Newyddion
TREFNIADAU’R CLO BYR
Fel y gwyddoch, mi fydd disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8 yn mynychu’r ysgol fel arfer ar ôl hanner tymor. Ni fydd disgyblion o flynyddoedd 9-13eg yn mynychu’r wythnos o’r 2-6ed o Dachwedd, ond byddwn yn parhau i ddarparu gwersi i’r disgyblion yma yn ddigidol. Mae manylion llawn yn y llythyr yma
21/10/2020, Simon Davies
Newyddion Adran y Gymraeg Bryn Tawe
Dathlwyd diwrnod coffa T.Llew Jones yn ôl ein harfer, gyda disgyblion o flwyddyn 12 yn recordio gwasanaeth o flaen llaw i ddisgyblion yr ysgol yn rhoi ei hanes. Hefyd, rhoddwyd y cyfle i flwyddyn 7 gwblhau tasg gwaith cartref amdano. Rhannwyd cynnyrch blwyddyn 7 ar drydar yr ysgol a gellir gweld y gwaith ar y linc yma. https://sway.office.com/FaUyHVpzm44cBmCS?ref=Link
Cafodd holl ddisgyblion bl.7 i 10 bleser yn gwylio Miss Clarke ar y rhaglen ‘Am dro’ ar S4/C. Aeth pawb ati’n frwd i ysgrifennu adolygiadau o’r rhaglen a gellir gweld rhai enghreifftiau yma. Mae’n amlwg fod nifer o’r disgyblion yn teimlo y dylai Miss Clarke fod wedi ennill! https://sway.office.com/AAuAUay1dZWVf0dp?ref=Link
Er mwyn dathlu Diwrnod Shwdmae Sut’mae paratowyd fideo i gynorthwyo rhieni a ffrindiau’r ysgol i ddysgu Cymraeg. Ffilmiwyd pob dosbarth yn eu tro yn dysgu llinell o Gymraeg. Dyma gyfle i chi weld y ffilm: https://youtu.be/_3nK4IV7sEE
Cafodd bl.12 gyfle i gael sgwrs gyda Mererid Hopwood yn rhithiol yn ddiweddar. Soniodd Mererid am Waldo gan fod y disgyblion newydd ddechrau astudio un o’i gerddi a thrafodwyd manteision astudio Cymraeg Safon Uwch yn gyffredinol. Fe fyddem fel arfer yn mynd â’n Chweched ar daith o gwmpas Cymru yr adeg yma o’r flwyddyn gan fwynhau sgwrs wyneb yn wyneb â Mererid, ond yn sicr, roedd y sgwrs rhithiol yn damaid i aros pryd rywbryd eto gobeithio.
16/10/2020, AAM
Holiadur Cyfnod Hunan-ynysu
Cais caredig i rieni disgyblion blwyddyn 8 i lenwi’r holiadur yma yn gwerthuso profiadau dysgu eich plant yn ystod y cyfnod hunan-ynysu. Diolch am eich cydweithrediad.
https://bit.ly/holiadurbl8
15/10/2020, Chris Shaw
CEFNOGAETH GYDA GWAITH CARTREF
Gweler adnodd defnyddiol i gefnogi’ch plentyn gyda chwblhau eu gwaith cartref. Os ydych am drafodaeth bellach, cysylltwch gyda ni yn yr ysgol.
12/10/2020, Simon Davies
DIWEDDARIAD BWS 632B
Diolch am eich amynedd cyn ein bod yn gallu rhannu’r wybodaeth gywir gyda chi am achos positif i un o yrwyr Cymru Coaches sydd yn darparu cludiant i lwybr bws y 632B. Gweler y llythyron isod gyda gwybodaeth berthnasol i bob rhiant.
Llythyr i rieni – Bws 632B 081020
Rhieni disgyblion ‘sydd yn gyswllt’ i achos positif (Bws 632B yn unig) 071020
Rhieni disgyblion sydd ‘ddim yn gyswllt’ i achos positif Bws 632B 081020
8/10/2020, Simon Davies
DIWEDDARIAD 07/10/20
CROESAWI BLWYDDYN 8 YN ÔL:
Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at groesawi flwyddyn 8 yn ôl i’r ysgol ddydd Gwener yma. Braf yw gallu nodi’r bod dros 85% o’n disgyblion wedi cyfranogi yn eu gwersi (brafiach byddai gallu nodi bod 100% wedi cyfranogi!). Hyderwn fod y disgyblion yma wedi elwa o’r profiadau dysgu rydym wedi darparu iddynt dros y bythefnos ddiwethaf, er y gwyddom ni fyddant cystal â phrofiadau byw mewn ystafelloedd gyda’u hathrawon. Byddwn yn danfon holiadur yn ystod y diwrnodau nesaf at ein disgyblion a’n rhieni fel y gallwch gynnig adborth ar sut i ddatblygu a gwella’r ddarpariaeth yma ymhellach. Gwiriwch negeseuon destun a SMHW am fanylion.
FFREUTUR YN AIL AGOR:
Rydym hefyd yn edrych ymlaen at ail agor y ffreutur yn yr ysgol ddydd Gwener yma, y 09/10/20. Bydd disgyblion felly yn gallu prynu prydiau cynnes neu oer unwaith eto fel y dymunant.
6ed DOSBARTH – DOD A’CH DYFAIS EICH HUN:
Rydym yn darparu adnoddau digidol i’n disgyblion eu defnyddio ar gyfer eu gwaith neu i gyfranogi mewn gwersi ffrydio gydag ysgol Gwyr. Fel y gwyddoch, rydym yn caniatâi i ddisgyblion ddod a’u teclynnau digidol eu hunain gyda hwy i’r ysgol gan sicrhau fod ganddyn nhw fynediad at y we. Fe all hwn fod yn ddefnyddiol os yw eich plentyn yn dymuno gwneud. Cysylltwch gyda Mrs Nerys Vaughan: VaughanN9@hwbymru.net am fanylion pellach?
7/10/2020, Simon Davies
GWYBODAETH AM NOSON FUGEILIOL BL.7
Gweler y llythyr isod yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer trefniadau cysylltu gyda rhieni yn hytrach na chynnal noson rieni bugeiliol i flwyddyn 7 eleni:
Llythyr Noson Fugeiliol Bl 7 2020
5/10/2020, Simon Davies