Llwyddiant ESU (unwaith eto!)


Unwaith eto, rydym yn falch i gyhoeddi llwyddiant yn rownd ranbarthol cystadleuaeth ‘Performing Shakespeare’ a drefnwyd gan yr ESU (English Speaking Union) a chynhaliwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama, Caerdydd a llongyfarchiadau gwresog i Steffan a Manon am y fuddugoliaeth yma! Maent wedi ennill lle yn rownd derfynol y gystadleuaeth a fydd y par yn perfformio yn Theatr Gielgud yn Llundain ym mis Mawrth ochr yn ochr gyda’r perfformwyr gorau ar draws Prydain. Wnaeth y ddau cymryd i’r llwyfan gyda’i fersiwn o olygfa rhwng Katharina a Petruchio o’r ddrama adnabyddus “The Taming of the Shrew” – golygfa oedd yn dangos hiwmor wrth adeiladu’r tyndra rhwng y ddau gymeriad. Mae’r adran Saesneg yn ymfalchïo yn ei llwyddiant a hoffwn ymestyn dymuniadau gorau iddynt wrth anturio i’r rownd derfynol. Diolch enfawr hefyd i Miss Carys Comley am ei hyfforddi.

Carys Comley ESU