Rownd Derfynol Siarad Cyhoeddus Cymru (ESU)


Llongyfarchiadau gwresog i Manon, Rhys a Steffan (o flwyddyn 9) am gystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth siarad gyhoeddus yr ESU (English Speaking Union) yn Nhŷ Hywel, Bae Caerdydd ar ddydd Lun, 14eg Fawrth. Braint oedd cael eu gosod yn ail gan ystyried taw’r tro cyntaf i’r ysgol gystadlu yn y rownd derfynol. Mae cyrhaeddiad y tîm yn haeddu canmoliaeth gan ddaw tîm Bryn Tawe oedd y grŵp ifancach yn y rownd derfynol. Llwyddodd Manon i gyflwyno araith bwerus ac aeddfed ar arweinwyr gwleidyddol, tra oedd Steffan wedi serenni yn ei rôl fel cadeirydd, gan gipio gwobr unigol am y cadeirydd orau. Holodd Rhys gwestiynau dwys a pherthnasol yn seiliedig ar hawliau cyfartal o fewn y gymdeithas fodern. Yn sicr, mae’r tîm yn haeddu canmoliaeth am eu hymdrechion ac eisoes yn awyddus i gystadlu flwyddyn nesaf! Diolch hefyd i Mr Shaw am eu paratoi.

CShaw