Noson Goffa Dafydd Rowlands


Hyfryd oedd derbyn gwahoddiad i’r ysgol gymryd rhan yn Noson Gofio Dafydd Rowlands eleni yng Ngwesty’r Manor Park yng Nghlydach. Perfformiodd y Côr hŷn, y Côr Cerdd Dant, Parti Dawnsio Gwerin bl.7-9 a Pharti Llefaru bl.7-9. Bydd yr eitemau yma’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn y Fflint ymhen rai wythnosau. Llongyfarchiadau mawr hefyd i Lleucu Walters bl.13 ar gyrraedd rhestr fer Ysgoloriaeth Goffa Dafydd Rowlands ac ennill y drydedd wobr.