skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Newyddion

LLYTHYR ESBONIO GRADDAU ASESU CANOLFAN TGAU

Gweler y llythyr isod yn esbonio’r broses newydd o gymeradwyo ‘Graddau Asesu Canolfan’ TGAU.

Llythyr GAC Bl.11

Edrychwn ymlaen i’ch gweld yfory.

TREFNIADAU CASGLU CANLYNIADAU TGAU

Gweler y llythyr yma ar gyfer ein trefniadau i ddosbarthu canlyniadau TGAU ar ddydd Iau yr 20fed o Awst.

Trefniadau’r safle ar gyfer Blwyddyn 11eg:

  • Byddwn yn agor y drysau am 08:30.
  • Gweler y tabl isod ar gyfer casglu eich canlyniadau:
Dosbarth Cofrestru Lleoliad i gasglu canlyniadau  

Mynedfa/Allanfa

 

11HP (Mr Pugh)

11RJ (Mrs Jenkins)

11LJM (Miss Miller)

Neuadd Fawr Drysau glas ger mynedfa’r ganolfan hamdden
11LKM (Miss Morgan)

11RhLl (Mr Llwyd)

Neuadd Cilfwnwr

 

 

Mynedfa  – drws wrth y grisiau Gwyrdd

Allanfa – drws wrth y grisiau Coch

PARCIO:

  1. NEUADD FAWR: defnyddiwch yr ardal barcio ‘saethben’ y tu allan i giatiau’r ysgol.
  2. NEUADD CILFWNNWR: defnyddiwch y buarth blaen ar gyfer parcio.
  • Dilynwch yr arwyddion ar gyfer pellter cymdeithasol ar hyd y llawr gwaelod.
  • Ni fydd mwy na 10 disgybl yn gallu bod yn y neuadd ar yr un amser.
  • Bydd angen i rieni aros yn y maes parcio, gan sicrhau eu bod yn cynnal pellter cymdeithasol ar bob adeg.
  • Disgwylir i bob disgybl sydd am wneud cais i ddychwelyd i’r Chweched lenwi ffurflen gofrestru wedi derbyn eu canlyniadau ‘fory.
  • Bydd cyfle i drafod opsiynau’r Chweched, neu unrhyw lwybr dysgu pellach gyda’r staff yr ysgol neu’r swyddog gyrfau. Byddwn yn gweithredu system giwio yn y ddwy neuadd ar gyfer y cyfweliadau yma.

CANLYNIADAU SAFON UWCH AC UG

Newyddion da:

Braf yw rhannu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg brynhawn yma https://llyw.cymru/datganiad-gan-kirsty-williams-y-gweinidog-addysg yn cadarnhau bydd pob disgybl bl. 12 a 13eg nawr yn derbyn  y ‘radd ag aseswyd gan y ganolfan’.

Fel y gwyddoch, gradd asesiad y ganolfan oedd barn broffesiynol yr ysgol o’r radd fwyaf tebygol y byddai myfyriwr wedi’i chael pe bai’r arholiadau wedi mynd ymlaen. Roedd yn seiliedig ar ystyriaeth ofalus o ystod o dystiolaeth gan gynnwys ffug arholiadau, asesiad di-arholiad ac unrhyw gofnod arall o berfformiad myfyrwyr dros y cwrs astudio. Roedd pob pwnc yn ystyried ystod addas o dystiolaeth ar gyfer eu cwrs. Cafodd bob gradd a threfn restrol eu gwirio a’u llofnodi’n fewnol gan ddau athro, eu gwirio gan yr UDA cyn eu cyflwyno i’r byrddau arholi yn derfynol gan y Pennaeth ar gyfer eu dyddiad cau ym mis Mehefin.

Rydym yn aros am wybodaeth pellach o sut y bydd y graddau yn cael eu rhannu’n swyddogol gyda’r disgyblion a chyn gynted y byddwn yn gwybod, byddwn eu rhannu gyda pob un o’n disgyblion drwy e-bost.

Cadwch lygaid ar ein safwe, ein cyfrif Trdyar, ar SMHW ac unrhyw negeseuon destun gyda gwybodaeth pellach.

CASGLU CANLYNIADAU SAFON UWCH AC UG

Gweler y llythyr yma yma ar gyfer ein trefniadau i ddosbarthu canlyniadau safon uwch ac UG ar ddydd Iau 13eg o Awst.

Trefniadau’r safle ar gyfer Blwyddyn 13eg:

  • Byddwn yn agor y drysau am 08:30.
  • Mynedfa – defnyddiwch y drysau wrth y ‘Grisiau Gwyrdd’ i ddod i mewn i’r adeilad ac yna ewch yn syth i neuadd Cilfwnwr i gasglu eich canlyniadau.
  • Allanfa – defnyddiwch y drysau wrth y grisiau Coch wrth adael.
  • Dilynwch yr arwyddion ar gyfer pellter cymdeithasol ar hyd y llawr gwaelod.
  • Ni fydd mwy na 20 disgybl yn gallu bod yn y neuadd ar yr un amser.
  • Bydd angen i rieni aros yn y maes parcio, gan sicrhau eu bod yn cynnal pellter cymdeithasol ar bob adeg.

Dymuniadau gorau i bob un o’n disgyblion!

 

NEGES GAN Y CYFARWYDDWR ADDYSG

Gweler y llythyron yma:

Llythyr Diwedd ‘Tymor_Disgyblion

Llythyr Diwedd ‘Tymor_Staff a Rhieni

TREFNIADAU DIWRNODAU CANLYNIADAU

Canlyniadau Safon Uwch:

Bydd canlyniadau blwyddyn 13eg a 12eg yn cael eu dosbarthu ar ddydd Iau y 13eg o Awst. Gweler y llythyr yma am fanylion.

Canlyniadau TGAU:

Bydd canlyniadau blwyddyn 11eg yn cael eu dosbarthu ar ddydd Iau yr 20fed o Awst. Gweler y llythyr yma am fanylion.

TREFNIADAU DYCHWELYD YM MIS MEDI

Gweler y llythyr yma sydd yn amlinellu ein trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion yn ôl i Fryn Tawe ym mis Medi.

Byddwn yn cysylltu â rieni unwaith eto ar ddiwedd mis Awst gyda threfniadau pellach. Hefyd, bydd llythyr yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer casglu canlyniadau i ddilyn yfory.

Diolch i’n rieni a’n disgyblion am eich cefnogaeth yn ystod y flwyddyn ac yn enwedig yn ystod y cyfnod ers i ni gau ym mis Mawrth – hoffwn ddymuno haf hapus i bob un ohonoch!