Newyddion
Calendr Adfent Nwyddau
Mae’r prif swyddogion am redeg calendr adfent nwyddau drwy mis Rhagfyr ar gyfer banciau bwyd Penlan a Gellifedw. Gallwch ddilyn ein calendr ni (gweler cyfrif y chweched ar instagram a’r wefan am fanylion) neu ddod ag unrhyw nwyddau i mewn amser cofrestru. Bydd aelodau’r chweched yn casglu’r nwyddau bob dydd. Diolch am ein cefnogi.
27/11/2023, Lynwen Matthews
LLYTHYR DIWEDD HANNER TYMOR
Gweler y llythyr isod gyda newyddion am yr hanner tymor:
Llythyr hanner tymor Hydref 2023
27/10/2023, Simon Davies
Gwisg Anffurfiol
Ar ddydd Gwener, 27 Hydref, fydd hawl gan y disgyblion i wisgo gwisg anffurfiol am gyfraniad o £1 (50c os oes brawd neu chwaer yn yr ysgol) er mwyn cefnogi’r elusen, ‘Maggie’s Cancer Care’. Mae’r apel yn agos iawn i gymuned yr ysgol a braf byddai gweld disgyblion yn cefnogi’r achos. Bydd bore coffi hefyd gyda’r arian a godwyd yn mynd at yr achos yma, felly anogwch eich plentyn i ddod ag arian ychwanegol ar gyfer y gweithgaredd yma. Diolch o flaenllaw.
26/10/2023, Lynwen Matthews
Rhieni – a yw eich plentyn yn ddiogel ar y we?
Dyma negeseuon e-ddiogelwch Dinas a Sir Abertawe.
4/10/2023, Emma Howells
Neges bwysig i Rieni / Gwarcheidwaid
TREFNIADAU TRAFFIG AR Y SAFLE:
Diolch yn fawr iawn am gydweithrediad bron pob rhiant yn ein hymgyrch i sicrhau bod ein trefniadau gollwng a chasglu disgyblion o’r ysgol yn rhai diogel. Hoffwn dynnu eich sylw unwaith eto at y llythyr a rannwyd ar ddydd Llun 11.09.23 yn amlinellu’r trefniadau yma yn llawn: Cludiant disgyblion pob bore a phrynhawn 23-24
Hoffwn hefyd dynnu sylw nifer fach o rieni at ddau bwynt allweddol o’r trefniadau isod fel y gallwn gydweithio er lles diogelwch pob disgybl:
- Gofynnwn i rieni / gwarcheidwaid a holl ddefnyddwyr y safle i lynu at y disgwyliad o beidio â gyrru’n gyflymach na 10 m.y.a. ar safle’r ysgol (gan gynnwys yr heol i fyny at yr ysgol oddi ar Heol Gwyrosydd) ar bob adeg.
- Gofynnwn i bob rhiant ymatal rhag parcio ar y brif lon i’r ysgol, cyn y rhwystr. Mae symudiadau traffig (ceir yn symud yn ôl ac yn troi) yn yr ardal hon yn peri risg uwch i ddiogelwch ein disgyblion, wrth i lawer groesi’r lon wrth iddynt gerdded adref.
Diolch unwaith eto am gydweithrediad pob rhiant yn yr ymgyrch i sicrhau diogelwch pob disgybl wrth gyrraedd a gadael yr ysgol.
STREIC NASUWT: Dydd Mawrth 19.09.23 a Dydd Mercher 20.09.23:
Hoffwn eich hysbysu ni fydd unrhyw darfu i weithrediad yr ysgol yn unol â bwriad undeb NASUWT i weithredu’n ddiwydiannol ar y dyddiau uchod. Bydd yr ysgol ar agor i bob disgybl fel arfer.
Diolch
15/09/2023, Simon Davies