skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Cwricwlwm

Mae’r Cwricwlwm yng Nghymru yn newid ac felly mae’r cwricwlwm ym Mryn Tawe yn newid hefyd!

Canllaw i'r Cwricwlwm newydd i Gymru

Blwyddyn 7 ac 8

Mae cwricwlwm newydd a chyffrous blwyddyn 7 ac 8 wedi ei gynllunio gan ystyried y dysgu blaenorol yn ein hysgolion partner. Mae’r cwricwlwm diddorol hwn yn edrych ar sut i gysylltu’r dysgu. Yn ogystal â dysgu sgiliau llythrennedd a rhifedd a chymhwysedd digidol, mae yna ffocws mawr ar ddatblygu sgiliau cyfannol pob dysgwr megis sgiliau datrys problem, meddwl yn feirniadol ac effeithiolrwydd personol. Caiff dysgwyr y wybodaeth, sgiliau a’r profiadau sydd angen er mwyn eu paratoi i fod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes,
  • cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a’r byd,
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Mae yna chwe maes dysgu a phrofiad. Efallai nad dyna fydd enwau’r gwersi ar yr amserlen, ond fe fydd gan bopeth y bydd dysgwyr yn ei ddysgu cysylltiad â’r meysydd hyn:

  1. Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  2. Mathemateg a Rhifedd
  3. Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  4. Y Dyniaethau
  5. Iechyd a Lles
  6. Y Celfyddydau Mynegiannol.

Blwyddyn 9

Mae cwricwlwm blwyddyn 9 wedi ei gynllunio’n ofalus gan ystyried dysgu blaenorol a’r angen i baratoi ar gyfer arholiadau Cyfnod Allweddol 4. Bydd disgyblion yn dilyn amserlen sy’n eu galluogi i brofi disgyblaethau unigol er mwyn mireinio ar y sgiliau angenrheidiol i ymgymryd â’r ddisgyblaeth ar lefel TGAU. Bydd pob disgyblaeth yn parhau i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol pob disgybl. Yn ogystal, darperir cyfleoedd i ddysgu mewn ffyrdd creadigol, i ddatblygu medrau annibynnol a chydweithio gyda chyfoedion mewn gwersi.

Cyfnod Allweddol 4

Astudir y pynciau craidd gan bob disgybl - Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, yn ogystal â phynciau statudol - Addysg Gorfforol, Addysg Grefyddol ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Rydym hefyd yn darparu 3 phwnc dewisol i bob disgybl, allan o ystod eang o bynciau academaidd a galwedigaethol sydd yn diwallu diddordebau disgyblion o bob gallu. Er mwyn cyfoethogi medrau bywyd go iawn ein disgyblion mae pob disgybl hefyd yn astudio’r Tystysgrif Her Sgiliau. Rydym wedi datblygu partneriaethau cryfion gyda darparwyr lleol addysg ôl 14 er mwyn creu dilyniant a llwybr dysgu perthnasol o Gyfnod Allweddol 4 i mewn i Gyfnod Allweddol 5 - sef ein Chweched Dosbarth. Gweler llyfryn opsiynau CA4 ar gyfer cwricwlwm dewisol yr ysgol.

Cyfnod Allweddol 5

Rydym wedi sefydlu partneriaeth gref gydag Ysgol Gyfun Gŵyr er mwyn creu Partneriaeth ôl 16 Bryn Tawe - Gŵyr. Y bartneriaeth yw prif ddarparwr addysg ôl 16 cyfrwng Cymraeg o fewn Dinas a Sir Abertawe. Er mwyn cael manylion llawn o’r ddarpariaeth yn y Chweched Dosbarth, gwelir Prosbectws y Chweched.