skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Newyddion

Sesiynau dal i fyny Frechiad Ffliw

Fe fydd sesiynau dal i fyny am frechiad ffliw dros yr hanner tymor i’r disgyblion a wnaeth golli’r cyfle yn yr ysgol. Ni fydd angen apwyntiad.

Lleoliad – Longlands Lane playing fields, Margam, SA13 2NR

Amser – 10yb – 4yp

Cysylltwch gyda 01639 862801 os oes ymholiadau pellach.

LLYTHYR GAN Y PENNAETH

Diolch am eich cefnogaeth barhaus dros yr hanner tymor cyntaf. Gweler y llythyr isod gyda gwybodaeth pwysig ar gyfer yr hanner tymor nesaf:

Llythyr Rieni 221021

 

LLYTHYR GAN Y PENNAETH

Gweler y llythyr pwysig isod:

Llythyr i rieni – 111021

Gwybodaeth Frechiad ffliw

Fe fydd bl7 – 11 yn derbyn brechiad y ffliw drwy chwistrell trwyn wythnos nesaf (4/10/2021).  Cofiwch ddychwelyd eich ffurflenni caniatad.

Patient Leaflet Flu nasal spray

AROLYGWYR ARHOLIADAU

Rydym yn awyddus i benodi Arolygwyr Arholiad i ymuno â’n tîm frwdfrydig, i’n cynorthwyo i oruchwylio disgyblion yn ystod arholiadau Tachwedd 2021 ac yn ystod tymor yr haf 2022.

Rydym yn chwilio am unigolion hyblyg sydd ar gael i weithio ar sail achlysurol o gwmpas amserlen arholiadau mewnol ac allannol yr ysgol. Bydd yr oriau yn amrywio ac yn ddibyniadwy ar yr amserlen arholiadau. Nid oes angen profiad blaenorol ond hoffwn eich bod yn gallu gweithio’n unigol ac fel rhan o dîm; yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol, gyda sgiliau trefnu da, a’r gallu i ddilyn gyfarwyddiadau i’n helpu i gynnal rheoliadau’r byrddau arholi.

Fe fydd yn ofynnol i bob ymgeisydd i gael cliriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Cyflog: Graddfa 1 £9.25 yr awr / rhan amser

Am ragor o wybodaeth, neu os hoffech wneud cais,cysylltwch â Swyddfa’r Ysgol ar 01792560600

GWYBODAETH AM FRECHLYN COFID I BLANT 12-15

Gweler y wybodaeth isod gan Lywodraeth Cymru am frechiad Cofid i blant 12-15 mwydd oed:

Brechiad COVID-19 ar gyfer plant 12-15 mlwydd oed – taflen wybodaeth

Cwestiynau cyffredin ar gyfer Brechiad Cofid i blant 12-15 mwydd oed

Noson Fugeiliol Blwyddyn 12

Llythyr trefniadau Noson Fugeiliol i rieni a digyblion Blwyddyn 12