Rhuthro i Rydychen


 

Pleser yw nodi llwyddiant dau o ddisgyblion Bryn Tawe wrth sicrhau cynigion i astudio Saesneg ym mhrifysgol Rhydychen. Mae’n gyrhaeddiad arbennig i’r ysgol gan mai dyma’r myfyrwyr cyntaf yn hanes yr ysgol i gael y cyfle i astudio yn Rhydychen ac mae’r adran Saesneg yn hynod falch ohonynt. Bydd Rhys Griffiths-Underdown yn astudio Saesneg yng ngholeg Balliol, Rhydychen gan ei fod eisoes wedi hawlio canlyniadau lefel A haf diwethaf, tra bod Shauna Brown (o flwyddyn 13) wedi derbyn cynnig o goleg Regent’s Park. Dywedodd Shauna ei bod hi ‘wrth fy modd o fod wedi cael cynnig i astudio yn Rhydychen ar ddiwedd y flwyddyn’. Dymunwn bob llwyddiant i’r ddau ohonynt.

Rhys + Shauna