skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Newyddion

LLYTHYR DIWEDD TYMOR

Gweler y llythyr isod ar gyfer diwedd tymor y Pasg sydd hefyd yn amlygu rhai digwyddiadau pwysig yn ystod y tymor nesaf:

Llythyr diwedd tymor Pasg 2022

05 04 22 Llythyr at Rieni a Gwarcheidiaid TERFYNOL

MESURAU COFID MEWN YSGOLION HYD AT Y PASG

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw am newidiadau i fesurau Cofid ar gyfer y boblogaeth gyffredinol, gweler y neges bwysig isod gan Gyfarwyddwr Addysg Abertawe yn cadarnhau na fydd newidiadau i fesurau diogelu Cofid mewn ysgolion yn Abertawe hyd at y Pasg:

Cyngor yr Awdurdod Lleol ar gyfer mesurau rheoli heintiau ddim yn newid tan ddiwedd tymor.

Yn dilyn cyfarfod yr wythnos hon o’r Tîm Rheoli Digwyddiad cynghorir ysgolion i aros ar UCHEL ar Fframwaith Llywodraeth Cymru tan ddiwedd y tymor.

Cyn gynted ag y bydd gennym ddiweddariad pellach gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig ar orchuddion wyneb, profi dwywaith yr wythnos a gofynion hunan ynysu yn dilyn prawf LFT positif, byddwn yn ysgrifennu atoch eto.

Felly, ni fydd mesurau’n newid mewn ysgolion tan ar ôl Pasg, o leiaf.

DYSGU O BELL I FL. 9 25.03.22

Gweler y llythyr isod yn amlinellu ein trefniadau cau ar gyfer blwyddyn 9 YN UNIG ar ddydd Gwener 25.03.22 gyda darpariaeth dysgu o bell:

Llythyr Cau Blwyddyn 9 250322

LLYTHYR HANNER TYMOR Y PENNAETH

Gweler y llythyr isod gyda manylion am drefniadau gorffen yr hanner tymor yma ac am ddychwelyd ar yr 28/02/22:

Llythyr i rieni 170222

DIWEDDARIAD GAN GYFARWYDDWR ADDYSG ABERTAWE

Gweler y llythyr isod, at sylw rieni, gan Gyfarwyddwr Addysg Abertawe yn amlinellu diweddariadau mesurau mewn ysgolion:

20220202 Llythyr at Rieni a Gwarcheidiaid TERFNYNOL

LLYTHYR I RIENI BLWYDDYN 8

Gweler y llythyr isod yn amlinellu gwybodaeth bwysig am fanylion cwricwlwm Gwyddoniaeth bl.8 a’r cyswllt gydag ‘Addysg Perthnasoedd a Rhyw’:

Cwricwlwm Gwyddoniaeth bl.8

 

GWYBODAETH BWYSIG AM Y DDEDDF ‘ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL’ NEWYDD

Gweler y llythyron perthnasol isod (fesul blwyddyn ysgol eich plentyn), sy’n amlinellu’r newidiadau pwysig sydd wedi dod i rym yn unol â’r ddeddf ADY newydd:

At rieni disgyblion blwyddyn 7 a 10

At rieni disgyblion bl 8, 9, 11, 6ed a disgyblion sydd a datganiad