Mae ein clwb gwyddonwyr gwyllt yn cwrdd pob Dydd Iau yn ystod yr awr ginio i gael hwyl. Blwyddyn 12 sy’n rhedeg y cwb dan oruchwyliaeth aelod o’r staff wyddoniaeth. Heddiw gwnaethom swigod ENFAWR yn defnyddio’r rysáit isod:
6 cwpan o ddŵr
½ cwpan o flawd corn
½ cwpan o hylif golchi llestri
1 lwy ford o glyserin
1 llwy ford o bowdr pobi
Ychwanegwch y blawd at y dŵr gan gymysgu’n dda i’w hydoddi. Ychwanegwch weddill y cynhwysion gan droi’n araf. Ceisiwch beidio creu ewyn ar ben y cymysgedd.
Serch bod y cam hwn yn anodd – ceisiwch adael y gymysgedd am o leiaf awr i sicrhau eich yn bod yn cael swigod da.