Gwybodaeth i Rhieni
- Llythyron 2023-24
- Llythyron 2022-23
- Barod i Ddysgu
- Cefnogaeth Adolygu
- Gwybodaeth Gyrfaoedd
- Gwisg
- Polisi Ffôn Symudol
- Lawrlwythiadau
- Presenoldeb
- Grant Amddifadedd Disgyblion
Llythyron 2023/24
EN Letters 2023/24Dyddiad | Testunau |
21/09/2023 | Noson Rieni Fugeiliol Blwyddyn 7 |
11/09/2023 | Trefniadau gollwng a chasglu disgyblion 23-24 |
09/09/2023 | Gwybodaeth pwysig dechrau tymor:
Gwybodaeth dechrau tymor Medi ’23 |
08/09/2023 | Taith Llyfrgell |
03/09/2023 | LLythyr dechrau’r tymor 23-24 |
Llythyron 2022/23
EN Letters 2022/23Barod i Ddysgu
CY Ready to Learn
Mae’n allweddol bwysig bod gennych yr offer cywir bob dydd. Gwnewch yn siŵr bod yr offer cywir gyda chi bob dydd:
- Pen/Beiro (ac un sbâr)
- Pensil (ac un sbâr)
- Pren mesur
- Cas pensiliau
- Rwber
- Naddwr
- Onglydd
- Cyfrifiannell
- Pensiliau lliw
Bydd hefyd angen bag addas er mwyn cludo llyfrau nȏl acymlaen i’r ysgol!
Siaradwch gyda’ch tiwtor os oes problem gydag offer
Cefnogaeth Adolygu
EN Revision Support- Anelu am y Gorau
- Technegau Adolygu
- Amser Arholiadau
- Sut gall disgyblion adolygu’n effeithiol?
- Cardiau Fflach
- 10 syniad i gymell plentyn wrth weithio adref
- 10 awgrym ar sut i baratoi ar gyfer eich arholiad cyntaf
- 10 Camsyniad cyffredin
- 9 ffordd i adalw gwybodaeth
- 9 ffordd i oresgyn straen adolygu
- 7 awgrym sut i ganolbwyntio’n well
- 6 rheswm pam fod profion yn bwysig
- 6 rheswm i roi’ch ffon heibio
- 5 ffordd i drefnu eich man gweithio
Gwisg Ysgol
EN School UniformMae gwisg swyddogol yr ysgol yn rhoi cyfle i chi fel disgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe fod yn falch o’ch ysgol, teimlo eich bod yn perthyn iddi a bod yn barod i gynnal safonau uchel o ymddygiad ac ymrwymiad i waith a nodau’r ysgol. Mae gennym ddisgwyliadau uchel o ran safonau gwisg a disgwylir i bob disgybl gydymffurfio â’n rheolau.
Gwisg swyddogol yr ysgol - Bechgyn a Merched
- Esgidiau du plaen. Rhaid bod eich trowsus yn gorchuddio unrhyw ‘fŵts’ du plaen. Ni chaniateir sodlau uwch na 4cm.
- Sanau plaen tywyll neu deits du heb batrwm
- Trowsus du plaen. Ni chaniateir jîns o unrhyw fath (gan gynnwys jîns tynn), ‘cords’, trowsus tynn ‘lycra’ na throwsus ‘combat’.
- Sgert ddu blaen sy’n cyrraedd y pen-glin. Ni chaniateir sgertiau elastig tynn.
- Crys gwyn llewys hir a thei swyddogol yr ysgol
- Siwmper swyddogol yr ysgol (i fynd gyda crys a thei yr ysgol)
- Cot blaen du neu nefi. Ni chaniateir cotiau lledr na ffug lledr.
Gwisg swyddogol Addysg Gorfforol yr ysgol - Bechgyn a Merche
- Esgidiau hyfforddi neu rygbi/pel droed addas.
- Sanau swyddogol yr ysgol, lliw gwîn a streipen las golau/sanau gwyn hyfforddi.
- Siorts pêl-droed/siorts rygbi nefi gyda logo’r ysgol/sgert gyda logo’r ysgol.
- Trowsus chwys swyddogol yr ysgol.
- Crys-T nefi gyda logo’r ysgol.
- Crys rygbi swyddogol yr ysgol, lliw gwîn a glas golau gyda logo’r ysgol a/neu siwmper addysg gorfforol lliw gwîn gyda logo’r ysgol.
Tlysau
Nid oes hawl gan ddisgyblion i wisgo tlysau heblaw’r canlynol: oriawr, un pâr o styds plaen ar waelod y clustiau, un fodrwy blaen ar fys. Ni chaniateir gwisgo tlysau mewn unrhyw ran arall o’r corff am resymau Iechyd a Diogelwch.
Colur
Nid oes hawl gan ddisgyblion i wisgo colur, ffug-amrannau na lliw haul ffug.
Nid oes hawl gwisgo paen ewinedd, nag estyniadau i’r ewinedd.
Gwallt
Ni chaniateir defnyddio lliw gwallt annaturiol na steil sy’n eithafol o ran ffasiwn. Yr ysgol sy’n penderfynu yr hyn sy’n eithafol. Gall steil eithafol gynnwys, pen wedi’i siafo, “tramlines”, “dreadlocks”, estyniadau ayyb. Nid oes hawl gwisgo bandiau na chlipiau gwallt trwchus na lliwgar – dim ond rhai nefi neu ddu plaen.
Yr ysgol sy’n penderfynu yr hyn sy’n dderbyniol o ran gwisg ac ymddangosiad.
Os na fydd disgyblion yn cydymffurfio fe fydd camau disgyblu yn dilyn.
Siop Swap Bt
- Gellir prynu eitemau gwisg ysgol ail law neu gyfnewid eitemau nad oes eu hangen arnoch bellach.
- Ar agor pob amser cinio Dydd Gwener ac yn ystod pob noson rhieni.
- Yn ogystal, mae modd gwneud cais am wisg ysgol ail-law trwy Pennaeth Blwyddyn eich plentyn.



Rieni a gofalwyr: Gwybodaeth i gefnogi eich plentyn
Fel rhiant neu ofalwr rydych yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi eich plentyn i wneud penderfyniadau yn ystod ei daith drwy fyd addysg a thu hwnt. Dysgwch mwy am y Tîm Gyrfa Cymru yn yr ysgol.
Mae gan Gyrfa Cymru wybodaeth ac adnoddau newydd ar eu gwefan i'ch helpu i gefnogi'ch plentyn.
Gallwch ddefnyddio eu gwefan i wneud y canlynol:
- Archwilio syniadau am yrfaoedd gyda'ch plentyn;
- Helpu eich plentyn i wneud y gorau o’i gyfarfodydd gyda chynghorydd;
- Dysgu am y cwricwlwm a chymwysterau;
- Archwilio swyddi posibl ar gyfer y dyfodol;
- Dysgu am wahanol lwybrau o'r ysgol i fyd gwaith.
Cliciwch ar y dolenni uchod neu ewch i’r adran rhieni a gofalwyr am fwy o wybodaeth.
Cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol:
Rieni a gofalwyr! A oes angen cymorth arnoch i helpu'ch plentyn i wneud penderfyniadau gyrfaol ar gyfer y dyfodol?
Mae gan @GyrfaCymru yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i'w helpu😊. Ewch i'r tudalennau arbennig ar gyfer rhieni ar eu gwefan am gefnogaeth: Rhieni | Gyrfa Cymru (llyw.cymru)
#DewisiadauGyrfaEichPlentyn
Rieni a gofalwyr! Oeddech chi'n gwybod bod gan @GyrfaCymru lawer o wybodaeth, syniadau ac offer i'ch helpu i gefnogi'ch plentyn i wneud penderfyniadau gyrfaol ar gyfer y dyfodol? Ewch i'r tudalennau arbennig ar gyfer rhieni ar eu gwefan: Rhieni | Gyrfa Cymru (llyw.cymru)
#DewisiadauGyrfaEichPlentyn
P'un a yw'ch plentyn yn yr ysgol gynradd, yr ysgol uwchradd, yn y coleg, yn cael ei addysg yn y cartref neu yn mentro i'r byd ôl-addysg, gall @GyrfaCymru helpu. Ewch i'r tudalennau pwrpasol ar gyfer 'rheini' ar eu gwefan am gefnogaeth: Rhieni | Gyrfa Cymru (llyw.cymru)
#DewisiadauGyrfaEichPlentyn

Polisi Ffôn Symudol Yr Ysgol
Mae effaith gorddefnydd o ffonau symudol a’r amser y mae disgyblion yn treulio o flaen sgrin yn bryder gynyddol oherwydd yr effaith negyddol ar ddysgu a lles. Mae ffonau symudol yn tynnu sylw dysgwyr yn ystod y diwrnod ysgol. Mae'n hanfodol bwysig bod dysgwyr yn gallu canolbwyntio'n llawn ar eu dysgu yn ystod gwersi ac yn treulio amser o ansawdd yn cymdeithasu gyda'i gilydd yn eu hamser rhydd. Yn sgil hyn, wedi ymgynghori gyda’n disgyblion, fforwm llais ein rieni a staff yr ysgol, rydym yn mynd i weithredu rhai newidiadau i'n polisi ffôn ysgol.
.Felly, caniateir i ddysgwyr :
- Ddod â ffôn symudol i'r ysgol – ond RHAID ei ddiffodd (pŵer i ffwrdd) a’i gadw allan o’r golwg yn ystod y diwrnod ysgol (8:30yb – 15:10yh).
- Os oes angen i ddysgwyr ddefnyddio eu dyfais symudol am reswm hanfodol –rhaid iddynt ofyn am ganiatâd gan aelod o staff yn gyntaf.
- Caniateir i ddisgyblion ddefnyddio eu ffôn yn barchus wrth deithio i /o'r ysgol – h.y. Dim tynnu lluniau / fideos/ negeseuon cyfryngau cymdeithasol am ddisgyblion eraill, dim negeseuon cas / bwlio ar-lein, dim uchelseinyddion ac ati.
- Caniateir i ddisgyblion ddefnyddio eu ffôn yn ystod gwersi gyda chaniatâd staff – at ddibenion addysgol e.e. Defnyddio gwefannau fel Kahoot, dibenion ymchwil ac ati. RHAID diffodd ffonau symudol eto yn dilyn y wers honno.
Ni chaniateir i ddysgwyr :
- Ddefnyddio eu dyfais symudol heb ganiatâd ar unrhyw adeg yn ystod y diwrnod ysgol (8:30yb – 15:10yh).
- Adael eu dyfais ymlaen (wedi'i bweru) yn ystod y diwrnod ysgol, oherwydd bod hysbysiadau yn gallu tarfu ar ddysgu disgyblion a chael effaith negyddol ar ddysgu a lles disgyblion.
- Defnyddio clustffonau /uwchseinyddion yn ystod y diwrnod ysgol.
Canlyniadau:
- Yn ystod gwersi, bydd unrhyw ddysgwr nad yw'n dilyn yr amodau uchod yn cael ei ffôn wedi’i gymryd a’i roi mewn bocs diogel tan ddiwedd y wers – bydd hyn yn cael ei gofnodi ar SIMS.
- Bydd unrhyw ddysgwr nad yw'n dilyn yr amodau uchod y tu allan i'r gwersi yn cael ffôn y wedi’i gymryd a’i roi i mewn i swyddfa'r ysgol i'w gasglu gan y dysgwr ar ddiwedd y dydd.
- Bydd troseddau cyson yn arwain at ganlyniadau pellach – e.e. y ffôn yn cael ei roi yn y swyddfa tan ddiwedd y dydd, rhieni/gofalwyr yn casglu'r ddyfais, colli’r fraint o ddod â ffôn i'r ysgol yn gyfan gwbl.
- Bydd unrhyw gamddefnydd mwy difrifol o ffôn (e.e. tynnu lluniau neu fideos yn ystod y diwrnod ysgol, bwlio ar-lein neu negeseuon cas ac ati) yn arwain at ganlyniadau mwy difrifol.
Pryderon
- Mae angen i mi gysylltu â'm plentyn yn ystod y diwrnod ysgol – sut alla i wneud hynny?
- Rydym yn deall y gall fod angen i rieni gysylltu â'u plentyn yn ystod y diwrnod ysgol – gofynnwn i rieni ddilyn ein polisi presennol drwy ffonio swyddfa'r ysgol (01792 560600) a bydd neges yn cael ei chyfleu i'ch plentyn ar unwaith. Gall hyn gynnwys neges iddynt droi eu ffôn symudol ymlaen er mwyn derbyn neges/galwad.
- Mae angen i'm plentyn gysylltu â mi (rhiant) yn ystod y diwrnod ysgol – sut gallant wneud hynny?
- Gofynnwn i unrhyw ddysgwr sydd angen cysylltu â'u cartref, ofyn am ganiatâd gan aelod o staff cyn gwneud hynny. Mae rhyddid hefyd i ddefnyddio 'ffôn disgyblion' sydd ar gael iddynt yn y dderbynfa - gall dysgwyr ei ddefnyddio i gysylltu â rhieni/gofalwyr os oes angen. Rydym yn storio pob rhif ffôn rhiant/gofalwr ar ein cronfa ddata petai angen rhif rhiant/gofalwr ar y plentyn.
- Mae fy mhlentyn yn defnyddio ap Satchel (cynt yn Show My Home Work) i weld eu hamserlen a'u gwaith cartref – sut y byddan nhw'n rheoli hyn nawr?
-
Bydd pob dysgwr yn cael copïau papur o'u hamserlen ar ddechrau'r flwyddyn – dylid eu gludo i'w llyfrau cyswllt a'u cadw'n ddiogel. Os oes angen copi arall ar unrhyw ddysgwr – gellir ei gael yn swyddfa'r ysgol. Mae gan bob aelod o staff hefyd fynediad at amserlenni pob dysgwr a gallent gynorthwyo os oes angen.
Dylai dysgwyr wirio/trefnu eu gwaith cartref cyn dod i'r ysgol (yn ddelfrydol y noson gynt) – nid yw'n ofynnol i ddysgwyr wirio/gweld gwaith cartref yn ystod y diwrnod ysgol. - Nid yw fy mhlentyn yn mynd i ymdopi heb i'w ddyfais gael ei throi ymlaen
- Mae dibyniaeth ar y ffôn yn bryder cynyddol i lawer ohonom, bydd adegau pan fydd yn rhaid i bobl ifanc ac oedolion fynd heb eu ffôn symudol am wahanol resymau. Teimlwn ei bod yn well addysgu a chefnogi dysgwyr a phobl ifanc nawr, cyn iddi ddod yn broblem fwy difrifol.
Mae cefnogaeth rhieni gyda hyn yn hanfodol bwysig ac yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Mae llawer o astudiaethau i effeithiau negyddol amser sgrin ar iechyd meddwl, lles a datblygiad ymenyddol pobl ifanc a theimlwn ei fod yn ddyletswydd arnom i gymryd y camau pwysig hyn er mwyn ceisio cefnogi lles a dysgu pob disgybl.
Lawrlwythiadau
EN Downloads- Dy Ganllaw i Addysg Gymraeg
- Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau
- Rho amser i ddarllen
- Hysbysiad Preifatrwydd
- Canllaw adolygu i ddisgyblion a rhieni
Ffurflenni Safonol
Polisi Presenoldeb
EN AttendanceMae gennych yr hawl i ddysgu a mynd i’r ysgol. (Erthgyl 28)
Prif egwyddorion
“Os yw addysg yn mynd i fod yn effeithiol, mae presenoldeb cyson yn rhagofyniad, a mae ei sicrhau yn gorfod bod yn flaenoriaeth i bawb yn yr ysgol” (presenoldeb ysgol – Yr Adran Addysg a Gwyddoniaeth 1989)
Mae presenoldeb yn anghenraid statudol ar gyfer ein disgyblion hyd at 16 oed. Yn ogystal, mae’n anghenraid ar gyfer gyrfa ysgol lwyddiannus. Mae absenoldebau ysbeidiol cyson, a / neu rai am gyfnodau mwy estynedig yn niweidiol ar gyfer addysg ein disgyblion. Rhaid i bawb sy’n ymwneud ag addysg ein disgyblion weithio mewn partneriaeth i sicrhau presenoldeb uchel ymhlith disgyblion Bryn Tawe.
Nodau
Mae codi a chynnal lefelau presenoldeb o hyd yn flaenoriaeth ym Mryn Tawe er mwyn gallu rhoi’r cyfle gorau i bob disgybl gyrraedd eu potensial. Mae yna sawl agwedd o’n gwaith dyddiol sydd yn cael effaith gadarnhaol ar godi presenoldeb:
- Gweithredu a monitro systemau cofrestru clir
- Hyrwyddo a gwobrwyo presenoldeb da
- Monitro a gweithredu ar bresenoldeb isel – gyda ymateb graddedig yn ddibynnol ar y lefel o absenoldeb
- Disgwyliadau a chefnogaeth ar gyfer rhieni
Gweithredu a monitro systemau cofrestru clir
Mae’r holl staff sydd â chyfrifoldeb am gofrestru yn glir ar ein prosesau o sicrhau bod pob disgybl a myfyriwr yn cael eu cofrestru yn bresennol er mwyn sicrhau gofynion Iechyd a Diogelwch, yn ogystal â sicrhau ein bod yn gallu monitro presenoldeb yn gywir.
Mae’r swyddog presenoldeb â chyfrifoldeb am fonitro’n ddyddiol bod pob aelod o staff yn gwireddu eu dyletswydd o gofrestru ar gyfer y sesiwn boreol a phrynhawn. Fe wneir hyn y ganolog erbyn 9:30 yb a 13:45 y prynhawn.
Hyrwyddo a gwobrwyo presenoldeb da
Yn unol a’n polisi gwobrwyo, rydym yn defnyddio gwobrau yn aml fel ffordd o gymell disgyblion i ymfalchïo yn eu presenoldeb yn yr ysgol. Fe:
- Roddir pwyntiau clod am bresenoldeb pob mis i ddisgyblion sydd yn cyrraedd 95% neu’n uwch.
- Mae disgyblion sydd yn bresennol am 100% o’r amser yn ystod tymor y Nadolig yn derbyn tystysgrif clod, ac enwebiad am wobr/au am y tymor am eu hymdrechion.
- Mae disgyblion hefyd yn derbyn pwyntiau clod sy’n mynd tuag at eu cyfansymiau i ennill gwobrau yn ein seremonïau gwobrwyo ar ddiwedd tymor y Nadolig a thymor yr haf.
- Rydym yn rhedeg cystadleuaeth presenoldeb ar gyfer y dosbarth gorau pob mis.
- Pob mis fe arddangosir ystadegau ar gyfer y dosbarthiadau gorau, y disgyblion sydd wedi ennill presenoldeb 100% (Clwb 100%) ar gyfer y mis yn ogystal ag ystadegau’r ysgol gyfan yn fisol, er mwyn cynnal diddordeb y disgyblion o ble rydym ni o ran ein presenoldeb.
Monitro a gweithredu ar bresenoldeb isel – gyda ymateb graddedig yn ddibynnol ar y lefel o absenoldeb
Mae rhai disgyblion yn fwy tueddol o golli ysgol na’i gilydd – gall y rhesymau gynnwys y canlynol:
- Hanes meddygol y disgybl
- Tueddiadau teuluol
- Anawsterau mynediad i’r cwricwlwm
- Bwlio
- Ffrindiau
- Gwaith ysgol
- Salwch
- Problemau o ran gofal neu gartref
- Cludiant i ac o’r ysgol
- Gwaith ac arian
Yn sgil presenoldeb isel mae gennym ymatebion amrywiol graddedig i oresgyn y broblem. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Arweinydd Dysgu i dderbyn allbrint o ddisgyblon sydd a % presenoldeb o dan 90% gan y swyddog presenoldeb.
- Sgyrsiau cyson rhwng y Arweinydd Dysgu a’r swyddog lles i drafod disgyblion sydd a chanrannau presenoldeb isel
- Cyfarfodydd wythnosol rhwng y Arweinydd Dysgu a’r Swyddog Lles i drafod disgyblion penodol
- Cyfweliadau cyson (pob hanner tymor / 4 wythnos) i ddisgyblion sydd â chanrannau isel (o dan 90% - Tiwtor Personol; dan 85% Arweinydd Dysgu; o dan 80% Swyddog Lles)
- Cyfweliadau i fonitro targedau
- Cyfarfodydd gyda rhieni disgyblion sydd a % isel yn gyson
- Targedu teuluoedd penodol
- Cyfeirio at y Swyddog Lles
- Cyfarfodydd gyda’r Uwch Dim Arwain
- Cyfarfod pwyllgor llywodraethwyr
- Cyfeirio’r achos at y llys
Fe fydd yr Arweinydd Dysgu, y Swyddog Lles, aelodau o’r Uwch Dim Arwain yn gyson yn trafod y camau mwyaf addas ar gyfer disgyblion unigol fydd yn ymateb orau i’w gofynion.
Disgwyliadau ar gyfer ein rhieni i:
- Sicrhau presenoldeb cyson eu plant
- Weithio mewn partneriaeth gyda’r ysgol
- Sicrhau bod eu plant yn deall pwysigrwydd presenoldeb
- Gymryd diddordeb yn addysg eu plant – gofyn am eu profiadau yn yr ysgol a’u hannog nhw i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol yr ysgol
- Drafod unrhyw broblemau posib mae eu plant yn cael yn yr ysgol – cysylltu gyda’i athro neu bennaeth yr ysgol am unrhyw ddigwyddiadau difrifol
- Beidio â chaniatâu iddynt golli ysgol am rhesymau gwan – yn enwedig rhai na fyddai rhieni yn colli gwaith amdanynt
- Drefnu apwyntiadau ac ymweliadau ar ôl ysgol, ar y penwythnosau neu yn ystod gwyliau ysgol gan ei fod yn ffordd effeithiol o helpu i osgoi tarfu ar addysg plentyn yn yr ysgol
- Beidio â chymryd eu plant ar wyliau yn ystod amser ysgol
Cefnogaeth ar gyfer rhieni:
- Ysgol eich plentyn yw’r pwynt cyswllt cyntaf i drafod unrhyw broblemau presenoldeb.
- Fe ddylai’r ysgol gytuno ar gynllun i wella presenoldeb eich plentyn.
- Mae aros mewn cysylltiad cyson gyda’r ysgol yn hanfodol.
- Mae gan pob ysgol Swyddog Lles sy’n gallu cynnig cefnogaeth ynghlŷn â phroblemau sy’n ymwneud â phresenoldeb.
- Fe allant gynnig help arbenigol i helpu eich plentyn i wella’i presenoldeb ac ymddygiad tra eu bod yn yr ysgol.
- Mae’r swyddog lles yn gweithio gyda teuluoedd ac ysgolion i oresgyn problemau difrifol megis bwlio
- Cynigir gymorth i leihau’r baich ar ddisgyblion sydd yn ffeindio pethau’n anodd ar gyfnodau gwahanol (e.e. Os yw plentyn yn gwario tipyn o amser yn gofalu am aelod arall o’r teulu)
- Cefnogaeth oherwydd salwch hir dymor.
- Sicrhewch bod eich plentyn yn mynychu ysgol yn rheolaidd, yn cyrraedd ar amser a mynychu’r gwersi i gyd
- Dechreuwch ddatblygu’r arferion yma o oed ifanc. Os ydych yn teimlo bod eich plentyn yn cael problemau siaradwch ac athrawon yr ysgol
- Cysylltwch ag ysgol eich plentyn cyn gynted a rydych yn dechrau pryderi am bresenoldeb eich plentyn.
- Mae bod yn absennol yn golygu bod eich plentyn yn colli allan ar gyfleoedd dysgu pwysig
- Mae prydlondeb a phresenoldeb cyson yn helpu’ch plentyn i ddatblygu dau agwedd gwerthfawr yn llygaid cyflogwyr sef dibynadwyedd ac hunan drefniant.
Gwybodaeth hysbysiadau cosb absenoldeb o'r ysgol
Cyflwynodd Rheoliadau (Hysbysiadau o Gosb) (Cymru) Addysg 2013 hysbysiadau o gosbau penodol ar gyfer absenoldebau rheolaidd o'r ysgol.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'n rhaid i bob awdurdod lleol lunio a gweithredu ei Godau Ymddygiad Lleol ei hunan er mwyn sicrhau cysondeb wrth gyflwyno hysbysiadau o gosb. Bydd y côd yn cael ei weithredu yn Abertawe o fis Ionawr, 2015.
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi mai un opsiwn ymysg nifer o wahanol fesurau sydd ar gael i hyrwyddo presenoldeb gwell yn yr ysgol yw hysbysiadau o gosb. Mae cyflwyno'r rheoliadau hyn yn un rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i wella presenoldeb mewn ysgolion ar draws Cymru.
Mae cyflwyno'r rheoliadau hyn yn golygu y gall rhieni bellach dderbyn dirwy os bydd eu plentyn/plant yn absennol o'r ysgol yn rheolaidd.
Mae'r côd ymddygiad lleol, sy'n esbonio sut bydd hysbysiadau o gosb yn gweithio, ar gael ar wefan Cyngor Abertawe yn https://www.abertawe.gov.uk/cosbaddysg
Ar y wefan, mae'r awdurdod lleol hefyd wedi darparu atebion i rai cwestiynau cyffredin. Bydd rhieni/gofalwyr hefyd yn derbyn llythyron esboniadol a thaflenni gwybodaeth gan ysgol eu plentyn ym mis Ionawr, 2015.
Os oes gan unrhyw riant bryderon am bresenoldeb eu plentyn/plant, yna siaradwch â staff yr ysgol am gyngor a chefnogaeth.
Grant Amddifadedd Disgyblion
EN Pupil Deprivation GrantCefndir
2020 | 2019 | 2018 | |
---|---|---|---|
Disgyblion ym Mryn Tawe ar ddechrau Mis Medi | 888 | 859 | 821 |
% disgyblion sy’n deilwng i ginio rhad | Dros 14% | Dros 12% | 12% |
Grant amddifadedd disgyblion | £110,400 (4/2020-3/2021) |
£69,000 (4/2019-3/2020) |
£64,400 (4/2018-3/2019) |
Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD) - 2018/2019/2020
Mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD) wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â’r nifer o ddisgyblion sy’n derbyn prydiau Ysgol am ddim (PYDd) yn yr ysgol. Rhaid bod unrhyw wariant o’r grant wedi’i anelu at godi safonau disgyblion sydd mewn perygl o dangyflawni yn sgil tlodi ac amddifadedd.
Mae’r Sutton Trust yn fudiad elusennol sy’n ymchwilio i effaith cefnogaeth ychwanegol sydd wedi’i anelu at godi safonau disgyblion sydd mewn perygl o dangyflawni yn sgil tlodi ac amddifadedd. Y mae Ysgol Gyfun Gymreag Bryn Tawe wedi mabwysiadu amrediad o strategaethau a adnabyddir gan y Sutton Trust fel strategaethau sydd yn atgyfnerthu amcanion yr ysgol.
Y mae’r ysgol wedi ymgymryd ag amrediad eang iawn o strategaethau, yn benodol er mwyn cefnogi disgyblion sy’n wynebu’r her o dlodi ac amddifadedd, gan gynnwys:
- Apwyntio Cynorthwy-ydd Llythrennedd (Cymraeg a Saesneg) a Rhifedd i ddylunio a dosbarthu rhaglenni a gweithgareddau ar gyfer disgyblon sydd wedi eu targedu gan gynnwys disgyblion sydd yn, ac wedi bod yn deilwng i BYDd.
- Datblygu arweinwyr i hyrwyddo addysgeg a sicrhau datblygiadau staff effeithiol o fewn yr ysgol. Y nod yw i sicrhau fod yr holl staff yn deall yr angen i oresgyn rhwystrau y mae ein disgyblion yn wynebu o fewn ein cymdeithas. Cynhelir HMS penodol ar wella ansawdd addysgu yn yr agweddau yn flynddol.
- Rhyddhau 3 o staff (Arweinydd bugeiliol, AD CA3 a 4) i gynllunio a monitro rhaglen fentora ddwys gydag ymyrraethau penodol i gefnogi disgyblion, gan gynnwys disgyblion sydd yn, ac wedi bod yn deilwng i BYDd i godi safonau ym mhob cyfnod allweddol.
- Pob aelod o staff i ddarparu rhaglen fentora grymus i gefnogi cynnydd academaidd ein disgyblion, gan gynnwys disgyblion sydd yn, ac wedi bod yn deilwng i BYDd i godi safonau ym mhob cyfnod allweddol.
- Rhyddhau cydlwynwyr CA3 Llythrennedd (Cymraeg a Saesneg) a Rhifedd, sy’n athrawon profiadol i weithio gyda grwpiau penodol o ddisgyblion ar strategaethau ymyrraeth Llythrennedd a Rhifedd.
- Rydym wedi dynodi dosbarth dysgu ychwanegol ym Mathemateg, Saesneg a’r Gymraeg fel y gallwn ddatblygu nifer o ddosbarthiadau llai eu maint. Mae’r dosbarthiadau yn cynnwys nifer o ddisgyblion sydd mewn perygl o dangyflawni yn sgil tlodi ac amddifadedd a disgwyliwn felly iddynt i wireddu eu potensial.
- Cydweithio agos gyda’n hysgolion partner cynradd ar strategaethau cytun i godi safonau Llythrennedd a Rhifedd ein disgyblion.
- Rydym wedi adnabod grŵp o ddisgyblion CA4 sydd mewn perygl o beidio â bod mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET) wrth iddynt adael Ysgol yn 16. Mae’r mwyafrif o’r disgyblion yma mewn perygl o dangyflawni yn sgil tlodi ac amddifadedd. Maent yn derbyn sesiynau mentora cyson er mwyn eu cefnogi i ymdopi â gofynion eu cyrsiau amrywiol, yn ogystal â’u hysgogi i godi lefelau cymhelliant i lwyddo’n academaidd.
- Darparu’r ‘Ystafell Gwella’, sef ardal gynhwysiant ychwanegol i alluogi disgyblion sydd ag anghenion ymddygiadol ac emosiynol i dderbyn cefnogaeth ychwanegol i lwyddo.
- Cefnogaeth ariannol i ddisgyblion PYD i fynychu cyrsiau allgyrsiol a gwersi cerddoriaeth er sicrhau cyfranogiad er mwyn codi safonau.
- Ariannu ‘Swyddog Cynhwysiant’ er mwyn ddarparu adnodd gynhwysiant lwyddiannus iawn sydd yn chwarae rhan allweddol yn darparu dilyniant mewn addysg rhai o’n disgyblion mwy bregus.
- Rydym yn monitro presenoldeb yn agos gan gyflwyno amrywiaeth eang o strategaethau gan gynnwys targedu yn benodol, ddisgyblion sydd mewn perygl o dangyflawni yn sgil tlodi ac amddifadedd
Mae cynlluniau GAD a GGA yr ysgol yn cael eu harfarnu yn rheolaidd gan yr Awdurdod Lleol.