Ffair Nadolig nos Fercher 2 Rhagfyr am 6.00 o`r gloch
Eleni, bydd pob grŵp blwyddyn yn gyfrifol am roi eitemau i’r stondinau canlynol.
BL.7 – Hamperi dosbarth lliw.
BL.8 – Teganau meddal o safon dda.
BL.9 – Gwobrau twba lwcus – wedi’u lapio a’u labelu ar gyfer bachgen neu ferch.
BL.10 – Poteli – sudd, gwin, diodydd pefriog.
BL.11 – Tombola – Anrhegion newydd, rhad ar gyfer y stondin tombola.
BL.12 – Colur – Colur heb ei agor, setiau rhodd, geliau cawod etc.
BL.13 – Pecynnau o losin a bisgedi.
Pris mynediad i’r ffair yw £1 i oedolion – dim tâl i blant.
Bydd amrywiaeth eang o stondinau megis crefftau, llyfrau, teganau a chacennau, paentio gwynebau, caffi, castell neidio a llawer mwy. Efallai fydd Siôn Corn yn dod i ymweld!
Rydym hefyd yn casglu DVDs, CDs, llyfrau, dillad, teganau plant, gemau ac eitemau i’r cartref o safon ar gyfer “stondin bron fel newydd.” Beth am glirio’r tŷ cyn y Nadolig a helpu’r CRhA i godi arian yn y broses?
Dylai’r holl roddion, ynghyd â bonion raffl wedi’u gwerthu/heb eu gwerthu ac arian raffl, ddod i’r ysgol erbyn ddydd Gwener 27 Tachwedd, a fydd yn ddiwrnod gwisg anfurfiol.
Os oes gennych unrhyw syniadau, rydym o hyd yn edrych am rhieni i goginio cacennau arbennig !
Os hoffech wirfoddoli neu gael stondin yn y Ffair Nadolig, cysylltwch â Margaret Bartlett yn swyddfa’r ysgol.
Diolch yn fawr ymlaen llawn am eich cefnogaeth barhaus.
Mrs Liz Bevan Mr Simon Davies
Cadeirydd CRhA Pennaeth