Bryn Tawe Logo

Prosbectws Chweched Dosbarth

Table of contents

Croeso

Mae’n bleser gennym gyflwyno Prosbectws Chweched Dosbarth Partneriaeth Gŵyr/Bryn Tawe i chi.

Mae’r Bartneriaeth yn fodd i chi fanteisio ar fwy o ddewis o gyrsiau ac elwa o amrywiaeth helaeth o adnoddau a lefel uchel o arbenigedd. Ceir hefyd gyfle cyffrous i chi ddatblygu ymhellach o fewn cymhwyster gwerthfawr y Fagloriaeth Gymreig.

Yn ogystal â rhoi’r cyfle i gamu ymlaen at goleg, prifysgol neu at swydd, bydd Partneriaeth Gŵyr/Bryn Tawe yn rhoi’r cyfle unigryw i chi gymdeithasu gyda ffrindiau, hen a newydd, ac i fanteisio ar gyfoeth o weithgareddau y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Ond yn fwy na hynny, cewch gyfle i barhau gyda’ch astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg ac i elwa wrth gyfrannu at gymuned ddwyieithog Dinas a Sir Abertawe a thu hwnt.

Gobeithiwn y byddwch yn barod i fanteisio ar y cyfleoedd fydd ar gael ac i fod yn rhan o lwyddiant Partneriaeth Chweched Dosbarth Gŵyr/Bryn Tawe.

Katherine Davies
Mrs Katherine Davies
Pennaeth Gŵyr
Simon Davies
Mr Simon Davies
Pennaeth Bryn Tawe

Pam dewis i astudio mewn ysgol yn hytrach na choleg?

Mae Partneriaeth Gŵyr Bryn/Tawe yn gallu cynnig profiadau amrywiol, diddorol a heriol. Cynigir amrywiaeth o gyrsiau, cymwysterau a chyfleoedd i bob myfyriwr. Yn flynyddol, ceir canlyniadau arholiadau UG a Lefel A rhagorol ar draws y Bartneriaeth.

Mae profiad helaeth o fewn Partneriaeth y Chweched o gefnogi cynnydd pob myfyriwr i’w lawn botensial. Wrth gwrs, cynigir parhad i addysg y myfyrwyr gan fod rhan helaeth ohonynt wedi bod yn y ddwy ysgol ers blwyddyn 7 mewn awyrgylch Gymreig a chartrefol. Dyma nodweddion sy’n hybu cynnydd academaidd a datblygiad personol pob myfyriwr. Yn olaf, mae modd datblygu’r sgiliau angenrheidiol a meithrin y rhinweddau personol hynny y bydd angen ar y myfyrwyr yn y dyfodol.

6th form pupils6th form pupils

Pa weithgareddau cyfoethogi sydd ar gael yn y Chweched Dosbarth?

Mae bywyd yn y Chweched Dosbarth yn golygu mwy na dim ond astudio academaidd. Rydym yn annog myfyrwyr i ymwneud â chymaint o weithgareddau ag y bo modd. Dyma restr o gyfleoedd posibl:

  • Cyngor Ysgol.
  • Pwyllgorau’r Chweched Dosbarth
  • Rhaglenni Mentora ac Addysgu Cyfoedion.
  • Gwobr Dug Caeredin.
  • Alldeithiau i wledydd amrywiol
  • Cystadlaethau chwaraeon e.e. Parc Rosslyn.
  • Gwaith gwirfoddol e.e. Vitalise.
  • Teithiau tramor e.e. sgïo, teithiau diwylliannol ac academaidd.
  • Gweithgareddau diwylliannol e.e. Corau hyn, cynhyrchiadau’r ysgol.
  • Menter yr Ifanc e.e. Mentrau Celtaidd.
  • Siarad Cyhoeddus e.e. CEWC Cymru, Ffug gynhadledd y Cenhedloedd Unedig.
  • Bwrsarïau Gwyddoniaeth e.e. Prosiect Nuffield.
  • Bod yn Arweinwyr Digidol
  • Mentrau Addysgol e.e. EESW a’r Olympiad Cemeg.
  • Gweithgareddau Ysgol Haf e.e. profiadau meddygol/peirianyddol.
  • Eisteddfod yr Ysgol, Gweithgareddau yr Urdd/Y Fenter Iaith.
  • Cyrsiau Preswyl e.e. Llangrannog, Glan-llyn a Tresaith.
  • Gwaith Cymunedol o fewn yr ysgol a thu hwnt
  • Profiadau Cymdeithasol e.e. dawns Nadolig y Chweched Dosbarth.
  • Timoedd Hyn yr ysgol yn Rygbi a Phêl Rhwyd

Mae myfyrwyr y Bartneriaeth yn rhan o’r rhaglen HE+ a threfnir yn lleol ar gyfer disgyblion disglair Sir Abertawe. Mae’r strategaeth yn cael ei chyd-drefnu gyda Phrifysgol Caergrawnt a chynigir cyfloeoedd all-gyrsiol sy’n hybu mynediad y disgyblion i brifysgolion gorau Prydain. Mae’r gweithgareddau a threfnir yn y meysydd canlynol: Ieithoedd, Hanes, Gwyddoniaethau Cymdeithasol, Cyfraith a Gwledyddiaeth, Busnes ac Economeg, Mathemateg a Gwyddoniaethau. Rhoddir y cyfle i fyfyrwyr ymestyn eu dealltwriaeth a hybu eu diddordeb ymhellach.

Beth yw gofynion mynediad i'r Chweched Dosbarth?

I astudio cwrs lefel 3 yn y Chweched Dosbarth, rhaid cael proffil academaidd cyffredinol cryf. Felly er mwyn cael mynediad i’r cyrsiau rhaid cael y canlynol:

  • Oleiaf pum TGAU gradd C ac yn uwch
  • Oleiaf gradd C yn Saesneg / Cymraeg a Mathemateg
  • Oleiaf gradd C yn y pwnc dewisol (os astudir o’r blaen) neu gradd B ac yn uwch ar gyfer cyrsiau Gwyddonol a Mathemateg.
  • Cymhwyster y BAC Canolradd

Mewn amgylchiadau eithriadol, lle nad yw’r myfyriwr yn cwrdd a’r gofynion uchod, mae modd trafod mynediad ar brawf.

Y tebygrwydd yw y bydd y mwyafrif o fyfyrwyr Blwyddyn 12 yn astudio 3 phwnc Uwch Gyfrannol a chymhwyster y BAC Uwch, ond mae hyn yn ddibynnol ar eu canlyniadau TGAU. Fel arfer, ym mlwyddyn 13, mae myfyrwyr yn parhau gyda’r un pynciau. Defnyddir canlyniadau arholiadau modiwl UG er mwyn penderfynu os yw’n briodol i barhau â’r pynciau. Rhaid cyrraedd graddau A - E.

Sut i ddewis y cwrs cywir yn y Chweched Dosbarth?

Pan yn dewis y cyrsiau i astudio, rhaid meddwl am y canlynol:

  • Diddordeb yn y pwnc?
  • Pa mor dda yw eich cyrhaeddiad yn y
  • pwnc?
  • Dull asesu’r cwrs?.
  • Dulliau astudio a ddefnyddir yn y pwnc?
  • Canlyniadau TGAU.
  • Syniadau posibl am yrfa.
  • Cyngor athrawon pwnc.

Mae'n bwysig bod myfyrwyr yn dewis y cyfuniad gorau o bynciau iddyn nhw. Gwneir drwy broses o ymgynghori rhwng y myfyriwr, rhieni a’r ysgol gartref. Unwaith bod myfyriwr wedi dewis pynciau posibl defnyddir y wybodaeth i gynllunio amserlenni’r ysgolion. Anogir disgyblion felly i ystyried yn ofalus cyn dewis pynciau, oherwydd y gallai hyn effeithio ar eu hamserlen bersonol ym Mlwyddyn 12. Rydym yn gwneud ein gorau i ymateb i ddewisiadau pynciol pob myfyriwr ond mae yna adegau pan na fydd hynny’n bosibl. Trefnir rhaglen gyflwyno ar ddechrau cyfnod y myfyriwr yn y Chweched Dosbarth er mwyn ei gynorthwyo i ddewis cyfuniad unigol o astudiaethau addas i’w allu a’i ddiddordeb. Bydd modd newid pwnc yn ystod y cyfnod cychwynnol hwn.

Students

Pa gyrsiau a gynigir?

Cyrsiau a gynigir gan yr ysgolion yn cynnwys:

  1. Cymwysterau y Fagloriaeth Gymreig (BAC).
  2. Cyrsiau Uwch Gyfrannol (UG) a Safon Uwch (U2).
  3. Safon Uwch Gymhwysol Galwedigaethol.
  4. Cyrsiau BTEC.
  5. Cyrsiau Ail Sefyll TGAU - pynciau craidd.

Pynciau a gynigir:

  • Addysg Gorfforol
  • Almaeneg
  • Astudiaethau Busnes
  • Astudiaethau Crefyddol
  • Astudiaethau Cyfryngau
  • Bioleg
  • Celf
  • Cemeg
  • Cerdd
  • Cyfrifiadureg
  • Cymraeg
  • Chwaraeon
  • Daearyddiaeth
  • Drama ac Astudiaethau’r Theatr .
  • Dylunio a Thechnoleg:Dylunio Cynnyrch
  • Electroneg
  • Ffiseg
  • Ffrangeg
  • Gofal Plant
  • Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Gwleidyddiaeth
  • Hanes
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Mathemateg
  • Peirianneg
  • Saesneg Iaith
  • Saesneg Llen
  • Sbaeneg
  • Seicoleg
  • Technoleg Gwybodaeth Cymhwysol
Students

Sut ydym yn medru cefnogi myfyrwyr y Chweched Dosbarth?

Mae’r ysgolion yn gwneud ymdrech arbennig i gynorthwyo aelodau’r Chweched Dosbarth i ddewis cyrsiau a phynciau addas. Hefyd, yn ystod y flwyddyn gyntaf yn y Chweched, caiff y myfyrwyr gyfarwyddyd manwl ar sut i addasu i’r newidiadau academaidd a chymdeithasol a ddaw i’w rhan wrth ddod yn aelodau o’r Chweched. Y Tiwtor Dosbarth sydd ar gael i gynorthwyo ac arwain y myfyriwr tra bydd Mentor y BAC yn cynnal sesiynau rheolaidd i fonitro cynnydd myfyrwyr y Chweched. Mae rhaglen ABCh eang hefyd yn helpu i gefnogi datblygiad y myfyrwyr ac yn eu paratoi ar gyfer prifysgol , gwaith , prentisiaethau a rhaglenni blwyddyn allan. Defnyddir Cynghorydd yr ysgol i roi arweiniad i’r rheini sy’n profi unrhyw anawsterau neu ansicrwydd yn eu bywydau. Darperir gwasanaeth eang o arweiniad gyrfaol a galwedigaethol gan yr ysgolion. Y mae’r Cynghorydd Gyrfaoedd yn gweithio yn agos gyda Phenaethiaid Chweched yr ysgolion. Caiff rhai aelodau o Flwyddyn 11 gyfweliad unigol er mwyn eu cefnogi a’u cynghori ar eu dewisiadau. Mae’r Cynghorydd Gyrfaoedd bob amser yn falch o gyfarfod â myfyrwyr a’u rhieni i drafod y cyfleoedd sydd ar gael.

Problem solving

Beth arall sydd angen i mi wybod?

Gwisg y Chweched

Disgwylir i fyfyrwyr y Chweched sicrhau’r safonau gorau o ran gwisg eu hysgol gartref. Manylion y wisg yw:

  • Trowsus neu sgert ddu, crys a siwmper yr ysgol gartref.
  • Esgidiau duon (dim flip-flops neu sandalau blaenagored)

Prynir y wisg ysgol o’r canolfannau arferol - Gŵyr - “The School Uniform Shop”, Tycoch a Bryn Tawe o’r ysgol.

Canolfannau Astudio’r Chweched Dosbarth a’r Lolfa

Mae gan y ddwy ysgol Ganolfannau Astudio ar gyfer y Chweched Dosbarth. Bydd y ddwy ganolfan ar gael i fyfyrwyr y Bartneriaeth ar gyfer ymchwilio,astudio a gweithio’n annibynnol. Gellir defnyddio’r cyfrifiaduron ar gyfer archwilio’r we. Bydd disgwyl i fyfyrwyr y Chweched glustnodi gwersi astudio ar eu hamserlen a gwneud defnydd llawn o’r Ganolfan Astudio. Mae Lolfa’r Chweched yn ganolfan ar gyfer ymlacio a chymdeithasu yn ystod gwersi penodol. Bydd croeso i fyfyrwyr y Bartneriaeth wneud defnydd llawn o Lolfa’r naill ysgol a’r llall. Bydd ffreutur y ddwy ysgol hefyd ar agor at ddefnydd myfyrwyr y Bartneriaeth.

Students

Lwfans Cynnal Addysg (LCA)

Bydd cyfle i unrhyw aelod o’r Chweched geisio am y lwfans sydd yn ddibynnol ar gyflog rhieni.

.

Os yn gymwys:

  • Rhoddir lwfans i fyfyrwyr yn syth i mewn i gyfrif banc pob pythefnos.
  • Bydd myfyrwyr ond yn derbyn lwfans os ydy’r ysgol yn fodlon gyda phresenoldeb, gwaith academaidd ac ymddygiad y myfyriwr

Cludiant o fewn y Bartneriaeth

Os yw myfyrwyr yn astudio pwnc/pynciau a ddysgir yn yr ysgol bartner, bydd y trefniadau cludiant fel a ganlyn:-

  • Dylai myfyrwyr fynychu’r ysgol gartref yn y ffordd arferol ar ddechrau’r dydd.
  • Trefnir bws gwennol i gludo myfyrwyr, rhwng y ddwy ysgol.
  • Ar ddiwedd y dydd, bydd pob myfyriwr/ myfyrwraig yn dychwelyd i’w h/ysgol gartref ar gyfer cludiant adref.
  • Os ydy myfyrwyr yn bwriadu defnyddio dulliau teithio personol rhwng ysgolion e.e. cludo gan riant, mae’n bwysig rhoi gwybod i’r ysgol gartref.
  • Os yw myfyrwyr yn defnyddio eu ceir/beiciau modur personol yn rheolaidd i deithio i’r ysgol rhaid rhoi gwybod i Chweched ynglyn â’r trefniadau hyn er mwyn i fyfyrwyr dderbyn canllawiau pellach, yn enwedig am barcio.
Rugby Team

Sut brofiad yw hi fod yn fyfyriwr y Chweched?

Tomos Morris

Tomas Morris

Rwy’n un o brif ddisgyblion Gŵyr ac yn astudio Hanes, Cymraeg, Ffrangeg a’r BAC Cymreig. Fy nod yw astudio’r Gyfraith a Ffrangeg a Chysylltiadau Rhyngwladol gyda’r uchelgais hir-dymor o weithio tramor, yn enwedig yn Ffrainc. Gobeithiaf hefyd ddysgu Sbaeneg i ledaenu’r gwledydd y gallaf weithio ynddynt. Uchafbwyntiau’r Chweched i mi oedd y daith sgio ym mlwyddyn 12 . Roedd yn brofiad bythgofiadwy oherwydd y cyfle i gymdeithasu ac i ddod ymlaen gyda chyd-ddisgyblion ac athrawon. Eleni, cefais y cyfle i areithio yn y Senedd mewn cystadleuaeth siarad cyhoeddus a bydd hyn yn sefyll yn y cof gen i am byth! Mae llwyddiant chwaraeon yn draddodiad mawr yn yr ysgol a ches i’r cyfle i lwyddo gyda’r tim 1af yn rygbi, 7 bob ochr a thimoedd pel-droed yr ysgol.

Gwilym Powell

Gwilym Powell

Rwy’n un o brif ddisgyblion Gŵyr ac yn astudio Hanes, Daearyddiaeth, Addysg Grefyddol a’r BAC Cymreig. Yn y dyfodol, rwy’n gobeithio astudio Hanes yn y brifysgol gyda’r nod o fod yn athro Hanes mewn ysgol uwchradd. Bu sawl uchafbwynt yn y Chweched ond yr un sydd wedi effeithio arnaf fwyaf yw’r agosatrwydd amlwg a’r berthynas sydd rhwng disgyblion ac athrawon. Mae’r agosatrwydd yma yn creu awyrgylch gweithio hwylus a chyfeillgar. Yn ogystal, roedd ennill Cynghrair Rygbi Ysgolion y Gweilch llynedd, yn gofiadwy gan yr oedd yn gwobrwyo’r gwaith caled ar ôl blwyddyn hir o rygbi i’r Chweched.

Poppy Jones

Poppy Jones

Rwy’n un o brif ddisgyblion Gŵyr ac yn astudio Ffiseg, Cemeg, Mathemateg a Mathemateg Pellach ynghyd a ‘r Fagloriaeth Gymreig. Ar ôl gadael Gŵyr, rwy’n gobeithio gwneud gradd mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Warwick. Rwyf wedi joio fy amser yn y Chweched mas draw ac wedi manteisio ar lu o gyfleuoedd sydd wedi cael eu cynnig i mi. Un o fy uchafbwytiau yn ystod fy amser yn y Chweched oedd mynychu taith sgio’r ysgol. Roedd yr wythnos yn fendigedig er fy mod i wedi gwario hanner yr amser yn cwympo ar y llethrau! - profiad gwych a bythgofiadwy. Gwnes i hefyd fwynhau sefydlu grwp STEM ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7, 8 a 9. Mae hwn yn glwb sy’n rhoi cyfle i ddisgyblion sydd gyda diddordeb yng Ngwyddoniaeth i wneud gweithgareddau amrywiol. Mae llawer o gymorth ar gael i sefydlu clybiau fel rhan o’r chweched a chyfle gwych i fanteisio ar hyn. Uchafbwynt arall oedd cynorthwyo ar gwrs preswyl i Langrannog. Roedd y profiad yn werthfawr iawn – er tasg anodd oedd sicrhau bod ystafelloedd blwyddyn 6 yn daclus!

Morganna Clarke

Morganna Clarke

Rwy’n un o brif ddisgyblion Gŵyr ac yn astudio Bioleg, Cemeg, Saesneg Llen a ‘r Fagloriaeth Gymreig. Yn y brifysgol gobeithiaf astudio gradd yn Swoleg. Rydw i wedi joio helpu allan mewn clybiau sy’n cael eu cynnal amser cinio megis clwb gwaith cartref, sy’n rhoi cyfle i ddisgyblion blwyddyn 7 gael help y Chweched wrth gwblhau eu gwaith cartref. Dwi hefyd yn rhan o glwb STEM sy’n ceisio ysbrydoli y blynyddoedd iau i fwynhau a chymryd rhan mewn gweithgareddau ac arbrofion gwyddonol. Uchafbwynt y Chweched i mi oedd cyflawni safon Aur Gwobr Dug Caeredin. Roedd yr alldaith ei hun yn brofiad arbennig a mwynhaeais y sialens yn fawr iawn yn y gwynt a’r glaw! Mae hi hefyd wedi bod yn bleser trefnu partïon i’r Chweched tu allan i oriau’r ysgol er mwyn datblygu a dwysau’r berthynas rhwng dwy flynedd y Chweched a rhwng myfyrwyr Gŵyr a Bryn Tawe. Mae’r partïon hefyd yn gyfle da i godi arian am elusennau gwahanol mae’r Chweched yn eu cefnogi. Rwy’n teimlo’n gartrefol yng NGŵyr ac mae’r ysgol wedi dylanwadu’n gryf ar fy niddordebau a’m nodau ar gyfer y dyfodol.

Nerys Williams

Nerys Williams

Fi yw’r Brif Ferch yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe. Rwyf yn astudio’r Gymraeg, Hanes a Cherddoriaeth. Yn y dyfodol rwy’n gobeithio astudio’r Gymraeg yn y brifysgol ac yn gobeithio dilyn llwybr addysg fel gyrfa. Mae rhai o fy niddordebau yn deillio o’r angerdd tuag at gerddoriaeth fel canu hefo corau a chwarae mewn sawl cerddorfa. Yn ogystal, yn fy amser rhydd rwyf yn mwynhau ysgrifennu barddoniaeth. Mae cymdeithasu ac amser i ymlacio yn bwysig iawn hefyd i mi ac rwyf wrth fy modd yn mynd i’r sinema hefo ffrindiau ar brynhawn dydd Sadwrn.

Gwen Williams

Fi yw Dirprwy Prif Ferch Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe. Rwyf yn astudio’r Gymraeg, Drama a Chyfryngau. Yn y dyfodol rwyf yn gobeithio dilyn y trywydd o actio yn y brifysgol ac ymhellach perfformio ar lwyfan yn y West End. Fy mhrif ddiddordeb yw ymgymryd â gweithgareddau celfyddydol megis cymryd rhan mewn sioeau a chystadlu mewn amryw o gorau. Rwyf hefyd yn mwynhau gwneud prosiectau lluniadol ar gyfer fy nghwrs cyfryngau , mae’n fy ngalluogi i fod yn greadigol mewn ffurf gwahanol.

Students
Students

Adam Walters

Yr wyf yn Ddirprwy Prif Fachgen yr ysgol ac ar hyn o bryd dwi’n astudio Mathemateg, Ffiseg, Peirianneg a’r Fagloriaeth. Yn fy amser rhydd rwy’n chwarae dros dîm rygbi’r ysgol ac yn cymryd rhan mewn agweddau elusennol yr ysgol. Byddwn yn hoffi astudio Peirianneg Fecanyddol yn y brifysgol, gan obeithio cadarnhau lle ym Mhrifysgol Caerdydd.

Llyr Davies

Llyr Davies

Yr ydw i yn Brif Fachgen yr ysgol ar hyn o bryd ac rwy’n astudio Addysg Gorfforol, Bioleg, Daearyddiaeth a’r BAC. Yn fy amser rhydd rwy’n ddyn dwr i dîm cyntaf rygbi’r ysgol ac yn helpu hyfforddi’r tîm. Rydw i’n mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau elusennol o fewn yr ysgol. Rwy’n gobeithio astudio ffisiotherapi ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn fy amser rhydd rwyf yn mwynhau cadw’n heini drwy chwarae rygbi. Yn ogystal â hyn rwyf yn gwirfoddoli gyda gwasanaeth ambiwlans St John’s ac yn gweithio fel achubwr bywyd yn Aberafon ac felly mae hyn yn helpu fy mharatoi ar gyfer sefyllfaoedd argyfwng ac yn rhoi sgiliau hanfodol i mi ar gyfer fy ngobeithion am y dyfodol.

Students
Students