Newyddion
DIWEDDARIAD DYSGU O BELL
Diolch am eich ymateb i’r holiadur diweddar – braf nodi i ni dderbyn dros fil o ymatebion rhwng ein disgyblion, rhieni a staff. Yn dilyn yr ymatebion yma, rydym wedi edrych ar themâu cyson ble gallwn addasu a mireinio ein model bresennol, er lles ein disgyblion a’r staff. Gweler y manylion yn y llythyr isod:
Llythyr rhieni 260121 – Dysgu o Bell
26/01/2021, Simon Davies
NOSON AGORED RITHIOL Y 6ED – 27/01/21
Neges i rieni blwyddyn 11:
Gweler y llythyr isod gyda manylion am ein noson agored rithiol ar gyfer 6ed Bryn Tawe a Gŵyr, nos Fercher nesaf, y 27/01/21 am 6y.h.:
Llythyr noson agored ol-16 270121
Edrychwn ymlaen at eich cwmni ar y 27ain.
21/01/2021, Simon Davies
ADNODDAU DYSGU CYFRWNG CYMRAEG DEFNYDDIOL
Gweler y cysylltiadau isod ar gyfer gwefanau sydd yn darparu adnoddau defnyddiol i gefnogi a hybu dysgu disgyblion:
Blynyddoedd 7-9:
Nifer o bynciau – https://www.bbc.co.uk/bitesize/levels/zh6vr82
Fideos mewn pynciau amrywiol – https://www.youtube.com/channel/UCs8SM2ju1ZUyPwmxleZ2t_w/videos
Y Cliciadur – ymarferion llythrennedd (darllen a deall) – yma ; Archif y Cliciadur – https://www.cynnal.co.uk/cliciadur/archif.php
Hwb – cliciwch yma
TGAU:
Pynciau amrywiol – https://www.bbc.co.uk/bitesize/levels/z8w76sg
Y Bac – https://www.bbc.co.uk/bitesize/levels/z9wtgdm
Hwb – cliciwch yma
U / UG:
Pynciau amrywiol – cliciwch yma
20/01/2021, Simon Davies
DYSGU O BELL – LLYTHYR GAN Y PENNAETH
Gweler y llythyr isod gyda diweddariad am ein darpariaeth dysgu o bell:
Cwblhewch yr holiadur i rieni yma
Cysylltwch gyda Mrs Nerys Vaughan – VaughanN9@hwbcymru.net i drefnu benthyg cliniadur.
15/01/2021, Simon Davies
DIWEDDARIAD AM GAU YSGOLION I DDISGYBLION A DYSGU O BELL
Neges bwysig i ddisgyblion a rhieni / gwarcheidwaid:
Mae’n bosib eich bod bellach yn ymwybodol o’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg y bore ‘ma y bydd ysgolion yn aros ar gau i ddisgyblion tan o leiaf y 29ain o Ionawr, neu hyd at hanner tymor Chwefror os nad yw lefelau lledaenu’r firws yn lleihau yn ddigonol. Gweler y negeseuon isod:
Covid: Online learning in Wales to continue as schools stay shut – BBC News
https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/55580487
Yn sgìl hyn, mae Cymwysterau Cymru bellach wedi cyhoeddi y byddant yn canslo’r ffenestr asesiadau mewnol oedd wedi’u cynllunio i ddigwydd rhwng yr 22ain o Chwefror a’r 23ain o Ebrill. Gweler eu safwe am y neges:
Byddwn yn parhau i gynnig gwasanaeth gwarchod argyfwng (dolen yma) a hefyd i gefnogi rhai disgyblion yn yr ysgol. Ein ffocws ni fydd parhau i ddysgu, drwy ddarparu gwersi o bell a gwaith ar lein, fel yr arfer bellach, a chefnogi lles ein disgyblion. Byddaf yn rhannu fwy o wybodaeth gyda chi maes o law, ond os oes unrhyw gwestiwn, neu gonsyrn gennych, plîs cysylltwch â ni i drafod, neu e-bostiwch: SwyddfaBrynTawe5@hwbcymru.net
8/01/2021, Simon Davies
LLYTHYR DECHRAU TYMOR Y GWANWYN
Gweler y llythyr isod gan y Pennaeth am drefniadau dysgu o bell ar ddechrau’r tymor:
Gweler y llythyr isod gan Gyfarwyddwr Addysg Dros Dro Abertawe:
05 01 21 Llythyr i rieni a gwarcheidiaid V1.1 ALl
Gweler y datganiad isod gan y Gweinidog Addysg:
Datganiad Ysgrifenedig: Trefniadau dychwelyd i’r ysgol a’r coleg (4 Ionawr 2021) | LLYW.CYMRU
5/01/2021, Simon Davies
DIWEDDARIAD I DDYCHWELYD AR DDECHRAU TYMOR Y GWANWYN
Gweler y neges isod gan Gyfarwyddwr Addysg Dros Dro Abertawe am y sefyllfa ddiweddaraf o ddychwelyd i’r ysgol ar gyfer Tymor y Gwanwyn.
Diweddariad ar Sefyllfa Dychwelyd i Ddysgu Wyneb i Wyneb Ysgolion Abertawe
Mi fydd holl ysgolion Abertawe yn anelu i ddychwelyd at ddysgu wyneb i wyneb o ddydd Llun Ionawr 11 yn hytrach nag Ionawr 6. Bydd oedi ar y dychweliad i ddysgu wyneb i wyneb er mwyn ystyried gwybodaeth ddiweddar, a ddisgwylir wythnos nesaf, ar Covid-19, gan gynnwys yr amrywiad newydd. Darperir dysgu ar lein gan ysgolion o ddydd Mercher Ionawr 6 a darperir gofal plant fesul ysgol i ddisgyblion bregus, os oes angen, yn ogystal â gofal plant i blant gweithwyr allweddol, os yn hanfodol, o ddydd Mercher Ionawr 6 ymlaen. Bydd y sefyllfa’n cael ei adolygu ar Ionawr 6.
—————————————————————————————————————————————-
Felly, ni fydd disgyblion yn dychwelyd ar y 6ed a byddwn yn eich hysbysu fel rhieni am ein trefniadau dychwelyd o’r 11eg o Ionawr, cyn gynted ag y gallwn wythnos nesaf.
Roedd presenoldeb ein disgyblion yn eu gwersi ‘ar lein’ yn galonogol iawn cyn y gwyliau a byddwn yn ail ddechrau gyda’r gwersi yma ar fore ddydd Mercher y 6ed o Ionawr i bob disgybl.
Bydd gwasanaeth blwyddyn i bob disgybl ar ddydd Mercher am 08:40 a disgwylir i bob disgybl fod yn bresennol. Fel y gwyddoch erbyn nawr, bydd y disgyblion yn dilyn eu hamserlen arferol, gyda gwersi byw, cymaint â fydd yn bosib.
Byddwn yn parhau i wahodd rhai disgyblion i mewn dydd Mercher i gefnogi eu lles a byddwn yn darparu gwarchod argyfwng i ddisgyblion (blynyddoedd 7 ac 8) gweithwyr allweddol – cwblhewch yr holiadur yma.
2/01/2021, Simon Davies