skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Newyddion

Pigiadau Blwyddyn 9

Fe fydd sesiwn dal i fyny ar yr 14eg o Orffennaf i’r disgyblion a wnaeth colli pigiadau ym mis Mehefin.

Cliciwch isod i ddarllen gwybodaeth ar y brechiad.

pil.leaflet.dtp 2021

pil.leaflet.menacwy 2021

 

Gweithgareddau bl12

Gwelir amserlen gweithgareddau i flwyddyn 12 o’r 5ed i’r 14eg o Orffennaf.

Amserlen 5-14/7/21

 

Llongyfarchiadau i Cameron, Caitlin a Thea!

Llongyfarchiadau mawr i dri o fl13, sef Cameron Jenkins, Caitlin Thomas a Thea Wood, sydd wedi ennill ysgoloriaethau partneriaeth Prifysgol Aberystwyth. Mae Cameron yn mynd i astudio Cymraeg, Caitlin yn mynd i astudio Hanes a Thea yn mynd i astudio Amaethyddiaeth a  Gwyddor Anifeiliaid.

 

Gwahoddiad i Gofrestru ar gyfer cyrsiau Chweched Bryn Tawe

Byddwn yn croesawi disgyblion blwyddyn 11 i’r ysgol ar brynhawn ddydd Mawrth a dydd Mercher 6-7 o Orffennaf. Bydd hyn yn gyfle i chi gwrdd â Thim Chweched, Mr Ben Davies a Miss Catrin Lyall, i gofrestru ar gyfer eich pynciau ac i ofyn am gyngor os nad ydych yn sicr o’ch opsiynau.

Oherwydd cyfyngiadau Cofid, nid oes modd cynnal cyfarfod ar gyfer y flwyddyn gyfan.

Trefniadau:

Dydd Mawrth 6ed o Orffennaf am 13.30 yn y Neuadd Fawr: myfyrwyr dosbarthiadau 11T, 11A ac 11W

Dydd Mercher 7fed o Orffennad am 13.30 yn y Neuadd Fawr: myfyrwyr dosbarthiadau 11E ac 11B

Os nad yw’n bosib dod ar y dyddiad sydd wedi pennu, plis cysylltwch gyda Mr Carwyn Jenkins i drafod ymhellach.

 

Oes modd cwblhau’r Ffurflen Cofrestru gyda’ch manylion er mwyn cofrestru ar gyfer y prynhawn.

Edrychwn ymlaen i weld chi.

Tîm Chweched Bryn Tawe

LLYTHYR GAN GYFARWYDDWR ADDYSG ABERTAWE – DIWEDDARIAD COFID

Llythyr pwysig i rieni a disgyblion oddiwrth Mrs Helen Morgan-Rees, Cyfarwyddwr Addysg Abertawe:

23 06 21 Llythyr i rieni a gwarcheidiaid 

 

Graddau GBG dros dro

Gobeithio bod pawb wedi derbyn yr e-bost gyda graddau GBG dros dro. Nodyn i atgoffa disgyblion ni fydd graddau y cymwysterau canlynol yn cael eu cyhoeddi tan diwrnod canlyniadau Awst 10fed(Bl. 12-13) ac Awst 12fed (Bl. 11) oherwydd canllawiau OFQUAL.

CA4 (Bl.11): TGAU, BTEC a Dyfarniad L1/2

Arlwyo, Adeiladu, Busnes Adwerthu, Chwaraeon, Electroneg, Gwasanaethau Cyhoeddus, Mathemateg Ychwanegol, Twristiaeth.

CA5 (Bl.12-13): Uwch Gyfrannol ac Uwch, BTEC, Tystysgrif L3, Cambridge Technical

Busnes, Chwaraeon, Electroneg, Gwasnaethau Cyhoeddus, Peiriaenneg, TGCh, Twristiaeth

 

Mynd i’r Brifysgol yn 2022?

Cliciwch isod am wybodaeth ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg a manteision addysg bellach drwy’r Gymraeg

Ysgoloriaethau 2022

Taflen i Rhieni