Prosbectws 2020


Diolch i chi am fynegi diddordeb yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe. Mae’n bleser cael cyflwyno’n prosbectws i chi fel darpar rieni a disgyblion yr ysgol.

Rhannwn y fraint fel rhieni, disgyblion a staff yr ysgol o gyfrannu at ysgol sydd ag ethos cryf o anelu am ragoriaeth ym mhob agwedd o fywydau ein disgyblion. Mae canlyniadau ein disgyblion

mewn arholiadau allanol dros amser yn gyson uchel, sydd yn eu caniatáu i ddilyn eu llwybr dewisol mewn bywyd. Mae hyn yn dystiolaeth o gryfder y bartneriaeth sydd yn bodoli rhwng yr ysgol a’i chymuned, ac fe’ch gwahoddwn chi’n gynnes i fod yn rhan o’r bartneriaeth lwyddiannus yma. Yn y prosbectws byddwch yn darllen am y disgwyliadau uchel sydd gennym ar ein cyfer ni ein hunain, ein rhieni a’n myfyrwyr .

Yn y prosbectws ceir rhestr o’n Nodau a’n Hamcanion fel ysgol. Rhain ydy cerrig sylfaen yr hyn a wnawn yn ddyddiol ym Mryn Tawe a sicrhawn ein bod yn gosod ein disgyblion yng nghanol popeth a wnawn. Rydym yn darparu amgylchedd diogel, ysgogol a gofalgar lle bydd pob disgybl yn cael y gefnogaeth a’r anogaeth i dyfu a datblygu’n gymdeithasol ac yn ddeallusol.

Mae cyfleusterau dysgu ardderchog yn yr ysgol. Mae ein staff gweithgar a thalentog yn sicrhau cyfleoedd a phrofiadau o’r radd flaenaf yn y gwersi a thrwy raglen o weithgareddau allgyrsiol eang sy’n cyfoethogi bywyd ein disgyblion. Mae gennym gorff llywodraethu ymroddedig gyda sawl aelod wedi bod yn flaenllaw yn y broses o sefydlu’r ysgol.

Rydym yn disgwyl i’n disgyblion ymrwymo i weithio’n galed, i fanteisio i’r eithaf ar y profiadau addysgol ym Mryn Tawe, i siarad Cymraeg yn y gwersi ac yn gymdeithasol ac ymddwyn mewn modd a fydd yn cynnig y cyfle gorau posib iddynt hwy a’u cyfoedion lwyddo yn yr ysgol. Mae’r disgwyliadau yma wedi eu crynhoi o fewn ein tair egwyddor – Parch, Cymreictod a Dyfalbarhad.

Y llawlyfr hwn yw’r cam cyntaf yn llunio partneriaeth rhwng y cartref a’r ysgol. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau y bydd eich meibion a’ch merched yn cael y ddarpariaeth addysgol orau bosib a fydd yn rhoi’r dechreuad gorau mewn bywyd iddynt. Edrychaf ymlaen at sefydlu partneriaeth gref rhyngom, er lles eich plentyn.

Simon Davies

Pennaeth

Cadeirydd y Llywodraethwyr: Mr Heini Gruffudd

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Heol Gwyrosydd, Penlan, Abertawe SA5 7BU Ffôn 01792 560600

Ebost: ygg.bryntawe@swansea-edunet.gov.uk www.bryntawe.swansea.sch.uk

Nodau ac Amcanion

Ein cenhadaeth

“Darparu addysg gyfrwng Cymraeg, gyflawn o fewn cymuned hapus, ofalgar ac uchelgeisiol lle mae pob aelod yn cael eu gwerthfawrogi, yn cael cefnogaeth ac yn cael eu trin gyda pharch a goddefgarwch. Anelwn at ragoriaeth ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol er mwyn i bob un o’r disgyblion gyflawni eu potensial llawn.“

Fe fyddwn yn gwireddu hyn drwy:

  • sicrhau safonau dysgu ac addysgu ardderchog sydd yn herio ac ysbrydoli pob disgybl
  • gynnig cwricwlwm eang a phwrpasol sydd yn addas i bob disgybl ac sy’n datblygu dysgwyr a dinasyddion uchelgeisiol, creadigol, egwyddorol, iachus a hyderus.
  • sicrhau cyfleoedd i bob disgybl fanteisio’n llawn ar eu sgiliau dwyieithog ac i feithrin balchder mewn ac ymwybyddiaeth o ddiwylliant, hanes a thraddodiadau Cymru
  • sicrhau cyfleoedd i bob disgybl ddatblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd, cymhwysedd digidol, datrys problemau, cydweithio a meddwl er mwyn dod yn aelod llawn o weithlu’r dyfodol
  • gynnal a datblygu strwythur bugeiliol sy’n adnabod anghenion pob disgybl ac yn darparu’r gefnogaeth, gwybodaeth a chymorth angenrheidiol
  • gynnig profiadau allgyrsiol niferus ym meysydd chwaraeon, perfformio, ymweliadau lleol a rhyngwladol, elusennau a gweithgareddau cymunedol
  • gynnal a datblygu awyrgylch lle mae parch at werthoedd moesol ac ysbrydol
  • gynnal disgwyliadau uchel o ran ymddygiad a gwisg ysgol
  • annog disgyblion i fyw bywydau iach ac i fwynhau gweithgareddau chwaraeon amrywiol
  • ddatblygu perthynas agos a chynhyrchiol gyda holl aelodau cymuned yr ysgol, gyda chyfleoedd cyson i rannu gwybodaeth
  • sicrhau rôl ganolog i farn disgyblion o fewn holl weithgarwch yr ysgol

Yn deillio o’n nodau ac amcanion, mae yna dair egwyddor sylfaenol gennym sydd yn greiddiol i bopeth a wnawn bob dydd. Ein cynghorau ysgol sydd wedi cymryd y cyfrifoldeb o ddatblygu ystyr y tair egwyddor ar gyfer rhan ddeiliaid yr ysgol gyfan.

Pontio gyda’n hysgolion Cynradd Partner

Mae cryn dipyn o baratoi ymlaen llaw yn digwydd er mwyn sicrhau trosglwyddiad llyfn o’n hysgolion partner i Fryn Tawe. Rydym yn ymwybodol iawn bod trosglwyddo’n gallu golygu newid dramatig i lawer o ddisgyblion a felly rydym yn awyddus i ddod i adnabod disgyblion ein hysgolion partner yn dda cyn iddynt gyrraedd Bryn Tawe, er mwyn iddynt ymgartrefu’n gyflym.

Fel rhan o’n rhaglen bontio, mae disgyblion ein hysgolion cynradd yn treulio cyfnodau ym Mryn Tawe yn ystod Blwyddyn 6 yn dysgu a chymdeithasu drwy weithgareddau amrywiol gyda ffrindiau a chyfoedion hen a newydd. Mae’r ymweliadau hyn yn cynnwys gwersi animeiddio, prosiect gwyddoniaeth, cystadleuaeth menter, sesiynau sgiliau chwaraeon a gwaith tîm, gwersi ‘rhagflas’ mewn ystod o bynciau a chwrs preswyl yn Llangrannog. Byddwch yn derbyn amserlen lawn o’r gweithgareddau a’r dyddiadau fel rhan o’r rhaglen bontio.

Hydref

Staff a disgyblion Bryn Tawe yn ymweld ag ysgolion cynradd i gyflwyno gwybodaeth am fywyd ym Mryn Tawe. Gyda’r nos – sesiynau ar gyfer rhieni i gyflwyno’r ysgol, i’w cynnal yn yr ysgolion cynradd.

Tachwedd

Gweithdai sgiliau ymarferol ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6. Diwrnodau Agored ym Mryn Tawe ar gyfer rhieni Blwyddyn 6 (fesul ysgol gynradd).

Mawrth

Ymweliadau gan staff Bryn Tawe i gasglu gwybodaeth am bob disgybl ym mlwyddyn 6. Diwrnod Entrepreneuriaeth ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6.

Mehefin

Gweithdai ar gyfer disgyblion Mwy Abl a Thalentog. Noson rhieni – sesiwn holi ac ateb. Gorffennaf

Wythnos Bontio:

Dydd Llun – Diwrnod o wersi ar gyfer Blwyddyn 6 ym Mryn Tawe;

Dydd Mawrth – diwrnod o weithgareddau awyr agored / datrys problemau.

Dydd Mercher Dydd Gwener y cwrs pontio yn Llangrannog.

Gosod disgyblion mewn dosbarthiadau

Ar ôl cywain y wybodaeth fanwl o’r ysgolion cynradd partner, mae disgyblion yn cael eu gosod mewn dosbarthiadau gyda’r nod o gynnal cydbwysedd yn ôl y meini prawf canlynol:

  • grwpiau cyfeillgarwch
  • personoliaeth a diddordebau
  • rhyw
  • gallu a chyflawniad
  • cefndir ieithyddol
  • cyngor gan staff yr ysgolion cynradd.

Polisi Derbyn

Mae 193 o leoedd ar gael ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 ym Mryn Tawe. Rydym yn dilyn polisi’r AALl, sydd ar gael gennym ni neu gan Adran Addysg Dinas a Sir Abertawe.

Sylwadau Blwyddyn 7

Rwy’n hoff iawn o’r ysgol oherwydd mae digon o le i chwarae ar y buarth ac mae llawer o ystafelloedd DT. Mae’r adeilad yn daclus ac yn lliwgar ac yn lle neis i weithio.

Dwi’n hoffi Bryn Tawe oherwydd yr Addysg Gorfforol – yr ystafell ffitrwydd a’r trampolîns.

Rydw i’n hoffi’r ysgol oherwydd mae llawer o athrawon neis a lot o wahanol bethau i wneud amser cinio ac ar ôl ysgol. Rwy wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd yn gyflym iawn.

Mae pawb yn gyfeillgar ac mae llawer o gyfleoedd i fynd ar dripiau diddorol.

mae’r gwersi’n hwyl.

Mae bwyd y ffreutur yn flasus ac mae digon o ddewis ac rydym yn gallu nofio amser cinio am ddim. Mae llawer o gyfrifiaduron yn yr ystafelloedd TGCH ac

Ysgol braf yw Bryn Tawe, mae llawer o bynciau newydd i ni ddysgu ac mae’r gwersi’n hwyl. Os oes problem gallwch siarad gyda’ch Arweinydd Dysgu.

Mae Ysgol Bryn Tawe yn ysgol arbennig. Mae digon o glybiau fel clwb TG, pêl-rwyd, pêl-droed a chlwb gwaith cartref. Mae’r mentor o Flwyddyn 10 yn ffrind da sy’n helpu ni o gwmpas yr ysgol.

Rydym wedi ymweld â Bryn Tawe mor aml yn ystod Blwyddyn 6 roedd symud mewn i Flwyddyn 7 yn rhwydd ac mae gen i ffrindiau newydd o ysgolion eraill.

Rwy’n hoffi’r gwersi drama ac rydym yn cael cyfle i fod yn rhan o sioe ysgol.

Rwy’n mwynhau cerdded o wers wers a dysgu iaith newydd – Ffrangeg, ond y peth mwyaf yw paned gyda’r pennaeth oherwydd mae’n siawns i ni siarad â Mr Davies a dathlu ein gwaith.

Sylwadau Estyn – Ebrill 2019

Mae Ysgol Bryn Tawe yn gymuned agored, egnïol sydd â lles disgyblion wrth galon ei gwaith. Mae disgyblion, staff, llywodraethwyr a rhieni yn cyfleu balchder amlwg o fod yn rhan o gymuned yr ysgol ac mae perthnasau adeiladol, clos rhyngddynt oll.

Nodwedd arbennig yw cyfraniad disgyblion at waith yr ysgol trwy’r cyfleoedd amryfal sydd ganddynt i leisio eu barnau a dylanwadu ar benderfyniadau. Yn ystod eu hamser yn yr ysgol, mae disgyblion yn gwneud cynnydd cryf yn gyffredinol yn eu hastudiaethau academaidd ac yn datblygu’n llwyddiannus fel dinasyddion gweithredol, cyfrifol a chwrtais.

Mae’r ddarpariaeth ar gyfer gofal, cymorth ac arweiniad yn gryfder nodedig. Mae staff yn gyson addasu’r ddarpariaeth er mwyn ymateb yn llwyddiannus i anghenion y disgyblion. Mae’r arlwy eang, gyfoethog o brofiadau allgyrsiol a’r cwricwlwm amrywiol yn cyfrannu’n werthfawr at brofiad addysgol y disgyblion.

Mae arweinwyr yn cydweithio’n effeithiol ac yn cyfleu uchelgais amlwg ar gyfer gwaith yr ysgol Maent yn rhoi pwyslais clir ar wella safonau ac addysgu a darparu’r gorau ar gyfer pob disgybl o fewn awyrgylch gynhaliol.

Y Diwrnod Ysgol

Rhennir y diwrnod i 6 gwers o 50 munud yr un mewn cylch pythefnos. Mae disgwyl i bob disgybl gyrraedd yr ysgol erbyn 08:30 er mwyn gallu cofrestru yn brydlon.

Amser Gweithgaredd
08:30 Cyrraedd yr ysgol
08:35 Cofrestru / Gwasanaeth yn dechrau
09:00 Gwers 1
09:50 Gwers 2
10:40 Egwyl
11:00 Gwers 3
11:50 Gwers 4
12:40 Cinio
13:30 Gwers 5
14:20 Gwers 6
15:10 Diwedd y dydd

Cludiant i’r Ysgol

Darperir cludiant gan yr AALl ar gyfer holl ddisgyblion y dalgylch sy’n byw dros dair milltir i ffwrdd o’r ysgol (gan ddefnyddio’r llwybr mwyaf uniongyrchol a diogel i’r ysgol). Petai problem yn codi o ran trefnu cludiant, gofynnir i rieni gysylltu â’r Swyddfa Trafnidiaeth Ysgol yn Neuadd y Sir ar 01792 636000. Weithiau, bydd yr AALl yn caniatáu i rieni sy’n byw o fewn tair milltir i’r ysgol “brynu” sedd ar y bws os bydd sedd ar gael.

Bydd bysus yn gadael campws yr ysgol am 3.20yp dan oruchwyliaeth staff yr ysgol.

Dysgu ac Addysgu

Datblygu medrau addysgu ein hathrawon yw ein ffocws pennaf yn yr ysgol, er mwyn caniatáu ein disgyblion i fod:

yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sydd yn barod i ddysgu drwy gydol eu hoes

    • yn gyfranwyr mentrus, creadigol sydd yn barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
    • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd yn barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd
    • yn unigolion iach, hyderus sydd yn barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Fel ‘Ysgol Arloesol Cwricwlwm’ ac ‘Ysgol Greadigol Arweiniol’, rydym yn gosod ffocws parhaus ar arfarnu amrediad o’r dulliau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol. Mae gennym ddisgwyliadau uchel ar gyfer dysgu pob disgybl unigol drwy:

    • gynllunio manwl ar gyfer dysgu;
    • darparu gweithgareddau creadigol, diddorol sy’n ysbrydoli disgyblion i ddysgu ac i ddeall;
    • herio pob disgybl o bob gallu i ddysgu;
    • cwestiynu treiddgar a strategaethau sy’n adeiladu dealltwriaeth pob disgybl;
    • datblygu arferion dysgu o ansawdd uchel sydd wedi eu sefydlu dros amser;
    • cynorthwyo disgyblion i fod yn hyderus i arwain eu dysgu eu hunain;
    • gwneud defnydd effeithiol o strategaethau asesu ar gyfer dysgu sy’n caniatáu i ddisgyblion brofi eu dealltwriaeth o’r dysgu.

Yn sail i’r holl ddysgu mae Rhaglen Fugeiliol rymus sy’n ffocysu ar yr unigolyn. Ein nod ydy paratoi’r myfyrwyr yn effeithiol ar gyfer yr heriau, y cyfleoedd, y cyfrifoldebau a’r profiadau bywyd

mewn cymdeithas ddwyieithog.

Cyfnod Allweddol 3

Mae ein cwricwlwm yng Nghyfnod Allweddol 3 wedi ei gynllunio gan ystyried y dysgu blaenorol yn ein hysgolion partner. Mae ffocws pendant ar ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol pob disgybl. Yn ogystal â gwybodaeth bynciol angenrheidiol, darperir cyfleoedd i ddysgu mewn ffyrdd creadigol, i ddatblygu medrau annibynnol a chydweithio gyda chyfoedion mewn gwersi.

Blwyddyn 7

Fel Ysgol arloesol cwricwlwm, rydym wedi bod yn cynllunio cwricwlm cyffrous newydd i flwyddyn 7. Mae disgyblion blwyddyn 7 yn derbyn cyfres o brofiadau dysgu cydlynnus a chyfoethog gyda ffocws ar ddatblygu sgiliau a gwybodaeth allweddol. Mae’r cynllunio wedi ei selio ar bedwar pwrpas ein cwricwlwm newydd, sef datblygu:

dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes

cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a’r byd

unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Addysgir y profiadau ymadrwy feysydd dysgua phrofiad sydd yn annog disgyblion i blethu eu dysgu ar draws y pynciau traddodiadaol. Ymeysydd dysgu a phrofiad penodol yw Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Mathemateg a Rhifedd; Gwyddoniaeth a Thechnoleg; Iechyd a Lles; Celfyddydau Mynegiannol a Dyniaethau.

Cyfnod Allweddol 4

Astudir y pynciau craidd gan bob disgybl – Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, yn ogystal â phynciau statudol – Addysg Gorfforol, Addysg Grefyddol ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Rydym hefyd yn darparu 3 phwnc dewisol i bob disgybl, allan o ystod eang o bynciau academaidd a galwedigaethol sydd yn diwallu diddordebau disgyblion o bob gallu. Er mwyn cyfoethogi medrau bywyd go iawn ein disgyblion mae pob disgybl hefyd yn astudio’r Tysytysgrif Her Sgiliau. Rydym wedi datblygu partneriaethau cryfion gyda darparwyr lleol addysg ôl 14 er mwyn creu dilyniant a llwybr dysgu perthnasol o Gyfnod Allweddol 4 i mewn i Gyfnod Allweddol 5 – sef ein Chweched Dosbarth. Gweler llyfryn opsiynau CA4 ar gyfer cwricwlwm dewisol yr ysgol ar gyfer 2017-18.

Cyfnod Allweddol 5

Rydym wedi sefydlu partneriaeth gref gydag Ysgol Gyfun Gŵyr er mwyn creu Partneriaeth ôl 16 Bryn Tawe – Gŵyr. Y bartneriaeth yw prif ddarparwr addysg ôl 16 cyfrwng Cymraeg o fewn Dinas a Sir Abertawe.

Er mwyn cael manylion llawn o’r ddarpariaeth yn y Chweched Dosbarth, gwelir Prosbectws y Chweched ar wahân.

Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh)

Darperir Addysg Bersonol a Chymdeithasol drwy gyfrwng chwech bore ffocws drwy gydol y flwyddyn. Mae’r sesiynau yma yn ffocysu ar ddatblygu gwybodaeth disgyblion am ystod o themâu perthnasol a’r medrau allweddol i’w caniatáu i wneud penderfyniadau deallus a chyfrifol.

Addysg Rhyw

Mae addysg rhyw briodol a

synhwyrol yn elfen bwysig yng ngwaith yr ysgol wrth baratoi ein disgyblion ar gyfer bywyd fel oedolion. Byddwn yn sicrhau bod y pwnc yn cael ei gyflwyno’n ofalus, yn sensitif ac yn amserol yn ôl oed ein disgyblion. Os byddwch yn dymuno tynnu eich plentyn allan o’r gwersi hyn oherwydd rhesymau crefyddol, diwylliannol neu foesol, dylid gwneud cais ysgrifenedig i’r Pennaeth.

Nodau’r polisi yw:

  • cyflwyno’r ffeithiau mewn dull gwrthrychol a chytbwys
  • cael gwybod yr hyn sy’n gyfreithlon a’r hyn sy’n anghyfreithlon
  • helpu disgyblion wrth iddynt wneud penderfyniadau gwybodus, rhesymegol a chyfrifol
  • sicrhau fframwaith moesol lle bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i ystyried pwysigrwydd hunanddisgyblaeth, urddas a pharch o safbwynt personol ac i eraill
  • galluogi disgyblion i werthfawrogi manteision bywyd teuluol sefydlog, a chyfrifoldebau magu plant
  • bod yn ymwybodol o beryglon cynhenid rhyw ddiofal a difeddwl.

Astudio Annibynnol a Gwaith Cartref

Mae holl ddisgyblion Bryn Tawe’n gyfrifol am eu dysgu

eu hunain. Er mai gwaith y staff yw cefnogi dysgu, yn y pen draw dim ond y myfyriwr all sicrhau llwyddiant. Fel rhan o sicrhau llwyddiant a

datblygu disgyblaeth wrth ddysgu, disgwylir i’r holl fyfyrwyr gwblhau astudio annibynnol a gwaith cartref. Mae cyfnodau rheolaidd o astudio annibynnol yn cefnogi dysgu ar eu pennau eu hunain,

cynllunio eu hamser eu hunain a bod yn gyfrifol am eu cynnydd eu hunain. Mae llwyddiant yn ystod Cyfnodau Allweddol 3, 4 a 5 yn dibynnu ar allu’r myfyrwyr i feistroli’r sgiliau astudio annibynnol hyn.

Mae’n rhan o bolisi Bryn Tawe bod gwaith cartref yn cael ei osod yn rheolaidd er mwyn datblygu a dyfnhau dysgu ein disgyblion. Bydd pob myfyriwr yn derbyn ‘Llyfr Cyswllt’ a fydd yn cael ei wirio gan athrawon pwnc yn rheolaidd. Gofynnwn i rieni fwrw golwg dros rhain mor aml â phosib a rhoi gwybod i ni a yw eich plentyn yn treulio gormod o amser ar astudio annibynnol neu ddim yn gwneud digon o hynny.

Bydd maint y gwaith astudio annibynnol a gwaith cartref a’r amser a dreulir arno yn amrywio, ond ym Mlwyddyn 7 bydd yn cymryd rhwng awr ac awr a hanner bob nos fel arfer.

Bydd y math o waith cartref a fydd yn cael ei osod yn amrywio hefyd; gallai gynnwys ysgrifennu creadigol, ymarferion datrys problemau, gwaith ymchwil, adolygu ar gyfer profion, gwylio rhaglen deledu arbennig, ymchwil ar y rhyngrwyd, paratoi cyflwyniad llafar ac yn y blaen.

Llyfr Cyswllt i Ddisgyblion

Bydd gan y Llyfr Cyswllt ran hanfodol yn y cyswllt rhwng y cartref a’r ysgol o ddydd i ddydd. Bydd yn cynnig dull hwylus o gysylltu ag athrawon lle gallant ganmol disgyblion am waith a chynnydd da, a hefyd nodi pryderon gyda rhieni. Rydym yn defnyddio`r ‘app’ gwaith cartref digidol.

Cyfathrebu ac Ymgysylltu â Rhieni

Mae’r ysgol yn rhoi pwyslais mawr ar gyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni. O ran myfyrwyr Blwyddyn 7, bydd hyn yn cynnwys:

    • ymgynghori o ddydd i ddydd (dwy ffordd) trwy’r Llyfr Cyswllt
    • noson Ymgynghori ym mis Hydref gyda’r Tiwtor Personol i ystyried materion bugeiliol, ymgartrefu a.y.b.
    • adroddiadau Interim yn Rhagfyr
    • noson Ymgynghori gyda staff pwnc unigol yn ystod tymor y Pasg i ystyried cynnydd
    • adroddiad ysgrifenedig llawn gyda nodiadau cynnydd manwl ar gyfer pob pwnc yn nhymor yr Haf

Ond wrth gwrs, fel ysgol, croesawn ymholiadau anffurfiol unrhyw bryd gan rieni sy’n dymuno trafod cynnydd addysgol eu plentyn.

Petaech chi’n dymuno trefnu cyfarfod ag aelod o staff, ffoniwch neu e-bostiwch yr ysgol ac fe wnawn bob ymdrech i ymateb cyn gynted ag y bo modd, fel arfer o fewn diwrnod.

Gweithgareddau Allgyrsiol

Rydym yn rhoi gwerth mawr ar yr amrywiaeth o glybiau a gweithgareddau sy’n cael eu cynnig; credwn y dylid annog myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau, eu doniau a’u gallu i’r eithaf. Bydd y gweithgareddau yma, nid yn unig yn cychwyn diddordeb gydol oes, ond hefyd yn creu amgylchfyd sy’n hybu perthnasoedd gweithio cadarnhaol a ddaw yn sgîl y mwynhad a’r boddhad. Yn fwy na dim mewn ysgol Gymraeg, bydd y cyfle a ddaw yn y gweithgareddau hyn yn galluogi’r myfyrwyr i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau eang ac amrywiol.

Dyma rai o’r gweithgareddau rydym yn eu cynnig:

Chwaraeon Rygbi, pêl-droed, hoci, pêl-rwyd, pêl fasged, criced, tennis, athletau, badminton, ‘dodgeball’, golff, dringo, nofio, codi pwysau, ffitrwydd, cylchedau, gwobr Dug Caeredin, hunanamddiffyn, gweithgareddau awyr agored, cyfeiriannu a mwy

Perfformio Dawnsio hip hop, dawnsio stryd, dawnsio disgo, dawnsio gwerin, clocsio, côr, parti bechgyn, parti merched, canu

unigol, gwersi offerynnol– (llais, telyn, ffidil, chwythbren, pres), actio, cân actol, cynyrchiadau ysgol a dramâu, siarad cyhoeddus a dadlau, gweithdai perfformio a theatr.

Eisteddfod yr Urdd Cystadlaethau llwyfan, chwaraeon a

ac ysgol gwaith cartref

Ymweliadau Teithiau chwaraeon a cherddoriaeth,

teithiau pynciol e.e. Hanes ac Addysg Grefyddol, gwaith maes Daearyddiaeth a Gwyddoniaeth, ymweliadau’r Urdd, cyrsiau preswyl awyr agored, gwibdeithiau rhyngwladol.

Cefnogaeth i Ddysgu

Os yw myfyrwyr i ddatblygu’n ddysgwyr llwyddiannus bydd angen cefnogaeth ac arweiniad arnynt. Mae’r staff addysgu yn pennu’r hyn a ddisgwylir gan ddisgyblion ym mhob Cyfnod Allweddol ac yn monitro’r cynnydd tuag at y targedau hynny. Os bydd arwyddion bod myfyrwyr yn methu â chyrraedd y disgwyliadau hynny, byddwn yn darparu rhaglen arweiniad a fydd yn benodol i’r disgyblion unigol.

Diwallu anghenion yr holl ddisgyblion

Mae Bryn Tawe yn gofalu am ein holl ddisgyblion ac mae ein Trefniadau Bugeiliol a Lles wedi’u cynllunio er mwyn sicrhau bod disgyblion yn byw bywydau hapus a chytbwys er mwyn gallu llwyddo yn eu gwaith a chyrraedd eu potensial. Mae cynnydd ein disgyblion yn cael ei werthuso’n ofalus ac yn rheolaidd gydag asesu anffurfiol yn ystod y tymor, ac yn ffurfiol trwy brofion uned.

Bydd y disgyblion hynny sy’n arddangos galluoedd arbennig neu sydd am estyn a datblygu eu sgiliau mewn meysydd penodol yn derbyn cyfleoedd ymestynnol tu fewn a thu allan i’w gwersi i gwrdd â’r angen.

Ar y llaw arall, lle bo disgyblion yn cael agweddau arbennig o’r cwricwlwm yn fwy anodd neu fod angen cefnogaeth arnynt i ddysgu, bydd adnoddau ychwanegol ar gael yn ogystal â sesiynau cefnogi a/neu hyfforddi penodol gan fentoriaid dysgu yn ogystal â chefnogaeth yn yr amgylchedd dysgu.

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Fel ysgol gynhwysol, sydd yn hyrwyddo hawliau ein disgyblion, credwn mewn darparu:

  • addysg o safon uchel i bob disgybl,
  • cyfleoedd addysgol cyfartal i bob disgybl,
  • addysg sydd yn diwallu anghenion unigol pob disgybl.
  • Yr Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol fydd yn gyfrifol am nodi’r disgyblion fydd yn derbyn cymorth ychwanegol drwy asesiadau mewnol. Bydd hyn yn cynnwys asesiad diagnostig, cefnogaeth ac offer monitro.
  • Yn dilyn yr asesiad, bydd disgyblion unigol yn derbyn cefnogaeth benodol i ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd ar lefelau amrywiol, yn unol â’u hanghenion dysgu.
  • Bydd cefnogaeth yn y dosbarth yn canolbwyntio ar y gweithgareddau hynny lle mae angen cefnogaeth ac arweiniad penodol.
  • Bydd disgyblion unigol yn derbyn cefnogaeth ychwanegol tu allan i wersi’r brif ffrwd i ddiwallu eu hanghenion penodol.
  • Rydym yn cynnal grwpiau dysgu penodol er mwyn darparu cefnogaeth addysgol addas sydd yn hybu dysgu llwyddiannus.
  • Mae disgyblion yn derbyn cefnogaeth benodol gan yr ysgol ac asiantaethau allanol er mwyn cefnogi anghenion mwy dwys unigolion e.e. Gwasanaeth Seicoleg Addysg a’r Gwasanaeth Cefnogi Ymddygiad.
  • Yn ogystal â chefnogaeth ar gyfer dysgu effeithiol, mae disgyblion yn derbyn cefnogaeth i ddatblygu medrau ehangach gan gynnwys hunan drefniant, cymryd cyfrifoldeb, gwytnwch, meddwl yn greadigol a dadansoddi, gweithio fel tîm, gosod nodau, cynllunio eu dysgu eu hunain, cofnodi cynnydd, asesu perfformiad, adfyfyrio ar yr hyn a ddysgwyd a dathlu llwyddiant.

Pwysigrwydd Cyfranogiad Rhieni

Mae’r berthynas rhwng Bryn Tawe a’i rhieni’n gwbl hanfodol, ac mae hynny’n hynod wir am rieni sydd â phlant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Rydym yn credu bod y canlynol yn bwysig:

  • bod rhieni’n cael eu hystyried fel partneriaid cyfartal yn y broses,
  • bod rhieni’n ymwybodol o bolisi ADY yr ysgol,
  • bod rhieni’n ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer plant ADY yn yr ysgol ac yn yr Awdurdod Addysg Lleol,
  • bod rhieni’n ymwybodol o’u hawl i fod yn rhan o’r prosesau a phwysigrwydd eu cyfraniad,
  • bod rhieni’n cael gwybodaeth am sefydliadau gwirfoddol lleol a chenedlaethol a allai

ddarparu gwybodaeth, cyngor a/neu gyfarwyddyd,

  • bod rhieni’n cyfranogi ym mhob cam o’r broses ‘gyfeirio’ yn yr ysgol,
  • bod rhieni’n cyfranogi yn y cyfarfodydd adolygu a’r Adolygu Datganiadau,
  • bod rhieni’n teimlo’n hyderus y gallant ymgynghori â’r cydlynydd ADY ynglŷn ag anghenion eu plentyn unrhyw bryd.

Presenoldeb

Mae presenoldeb rheolaidd yn hanfodol ar gyfer dysgu effeithiol gan fod pob math o absenoldeb yn effeithio ar gynnydd plant yn yr ysgol. Felly, mae cynnal lefelau presenoldeb uchel yn un o brif flaenoriaethau’r ysgol. Rydym yn gweithredu nifer o strategaethau effeithiol, gan gynnwys gwobrwyo parhaus, er mwyn cefnogi disgyblion a’u rieni i gynnal a gwella presenoldeb. Mae’r tîm bugeiliol, sy’n cynnwys ein tiwtoriaid personol, yn gweithio’n agos gyda’r swyddog lles er mwyn gallu caefnogi pob disgybl i gynnal a gwella ei bresenoldeb.

Dylid esbonio pob absenoldeb mewn nodyn gan rieni pan fydd y disgybl yn dychwelyd i’r ysgol.

Presenoldeb 2018 – 2019

  Presenoldeb % Absenoldeb gyda chaniatâd % Absenoldeb heb ganiatâd %
Ysgol Gyfan 94.5 4.5 1.0
Abertawe 94.0 4.4 1.6
Cymru 93.8 4.4 1.7

Canran Presenoldeb Bryn Tawe

2014-2015 2015-2016 2016-2017 2017-2018 2018-2019
94.4% 94.6% 94.8% 94.8% 94.5%

Apwyntiadau

Gofynnwn yn garedig hefyd i chi drefnu apwyntiadau gyda’r meddyg neu’r deintydd

        1. y tu allan i oriau ysgol os yw hynny’n bosib. Os na ellir osgoi hynny, dylai myfyrwyr ddod â llythyr a lofnodwyd gan riant/warcheidwad er mwyn cael eu rhyddhau o’r gwersi. Dylid mynd â’r llythyr hwn i swyddfa’r ysgol lle bydd y disgybl yn cael caniatâd awdurdodedig i adael yr ysgol.

Gwyliau’r teulu yn ystod y tymor

Rydym yn llwyr ymrwymedig i godi lefelau presenoldeb disgyblion, er mwyn codi safonau cyrhaeddiad. Rydym yn gofyn yn garedig i rieni/gwarcheidwaid i drefnu gwyliau yn ystod cyfnodau o wyliau ysgol yn unig. Mae eisoes yn amlwg bod y strategaeth o annog pobl i beidio â chymryd gwyliau yn ystod y tymor wedi arwain at welliant sylweddol mewn presenoldeb ym Mryn Tawe ac ar draws ysgolion yn Ninas a Sir Abertawe.

Felly mae’r ysgol yn bwriadu dilyn y strategaeth hon fel rhan o’i hymgyrch i wella presenoldeb.

Yn gyffredinol, ni fydd y Pennaeth yn caniatáu absenoldebau oherwydd gwyliau yn ystod y tymor. Bydd y Pennaeth yn ystyried pob cais yn unigol cyn penderfynu ar yr ymateb. Mae hyn yn golygu y bydd absenoldebau o ganlyniad i ddisgyblion yn mynd ar wyliau yn ystod y tymor heb ganiatâd y Pennaeth yn cael eu cofnodi fel rhai heb ganiatâd.

Salwch

Os bydd disgybl yn mynd yn sâl pan yw yn yr ysgol byddwn yn ymdrechu i gadw’r plentyn yn gysurus. Os bydd yn rhaid i ddisgybl gymryd moddion presgripsiwn, dylid cadw hwn yn swyddfa’r ysgol. Cyfrifoldeb y disgybl fydd dod i’r swyddfa er mwyn cymryd y moddion ar yr adegau priodol.

Lle bo hynny’n angenrheidiol, byddwn yn hysbysu rhieni a bydd y myfyriwr yn mynd adref. Cyfrifoldeb y rhieni yw trefnu casglu’r plentyn o’r ysgol a mynd ag ef adref neu at y meddyg neu i’r ysbyty.

Gofynnwn i rieni gysylltu â’r ysgol ar ddiwrnod cyntaf absenoldeb a darparu nodyn absenoldeb ar gyfer y

myfyriwr. Heblaw bod gwybodaeth wedi’n cyrraedd am y rheswm dros absenoldeb disgybl, fe fyddwn yn cysylltu â’r cartref ar y diwrnod cyntaf o absenoldeb drwy neges destun. Mewn achos o absenoldeb hir, bydd yr ysgol yn trefnu anfon gwaith adref lle bo hynny’n briodol.

Rydym yn ymfalchïo yn y safonau uchel o ran parch, cwrteisi ac ymddygiad sydd yn bodoli ym Mryn Tawe. Wrth fabwysiadu Arferion Adferol rydym am:

          • sicrhau bod disgyblion yn rhan allweddol o’n prosesau disgyblu,
          • sicrhau bod ethos a naws bositif yn parhau mewn gwersi a thu allan,
          • sicrhau parhad wrth ddatblygu perthnasau positif rhwng staff a disgyblion a rhwng disgyblion.

Rydym yn sicrhau y bod pob disgybl yn glir o’n disgwyliadau

ar gyfer eu hymddygiad, fel sydd wedi’u hesbonio yn ein tair egwyddor. Nid yw ymddygiad amharchus yn dderbyniol ym Mryn Tawe a bydd gweithredu cadarn a theg yn dilyn ym mhob achos. Byddwn yn hysbysu rhieni ac yn eu cynnwys pan fo hynny’n briodol ac yn gofyn iddynt ddod i drafod materion gyda ni.

Yn Ysgol Bryn Tawe, mae athrawon yn cael y cyfle i addysgu a’r disgyblion yn cael y cyfle i ddysgu – heb i neb darfu ar hynny.

Canlyniadau ymddygiad annerbyniol

Os bydd disgybl yn methu â chydymffurfio â’r disgwyliadau uchel sydd gennym ym Mryn Tawe bydd yr ysgol yn defnyddio sancsiynau/cosbau tebyg i’r rhai canlynol, yn ôl difrifoldeb y drosedd:

  • cadw i mewn ar ataliad amser cinio gan athrawon pwnc neu arweinydd dysgu
  • cadw i mewn ar ataliad ar ôl ysgol
  • cerdyn ymddygiad – i’w anfon adref i’w arwyddo
  • gwasanaeth Cymunedol
  • gwaharddiad o wersi / pwnc penodol
  • gwaharddiad mewnol lle bydd y myfyrwyr yn gorfod gweithio’n dawel am gyfnod penodol yn yr Ystafell Gynhwysiant – ‘Y Gilfach’, o dan oruchwyliaeth staff
  • gwaharddiad Cyfnod Penodol neu Waharddiad Parhaol, am droseddau difrifol.

Yn Ysgol Bryn Tawe byddwn yn rhoi’r pwyslais ar greu hinsawdd lle na fydd ymddygiad annerbyniol yn cael ei dderbyn – gan staff na disgyblion.

Gwobrwyo

Credwn bod gwobrwyo disgyblion yn allweddol i fagu hyder, huanan ddelwedd bositif ac i ddathlu llwyddiant o fewn yr ysgol. Rydym yn manteisio ar wobrwyo am nifer o agweddau, gan gynnwys defnydd cyson o’r Gymraeg, ymdrech arbennig, agwedd bositif at ddysgu a phresenoldeb uchel. Mae hyn yn arwain at greu perthnasoedd cadarnhaol ac ethos o lwyddiant.

Bwlio

Gall bwlio ddigwydd mewn sawl ffordd, yn agored ac yn guddiedig. Mae bwlio’n gwbl groes i ethos yr ysgol ac ni fyddwn yn derbyn yr ymddygiad yma.

Mae gan bob disgybl ym Mryn Tawe’r hawl i fod yn unigolyn, a’r hawl i gael ei addysgu mewn amgylchedd hapus, croesawgar. Mae disgyblion sy’n cael eu bwlio, beth bynnag yw’r dull, yn anhapus yn yr ysgol ac yn llai llwyddiannus. Drwy ein polisi Gwrth-fwlio rydym yn hyrwyddo parch a goddefgarwch ar bob cyfle ac yn cyfeirio yn gyson at y ffaith nad yw’r ysgol yn derbyn ymddygiad bwlio ar unrhyw lefel. Gwnawn hyn mewn gwasanaethau ysgol a blwyddyn, sesiynau penodol yn ein rhaglen ABCh, a thrwy gefnogi’r wythnos Gwrth-fwlio cenedlaethol a.y.y.b

Rydym yn defnyddio pob dull posib yn ein Polisi Gwrth-fwlio. Gallai’r dulliau hyn gynnwys:

  • rhybudd geiriol,
  • cylch adferol,
  • cytundeb Gwrth-fwlio,
  • cyfranogiad rhieni,
  • defnydd uniongyrchol o sancsiynau a chosbau
  • cyfweliad gan gyngor yr ysgol,

Dylid rhoi gwybod am achosion o fwlio yn syth gan y myfyriwr a/neu rieni.

Disgwyliadau Ymddygiad Bryn Tawe

Mae gennym ddisgwyliadau uchel ar gyfer ymddygiad ein disgyblion, fel y gwelir o dan ‘Parch’ yn ein tair egwyddor sylfaenol. Golyga hyn ein bod yn cyflawni ein dysgu gan sicrhau nad yw ymddygiad negyddol yn ymyrryd â chyfleoedd eraill i ddysgu neu wneud eu gwaith. Mae hyn yn berthnasol i bawb sy’n gweithio yn Ysgol Bryn Tawe.

Fel ysgol Adferol, rydym wedi mabwysiadu

Arferion Adferol fel elfen greiddiol i hybu ymddygiad positif yng nghymuned yr ysgol. Bwriad Arferion Adferol yw datblygu cymuned, datblygu perthnasau a rheoli gwrthdaro drwy ailadeiladu’r drwg a wnaed a datblygu perthnasau.

Bydd y gwobrwyo’n digwydd yn ddyddiol, gyda chyfnodau misol a thymhorol ble fydd dathliad o ymdrechion ein disgyblion mewn seremonïau mwy ffurfiol a hwylus! Mae gwobrwyo’n cynnwys:

  • pwyntiau clod
  • gwobrau ar lafar
  • canmoliaeth
  • gwobrau ysgrifenedig gan y staff
  • tystysgrifau
  • gwobrau ysgrifenedig gan y Pennaeth
  • anrhegion a thalebau
  • gwibdeithiau ysgol
  • paned gyda’r pennaeth!

Wrth gwrs, mae’r gwobrau hyn ar gael i bawb. Diogelu ac Amddiffyn Plant

Yn Ysgol Bryn Tawe rydym yn ymroddedig I ddiogelu a hybu lles pob dysgwr. Rydym yn disgwyl I bob aelod

o staff, disgyblion, llwyodraethwyr, gwirfoddolwy ac ymwelwyr I rannu`r un ymrwymiad. Mae gennym bolisïau clir a chynhwysfawr am ddiogelu pawb sydd yn gweithio ac yn ymweld â’r ysgol. Mae’r ysgol yn dilyn trefniadau “Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008”. Am fanylion llawn neu gopi o’r polisi cysylltwch â’r ysgol. Os ydych am drafod unrhyw faterion yn ymwneud â Diogelu yn yr ysgol cysylltwch â naill ai ein Hathro Dynodedig Diogelu yn yr ysgol, sef Mr Mark Bridgens (Pennaeth Cynorthwyol) neu’r Dirprwy Athro Dynodedig ar gyfer Diogelu, Mrs Bethan Williams (Cydlynydd ADY). Yn ogystal, Mrs Eleni Cordingley yw’r Llywodraethwyr cyswllt ar gyfer Diogelu yn yr ysgol. Am fanylion cyswllt y llywodraethwyr, cysylltwch â rheolwr busnes yr ysgol, Mrs Eirian Leonard.

Iechyd a Diogelwch/Diogelwch Safle

Byddwn yn wyliadwrus iawn o ran materion iechyd a diogelwch. Mae gennym asesiadau risg ar gyfer gweithgareddau ar y safle ac ar gyfer gweithgareddau y tu allan i’r ysgol lle gallai peryglon godi. Mae’n rhaid adrodd am unrhyw niwed personol i’r Swyddog Gweinyddol. Mae ffens yn amgylchynu safle’r ysgol gyda system o gamerâu diogelwch cynhwysfawr. Diweddarir awdit Iechyd a Diogelwch a Chynllun Gweithredu yn yr ysgol yn gyson.

Bydd materion Iechyd a Diogelwch yn cael eu trafod yn rheolaidd yng nghyfarfodydd pwyllgor Iechyd a Diogelwch y Corff Llywodraethu a’r Is-bwyllgor Adeiladau.

Ysmygu

Yn unol a pholisi’r AL, mae polisi dim ysmygu gennym ar gyfer disgyblon, staff ac ymwelwyr. Gwyddom fod ysmygu’n gallu niweidio iechyd ysmygwyr a’r bobl sydd o’u cwmpas. Felly, nid yw ysmygu, na’r defnydd o e- sigaretiau yn dderbyniol o gwbl ar dir Bryn Tawe.

Diogelu eiddo personol

Y disgyblion sy’n gyfrifol am eu heiddo personol.

Gofynnwn i ddisgyblion beidio â dod ag eitemau drud i’r ysgol. Byddwn yn darparu lle diogel i storio offerynnau cerdd disgyblion. Bydd disgyblion yn derbyn locer personol ble’n bosib. Bydd cost o £2.50 yn ofynnol ar ddechrau Blwyddyn 7 cyn i ddisgyblion gael allwedd. Bydd gan y staff Addysg Gorfforol eu trefniadau diogelwch eu hunain ar gyfer pethau gwerthfawr y disgyblion.

Ymarfer Tân

Mae’r holl ddisgyblion yn gwybod beth yw’r drefn pan fydd tân. Mae posteri yn amlinellu’r drefn ymhob ystafell addysgu. Er mwyn cadarnhau’r drefn hon bydd Ymarfer Tân yn ddigwyddiad rheolaidd yn Ysgol Bryn Tawe. Yn ffodus mae system daenellu yn yr ysgol.

Bwyta’n Iach

Mae ffreutur yr ysgol yn darparu dewis o brydau blasus a iachus o fwydlen ddyddiol benodol. Rydym yn sicrhau bod digon o gyfle gan y disgyblion i ddewis amrywiaeth o fwyd iach a deniadol.

Sgrinio iechyd a brechiadau

Yn ystod eu cyfnod yn Ysgol Bryn Tawe mae’r disgyblion yn cael sesiynau sgrinio iechyd a

brechiadau. Byddwn yn eich hysbysu trwy lythyr pan fydd hynny’n digwydd ac yn gofyn am eich caniatâd.

Ffônau symudol

Rydym yn cydnabod bod ffônau symudol yn ddefnyddiol, yn enwedig mewn argyfwng. Rydym hefyd yn cydnabod bod ffônau, pan maent yn cael eu defnyddio’n bwrpasol, yn gallu cyfrannu tuag at gynnydd addysgiadol disgyblion. Dan amodau penodol mae disgyblion yn cael defnyddio ffôn symudol yn yr ysgol, gyda chaniatâd athro yn unig. Gweler y manylion llawn yn y Polisi Ffônau Symudol, sy’n nodi os ydy disgybl yn torri rheolau ffôn; yna fe fydd y ffôn yn cael ei gadw’n ddiogel yn yr ysgol nes bod rhiant ar gael i’w gasglu. Gwerthfawrogwn gefnogaeth rhieni/gwarchediwad yn y mater yma.

Cyngor Ysgol Bryn Tawe

Fel yr ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf yng Nghymru i ennill cydnabyddiaeth Lefel 1 ‘Ysgol Sy’n Parchu Hawliau’ UNICEF, gwelwn rôl Cyngor yr Ysgol yn ganolog i athroniaeth yr ysgol o ganiatáu i’r disgyblion gyfrannu’n gadarnhaol at fywyd yr ysgol. Yn amlwg, mae llawer o fanteision addysgol y gall disgyblion elwa ohonynt trwy gymryd rôl weithgar yn y broses ddemocrataidd o wella’r ysgol.

Mae pob disgybl bellach yn gallu gwneud cais

i gynrychioli ei gyd-ddisgyblion ar un o’n cynghorau ysgol sydd yn ffocysu ar y chwe maes allweddol canlynol:

  • Cyngor Cymreictod
  • Cyngor Amgylcheddol ac Eco
  • Cyngor Dysgu ac Addysgu
  • Cyngor Iechyd a Lles
  • Cyngor E-ddysgu
  • Cyngor Elusennol a Chymunedol

Braf yw gweld dros 80 o ddisgyblion yn cyfrannu’n weithgar a gwerthfawr i wella’r agweddau hyn o’r ysgol drwy gynrychioli llais y disgyblion. Mae prif ddisgyblion yn eistedd ar Gorff Llywodraethwyr yr ysgol fel Disgyblion Lywodraethwyr.

Ymysg y llwyddiannau dros y blynyddoedd diwethaf roedd:

  • Ennill Cam 5 o’r wobr Ysgolion Iach
  • Ennill Lefel 1 Gwobr ‘Ysgol Sy’n Parchu Hawliau’ UNICEF
  • Trefnu diwrnodau rhwydweithio gyda Chynghorau Ysgolion Sir Abertawe a’r clwstwr
  • Datblygu’r cynllun Mentora i wella pontio disgyblion blwyddyn 7
  • Sefydlu’r cynllun ‘Arweinwyr Digidol’
  • Cymryd rhan yn y broses o ddewis staff newydd ar gyfer yr ysgol
  • Gwelliannau i amgylchedd yr ysgol (biniau, golau pêl-droed, meinciau picnic, newidiadau i’r ffreutur ayyb)
  • Trefnu Wythnos Iechyd
  • Codi miloedd o bunnoedd ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol
  • Cyfrannu syniadau at gynnwys cynlluniau gwaith a gwersi

Mae’r Cynghorau Ysgol yn cyfarfod yn gyson ac maent yn gyrff gweithredol sy’n cael adborth rheolaidd gan yr Uwch Dîm Arwain. Yn sgîl hyn mae’r disgyblion sy’n aelodau o’r Cyngor Ysgol yn fawr eu parch ymysg eu cyd-ddisgyblion.

Polisi Taliadau a Chyfraniadau Ariannol

Yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol sydd wedi’i chynnwys yn Neddf Diwygio Addysg 1988, mae Corff Llywodraethu Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe yn dweud bod addysg yn rhad ac am ddim i’r disgyblion os ydyw’n digwydd:

  • yn ystod oriau ysgol
  • tu allan i oriau ysgol ond yn ofynnol fel rhan o arholiad / o’r Cwricwlwm Cenedlaethol / o Addysg Grefyddol statudol
  • Gellir gofyn am gyfraniadau gwirfoddol ar gyfer gweithgareddau’r ysgol. Ni fydd disgyblion dan anfantais os na fydd rhieni’n cyfrannu. Wrth gwrs, bydd ymarferoldeb ariannol unrhyw weithgaredd yn penderfynu a fydd yn bosib ei drefnu yn y pen draw.
  • Bydd cyfranogi mewn gweithgareddau addysgol y tu allan i oriau ysgol nad ydynt yn rhan o gwricwlwm yr ysgol ar sail dewis rhieni a’u parodrwydd i dalu am y gweithgareddau hynny.

Cyfle Cyfartal

Mae’r ysgol yn ymroddedig i egwyddor cyfle cyfartal i bawb waeth beth fo’u rhyw, eu lliw, eu cefndir ieithyddol neu eu gallu. Mae polisi cyfle cyfartal a gweithredoedd dyddiol yr ysgol yn adlewyrchu’r ymrwymiad hwn.

Dimensiwn Ysbrydol yr Ysgol

Yn unol â’r gyfraith, darperir cynnwys Addysg Grefyddol y cwricwlwm trwy addoliad ar y cyd a gwersi Addysg Grefyddol i’r holl ddisgyblion. Fodd bynnag, mae gan rieni’r hawl i dynnu eu plentyn allan o’r profiadau hyn (e.e. crefyddau eraill) trwy wneud cais ysgrifenedig i’r Pennaeth.

Materion Dyngarol ac Elusennol

Ochr yn ochr â gwerthoedd ysbrydol yr ysgol, bydd y disgyblion yn cael eu hannog i ddatblygu diddordeb a mynegi eu barn ar faterion sy’n effeithio arnom fel dinasyddion ein cymunedau lleol ac yn ehangach. Gall hyn gynnwys mabwysiadu elusennau a phrosiectau dyngarol yn yr ysgol.

Addysg Gorfforol a Chwaraeon

Mae’r ysgol yn ffodus iawn ei bod yn gallu mwynhau amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon. Mae disgyblion yn gallu manteisio ar y cyfleusterau rhagorol sydd ar gael yn y ganolfan hamdden ar gampws yr ysgol. Mae’r rhain yn cynnwys pwll nofio gwych, campfeydd, ystafelloedd ffitrwydd ynghyd â champws eang ac agored. Mae gan yr ysgol ddigon o gyfleusterau newid o ansawdd da a champfa ar gyfer gweithgareddau dan dô.

Disgwylir i bawb gymryd rhan yn yr ystod eang o weithgareddau a drefnir gan yr Adran Addysg Gorfforol. Mae’r cwricwlwm yn cynnwys ffitrwydd ac iechyd, sgiliau sylfaenol, athletau, gymnasteg, dawns, hoci, pêl-rwyd, rygbi, pêl-droed, tennis, rownderi a thraws gwlad.

Y nôd yw caniatáu i gynifer o ddisgyblion â phosib fwynhau’r amrywiaeth ehangaf posib o weithgareddau chwaraeon a ffitrwydd.

Mae pwyslais hefyd ar gymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol. Hybir hyn trwy gystadlaethau ar lefel Llys, Blwyddyn, Sir, Cymru gyfan a Phrydain!

Disgwylir i’r holl ddisgyblion ddod â’r cit cywir i bob gwers Addysg Gorfforol. Os oes cyflwr meddygol a allai atal cymryd rhan o dro i dro, dylid nodi hynny trwy lythyr rhieni / tystysgrif feddygol.

Mae’r ysgol yn rhoi pwys mawr ar ddatblygiad y person cyfan, a meithrin arferion ac agweddau iach a fydd yn fuddiol i ffordd o fyw’r disgyblion wrth iddynt dyfu’n oedolion.

ADDYSG YRFAOL

Mae pob disgybl o flwyddyn 8 ymlaen yn mynychu gwersi penodol ar addysg yrfaol ac entrepreneuriaeth fel rhan o’r rhaglen ABCh.

Mae gan bob aelod o flwyddyn 11 yr hawl i dderbyn cyfweliad gyda’r Swyddog Gyrfaoedd sydd yn cynrychioli ‘Gyrfa Cymru’. Rydym yn targedu grŵp bach o ddisgyblion ym Mlwyddyn 11 i

dderbyn arweiniad pellach gan swyddog gyrfaoedd Gyrfa Cymru. Mae’r disgyblion yn derbyn cefnogaeth gyson ar wahanol lwybrau sydd ar gael iddynt ôl-16 oed a’r sgiliau personol a chymdeithasol sydd angen arnynt. Mae gan yr ysgol record ardderchog o weld disgyblion o bob ystod gallu yn gwneud trosglwyddiad llwyddiannus i addysg, prentisiaeth, y byd gwaith neu hyfforddiant ôl-16 oed. Mae disgyblion yn elwa’n fawr o ddiwrnodau ymgynghori yn ystod y cyfnodau trawsnewid cwricwlaidd ym mlynyddoedd 9 ac 11.

Ar gyfartaledd mae dros 95% o ddisgyblion ysgol Bryn Tawe yn parhau mewn addysg lawn amser ar ddiwedd CA4. Mae dros 80% o ddisgyblion sy’n gadael ar ôl blwyddyn 13 yn symud ymlaen i addysg uwch.

Y Weithdrefn Gwyno

Dylai rhieni sy’n anfodlon ynghylch rhywbeth sy’n ymwneud â’r ysgol gysylltu â ni ar unwaith. Bydd y Pennaeth bob amser yn barod i gwrdd â rhieni sy’n pryderu er mwyn datrys anawsterau. Dylai rhiant sy’n dal yn anfodlon gysylltu â Chadeirydd y Corff Llywodraethu.

Gellir cyfeirio cwyn fwy difrifol i’r Adran Addysg, Dinas a Sir Abertawe, Neuadd y Sir, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN.

Cael gafael ar Ddogfennau Polisi’r Ysgol

Mae polisïau a chynlluniau gwaith yr ysgol, ynghyd â dogfennau statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar addysg ar gael ar gyfer rhieni a phobl eraill â diddordeb yn yr ysgol. Byddwch gystal â chysylltu â’r ysgol er mwyn trefnu i weld y dogfennau hyn.

MANYLION ARHOLIADAU ALLANOL 2019

Hoffai’r Llywodraethwyr longyfarch disgyblion a staff yr ysgol ar eu llwyddiant unwaith eto eleni yn yr arholiadau allanol.

TGAU

  % Disgyblion a enillodd 5 neu fwy o raddau TGAU
  A* – C A* – G
Bryn Tawe 2019 72.7 98.3
Bryn Tawe 2018 79.5 100
Bryn Tawe 2017 80 100
Bryn Tawe 2016 100 100
Abertawe 2019   94.9
Cymru 2018 66.9 93.6
  % Disgyblion a enillodd 5 neu fwy o raddau TGAU gan gynnwys Maths a Chymraeg neu Saesneg Sgor Pwyntiau wedi ei gapio

 

( yr 9 canlyniad gorau)

% Disgyblion a gyrhaeddodd y Dangosydd Pwnc Craidd ( o leiaf gradd C mewn Cymraeg neu Saesneg, Maths a Gwyddoniaeth )
Bryn Tawe 2019 49.6 364 47.1
Bryn Tawe 2018 64.8 365 61.5
Bryn Tawe 2017 67 337 63
Bryn Tawe 2016 68 375 65
Abertawe 2019 53.6 366  
Cymru 2018 55.1 350.1  

SAFON UWCH

  % Disgyblion a gofrestrwyd ar gyfer 2 bwnc neu ragor a enillodd 2 Safon Uwch neu ragor
  A* – C A* – E
Bryn Tawe 2019 81.1 91.8
Bryn Tawe 2018 65.1 97.8
Bryn Tawe 2017 76 95
Bryn Tawe 2016 74 100

Canran y cohort a dderbyniodd cynnig Addysg Uwch a gafodd le yn 2019: dros 90%

ASESIADAU DIWEDD CYFNOD ALLWEDDOL 3 BL 9 2019

I gyrraedd y Dangosydd Pwnc Craidd (DPC) rhaid i ddisgybl gyrraedd o leiaf lefel 5 mewn Mathemateg, Gwyddoniaeth a naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg

CANLYNIADAU ASESIADAU’R CWRICWLWM CENEDLAETHOL

% Disgyblion sy’n cyrraedd lefel 5 neu’n uwch

  Bryn Tawe 2019
Cymraeg 95.7
Saesneg 95.7
Mathemateg 96.4
Gwyddoniaeth 97.8
DPC 94.0

Dyddiadau Tymhorau a Gwyliau Ysgolion 2019 -2020

Hyderwn fod y prosbectws hwn wedi bod o gymorth. Rydyn ni’n hyderus y bydd Bryn Tawe nid yn unig yn cynnig addysg o’r radd flaenaf i’ch plentyn, ond hefyd y byddwn yn cael y fraint o feithrin pobl ifanc sy’n hyderus, yn ymchwilgar ac yn uchelgeisiol, sy’n ymfalchïo yn eu hysgol a’u treftadaeth ddiwylliannol a ieithyddol.

Os oes gennych ymholiadau neu faterion yr hoffech eu trafod mae croeso i chi gysylltu â’r ysgol.

Ein rhifau ffôn cyswllt yw:

Ffôn yr ysgol: 01792 560600

E-bost:DaviesS456@Hwbcymru.net(Pennaeth)

E-bost yr ysgol: ygg.bryntawe@swansea.gov.uk