Diwrnod T. Llew Jones


A hithau’n ganmlwyddiant geni T.Llew Jones, dathlwyd y diwrnod gyda gweithgareddau amrywiol yn yr ysgol.

  • Cynhaliwyd gwasanaeth, gyda’r Chweched yn cymryd rhan, yn sôn am gyfraniad T.Llew Jones i fyd llenyddiaeth.
  • Yn ystod yr wythnosau diwethaf, cafodd pawb ym ml.7-9 gyfle i greu cerdyn i gofio a dathlu bywyd T.Llew Jones a chreu cerddi gwreiddiol am Abertawe yn dilyn patrwm rai o’i gerddi ef megis “Cwm Alltcafan” a “Traeth y Pigyn”. Enillwyr y gystadleuaeth yma oedd Grace Lancey a Ben Lervy o fl.7, Carwyn Wood a Thea Wood o fl.8, a Llew Wood a Kirsty Lewis o fl.9. Cawsant un o lyfrau T.Llew Jones a siocled yn wobr.
  • Cynhaliwyd noson ffilm i ddisgyblion iau’r ysgol wylio “Tân ar y comin” (a bwyta popcorn!)
  • Yn ystod gwers Gymraeg, cafodd bl.7 a 8 gyfle i wneud Helfa Drysor T.Llew Jones wrth chwilio am atebion i gwestiynau amrywiol ar daflenni gwybodaeth a cherddi oedd wedi’u gosod ar y walydd o gwmpas y lle.
  • Un o’r uchafbwyntiau oedd te parti i gofio T.Llew Jones yn y Neuadd amser egwyl. Addurnwyd y Neuadd gyda’r cardiau a grewyd i ddathlu’r penblwydd a chafwyd gwledd o gacennau! Diolch yn fawr i’r Chweched am eu holl waith caled yn ystod y dydd! Llongyfarchiadau hefyd i’r disgyblion a enillodd y cystadlaethau amrywiol a drefnodd y Chweched yn ystod y te parti. Enillydd Helfa Drysor Plas y Wernen oedd Alysha Laugharne. Enillwyr y cwis oedd Ashleigh Graham a Ffion Tomos. Enillydd cwis dyfalu’r teitl oedd Tari Starre Michael.
  • Pleser hefyd oedd gwylio grwpiau o fl.7 a 8 yn perfformio sgetshys yn seiliedig ar waith T.Llew Jones yn y Stiwdio Ddrama amser cinio. Diolch I’r Chweched am feirniadu a llongyfarchiadau i’r grwp buddugol o fl.7 (Emily Phillips, Ffion Tomos, Ashleigh Graham, Romilly Harris, Poppy Jones, Kiki Owen, Eleri Lloyd Morgan)

Pleser oedd dathlu canmlwyddiant geni ein “Brenin Llenyddiaeth i blant”. Diwrnod I’r brenin go iawn!

IMG_21552-150x150[1]