Cynhadledd Hawliau Plant ym Mryn Tawe!


Ym mis Ionawr, cynhaliwyd Cynhadledd Hawliau Plant gan Gyngor Ysgol Bryn Tawe i gynghorau ein hysgolion cynradd. Mae Bryn Tawe wedi bod yn gweithio’n ddyfal dros y ddwy flynedd ddiwethaf i hybu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn o fewn yr ysgol ac hyfryd oedd cael croesawu dros 50 o ddisgyblion o ysgolion cynradd ein clwstwr ar y bore. Mae gan bob plentyn yn y byd, 42 hawl ac roedd y bore hwn yn gyfle i ddathu’r hawliau hyn gyda’n gilydd. Diolch yn fawr i aelodau’r Cyngor Ysgol ac i Katie Spendiff o Gyngor Dinas a Sir Abertawe am drefnu’r gynhadledd ac am ei chyflwyno mor wych! Bore i’w gofio!