skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Croeso

Y newyddion diweddaraf

Llythyr Diwedd Tymor y Pasg 2024

Gweler y llythyr isod gyda gwybodaeth bwysig ar gyfer dychwelyd ar gyfer tymor yr Haf: …darllen mwy

Sesiynau ‘Drop in’ am frechlyn MMR

Gwelir isod neges wrth Bwrdd Iechyd Bae Abertawe Immbulance Community Drop In sessions for MMR …darllen mwy

Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe yn falch o gymryd rhan yng nghynllun peilot Gwobr …darllen mwy

Croeso

Pleser yw cyflwyno ein gwefan i chi, mae’r cynnwys yn rhoi cipolwg ar fwrlwm bywyd Ysgol Bryn Tawe. Rwy’n gobeithio y byddwch yn ymweld yn rheolaidd er mwyn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am yr ysgol a’r holl hanes o lwyddiant rydym yn falch o ddathlu a rhannu.

Sefydlwyd Bryn Tawe yn y flwyddyn 2003 gyda 95 o ddisgyblion. Ers hynny, bu twf yr ysgol yn syfrdanol gyda’n disgyblion cyntaf bellach wedi sefydlu o fewn byd gwaith ac addysg bellach ac uwch. Mewn cyfnod byr mae’r ysgol wedi ennill ei phlwyf fel ysgol lwyddiannus yn academaidd, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol. Mae ein canlyniadau TGAU a Safon Uwch yn destun balchder ac yn gyson ymhlith y canlyniadau gorau yn lleol ac yn genedlaethol. Cadarnhawyd safonau cyrhaeddiad uchel ein disgyblion yn ogystal â safonau ein haddysgu a dysgu yn ystod ein harolwg diweddar gan Estyn yn 2019.

Mae Bryn Tawe yn ysgol glos a chyfeillgar lle y darperir ystod eang iawn o gyfleoedd allgyrsiol. Rydym am i’n disgyblion dyfu i fod yn ddinasyddion cyfrifol ac uchelgeisiol, sy’n oddefgar ac yn dangos parch a charedigrwydd tuag at eraill.

Rydym yn ymfalchïo yn adnoddau ac adeiladau’r ysgol, ac mae ein buddsoddiad sylweddol fel ysgol yn flynyddol yn fodd o ddarparu adnoddau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer ein disgyblion.

“Ennill llwyr yw ennill iaith”, dyma arwyddair Bryn Tawe, ac mae’n ein hatgoffa bod gan ein disgyblion ddimensiwn ychwanegol i’w bywyd, sef eu bod yn medru cyfathrebu mewn dwy iaith yn gwbl rugl. Mae bod yn ddwyieithog yn agor drysau i ddiwylliant cyfoethog yn y ddwy iaith, ac yn ehangu cyfleoedd ein disgyblion yn y farchnad waith.

Braint yw medru darparu addysg o’r safon uchaf ar gyfer ein disgyblion, a hynny mewn ystod eang o gyrsiau academaidd a galwedigaethol. Ymfalchïwn yn y gefnogaeth bersonol a gaiff pob disgybl fel aelod o deulu Bryn Tawe.

Beth bynnag yw’ch cysylltiad â Bryn Tawe, croeso cynnes i’n gwefan, ac os ydych am drafod unrhyw agwedd o waith yr ysgol, neu os ydych yn dymuno ymweld â ni, rhowch ganiad i fi!

Simon Davies
Pennaeth