Newyddion
Amserlen Adolygu Arholiadau haf
Cliciwch isod i weld amserlen arholiadau/adolygu yr Haf.
Amserlen adolygu Arholiadau Haf 2018
11/05/2018, Lynwen Matthews
Profion Dosbarth Blwyddyn 7 ac 8
Cliciwch isod i weld amserlen Profion Dosbarth .
9/05/2018, Lynwen Matthews
Penblwydd Hapus Shakespeare!
Gweler rhai o aelodau staff a disgyblion Bryn Tawe yn trafod eu hoff dyfyniadau Shakespeare fel rhan o ddathliadau wythnos Shakespeare eleni!
30/04/2018, Lynwen Matthews
Gwybodaeth i Rieni
Cliciwch isod am ganllawiau adolygu i ddisgyblion a rhieni
ANELU AM Y GORAU – canllaw adolygu
24/04/2018, Lynwen Matthews
Profion Cenedlaethol
Mae copiau o cyn-bapurau profion cenedlaethol a chynlluniau marcio i helpu eich plentyn paratoi am y Profion Cenedlaethol i’w gael ar y linc isod. Bydd paratoadau yn digwydd yn ystod y gwersi hefyd.
20/04/2018, Lynwen Matthews
Llwyddiant CogUrdd
Llongyfarchiadau i Ella Mai Davies o Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe am ddod yn gyntaf yn rownd ranbarthol o gystadleuaeth CogURDD. Pob Lwc iddi yn y rownd genedlaethol yn Llanelwedd! Diolch i Kate Jenkins o Gower Cottage Brownies am feirniadu.
20/04/2018, Lynwen Matthews
Gweithdai diweddar!
Diolch yn fawr i Aneirin Karadog am sesiwn defnyddiol tu hwnt ym mis Mawrth ar rai o gerddi’r cwrs Safon Uwch a diolch i Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe am drefnu!
Ysgrifennu penillion a cherddi am Gymru oedd y dasg a roddwyd i fl.8 wrth iddynt fwynhau gwers yng nghwmni Aneirin Karadog. Cafodd pob dosbarth ym mlwyddyn 8 un sesiwn gyda’r bard yn ymateb i’r testun “Beth yw’r ots gennyf fi am Gymru?”. Cyfansoddwyd cerddi gwreiddiol iawn!
Cafodd criw o fechgyn bl.9 gyfle i fynychu gweithdy gyda Sioned Dafydd ym mis Mawrth. Rhannodd Sioned ychydig o’i phrofiad fel sylwebydd chwaraeon i S4/C ac fe aeth y bechgyn ati i ysgrfiennu adolygiadau o gemau rygbi a phel-droed.
18/04/2018, Lynwen Matthews