skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Newyddion

Rhieni bl 13- Ffug gyfweliadau 23/1/20

Bydd eich mab/merch yn derbyn ffug gyfweliad ar fore 23/1 gan ddarparwyr allanol. Bydd slot amser penodol ar eu cyfer a disgwylir iddynt fod yn y neuadd 5 munud o flaen llaw o leiaf. Bydd yr amserlen yn cael ei rhannu â’r disgyblion maes o law. Disgwylir i bob disgybl fod yn bresennol a rhaid hysbysu Miss Lyall neu Mr B Davies os na allent fod yn bresennol.

Amserlen Asesiadau Gwyddoniaeth

Gwybodaeth Gyrfa Cymru

Mae’r cynghorydd Gyrfaoedd Cymru (Mrs Rhiannon Churchill) yn Ysgol Gyfun Bryntawe ar gael yn yr ysgol ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener. Os oes gan eich mab neu ferch ddiddordeb mewn trafod opsiynau gyrfa, 6ed dosbarth, colegau a phrentisiaethau, peidiwch ag oedi cyn cysylltu isod

Symudol | Mobile: 07890 274819

 E-bost | E-mail: rhiannon.churchill@gyrfacymru.com | rhiannon.churchill@careerswales.com

Gwefan | Website: www.gyrfacymru.com | www.careerswales.com

Arholiadau mewnol blwyddyn 13

Arholiadau mewnol blwyddyn 12

Taith Bontio Safon Uwch

Aeth criw o ddisgyblion sy’n astudio Cymraeg Safon Uwch ar daith gyda chriw o fl.11 sy’n ystyried astudio’r Gymraeg y flwyddyn nesaf i Aberystwyth am noson yn ystod mis Tachwedd. Gadawyd yr ysgol amser te ac wedi setlo yn llety’r Brifysgol ar gampws Aberystwyth, anelwyd am fwyty Byrgyr am y Prom am wledd a noson o gystadlaethau ysgafn- yn dasgau llenyddol a heriau hwyl eraill. Wedi brecwast yn y Byncws yn Aberystwyth, cafwyd sesiwn am gynghanedd yng nghwmni Eurig Salisbury, yna sesiwn gan Bleddyn Owen Huws am Dafydd ap Gwilym. Wedi hynny, croesawyd tri atom i roi gair o brofiad o ran cyflogadwyedd- am y modd y mae Cymraeg Safon Uwch a/ neu radd yn y Gymraeg wedi bod o fudd iddynt. Lefi Gruffudd oedd yr ymwelydd cyntaf o Wasg y Lolfa, yna Sulwen Richards sy’n gweithio i Adran Farchnata’r Brifysgol, a Miriam Glyn sy’n gyfieithydd i Lywodraeth Cymru. Cyn cinio, galwodd tair cyn-ddisgybl i mewn i sôn am eu profiad hwythau o astudio’r Gymraeg. Wedi cinio blasus yng Nghanolfan y Celfyddydau, aethon ni i’r “Drwm” yn y Llyfrgell Genedlaethol i fwynhau sesiwn gyda Peredur Lynch am yr Hengerdd ac yna sgwrs gyda Caryl Lewis ar ddiwedd y dydd. Ar y ffordd nol i’r ysgol amser te dydd Sadwrn, galwyd ger cofeb Tryweryn am lun o’r criw cyfan. Cwrs Pontio Safon Uwch llwyddiannus a fydd gobeithio yn ysbrydoli rhai o fl.11 i astudio’r cwrs y flwyddyn nesaf.

Buddugoliaeth i’r Tîm Siarad Cyhoeddus

Llongyfarchiadau i dîm Siarad Cyhoeddus Cymraeg yr ysgol ar ennill Cystadleuaeth Genedlaethol y Rotari yn y Rownd Derfynol ym Mae Caerdydd. Testun y tim oedd “Mae dyddiau gwell i ddod i Gymru”. Caitlyn White oedd y Cadeirydd ac enillodd hi yr ail wobr am gadeirydd gorau’r gystadleuaeth. Steffan Leonard oedd y cynigydd a chafodd ef yr ail wobr am gynigydd gorau’r gystadleuaeth, a Nansi Eccott oedd y gwrthwynebydd a hithau’n ennill y drydedd wobr am y gwrthwynebydd gorau. Llongyfarchiadau mawr i’r tîm am gyrraedd y safle buddugol am y tro cyntaf yn hanes yr ysgol! Braf oedd dathlu gyda thaith Safon Uwch i Aberystwyth a chael lluniau gyda’r darian ar y Prom yn Aberystwyth ac wrth gofeb “Cofiwch Dryweryn” yn Llanrhystud.