skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Newyddion

Llythyr dechrau tymor – Ionawr ’23

Gweler y llythyr isod am fanylion dychwelyd (ar ddydd Llun y 9fed o Ionawr) a’r tymor i ddod:

Llythyr dechrau tymor y Gwanwyn 2023

Tocynnau raffl ar werth!

Mae dosbarthiadau blwyddyn 7 wedi creu hamperi Nadolig hyfryd ar gyfer achos da. Hoffwn estyn croeso i ddisgyblion a rhieni i ddoâ £1 i’r ysgol yfory er mwyn cael cyfle i ennill un o’r hamperi hyfryd yma. Bydd yr holl arian a godir yn mynd i’r elusen LATCH, yr elusen sy’n cefnogi Emily Williams o flwyddyn 11 a’i theulu. Pob lwc i bawb!

 

LLYTHYR DIWEDD TYMOR

Gweler y llythyr isod yn amlinellu trefniadau diwedd tymor:

Llythyr diwedd tymor Rhag 2022

GWISG ANFFURFIOL DDYDD IAU 08.12.22

Bydd cyfle i’n disgyblion i ddod mewn gwisg anffurfiol i’r ysgol ddydd Iau yma a gwisgo ‘siwmper Nadolig’ os ydynt yn dymuno? Byddwn yn codi £1 y pen neu 50c i bob brawd a chwaer.

Mae ein disgyblion yn awyddus iawn i gefnogi un o’n disgyblion annwyl ym mlwyddyn 11, Emily Williams, sy’n dioddef o afiechyd y gwaed difrifol ac mae’n wynebu trawsblaniad mêr dros y Nadolig.

Mae Emily yn derbyn cefnogaeth ardderchog gan elusen ‘Latch’, sy’n cefnogi pob ifanc gyda chancr. Bydd yr arian rydym yn codi felly ddydd Iau i gyd yn mynd tuag at yr elusen arbennig yma wrth i ni fel ysgol ddangos ein cefnogaeth i Emily a’u theulu yn ystod y cyfnod heriol iawn yma. Bydd y disgyblion hefyd y cynnal bore coffi ac mae croeso i unrhyw ddisgybl y gyfrannu nwyddau e.e. cacennau, bisgedi ayyb er mwyn eu gwerthu dros egwyl ar ddydd Iau.

Braf byddai cael cefnogaeth cymuned yr ysgol gyfan yn y fenter yma. Diolch, o flaen llaw, am eich haelioni unwaith eto!

Cofiwch hefyd bod yna ddiwrnod HMS ddydd Gwener yma – 09.12.22, felly nid oes ysgol i’r disgyblion!

Newyddion, Wal Goch Bryn Tawe a dyddiadau allweddol

Gweler y llythyr isod gyda pheth newyddion, gwybodaeth ar gyfer ddydd Gwener a dyddiadau allweddol am weddill y tymor:

Llythyr Wal Goch Bryn Tawe 221122

Diweddariad gan Gyrfa Cymru

Cliciwch isod i ddarllen rhifyn blynyddol o newyddlen Gyrfa Cymru.

Cylchlythyr Gyrfau Cymru

 

Brechlyn Ffliw 14/11 – 17/11

Fe fydd nyrsys ysgol yma wythnos yn dechrau 14/11 i frechu disgyblion blwyddyn 7 i 11 yn erbyn y ffliw.  Cofiwch ddychwelyd ffurflenni caniatad i’r ysgol.

Cliciwch isod i weld gwybodaeth y frechlyn.

Fluenz Patient Information Leaflet