Newyddion
Neges bwysig i Rieni / Gwarcheidwaid
TREFNIADAU TRAFFIG AR Y SAFLE:
Diolch yn fawr iawn am gydweithrediad bron pob rhiant yn ein hymgyrch i sicrhau bod ein trefniadau gollwng a chasglu disgyblion o’r ysgol yn rhai diogel. Hoffwn dynnu eich sylw unwaith eto at y llythyr a rannwyd ar ddydd Llun 11.09.23 yn amlinellu’r trefniadau yma yn llawn: Cludiant disgyblion pob bore a phrynhawn 23-24
Hoffwn hefyd dynnu sylw nifer fach o rieni at ddau bwynt allweddol o’r trefniadau isod fel y gallwn gydweithio er lles diogelwch pob disgybl:
- Gofynnwn i rieni / gwarcheidwaid a holl ddefnyddwyr y safle i lynu at y disgwyliad o beidio â gyrru’n gyflymach na 10 m.y.a. ar safle’r ysgol (gan gynnwys yr heol i fyny at yr ysgol oddi ar Heol Gwyrosydd) ar bob adeg.
- Gofynnwn i bob rhiant ymatal rhag parcio ar y brif lon i’r ysgol, cyn y rhwystr. Mae symudiadau traffig (ceir yn symud yn ôl ac yn troi) yn yr ardal hon yn peri risg uwch i ddiogelwch ein disgyblion, wrth i lawer groesi’r lon wrth iddynt gerdded adref.
Diolch unwaith eto am gydweithrediad pob rhiant yn yr ymgyrch i sicrhau diogelwch pob disgybl wrth gyrraedd a gadael yr ysgol.
STREIC NASUWT: Dydd Mawrth 19.09.23 a Dydd Mercher 20.09.23:
Hoffwn eich hysbysu ni fydd unrhyw darfu i weithrediad yr ysgol yn unol â bwriad undeb NASUWT i weithredu’n ddiwydiannol ar y dyddiau uchod. Bydd yr ysgol ar agor i bob disgybl fel arfer.
Diolch
15/09/2023, Simon Davies
Trefniadau gollwng a chasglu disgyblion 2023-24
Hoffwn eich atgoffa am ein trefniadau ar gyfer gollwng a chasglu eich plentyn o’r ysgol er mwyn sirchau diogelwch ein disgyblion. Gweler y llythyr isod yn amlinellu’r trefniadau pwysig yma:
Trefniadau gollwng a chasglu eich plentyn 23-24
11/09/2023, Simon Davies
Gwybodaeth dechrau tymor pwysig – Medi 2023
CROESO ‘NOL:
Mae wedi bod yn wythnos cyntaf gwych wrth groesawi eich plentyn yn ôl i’r ysgol yr wythnos hon! Hoffwn rannu peth gwybodaeth allweddol gyda’n rhieni i gyd ar gyfer y flwyddyn i ddod:
Gwybodaeth dechrau tymor Medi ’23
STREIC NASUWT:
Ni fydd y gweithredu diwydiannol gan undeb NASUWT ar ddydd Mercher y 13eg o Fedi yn effeithio ar ddisgyblion Bryn Tawe. Bydd yr ysgol ar agor fel arfer ddydd Mercher nesaf, y 13.09.23 i BOB disgybl.
Gweler y llythyr isod gan Adran Addysg Dinas a Sir Abertawe: 230908 Llythyr i rieni a gwarcheidwaid
LLUNIAU DECHRAU TYMOR:
Mi fyddwn yn tynnu lluniau unigol yn unig o ddisgyblion blynyddoedd 7, 10 a 12eg yn unig ar ddydd Llun nesaf yr 11eg o Fedi. Pwrpas rhain yw diweddaru’r lluniau ar ein system cadw data. Bydd hefyd yn bosib i rieni brynu lluniau, os ydych yn dymuno gwneud. Bydd pob disgybl yn derbyn gwybodaeth ar ddydd Llun o sut i archebu lluniau personol. Os oes unrhyw gwestiwn gennych, yna cysylltwch gyda ni.
PRISIAU BWTD Y FFREUTUR:
Gobeithio bod pob rhiant / gwarcheidwad wedi llwyddo i gofrestru eich plentyn ar system taliadau bwyd ‘Cunninghams’. Os oes angen cefnogaeth, plîs cysylltwch gyda Mrs Jayne Bowen yn swyddfa’r ysgol, neu drwy: BowenJ129@hwbcymru.net. gweler y rhestr brisiau ar gyfer bwyd y ffreutur isod:
8/09/2023, Simon Davies
Llythyr dechrau’r tymor – Medi 2023
Gweler y llythyr isod gyda manylion ail ddechrau yr wythnos hon:
3/09/2023, Simon Davies
Trefniadau diwedd tymor
Gweler y llythyr isod yn amlinellu trefniadau diwedd y tymor yma a threfniadau ail ddechrau ym mis Medi:
Llythyr diwedd tymor – Haf 2023
18/07/2023, Simon Davies
Gweithredu Diwydiannol NASUWT 13.07.23
Gallwn gadarnhau y bydd aelodau o undeb NASUWT yn gweithredu’n ddiwydiannol ar ddydd Iau’r 13.07.23. Gweler y llythyr isod yn cadarnhau’r trefniadau ar gyfer ein disgyblion ar ddydd Iau:
Llythyr i Rieni – Gweithredu Diwydiannol 130723.docx
10/07/2023, Simon Davies
Siop Lyfrau a Bore Coffi
Fel rhan o ddathliadau Gŵyl Lenyddol, bydd siop lyfrau Tŷ Tawe a siop lyfrau Cover 2 Cover yn gwerthu llyfrau i ddisgyblion yfory (dydd Gwener, 7fed o Orffennaf) yn ystod yr awr ginio. Beth am annog eich plentyn i archebu llyfr er mwyn mwynhau darllen dros yr haf? Mae croeso i rieni flwyddyn 7 ymweld â’r Ŵyl Lenyddol yn ystod yr awr ginio (12:40yp i 1:30yp).
6/07/2023, Lynwen Matthews