Cylchlythyr Ffair Nadolig 2015


CYLCHLYTHYR CRhA 2015

 

Annwyl Rieni, Gwarcheidwaid a Disgyblion,

 

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae CRhA Bryn Tawe wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth godi arian i wella addysg a phrofiad disgyblion ym Mryn Tawe. Mae hefyd yn gyswllt cartref-ysgol amhrisiadwy i rieni wrth i’w plant bontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.

 

Yn wir, o ganlyniad uniongyrchol i haelioni, cefnogaeth a gwaith caled disgyblion, rhieni a staff, mae’r CRhA wedi codi miloedd o bunnau i brynu amrywiaeth o eitemau: o fws mini i’r ysgol i biano a drymiau, iPads, citiau tîm ac offer i’r adran Celf a Thechnoleg Bwyd. Mae disgyblion Bryn Tawe wedi elwa o gael CRhA gweithgar a bywiog.

 

Rydym am ddiolch yn fawr i’r rhai a ddaeth i Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y CRhA, lle penderfynwyd ar yr aelodau canlynol i fod yn rhan o’r pwyllgor.

Mrs Elizabeth Bevan – Cadeirydd               Mrs Sarah East – Ysgrifennydd

Ms Margaret Bartlett – Trysorydd              Mr Simon Davies – Pennaeth

 

Rhan fach yn unig yw’r pwyllgor o’r CRhA, ac mae’r CRhA bob amser yn chwilio am rieni, neiniau a theidiau a gwarcheidwaid i wirfoddoli.  Rydym yn gwerthfawrogi bod bywyd teuluol yn brysur iawn i’r rhan fwyaf o bobl, felly rydym ond yn gofyn am ychydig o ymrwymiad gan rieni ac nid yw’r gallu i siarad Cymraeg yn angenrheidiol.

 

Cefnogwch CRhA ysgol eich plentyn ym mha ffordd bynnag y gallwch. O ganlyniad i doriadau cyllidebol diweddar y cyngor, mae rôl y CRhA yn fwy canolog byth wrth gefnogi’r ysgol gyda’r “pethau ychwanegol” na fyddai ar gael fel arfer yng nghyllideb yr ysgol.

 

Os oes gennych amser i wirfoddoli mewn digwyddiadau, eitemau i’w rhoi i’n raffl ysgol, neu sgiliau y gallai’r CRhA eu defnyddio mewn ffyrdd eraill, cysylltwch ag aelodau’r pwyllgor CRhA drwy swyddfa’r ysgol. Neu, dewch i’n cyfarfod cynllunio nesaf ar gyfer y Ffair Nadolig ar ddydd Mercher 25 Tachwedd am 4.00pm yn llyfrgell yr ysgol.

 

 

 

 

 

Y digwyddiad cyntaf ar galendr CRhA yw’r:

 

Ffair Nadolig  nos Fercher 2 Rhagfyr am 6.00 o`r gloch

 

Eleni, bydd pob grŵp blwyddyn yn gyfrifol am roi eitemau i’r stondinau canlynol.

 

BL.7 – Hamperi dosbarth lliw.

 

BL.8 – Teganau meddal o safon dda.

 

BL.9 – Gwobrau twba lwcus – wedi’u lapio a’u labelu ar gyfer bachgen neu ferch.

 

BL.10 – Poteli – sudd, gwin, diodydd pefriog.

 

  1. 11 – Tombola – Anrhegion newydd, rhad ar gyfer y stondin tombola.

 

  1. 12 – Colur – Colur heb ei agor, setiau rhodd, geliau cawod etc.

 

  1. 13 – Pecynnau o losin a bisgedi.

 

Pris mynediad i’r ffair yw £1 i oedolion – dim tâl i blant.

 

Bydd amrywiaeth eang o stondinau megis crefftau, llyfrau, teganau a chacennau, paentio gwynebau, caffi, castell neidio a llawer mwy. Efallai fydd Siôn Corn yn dod i ymweld!

 

Rydym hefyd yn casglu DVDs, CDs, llyfrau, dillad, teganau plant, gemau ac eitemau i’r cartref o safon ar gyfer “stondin bron fel newydd.” Beth am glirio’r tŷ cyn y Nadolig a helpu’r CRhA i godi arian yn y broses?

 

Dylai’r holl roddion, ynghyd â bonion raffl wedi’u gwerthu/heb eu gwerthu ac arian raffl, ddod i’r ysgol erbyn ddydd Gwener 27 Tachwedd, a fydd yn ddiwrnod gwisg anfurfiol.

 

Os oes gennych unrhyw  syniadau, rydym o hyd yn edrych am rhieni i goginio cacennau arbennig !

os hoffech wirfoddoli neu gael stondin yn y Ffair Nadolig, cysylltwch â Margaret Bartlett yn swyddfa’r ysgol.

 

Diolch yn fawr ymlaen llawn am eich cefnogaeth barhaus.

 

 

Mrs Liz Bevan                                                                                  Mr Simon Davies

Cadeirydd CRhA                                                                              Pennaeth