skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Newyddion

DIWEDD Y TYMOR I FLWYDDYN 10

Neges i atgoffa rhieni disgyblion bl. 10 nad oes ysgol yfory oherwydd rydym yn cynnal diwrnod pontio i ddisgyblion bl.6. Hoffwn ddiolch i’r disgyblion am eu ymdrechion a’u hagwedd ardderchog dros y dair wythnos ddiwethaf – mwynhewch y gwyliau dros yr haf!

Bydd manylion ail ddechrau mis Medi yn dilyn yng nghanol yr wythnos.

LLYTHYR DIWEDDARAF CYFARWYDDWR ADDYSG ABERTAWE

Gweler y llythyr yma gan Mr Nick Williams yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog Addysg wythnos diwethaf.

AIL AGOR – TREFNIADAU TERFYNOL

Gweler y llythyr yma yn amlinellu’r trefniadau terfynol ar gyfer ail agor ar ddydd Llun y 29/06/20.

Bydd rhaid i BOB RIANT lenwi’r cytundeb Iechyd a Diogelwch yma cyn fydd eich plentyn yn gallu mynychu.

Gweler y trefniadau ymarferol yma .

Gweler amserlen bras ail agor yma.

CYFNOD AILAGOR O 3 WYTHNOS YN ABERTAWE

Fe benderfynwyd y bydd ysgolion Abertawe ar agor am 3 wythnos, yn hytrach na’r 4 a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg ar ddechrau’r mis yma. Gweler y llythyr yma gan Mr Nick Williams, Cyfarwyddwr Addysg Abertawe yn esbonio’r newid yma.

Byddwn yn ysgrifennu atoch fory gyda manylion pellach am ein trefniadau.

HOLIADUR AIL AGOR A GWARCHOD ARGYFWNG

HOLIADUR AIL AGOR:

Gan nad oes rhai rhieni wedi llwyddo i lenwi’r holiadur ail agor wythnos diwethaf, rydym wedi ail agor yr holiadur heddiw. Byddwn yn ei gau am 12:00 ddydd Mawrth 23/06/20. Mae hyn er mwyn rhoi amser i ni baratoi ein grwpiau dysgu a’n ystafelloedd yn gywir ar gyfer agor wythnos nesaf.

Mae angen i rieni ddarllen y ddogfennaeth isod cyn mynd ati i gwblhau’r holiadur dychwelyd:

Gweler y llythyr yma am fanylion dychwelyd i’ch plentyn.

Gweler y trefniadau dyddiol ymarferol yma.

Wedi darllen y ddogfennaeth uchod, mae angen i BOB RIANT, SYDD DDIM WEDI, lenwi’r holiadur ail agor yma erbyn 12:00 ar ddydd Mawrth 23/06/20.

GWARCHOD ARGYFWNG:

Fel y gwyddoch, byddwn yn parhau i gynnig gwarchod argyfwng rhwng y 29/06/20 a diwedd y tymor. Mae rhai newidiadau pwysig mae angen i chi ystyried – a wnewch chi ddarllen y llythyr yma am fanylion llawn o’r newidiadau yma, cyn cwblhau’r holiadur isod.

Holiadur gwarchod argyfwng rhwng 29/06/20 – diwedd y tymor.

Ffurflen manylion personol

AMSERLEN GWAITH CARTREF

Bydd newid i’r amserlen gosod gwaith yn digwydd pan fyddwn yn ail agor ar y 29/06/20. Ni fydd gwaith yn cael ei osod yr wythnos hon wrth i ni baratoi i ddychwelyd, ond gofynnwn i ddisgyblion sicrhau eu bod yn cwblhau’r gwaith cafodd ei osod wythnos ddiwethaf (15-19/06/20) erbyn y diwrnod cyntaf y byddwch yn dychwelyd i’r ysgol.

Os nad ydych yn bwriadu dychwelyd tan fis Medi, byddwn ni’n dal i osod gwaith yn wythnosol. Bydd y gwaith newydd yn cael ei osod ar y diwrnod y mae eich blwyddyn chi yn mynychu ysgol o’r 29/06/20 tan ddiwedd y tymor. Byddwn yn eich cynorthwyo, yn yr ysgol neu o bell, i drefnu eich amser i gwblhau’r gwaith.

Mae croeso hefyd i chi gwblhau unrhyw dasgau eraill, nad ydych wedi llwyddo i’w cwblhau cyn nawr, dim ond eich bod yn hyderus i wneud hynny.

Rydym yn mynd i osod tasg Cymreictod i chi ar gyfer yr wythnos – mae’n bwysig eich bod yn ceisio cwblhau’r dasg.

GWARCHOD ARGYFWNG RHWNG Y 29/06/20 A DIWEDD Y TYMOR

At sylw ein rhieni:

Fel y gwyddoch, byddwn yn parhau i gynnig gwarchod argyfwng rhwng y 29/06/20 a diwedd y tymor. Mae rhai newidiadau pwysig mae angen i chi ystyried – a wnewch chi ddarllen y llythyr yma am fanylion llawn o’r newidiadau yma, cyn cwblhau’r holiadur isod.

Holiadur gwarchod argyfwng rhwng 29/06/20 – diwedd y tymor.

Ffurflen manylion personol

Fersiwn ‘word’ o’r ffurflen manylion personol