Newyddion
Newyddion diweddar Adran y Gymraeg
Llongyfarchiadau i dîm Siarad Cyhoeddus yr ysgol am ennill eu lle ar raglen “Y Ddadl Fawr” ar Radio Cymru. Cyflwynydd y rhaglen yw Garry Owen. Cystadlodd yr ysgol yn erbyn Ysgol y Preseli a’r beirniaid oedd Sian Lloyd, Dr Elin Jones a Gwyn Williams. Cyhoeddwyd ar ddiwedd y rhaglen mai Bryn Tawe oedd yn fuddugol ac felly’n mynd ymlaen i’r rownd nesaf. Da iawn Caitlyn, Steffan a Nansi!
Cafodd criw o ddisgyblion blwyddyn 9, 11 a’r Chweched y fraint o weld y ddrama Llyfr Glas Nebo yn Theatr Pontardawe ym mis Chwefror. Profiad arbennig!
5/03/2020, Lynwen Matthews
Diweddariad Coronafeirws i Rhieni
Annwyl Riant/Warcheidwad
Fel y gwyddoch, cafwyd cadarnhad o achos o coronafeirws yn Abertawe, yn dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mae pob un o’n hysgolion yn agored fel arfer.
Gan fod y risg wirioneddol yn isel nid oes angen cymryd unrhyw fesurau ychwanegol uwchlaw’r cyngor a ddarparwyd eisoes gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, ewch i https://phw.nhs.wales/topics/latest-information-on-novel-coronavirus-covid-19/.
2/03/2020, Lynwen Matthews
Eisteddfod yr Ysgol
Mae Eisteddfod yr Ysgol yn un o uchafbwyntiau’r calendr Ysgol. Yn ein Ysgol mae yna 4 llys – Hopcyn, Crwys, Gomer a Gwyrosydd. Dros y dyddiau diwethaf aeth disgyblion y llysiedd ati’n ddiwyd I ymarfer a mireinio’u perfformiadau ar gyfer yr Eisteddfod. Y cystadlaethau oedd, can iaith dramor, stori a sain, sgets a dehongliad o gerdd. Can y cor eleni oedd Yma o Hyd yn dilyn llwyddiant y gan yn siartiau Apple yn ddiweddar. Y llys buddugol eleni oedd Llys Crwys. Llongyfarchiadau iddy nhw!
27/02/2020, Lynwen Matthews
Dydd Miwsig Cymru
Roedd dydd Gwener y 7fed o Chwefror yn ddiwrnod arbennig! Fel rhan o ddathliadau Dydd Miwsig Cymru, gwahoddwyd criw o ddisgyblion o Ysgol Gyfun Gwyr i gael awr o ddisgo a chyfle fwynhau cerddoriaeth Gymraeg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe. Roedd disagyblion blwyddyn 8 wrth eu boddau yn dawnsio a chymdeithasu tra’n gwrando ar y gerddoriaeth. Diolch yn fawr i’r ddwy DJ – Nansi a Caitlin o fl 13 Bryn Tawe – am gyflwyno’r disgyblion i gerddoriaeth fodern Gymraeg. Edrychwn ymlaen at flwyddyn nesaf!
27/02/2020, Lynwen Matthews
Dadlau dros Shakespeare
Llongyfarchiadau enfawr i’r tîm siarad cyhoeddus o chweched dosbarth yr ysgol am ennill rownd ranbarthol cystadleuaeth siarad gyhoeddus ‘Youth Speaks’ y Rotari yn Ysgol Gellifedw ac am gipio’r ail wobr yn y rownd derfynol yn Ysgol Islwyn, ger Casnewydd ar yr 8fed Chwefror. Rhaid canmol perfformiadau holl aelodau’r tîm, gyda Caitlyn, Steffan a Nansi’n cyflwyno’r dadleuon dros y datganiad ‘Cred y tŷ hwn ddylai astudio Shakespeare fod yn statudol yn yr ysgol’. Bu’r gystadleuaeth yma’n ffarwel ar ôl sawl blwyddyn o lwyddiant i’r disgyblion yn y maes siarad cyhoeddus a dymunwn yn dda iawn i’r tri ohonom i’r dyfodol. Hyfforddwyd y tîm gan Mr Chris Shaw, pennaeth yr adran Saesneg.
11/02/2020, Lynwen Matthews
POTEL AILDDEFNYDDIO BRYN TAWE
Cyfarwyddiadau glanhau/gofalu amdanynt
- Mae’r botel hon ar gyfer diodydd oer yn unig.
- Golchwch y botel yn rheolaidd gyda dŵr cynnes a sebon.
- Peidiwch â rhoi’r botel yn y peiriant golchi llestri na’r meicrodon.
- Peidiwch â defnyddio cannydd neu gynnyrch glanhau sy’n cynnwys clorin ar y botel.
- Peidiwch â phlygu ceg y botel yn ormodol.
- Sicrhewch fod ceg y botel wedi ei gosod yn iawn ar ôl ei defnyddio er mwyn osgoi dŵr yn gollwng ohoni.
- Peidiwch â thynhau’r caead yn ormodol.
30/01/2020, Lynwen Matthews