Dathlwyd Diwrnod y llyfr unwaith eto eleni gydag amrywiaeth o weithgareddau. Dechreuwyd y dathliadau gyda Gwasanaeth Diwrnod y Llyfr. Y chweched arweiniodd y gwasanaeth a oedd yn dathlu bywyd Roald Dahl am fod can mlynedd ers ei eni eleni. Dangoswyd DVD a grëwyd dros yr wythnosau diwethaf o aelodau o’r Chweched a rhai staff yn sôn am eu hatgofion o ddarllen llyfrau Roald Dahl.
Ymhob gwers yn ystod y dydd, darllenwyd rhan o stori, fel bod pawb wedi clywed stori gyfan erbyn diwedd y dydd.
Yn ystod amser egwyl, cynhaliwyd bore coffi a daeth Siop Tŷ Tawe i werthu llyfrau amrywiol.
Cynhaliwyd cystadleuaeth i ddisgyblion dynnu llun o’u hunain yn darllen mewn lle diddorol
Yn ystod yr wythnos, cafodd criw o fl.9 gyfle i ddarllen gydag ysgolion Tan-y-Lan, Tirdeunaw a Felindre. Darllenwyd 5 stori i’r plant mewn cylchdro a chafwyd pleidlais am hoff lyfr y plant.
Cynhaliwyd sawl cwis yn ystod yr wythnos hefyd. Un gystadleuaeth a fu yn y Llyfrgell oedd dyfalwch pa lyfr sydd “yn y bocs”?
Cynhaliwyd cwis codau QR hefyd yn y gwersi Cymraeg.
Gobeithio i bawb gael eu hatgoffa o’r mwynhad sydd i’w gael o ddarllen llyfrau.