaith eto wrth i Emyr Meek (cadeirydd), Luke Morgan (siaradwr o blaid) ac Iago Bratley-Harris (siaradwr yn erbyn) yn trafod os taw negeseuon testun yw dyfodol yr iaith Saesneg.
Tra yn y gystadleuaeth Hŷn, oedd tri thîm yn dadlau’n ffyrnig wrth i griw’r chweched dod i’r brig yn ornest agos tu hwnt. Bydd Catrin Hill (cadeiryddes), Emma Llewelyn (siaradwraig yn erbyn) a Lewis Gardiner (siaradwr o blaid) yn trafod “The Battle of the Sexes” a rhaid ei llongyfarch ar eu buddugoliaeth. Er hefyd rhaid canmol dau dîm flwyddyn 11, gyda dadl wleidyddol rhwng Jonathan Roberts, Evan John a Vicky Solomon, bu’r tri disgybl yn pwyso a mesur cyfeillgarwch Ewrop a’r Unol Daleithiau i Brydain. Yn ogystal â hyn, clywodd y gynulleidfa trafodaeth ddifyr ynglŷn â rhyddid y wasg rhwng Nathan Levy, Toni Mihailidis a Nia Webb. Llongyfarchiadau gwresog i Vicky (cadeirydd orau), Nathan (siaradwr o blaid orau) a Nia (siaradwr yn erbyn gorau). Felly, ymlaen a’r tîm i Gydweli a rownd Dde Orllewin Cymru ar y 10fed Chwefror. Diolch arbennig i Mrs Hannah Ambler, Miss Meinir Jones a Mrs Sarah East am feirniadu’r gystadleuaeth ac i Scott Jones (blwyddyn 11) am ffilmio. Hyfforddwyd y timau gan Mr Chris Shaw.
Pencampwriaeth Ann Smart Pêl-Rwyd Dan 16 Afan, Nedd a Tawe :
Tuesday, February 2nd, 2010
Wnaeth tîm Pêl-Rwyd dan 16 yr ysgol chwarae yn arbennig o dda ddydd Gwener ym mhencampwriaeth y Sir. Dyma ganlyniadau’r rowndiau cynnar - ennill yn erbyn Llandeilo Ferwallt (12-3) ac Esgob Vaughan (26-2), a gem gyfatal yn erbyn Olchfa (8-8).
Roedd y gêm gynderfynol yn erbyn Llandeilo Ferwallt yn hynod o gyffrous ac agos – sgôr cyfartal o 5-5 ar y chwiban olaf! Aeth y gêm ymlaen i amser ychwanegol, ac wedyn i gol aur!, gyda’r merched yn cipio gôl i ennill y gêm.
Fe wnaethant fynd ymlaen i chwarae yn erbyn Gwyr yn y rownd derfynol, gyda sgôr terfynol o 9-4.
Llongyfarchiadau enfawr i Katie Llewellyn, Bethan Phillips, Sarah Llewellyn, Lowri Davies, Finny Rees-Godwin, Buddug Llŷr, Elin Walters, Mari Harris, Anwen Harris ac Elin Samuel.
Dymunwn bob llwyddiant iddynt ar Chwefror y 5ed, wrth iddynt fynd ymlaen i gynrychioli’r Sir yn y gystadleuaeth genedlaethol yng Nghaerfyrddin (am y tro cyntaf yn hanes ein hysgol!). Pob lwc i chi ferched!
Diolch yn fawr i Angharad Morris a Miss Lindzi Miller a wnaeth fynd gyda’r merched.
Newyddion y Bac
Monday, January 25th, 2010
Cafwyd ymateb calonogol iawn yn ystod Noson Ddewisiadau Bl 9 wrth i bump ar hugain o ddisgyblion a’u rhieni wrando ar gyflwyniad am Gymhwyster Bagloriaeth Cymru yng Nghyfnod Allweddol 4. Rydym yn falch iawn o gael yr hawl gan Lywodraeth y Cynulliad i gynnig y Fagloriaeth yng Nghyfnod Allweddol 4 am y tro cyntaf ym mis Medi 2010 ac mae’r cyffro am y cwrs newyd yma yn amlwg wedi cyrraedd disgyblion Bl 9. Fe fydd y cwrs yma’n adeiladu ar y llwyddiant a welwyd eisoes gyda’r Bac yn y 6ed, ac yn cynnig dilyniant i ddisgyblion Bl 11 wrth iddynt symud ymlaen i’w cwricwlwm 16-19.
Mae Bl 12 wrthi’n cwblhau eu Portffolio Gweithio Gydag Eraill yn dilyn y Ffair Aeaf ac maent wedi dechrau datblygu’r sgil o Wella Dysgu a Pherfformiad. Disgwyliwn ymweliad gan Arholwr allanol OCR mis nesaf er mwyn hawlio rhai o’r Sgiliau Allweddol yma’n swyddogol. Yr wythnos hon mae Bl 12 yn ymweld gyda’r Senedd yng Nghaerdydd – gwiriwch y wefan am yr hanes !
Atgoffwn Bl 13 mai Dydd Gwener yma – Ionawr 29ain yw eich dyddiad cau terfynol ar gyfer cyflwyno eich dyddiadaur Bac cyflawn a’r drafft olaf o’r Ymchwiliad Unigol. Hyfryd yw gweld cymaint ohonoch wedi derbyn cynnigion gan brifysgolion sy’n cydnabod 120 o bwyntiau UCAS llawn am y Bac – mae’r holl ymdrechion wedi dwyn ffrwyth o’r diwedd.
Noson Opsiynau Blwyddyn 9
Thursday, January 14th, 2010
Fe fydd Noson Opsiynau Blwyddyn 9 Bryn Tawe yn yr ysgol ar nos Fercher 20fed o Ionawr 2010. Bydd y noson yn dechrau am 6:00yh yn Neuadd Cilfwnnwr yr ysgol.
Bydd cyflwyniad byr am ein system opsiynau ym Mryn Tawe a’n cwricwlwm Cyfnod Allweddol 4. Yna cewch gyfle i gwrdd â’r athrawon fydd yn cyflwyno’r pynciau yn ystod gweddill y noson.








