skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Newyddion

SYMUD I LEFEL RISG UCHEL

Yn dilyn cyhoeddiad gan Iechyd Cyhoeddus Bae Abertawe i symud ysgolion i lefel risg uchel yn unol â’r fframwaith penderfyniadau i ysgolion, gweler y llythyr isod yn amlinellu’r wybodaeth angenrheidiol:

Llythyr Rieni 150921

Yn ogystal, gweler y llythyr isod gan Gyfarwyddwr Addysg Abertawe:

14 Medi 2021 Llythyr i rieni a gwarcheidiaid TERFYNOL

Gweler y wybodaeth isod ar gyfer Profion Llif Unffurf:

Llythyr i Rieni 170321 – Profon Llif Unffurf v2 

Canllawiau gweithredu PLlU

RHIENI BLWYDDYN 7

Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at groesawi disgyblion blwyddyn 7 newydd i Fryn Tawe ddydd Gwener yma! Gweler y llythyr isod yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer dechrau’r tymor:

Llythyr Rieni – dechrau tymor 310821

Os oes unrhyw gwestiwn pellach gennych, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni.

 

TREFNIADAU DECHRAU’R TYMOR

Gweler y llythyr isod yn amlinellu ein trefniadau ail ddechrau o’r 2ail o Fedi:

Llythyr Rieni – dechrau tymor 310821

CANLYNIADAU TGAU

AT SYLW DISGYBLION BL. 11eg, A’U RIENI:

Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu llwyddiannau ein disgyblion ym mlwyddyn 11eg heddiw gan fydd canlyniadau TGAU yn cael eu dosbarthu ar fore Iau y 12fed o Awst. Bydd yr ysgol ar agor i ddisgyblion gasglu eu canlyniadau o 08:30 tan 12:00. Os oes unrhyw broblem neu gwestiwn gennych, cysylltwch gyda Mrs Rhian Davies, Swyddog Arholiadau’r ysgol, drwy e-bost: DaviesR390@hwbcymru.net

Dymuniadau gorau i chi gyd!

CANLYNIADAU SAFON UWCH AC UG

AT SYLW DISGYBLION BL. 12 a 13eg, A’U RIENI:

Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu llwyddiannau ein disgyblion yn y 6ed yfory gan fydd canlyniadau ar gyfer Safon Uwch ac UG yn cael eu dosbarthu ar fore Mawrth y 10fed o Awst. Bydd yr ysgol ar agor i ddisgyblion gasglu eu canlyniadau o 08:30 tan 12:00. Os oes unrhyw broblem neu gwestiwn gennych, cysylltwch gyda Mrs Rhian Davies, Swyddog Arholiadau’r ysgol, drwy e-bost: DaviesR390@hwbcymru.net

Dymuniadau gorau i chi gyd!

Llwyddiannau Diweddar

Llongyfarchiadau mawr i Cameron Jenkins am ddod yn ail yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Dafydd Rowlands eleni ac i Elisha Davies am ddod yn drydydd! Estynnwn ein llongyfarchiadau i Anest Williams o Ysgol Gŵyr a oedd yn fuddugol eleni. Diolch yn fawr i Mr John Evans am feirniadaeth gynhwysfawr a chanmoliaethus. Mae ein diolch yn fawr hefyd i’r pwyllgor am ddarparu’r cyfle unwaith eto eleni i’n pobl ifanc ac am drefnu seremoni wobrwyo rithiol hyfryd.

Paratôdd criw o fl.10 fideo ar y thema ‘Heddwch’ ar gyfer cystadleuaeth Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru https://youtu.be/UvNgAd1lpL0, ac fe gyflwynon ni ein fideo Neges Heddwch ac Ewyllys Da i gategori arall. Mewn un fideo, soniodd ein disgyblion am eu hawydd i gael byd lle mae pawb yn dangos cariad, yn parchu ei gilydd, lle mae cyfle cyfartal i bawb a heddwch ar draws y byd. Cawsom dair gwobr gyntaf am ein fideos a braf oedd cael ymuno mewn seremoni wobrwyo rithiol o Langollen. Gellir gweld fideos o ymateb ein disgyblion i’r newyddion da ar gyfrif trydar yr adran.

 

LLYTHYR DIWEDD TYMOR

Gweler y llythyr ‘diwedd tymor’ i rieni isod, sydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth bwysig am drefniadau ail agor ym mis Medi:

Llythyr Rieni diwedd haf 2021 120721

Cofiwch bydd yr ysgol ar agor ar gyfer diwrnodau canlyniadau eleni am 08:30:

Edrychwn ymlaen yn fawr i ddathlu gyda’n disgyblion!