skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Covid-19

AMSERLEN GWAITH CARTREF

Bydd newid i’r amserlen gosod gwaith yn digwydd pan fyddwn yn ail agor ar y 29/06/20. Ni fydd gwaith yn cael ei osod yr wythnos hon wrth i ni baratoi i ddychwelyd, ond gofynnwn i ddisgyblion sicrhau eu bod yn cwblhau’r gwaith cafodd ei osod wythnos ddiwethaf (15-19/06/20) erbyn y diwrnod cyntaf y byddwch yn dychwelyd i’r ysgol.

Os nad ydych yn bwriadu dychwelyd tan fis Medi, byddwn ni’n dal i osod gwaith yn wythnosol. Bydd y gwaith newydd yn cael ei osod ar y diwrnod y mae eich blwyddyn chi yn mynychu ysgol o’r 29/06/20 tan ddiwedd y tymor. Byddwn yn eich cynorthwyo, yn yr ysgol neu o bell, i drefnu eich amser i gwblhau’r gwaith.

Mae croeso hefyd i chi gwblhau unrhyw dasgau eraill, nad ydych wedi llwyddo i’w cwblhau cyn nawr, dim ond eich bod yn hyderus i wneud hynny.

Rydym yn mynd i osod tasg Cymreictod i chi ar gyfer yr wythnos – mae’n bwysig eich bod yn ceisio cwblhau’r dasg.

GWARCHOD ARGYFWNG RHWNG Y 29/06/20 A DIWEDD Y TYMOR

At sylw ein rhieni:

Fel y gwyddoch, byddwn yn parhau i gynnig gwarchod argyfwng rhwng y 29/06/20 a diwedd y tymor. Mae rhai newidiadau pwysig mae angen i chi ystyried – a wnewch chi ddarllen y llythyr yma am fanylion llawn o’r newidiadau yma, cyn cwblhau’r holiadur isod.

Holiadur gwarchod argyfwng rhwng 29/06/20 – diwedd y tymor.

Ffurflen manylion personol

Fersiwn ‘word’ o’r ffurflen manylion personol

TREFNIADAU AIL AGOR

Fel y gwyddoch, byddwn yn ailagor i ddisgyblion ar y 29ain o Fehefin. Mae angen i rieni ddarllen y ddogfennaeth isod cyn mynd ati i gwblhau’r holiadur dychwelyd isod:

Gweler y llythyr yma am fanylion dychwelyd i’ch plentyn.

Gweler y trefniadau dyddiol ymarferol yma.

Wedi darllen y ddogfennaeth uchod, mae angen i BOB riant lenwi’r holiadur ail agor yma erbyn 12:00 ar ddydd Iau 18/06/20 fan bellaf.

ADBORTH HOLIADUR DYSGU O BELL I RIENI

Diolch i bob un ohonoch wnaeth gwblhau ein holiadur ysgol diweddar ar y ddarpariaeth dysgu o bell. Rydym wedi dadansoddi eich atebion ac yn awyddus i barhau i wella ein darpariaeth o ddysgu cyfunol. Braf oedd gweld bod 86% o’n rieni yn hapus gyda’r ddarpariaeth yma hyd yn hyn o holiadur diweddar yr Awdurdod Lleol i rieni .

Gweler ein cynlluniau yn y cyflwyniad isod ar sut rydym yn mynd i ymateb i rhai o’ch awgrymiadau. Cofiwch i gysylltu gyda ni os oes  adborth pellach gennych?

Adborth i rieni ar ein cynlluniau dysgu o bell

Ein bwriad yw i ail gysylltu gyda ein rieni ar ddiwedd y tymor er mwyn canfod eich barn eto am y ddarpariaeth ac yna mireinio a gwella ymhellach wrth i ni baratoi ar gyfer mis Medi.

Bydd gwybodaeth llawn am ein cynllun ail agor yn eich cyrraedd ddydd Llun – cadwch lygaid ar ein safwe.

AIL AGOR AR Y 29ain o FEHEFIN

Fel y gwyddoch yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog Addysg a Sgiliau ddydd Mercher, mae’n fwriad i ni ail agor i ddisgyblion ar y 29ain o Fehefin. Bydd pob disgybl yn cael y cyfle i fynychu er mwyn dod i’r ysgol i gwrdd â’u hathrawon a rhai o’u cyd-ddisgyblion, i ddal i fyny ac i barhau i ddysgu ac i baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

Yn naturiol, mae’n gyfnod pryderus ac ansicr i bob un ohonom. Fel y gallwch ddychmygu, mi fydd profiad ysgol eich plant yn wahanol yn ystod y cyfnod digynsail yma, ond ga i’ch sicrhau y byddwn yn blaenoriaethu iechyd a diogelwch eich plant a staff yr ysgol.

Rydym wrthi yn paratoi yn drylwyr ac yn cynllunio’n ofalus fel y gall ein disgyblion ddychwelyd i amgylchedd diogel a chroesawgar.

Byddwn yn cysylltu gyda chi dros yr wythnosau nesaf gyda manylion pendant a chlir ar gyfer ail agor Bryn Tawe. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiwn, yna cysylltwch gyda ni yn yr ysgol neu drwy ein e-bost arferol.

Yn dilyn y cyhoeddiad, mae Mr Nick Williams, Cyfarwyddwr Addysg Dinas a Sir Abertawe wedi ysgrifennu at holl rieni’r awdurdod – gweler ei lythyr yma.

A fyddai modd i bob rhiant lenwi’r holiadur isod gan yr Awdurdod Lleol erbyn y 10fed o Fehefin, fan pellaf? Bydd hwn yn allweddol yn ein cefnogi wrth gynllunio i ail agor.

HOLIADUR RHIENI ALl ABERTAWE (Cymraeg)

CYSGLIAD – MEDDALWEDD IAITH GYMRAEG

Disgyblion a Rieni – gweler y cyswllt yma ar gyfer lawrlwytho meddalwedd newydd, sydd yn rhad ac am ddim, er mwyn gallu cyfieithu a chywiro iaith. Mae’n hynod ddefnyddiol i rieni di-Gymraeg er mwyn eu helpu i gefnogi eu plant gyda dysgu o bell a mwy.

DECHRAU CYRSIAU TGAU Bl.9

Mae bl. 9 yn dechrau ar y gwaith o baratoi ar gyfer eu cyrsiau TGAU o’r 1af o Fehefin. Bydd bl.9 felly yn dilyn amserlen gosod gwaith CA4, yn y pynciau craidd a fesul colofn dewis.

Mae dosbarthiadau newydd yn SMHW ar gyfer y disgyblion ac hefyd mae dosbarthiadau ‘Teams’ wedi eu creu i bob dosbarth allgraidd.

Gweler yr amserlen a’r colofnau opsiwn isod: 

Gweler yr amserlen ddiweddaraf yma

Gweler golofnau opsiwn bl.9 yma

Bydd y disgyblion yn aros yn yr un dosbarthiadau yn y pynciau craidd.

GWISG YSGOL NEWYDD

Gweler diweddariad o’r llythyr yma â gwybodaeth am y newid i’n gwisg ysgol newydd. 

PONTIO BLWYDDYN 6

Disgyblion a Rieni blwyddyn 6 – gwelwch y llythyr yma gyda diweddariad am ein rhaglen bontio eleni. Gallwch weld ein polisi gwisg newydd yma.

Byddwn yn cysylltu gyda chi eto yn fuan ar ôl hanner tymor gyda rhagor o wybodaeth a gweithgareddau pontio ar eich cyfer. Plîs gwiriwch ein safwe a @bryntawe ar trydar yn gyson am wybodaeth – byddwn hefyd yn rhannu gyda’n ysgolion cynradd partner.

Hwyl am y tro a mwynhewch hanner tymor!  

COLOFNAU OPSWIN BL. 12 2020-21

Rydym wedi creu ein colofnau opsiwn ar gyfer disgyblion blwyddyn 12 2020-21. Maent wedi eu selio ar ddewisiadau y disgyblion sydd yn bwriadu dychwelyd i astudio yn ein 6ed Dosbarth mewn partneriaeth gydag Ysgol Gyfun Gŵyr. Gweler y colofnau yma.  

Gweler gwybodaeth ategol i esbonio proses gosod colofnau a dewis opsiynau yma.