Cynhaliwyd Seremoni Cadeirio’r ysgol eleni eto ar Fawrth y 1af fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi yr ysgol. Trosglwyddwyd yr awenau yn ôl yr arfer i brif swyddogion yr ysgol, sef Nerys Williams a Llŷr Davies. Eleni, cyn-ddisgybl i’r ysgol oedd yn beirniadu sef Naomi Steel. Braf oedd ei chroesawu nôl atom a chlywed am ei phrofiadau lu yn defnyddio’r Gymraeg ym myd addysg, gwleidyddiaeth a’r cyfryngau.
Roedd pawb yn gwrando’n astud ar y feirniadaeth ar gyfer y Gadair ac fe ddaeth hi’n amlwg bod ‘Gwenllian’ wedi plesio’r beirniaid yn fawr. Hyfryd oedd gweld Laura Hughes o Flwyddyn 12 yn codi o’i sedd yng nghefn y neuadd lawn i dderbyn y fraint o fod yn brif lenor yr ysgol eleni. Llongyfarchiadau enfawr iddi. Yn ail am y gadair oedd Catrin Hedges, gyda Daniel Greenway yn drydydd, y ddau o flwyddyn 12. Hoffai’r Adran Gymraeg ddiolch yn fawr i bawb a gystadlodd ac yn arbennig i’r staff a’r disgyblion a fu’n rhan o’r seremoni.
Llongyfarchiadau hefyd i Steffan Leonard a Manon Keeble am ennill y Tlws Saesneg a phob dymuniad da iddynt yn y gystadleuaeth yn Llundain yr wythnos nesaf.
Dyma’r canlyniadau llenyddol eraill:
Barddoniaeth Bl.7
1af- Ffion Tomos
2il- Mili Ruthven
3ydd- Ashton Williams
Rhyddiaith Bl.7
1af- Ffion Tomos
2il- Steffan Appleby
3ydd- Ellie Allen ac Amy Johnson
Barddoniaeth Bl.8
1af- Lowri Baynham
2il- Jay Davies
3ydd- Finlay Martin
Rhyddiaith Bl.8
1af- Thea Wood
2il- Angharad John
3ydd- Thomas Hackett
Barddoniaeth Bl.9
1af- Tegan Madge
2il- Steffan Leonard
3ydd- Hannah Morgan
Rhyddiaith Bl.9
1af- Steffan Leonard
2il- Nansi Eccot
3ydd- Jessica Lynn
Adolygiad ffilm
1af- Nansi Eccott
2il – Romilly Harris,
3ydd- Hollie Jones a Steffan Leonard
Blwyddyn 10
1af- Nel Richards,
2il – Alasdair Gunneberg
3ydd- Bethan Hawkins.