Newyddion
Taith Bontio Safon Uwch
Aeth criw o ddisgyblion sy’n astudio Cymraeg Safon Uwch ar daith gyda chriw o fl.11 sy’n ystyried astudio’r Gymraeg y flwyddyn nesaf i Aberystwyth am noson yn ystod mis Tachwedd. Gadawyd yr ysgol amser te ac wedi setlo yn llety’r Brifysgol ar gampws Aberystwyth, anelwyd am fwyty Byrgyr am y Prom am wledd a noson o gystadlaethau ysgafn- yn dasgau llenyddol a heriau hwyl eraill. Wedi brecwast yn y Byncws yn Aberystwyth, cafwyd sesiwn am gynghanedd yng nghwmni Eurig Salisbury, yna sesiwn gan Bleddyn Owen Huws am Dafydd ap Gwilym. Wedi hynny, croesawyd tri atom i roi gair o brofiad o ran cyflogadwyedd- am y modd y mae Cymraeg Safon Uwch a/ neu radd yn y Gymraeg wedi bod o fudd iddynt. Lefi Gruffudd oedd yr ymwelydd cyntaf o Wasg y Lolfa, yna Sulwen Richards sy’n gweithio i Adran Farchnata’r Brifysgol, a Miriam Glyn sy’n gyfieithydd i Lywodraeth Cymru. Cyn cinio, galwodd tair cyn-ddisgybl i mewn i sôn am eu profiad hwythau o astudio’r Gymraeg. Wedi cinio blasus yng Nghanolfan y Celfyddydau, aethon ni i’r “Drwm” yn y Llyfrgell Genedlaethol i fwynhau sesiwn gyda Peredur Lynch am yr Hengerdd ac yna sgwrs gyda Caryl Lewis ar ddiwedd y dydd. Ar y ffordd nol i’r ysgol amser te dydd Sadwrn, galwyd ger cofeb Tryweryn am lun o’r criw cyfan. Cwrs Pontio Safon Uwch llwyddiannus a fydd gobeithio yn ysbrydoli rhai o fl.11 i astudio’r cwrs y flwyddyn nesaf.
17/12/2019, Lynwen Matthews
Buddugoliaeth i’r Tîm Siarad Cyhoeddus
Llongyfarchiadau i dîm Siarad Cyhoeddus Cymraeg yr ysgol ar ennill Cystadleuaeth Genedlaethol y Rotari yn y Rownd Derfynol ym Mae Caerdydd. Testun y tim oedd “Mae dyddiau gwell i ddod i Gymru”. Caitlyn White oedd y Cadeirydd ac enillodd hi yr ail wobr am gadeirydd gorau’r gystadleuaeth. Steffan Leonard oedd y cynigydd a chafodd ef yr ail wobr am gynigydd gorau’r gystadleuaeth, a Nansi Eccott oedd y gwrthwynebydd a hithau’n ennill y drydedd wobr am y gwrthwynebydd gorau. Llongyfarchiadau mawr i’r tîm am gyrraedd y safle buddugol am y tro cyntaf yn hanes yr ysgol! Braf oedd dathlu gyda thaith Safon Uwch i Aberystwyth a chael lluniau gyda’r darian ar y Prom yn Aberystwyth ac wrth gofeb “Cofiwch Dryweryn” yn Llanrhystud.
17/12/2019, Lynwen Matthews
Diwrnod Shwmae ym Mryn Tawe
Fel rhan o ddathliadau Diwrnod Shwmae, trefnodd criw o ddisgyblion gyfres o gemau i ddysgu rhieni a ffrindiau’r ysgol i siarad Cymraeg. Cawsom gêm bingo i ddysgu enwau bwydydd, gêm domino i ddysgu am y tywydd a phynciau’r ysgol, gêm “Dyfalwch pwy?” a gêm y corff. Profwyd cynnydd pawb ar ddiwedd y wers gyda chwis kahoot! Diolch i’r disgyblion am y noson o fwynhau!
16/10/2019, Lynwen Matthews
Diwrnod T. Llew Jones
Yn ôl ein harfer, dathlwyd Diwrnod T.Llew Jones gyda’r Chweched yn cyflwyno gwasanaeth i flynyddoedd 7 i 9, a chwblhaodd bl.7 Helfa Drysor am fywyd a gwaith T.Llew Jones yn eu gwersi Cymraeg.
16/10/2019, Lynwen Matthews
Cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus
Eleni eto cynhaliwyd Cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus (cyfrwng Cymraeg) yn yr ysgol i’r disgyblion hŷn o flynyddoedd 9-13. Ddydd Gwener, Hydref 11eg, cymrodd pedwar o dimau ran gyda phynciau’r areithiau’n amrywiol a chyfredol e.e. dyfodol Cymru, hawliau merched a chynhesu byd eang! Diolch i bob un ohonynt am eu gwaith caled yn paratoi at y gystadleuaeth. Edrychwn ymlaen at gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus y Rotari nawr pan fydd Caitlyn, Steffan a Nansi yn cynrychioli Bryn Tawe. Ymlaen â’r dadlau!
15/10/2019, Lynwen Matthews