Llongyfarchiadau


Llongyfarchiadau mawr i griw o fl.7-9 ar ennill yr ail wobr yn y Cywaith Iau yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Y teitl oedd “Graffiti” ac fe gafodd y criw hwyl yn llunio prosiect yn seiliedig ar bob mathau o graffiti enwog a chael blas ar greu ychydig o graffiti (chwaethus!) yn yr ysgol! Llongyfarchiadau hefyd i griw o fl.10-13 ar ennill y wobr gyntaf am y Cywaith o dan 25 oed eleni (a hynny am y trydydd tro yn olynol!). Creu cylchgrawn am fudiad penodol oedd yr her a “Masnach Deg” gafodd ein sylw ni. Dyma luniau o rai o’r disgyblion a fu’n rhan o’r cyweithiau a da iawn i bawb a gyfrannodd!

Llun cywaith iau