skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Covid-19

DYSGU O BELL DROS HANNER TYMOR

Gweler y llythyr yma am fanylion pellach am ein disgwyliadau ar gyfer dysgu o bell dros hanner tymor.

LLYTHYR GAN GYFARWYDDWR ADDYSG ABERTAWE

Gweler lythyr at ein rieni gan Mr Nick Williams, Cyfarwyddwr Addysg Dinas a Sir Abertawe: Llythyr at rieni 120520

DIWEDDARIAD GAN Y PENNAETH

Gweler y llythyr mwyaf diweddar yma: Llythyr 110520

DIWEDDARIAD TAITH CANADA

Gweler fanylion yn y llythyr: Llythyr Taith Canada Mai 2020

CWBLHAU OPSIYNAU TERFYNOL BL.9

Yn dilyn casglu manylion am opsiynau disgyblion blwyddyn 9, rydym bellach wedi cwblhau’r colofnau ar sail dewisiadau ein disgyblion. Mae angen nawr i bob disgybl ym mlwyddyn 9 gwblhau’r ffurflen opsiynau derfynol gyda’r dewisiadau perthnasol erbyn dydd Llun 11eg o Fai.

Er mwyn cwblhau’r daflen bydd angen bod disgyblion yn mewngofnodi i’w cyfrif Hwb. Yn dilyn mewngofnodi, cliciwch yma er mwyn ei gwblhau: https://bit.ly/OpsTerfynolbl9-FinalYr9Options

Diolch.

DYSGU O BELL – CYNGOR A CHEFNOGAETH PELLACH

Diolch i bob un o’n rieni sydd wrthi yn brysur yn cefnogi ein disgyblion i allu barhau i ddysgu, o dan amodau heriol tu hwnt. Rydym ni i gyd yn dysgu beth sydd yn gweithio a ddim yn gweithio, (yn gyflym iawn!) o’r profiad yma.  Gweler rhai adnoddau isod a allai fod o gymorth i chi a’ch plant:

Rydym wedi cynhyrchu cyfres o ‘gwestiynau cyffredin’ y mae rhieni wedi cysylltu gyda ni i’w gofyn. Rydym wedi cynnig datrysiadau neu esboniadau pellach: Cwestiynau cyffredin – rhieni

Dyma fideo yn cynnig cyfarwyddiadau i ddefnyddio Teams (bydd mwy o ffilmiau i ddilyn): https://youtu.be/9mHy5OqBFfg   

Er mwyn cefnogi gyda rheolaeth amser, ers y Pasg, mae amserlen gosod gwaith yn ei le – gweler yma: Amserlen cyhoeddi gwaith CA3 & CA4 

Dyma gyngor defnyddiol iawn i ddisgyblion a rieni ar ddysgu o bell: Cyngor Dysgu o bell

Os ydych yn cael trafferth yn lawrlwytho Microsoft Office 365, gweler y llythyr yma: Llythyr Office 365 Rhieni

Cysylltwch gyda athro pwnc eich plentyn os yw eich plentyn yn cael trafferth gyda darnau o waith penodol – gweler rhestr e-byst y staff i gyd yma: E-byst staff 2019-2020

Mae’r wybodaeth yma eisoes wedi ei lan-lwytho i SMHW.

CYNGOR GYRFAU YN FYW AR LEIN

Mae Gyrfau Cymru yn cynnig i ddisgyblion gysylltu er mwyn cyfranogi mewn ‘sgyrsiau byw ar lein’ i drafod opsiynau gyrfau ar eu cyfer. Gweler y poster yma am fanylion: Sgwrsio’n fyw gyda ni

Diweddariad gan y Pennaeth

Gweler y llythyr am ddiweddariad pellach: Llythyr 200421

CEFNOGAETH LLES A IECHYD MEDDWL I’N POBL IFANC

Mae’r ‘Exchange’ sydd yn rhedeg y wasanaeth gownsela yn yr ysgol yn parhau i ddarparu cefnogaeth i bobl ifanc yn ystod y cyfnod yma. Gwiriwch y poster yma am fanylion o sut i gysylltu â nhw.

Yn ogystal, mae yna lu o asiantaethau a gwefannau yn cynniog strategaethau, syniadau a chefnogaeth i bobl ifanc gyda gwella’u lles, cefnogi gyda iechyd meddwl a syniadau gyda gweithgareddau addysgiadol. Gwirich rhai o’r cysylltiadau isod:

Llywodraeth y DU: https://bit.ly/WellbeingSuport

Hafan Cymru: https://bit.ly/HafanCymruActivities

Iechyd Cyhoeddus Cymru: Health and Wellbeing home activities for Families Swansea Bay

OFFICE 365 AR GAEL I BAWB!

Mae pob disgybl bellach yn gallu gosod pecyn llawn Microsoft office 365 gartref drwy lwyfan HWB. Gall ddisgyblion lawr lwytho Office 365 ProPlus ar hyd at 5 dyfais bersonol gan
gynnwys PCs, Macs a dyfeisiadau symudol. Mae’r meddalwedd yn galluogi disgyblion i ddefnyddio’r fersiynau llawn o Microsoft Word, Excel, PowerPoint a mwy heb unrhyw gost. Am wybodaeth pellach ar sut i wneud hwn, gwiriwch y llythyr yma: Llythyr Office 365 Rhieni