Etholiad prif ddisgyblion 2016


Pleser yw cyhoeddi enwau ein prif ddisgyblion newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Roedd wyth ymgeisydd eleni, sef Sara Dafydd, Catrin Hedges, Rhiannon James, Anna Matthews, Iestyn Davies, Sam McVeigh, Kadun Rees ac Isaac Thomas. Yn dilyn pnawn o areithio brwd o safon uchel iawn agorwyd y blychau pleidleisio. Cafodd blwyddyn 11, 12 a’r staff gyfle i fwrw pleidlais ac roedd hi’n amlwg fod yr wyth ymgeisydd wedi plesio’r pleidleiswyr yn fawr iawn. Yn dilyn cyfri gofalus cyhoeddwyd enwau’r pedwar prif ddisgybl newydd ar Ebrill 21ain. Ein prif ferch newydd yw Anna Matthews a’n prif fachgen newydd yw Iestyn Davies. Y dirprwyon yw Sara Dafydd a Kadun Rees. Llongyfarchiadau mawr i’r pedwar ac i bob un a ymgeisiodd eleni.

Lluniau Etholiad PDd 2016

,