skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Covid-19

TREFNIADAU’R CLO BYR

Fel y gwyddoch, mi fydd disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8 yn mynychu’r ysgol fel arfer ar ôl hanner tymor. Ni fydd disgyblion o flynyddoedd 9-13eg yn mynychu’r wythnos o’r 2-6ed o Dachwedd, ond byddwn yn parhau i ddarparu gwersi i’r disgyblion yma yn ddigidol. Mae manylion llawn yn y llythyr yma

 

Holiadur Cyfnod Hunan-ynysu

Cais caredig i rieni disgyblion blwyddyn 8 i lenwi’r holiadur yma yn gwerthuso profiadau dysgu eich plant yn ystod y cyfnod hunan-ynysu. Diolch am eich cydweithrediad.

https://bit.ly/holiadurbl8

DIWEDDARIAD BWS 632B

Diolch am eich amynedd cyn ein bod yn gallu rhannu’r wybodaeth gywir gyda chi am achos positif i un o yrwyr Cymru Coaches sydd yn darparu cludiant i lwybr bws y 632B. Gweler y llythyron isod gyda gwybodaeth berthnasol i bob rhiant.

Llythyr i rieni – Bws 632B 081020

Rhieni disgyblion ‘sydd yn gyswllt’ i achos positif (Bws 632B yn unig) 071020

Rhieni disgyblion sydd ‘ddim yn gyswllt’ i achos positif Bws 632B 081020

DIWEDDARIAD 07/10/20

CROESAWI BLWYDDYN 8 YN ÔL:

Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at groesawi flwyddyn 8 yn ôl i’r ysgol ddydd Gwener yma. Braf yw gallu nodi’r bod dros 85% o’n disgyblion wedi cyfranogi yn eu gwersi (brafiach byddai gallu nodi bod 100% wedi cyfranogi!). Hyderwn fod y disgyblion yma wedi elwa o’r profiadau dysgu rydym wedi darparu iddynt dros y bythefnos ddiwethaf, er y gwyddom ni fyddant cystal â phrofiadau byw mewn ystafelloedd gyda’u hathrawon. Byddwn yn danfon holiadur yn ystod y diwrnodau nesaf at ein disgyblion a’n rhieni fel y gallwch gynnig adborth ar sut i ddatblygu a gwella’r ddarpariaeth yma ymhellach. Gwiriwch negeseuon destun a SMHW am fanylion.

FFREUTUR YN AIL AGOR:

Rydym hefyd yn edrych ymlaen at ail agor y ffreutur yn yr ysgol ddydd Gwener yma, y 09/10/20. Bydd disgyblion felly yn gallu prynu prydiau cynnes neu oer unwaith eto fel y dymunant.

6ed DOSBARTH – DOD A’CH DYFAIS EICH HUN:

Rydym yn darparu adnoddau digidol i’n disgyblion eu defnyddio ar gyfer eu gwaith neu i gyfranogi mewn gwersi ffrydio gydag ysgol Gwyr. Fel y gwyddoch, rydym yn caniatâi i ddisgyblion ddod a’u teclynnau digidol eu hunain gyda hwy i’r ysgol gan sicrhau fod ganddyn nhw fynediad at y we. Fe all hwn fod yn ddefnyddiol os yw eich plentyn yn dymuno gwneud. Cysylltwch gyda Mrs Nerys Vaughan: VaughanN9@hwbymru.net am fanylion pellach?

GWYBODAETH AM NOSON FUGEILIOL BL.7

Gweler y llythyr isod yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer trefniadau cysylltu gyda rhieni yn hytrach na chynnal noson rieni bugeiliol i flwyddyn 7 eleni:

Llythyr Noson Fugeiliol Bl 7 2020

DYSGU CYFUNOL I FLWYDDYN 8 28/09 – 08/10/20

Gwybodaeth bwysig i rieni blwyddyn 8 am ein cynlluniau dysgu cyfunol i’ch plentyn tra’n hunan ynysu tan yr 8fed o Hydref. Cysylltwch i drafod os oes angen?

Llythyr rieni bl.8 – dysgu cyfunol 280920

 

NEGES BWYSIG I RIENI 7, 9, 10, 11, 12 A 13eg

Gweler y llythyr yma gyda gwybodaeth bwysig i rieni  7, 9, 10, 11, 12 a 13eg:

Rhieni disgyblion sydd ‘ddim yn gyswllt’ i achos positif 270920

NEGES BWYSIG I RIENI BLWYDDYN 8

Gweler y llythyr PWYSIG yma i rieni bl.8 yn unig:

Rhieni disgyblion sydd yn gyswllt i achos positif (Bl.8) 270920

LLYTHYR GAN GYFARWYDDWR ADDYSG DROD DRO ABERTAWE

Gweler y llythyr isod gyda negeseuon pwysig i ddisgyblion a rhieni:

Llythyr gan y Cyfarwyddwr Dros Dro_25 Medi 2020

GWYBODAETH PWYSIG I RIENI

Gweler y llythyr isod yn esbonio’r sefyllfa yn dilyn achos positif o Cofid yn yr ysgol. Mae pawb sydd yn ‘gyswllt’ wedi eu hysbysu yn barod  gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu i hunan ynysu. Bydd yr ysgol ar agor i bob blwyddyn fel arfer ddydd Llun.

Llythyr i rieni disgyblion sydd ddim yn gyswllt