skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Pontio

Cyflwyniad

EN

Mae cryn dipyn o baratoi ymlaen llaw yn digwydd er mwyn sicrhau trosglwyddiad llyfn o’n hysgolion partner i Fryn Tawe. Rydym yn ymwybodol iawn bod trosglwyddo’n gallu golygu newid dramatig i lawer o ddisgyblion. Felly rydym yn awyddus i ddod i adnabod disgyblion ein hysgolion partner yn dda cyn iddynt gyrraedd Bryn Tawe, er mwyn iddynt ymgartrefu’n gyflym.

Fel rhan o’n rhaglen bontio, mae disgyblion ein hysgolion cynradd yn treulio cyfnodau ym Mryn Tawe yn ystod Blwyddyn 6 yn dysgu a chymdeithasu drwy

weithgareddau amrywiol gyda ffrindiau a chyfoedion hen a newydd. Mae’r ymweliadau hyn yn cynnwys gwersi animeiddio, prosiect gwyddoniaeth, cystadleuaeth menter, sesiynau sgiliau chwaraeon a gwaith tîm, gwersi ‘rhagflas’ mewn ystod o bynciau a chwrs preswyl yn Llangrannog. Byddwch yn derbyn amserlen lawn o’r gweithgareddau a’r dyddiadau fel rhan o’r rhaglen bontio.

Oherwydd y rhwystrau presennol ar gynnal ymweliadau Pontio oherwydd Cofid, rydym yn adolygu’r sefyllfa pob hanner tymor er mwyn gallu mynd ati i drefnu ymweliadau pan fydd yn ddiogel i’w wneud.

Llythron

Dyddiad Teit
23/10/2020 Cyfarfodydd Rieni Tach 2020

Newyddion

EN

Ymweliadau i Fryn Tawe – Hydref 23ain-27ain 2023

Yn ystod yr wythnos Hydref 23ain i 27ain, mi fydd disgyblion ein hysgolion clwstwr yn cael cyfle i ymweld â Bryn Tawe ar fore o sesiynau sgiliau ymarferol. Mae yna hefyd gyfle i rieni ymweld â’r ysgol. Gweler y llythyron isod am fwy o wybodaeth:

Llythyr Gellionnen Letter 2023

Llythyr Lon Las Letter 2023

Llythyr Tirdeunaw Letter 2023

Llythyr Tan-y-Lan Letter 2023

Llythyr y Cwm Letter 2023

Ymweliadau i Fryn Tawe – Tachwedd 14eg-18fed

Yn ystod yr wythnos Tachwedd 14eg – 18fed, mi fydd disgyblion ein hysgolion clwstwr yn cael cyfle i ymweld â Bryn Tawe ar fore o sesiynau sgiliau ymarferol. Mae yna hefyd gyfle i rieni ymweld â’r ysgol. Gweler y llythyron isod am fwy o wybodaeth:

Llythyr y Cwm Bore Ymarferol 2022

Llythyr Tirdeunaw Bore Ymarferol 2022

Llythyr Tan-y-Lan Bore Ymarferol 2022

Llythyr Lon Las Bore Ymarferol 2022

Llythyr Gellionnen Bore Ymarferol 2022

Adroddiad Taith Bl.7 Llanmadog

Darllenwch i ddarganfod beth ddigwyddodd yn Llanmadog eleni.

Adroddiad Llanmadog 2022

Parents’ Pastoral Evening – Class 7B

For the attention of class 7B parents: unfortunately, Mr Jones will not be available at the pastoral evening tonight (26/09/22) and therefore you will not need to attend. Despite this, if you have any issue or question to raise with the Leader of Learning/Senior Team, you are most welcome to attend.

Cyhoeddiad Noson Fugeiliol – Dosbarth 7B

At sylw rhieni dosbarth 7B, yn anffodus ni fydd Mr Jones ar gael yn y noson fugeiliol heno (26/09/22) ac felly ni fydd angen i chi fynychu. Er hyn, os oes gennych unrhyw fater neu gwestiwn i’w codi gyda’r Arweinydd Dysgu/Uwch Dîm, croeso mawr i chi fynychu.

Llythyr Trefniadau’r Wythnos Bontio

Gweler y trefniadau ar gyfer yr wythnos bontio yma:

Trefniadau Wythnos Bontio 2022

Llythyr Noson Rieni Blwyddyn 6 14.10.21

Gweler y llythyr isod ar gyfer trefniadau’r noson rieni. Er mwyn ymuno, mewngofnodwch i gyfrif Hwb eich plentyn a dilynnwch y cyfarwyddiadau yn y llythyr:

Llythyr Noson Rieni 14.10.21

RHIENI BL. 6 – TREFNIADAU MEDI 2021

Gweler y llythyr isod ar gyfer y trefniadau dechrau ym mis Medi:

Llythyr Rieni Bl.6 130721

Trefniadau Diwrnod Pontio

Rhieni bl.6:

Gweler y llythyr isod yn rhannu gwybodaeth pellach pontio ac yn amlinellu trefniadau am ymweliad pontio i Fryn Tawe ar y 30/06/21. Cysylltwch i drafod os oes unryw gwestiwn neu gonsyrn gennych?

Llythyr Ymweliad Pontio 30.06.21

Gwyliwch y fideo yma, wedi ei baratoi gan ei disgyblion gwych, am flas o’r ysgol: Taith o’r safle 

Defnyddiwch y dolen yma i fynychu’r ‘Noson Rhieni Pontio’ ar y 30/06/21 am 17:00: Click here to join the meeting

YMUNO GYDA CHYFARFOD RHIENI PONTIO TACH 2020

Fel y gwyddoch, rydym yn cynnal dwy noson rieni ‘pontio’ wythnos nesaf ar gyfer rhieni bl.6:

  • Mawrth 10/11/20 am 18:00 i rieni Gellionnen a Lon Las;
  • Mercher 11/11/20 am 18:00 i rieni Tan-y-Lan, Tirdeunaw ac ysgol Y Cwm.

Er mwyn gallu ymuno gyda’r cyfarfod perthnasol i chi, mewngofnodwch i gyfrif Hwb eich plentyn a dilynnwch y cyfarwyddiadau ar y daflen gywir isod:

Edrychwn ymlaen at eich cwrdd, yn rhithiol, ar y noson.

FAQ

EN
Faint o’r gloch sydd angen i fy mhlentyn gyrraedd yr ysgol yn y bore?

Bydd angen i’ch plentyn fod tu allan i’r dosbarth cofrestru yn barod i ddechrau cyfnod cofrestru gyda’r tiwtor personol erbyn 8.35 ar ddyddiau Llun, Mawrth, Iau a Gwener. Ar fore Mercher, fe fydd gwasanaeth i CA3 (blynyddoedd 7-9) felly fe fyddant yn mynd yn syth i’r Neuadd Fawr erbyn 8.35 yn lle mynd i’r dosbarth cofrestru.

Oherwydd sefyllfa Covid 19, ni fydd gwasanaethau ar y cyd fis Medi, fe fydd cyfnodau gwasanaethau / Munud i Feddwl yn digwydd yn ystod cyfnodau cofrestru.

Beth yw amseroedd y dydd?
8.35–9.00
Cofrestru / Gwasanaeth (Dydd Mercher)
9.00–9.50
Gwers 1
9.50–10.40
Gwers 2
10.40–11.00
Egwyl
11.00–11.50
Gwers 3
11.50–12.40
Gwers 4
12.40–1.30
Cinio
1.30– 2.20
Gwers 5
2.20–3.10
Gwers 6

Fis Medi, fydd hyn ychydig yn wahanol, nid yw’n bosib dweud beth fydd yr amserlen eto, fe fydd mwy o fanylion i ddilyn.

Pa offer fydd angen ar fy mhlentyn?

A wnewch chi sicrhau fod gan eich plenty y canlynol ar gyfer pob gwers os gwelwch yn dda? - Beiro, pensil, pren mesur, rwbwr, naddwr, cyfrifiannell, pensiliau lliw a llyfr cyswllt.

Beth am wisg ysgol?

Gweler polisi gwisg Ysgol Bryn Tawe yma.

Beth os yw fy mhlentyn yn cael ei b/fwlio?

Mae gan yr ysgol bolisi gwrth-fwlio clir, ni fydd yr ysgol yn goddef bwlio o unrhyw fath ac fe fydd pob achos yn cael ei ddelio ag ef yn brydlon, yn drylwyr ac yn sensitif. Rhaid i’r disgybl adrodd unrhyw broblem i unrhyw aelod o staff fel ein bod yn ymwybodol. (Linc at y polisi?)

Beth am drafnidiaeth? Sut fydda i’n clywed am drefniadau bws?

Cyngor a Sir Abertawe sy’n gyfrifol am drafnidiaeth ysgolion. Fe fyddant yn cysylltu â chi ym mis Awst gyda’r wybodaeth berthnasol. Os oes angen unrhyw wybodaeth pellach arnoch, cysylltwch â nhw’n uniongyrchol os gwelwch yn dda.

At bwy gall fy mhlentyn droi petai problem?

Mae llawer o bobl ar gael i helpu’ch plentyn petai problem. I ddechrau, mae’r Tiwtor Personol yn cael cyswllt dyddiol gyda’ch plentyn felly mae ef neu hi’n berson da i’w holi. Gall eich plentyn droi at unrhyw aelod o staff arall i ofyn am help, at yr Arweinydd Dysgu neu at Fentoriaid Blwyddyn 10 os nad yw’ch plentyn yn ddigon hyderus i siarad ag oedolyn. Gall ddisgyblion fynd i’r swyddfa hefyd am help ymarferol e.e. os ydynt ar goll, angen cysylltu ag adref, salwch neu gymroth cyntaf.

Oes hawl gan fy mhlentyn fynd â ffôn symudol i’r ysgol?

Mae hawl gan ddisgyblion ddod â ffôn symudol i’r ysgol. Mae polisi ffonau symudol yr ysgol yn caniatáu i ddisgyblion ddefnyddio ffonau yn ystod amser egwyl a chinio yn unig (nid yn ystod na rhwng gwersi). Gellir defnyddio ffôn i chwarae gemau neu gerddoriaeth (gyda chlustffonau) ac i ddanfon negeseuon testun yn unig. Nid oes hawl gan ddisgyblion wneud galwadau (heb ganiatad aelod o staff) na mynd ar wefannau cymdeithasol, tynnu lluniau na fideos ar safle’r ysgol. Mae’n bosib y bydd disgyblion sy’n gwrthod dilyn y polisi’n colli’r ffôn am gyfnod ac os yw’r broblem yn parhau, mae’n bosib i ddisgybl golli’r fraint o gael dod â ffôn yn gyfan-gwbl am gyfnod neu’n barhaol.

Beth yw trefnidau cinio?

Fe fydd eich plentyn yn cael y dewis o gael cinio ysgol yn y ffreutur neu fe allant ddod â brechdanau eu hunain os ydynt yn dymuno. Fe fyddwch yn derbyn ffurflen ganiatâd i’ch plentyn gael sganio bys bawd er mwyn talu am ginio yn y ffreutur. Os nad ydych yn dymuno gwneud hyn, gall eich plentyn dderbyn rhif pin i’w ddefnyddio yn hytrach na sganio bys bawd.

Mae modd i chi dalu arian i gyfrif eich plentyn drwy ddefnyddio ‘Squid’ neu ddanfon siec i’r ysgol. Os ydych yn dymuno, mae modd i’ch plentyn lwytho arian parod i’r cyfrif drwy ddefnyddio’r peiriannau sydd gennym yn yr ysgol. Os ydych yn derbyn prydiau ysgol am ddim, fe fydd yr arian yn cael ei lwytho’n awtomatig i gyfrif eich plentyn.

Mae dewis o wahanol brydiau ar gael yn y ffreutur ac fe fydd eich plentyn yn dewis y bwyd ac yn talu am yr hyn fydd yn ei ddewis. Mae ‘pryd y dydd’ ar gael yn ddyddiol sy’n ffordd rhatach o ddewis pryd bwyd. Mae opsiynau llysieuol a fegan. Os oes gan eich plentyn unrhyw alergedd neu ofynion deiet arbennig, cysylltwch â’r ysgol.

Faint o waith cartref fydd fy mhlentyn yn ei dderbyn?

Fe fydd eich plentyn yn derbyn un darn o waith cartref bob wythnos yn y pynciau craidd (Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) ac un darn bob pythefnos yn y pynciau eraill. Fe fydd y gwaith yn cael ei osod ar ‘app’ o’r enw ‘Satchel One.’ Mae modd i chi fel rhiant a’r disgybl fewngofnodi i’r ‘app’ a derbyn hysbysiad pan fydd gwaith cartref yn cael ei osod. Fe fydd staff yn gosod y gwaith cartref yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Adnoddau

EN

Gysylltau

Fideos