Myfyrwyr y Chweched Dosbarth yn arwain ABCh!


Yn dilyn gweithdai i Flwyddyn 12 gan yr elusen ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth’ ar ddechrau’r flwyddyn, aeth myfyrwyr y Chweched ati’n ddiweddar i gynnal sesiynau ABCh i Flwyddyn 8 ar Hiliaeth. Roedd y sesiynau’n ffocysu ar ystradebu, defnydd cadarnhaol o eiriau ac hiliaeth o fewn y byd chwaraeon. Roedd yr adborth gan ddisgyblion Blwyddyn 8 yn hynod o bositif ac roedden nhw wrth eu boddau’n trafod y negeseuon pwysig hyn gyda myfyrwyr hŷn yr ysgol. Diolch Blwyddyn 12!

Myfyrwyr y chweched