Cym
erodd disgyblion blwyddyn 11 Ysgol Gyfun Bryn Tawe rhan yng nghyfarfod model y Cenhedloedd Unedig (trefnwyd gan CEWC) ar ddydd Mercher, 18fed o Dachwedd yng nghanolfan ddinesig yn Abertawe. Gwnaeth y disgyblion fwynhau’r profiad yn fawr, a braf oedd gweld eu brwdfrydedd wrth drafod materion rhyngwladol yn ddeallus ac yn aeddfed.
Roedd y diwrnod yn brofiad gwerthfawr iawn wrth i’r disgyblion gwella eu hymwybyddiaeth o ddinasyddiaeth, a thrafod sut mae newid hinsawdd yn effeithio ein byd. Bwriad y cyfarfod oedd codi ymwybyddiaeth cynhesu fyd-eang cyn i arweinyddion gwledydd y byd gyfarfod yn Copenhagen ym mis Ragfyr. Buodd y criw yn brysur yn trafod effaith newid yn yr hinsawdd ar wledydd Brasil, Tseina, Norwy a’r ynys fechan, Twfalw. Rhaid canmol ymdrechion Nia Griffiths (Brasil), Nathan Levy (Norwy), Toni Mihailidis (Tsieina) a Llŷr Thomas (Twfalw) am eu hareithiau hyderus wrth gynrychioli eu gwledydd. Braf oedd clywed ymateb positif y cyfieithwraig am safbwynt yr ysgol i gyfathrebu drwy’r Gymraeg yng nghyfarfod drwy gyfrwng y Saesneg.

Braf hefyd yw nodi cyfraniad egnïol a brwd Nia Webb ac Aled Meredith wrth gynrychioli Brasil, Evan John ac Adam Lloyd wrth gyfrannu at gyflwyniad Norwy, yn wir achosodd Evan dipyn o gynnwrf wrth feirniadu Rwsia yn hallt! Hefyd rhaid llongyfarch Jonathan Roberts a Vicky Solomon am leisi safbwynt Tsieina ac Amy Green a Ben Roberts am gefnogi cyfraniad Twfalw. Trefnwyd y gweithgaredd a pharatowyd y disgyblion gan Mr Chris Shaw. (erthygl gan Mr Chris Shaw)