Newyddion
LLYTHYR DECHRAU TYMOR IONAWR 2022
Gweler y llythyr yma sy’n amlinellu’r trefniadau a’r disgwyliadau ar gyfer holl ddisgyblion yr ysgol wrth ddychwelyd i’r ysgol ar ddydd Iau’r 6ed o Ionawr:
5/01/2022, Simon Davies
TREFNIADAU DYCHWELYD YR WYTHNOS HON
Blwyddyn Newydd Dda i’n holl rieni, gwarcheidwaid a disgyblion gan obeithio i chi gael cyfle ymlacio a mwynhau dros yr ŵyl.
Bydd llythyr i ddilyn yn cynnwys yr holl wybodaeth allweddol i rieni wrth ail agor ar ôl y Nadolig, ond hoffwn gadarnhau’r trefniadau canlynol ar gyfer yr wythnos yma:
DYDDIAD DYCHWELYD:
- bydd disgyblion o bob blwyddyn yn dychwelyd i’r ysgol fel arfer o ddydd Iau y 06/01/21.
PROFION LFT:
- mae disgwyl i BOB DISGYBL i gymryd prawf LFT ar ddydd Mercher ac ar fore dydd Iau cyn mynychu’r ysgol ddydd Iau yma.
- Mae disgwyl i ddisgyblion gymryd 3 prawf LFT pob wythnos, ar ddydd Llun, Mercher a Gwener, er mwyn gallu mynychu’r ysgol.
- Mae profion LTF ar gael o unrhyw fferyllfa neu lyfrgell leol.
GWERSI’R 6ED:
- bydd gwersi’r 6ed yn digwydd yn fyw ym Mryn Tawe i ddisgyblion Bryn Tawe o ddydd Iau ac yn cael eu ffrydio o Gwyr ar ddydd Gwener. Ni fydd gwersi yn Gwyr ar ddydd Iau.
- bydd gwersi yn cael eu ffrydio i ddisgyblion Gwyr o Fryn Tawe ar ddydd Iau a Gwener yr wythnos hon.
Edrychwn ymlaen i groeswi pawb yn ôl fore ddydd Iau!
4/01/2022, Simon Davies
TREFNIADAU AIL DDECHRAU MIS IONAWR
Gweler y llythyr isod a dolenni defnyddiol a phwysig ar gyfer trefniadau dychwelyd y mis Ionawr:
LLythyr i Rieni 161221 – Trefniadau Dywchwelyd yn Ionawr ’22
161221 Llythyr at Rieni a Gwarcheidiaid TERFYNOL
Gweithrediad Ysgolion – cwestiynau cyffredin LlC
Pecyn cefnogaeth ychwanegol i ddysgwyr – LlC
16/12/2021, Simon Davies
Siwmperi Nadolig
7/12/2021, Lynwen Matthews
Noson Rhieni Y Chweched Dosbarth
6/12/2021, Lynwen Matthews
MESUR COFID NEWYDD – MYGYDAU MEWN GWERSI O’R 1af O RAGFYR
Gweler y llythyr pwysig isod yn amlinellu penderfyniad Llywodraeth Cymru am y disgwyliad i wisgo mygydau mewn gwersi unwaith eto:
Llythyr i rieni-Letter to parents 301121
30/11/2021, Simon Davies
Newyddion allgyrsiol diweddar Adran y Gymraeg
Diolch yn fawr i Elin Meek a Robat Powell am ymuno yn rhithiol yng ngwersi bl.7 yn ddiweddar er mwyn sgwrsio â’r disgyblion am eu gwaith fel llenorion. Roedd y disgyblion wedi mwynhau’n fawr y cyfle i’w holi.
Da iawn i Haiden Hogg a Callie Davies am gyflwyno areithiau Siarad Cyhoeddus hyfryd un amser cinio yn trafod yr iaith Gymraeg, yn benodol ym myd addysg. Braf iawn oedd clywed eu dadlau tanllyd!
Cafodd griw o fl.11 y cyfle i fynychu Cynhadledd Heddwch Ysgolion Cymru ar lein. Cafwyd y cyfle i wrando ar gyflwyniadau gan amrywiol siaradwyr ac ymuno mewn gweithdai i drafod gyda disgyblion o ysgolion eraill, yr hyn y gellir ei wneud am gyfiawnder hinsawdd.
Diolch hefyd y tymor hwn i Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth am gynnal cyfres o ddarlithoedd i’r Chweched Dosbarth.
Tybed hefyd a gawsoch chi gyfle yn ddiweddar i weld gwefan Adran y Gymraeg:
https://adranygymraegbrynt.wixsite.com/website
22/11/2021, Lynwen Matthews