Y Llinell Orffen


Ar drothwy’r arholiadau allanol, ga i ddiolch i’n disgyblion a’n rheini am eu gwaith caled dros y 5 – 7 mlynedd ddiwethaf. Fel arfer, rydym wedi trefnu rhaglen o adolygu yn yr ysgol i gefnogi ein disgyblion yn ystod y cyfnod allweddol yma. Does dim amheuaeth, bydd y disgyblion hynny sydd yn paratoi yn llawn drwy ymgymryd â rhaglen adolygu llawn adref, yn ogystal â mynychu’r sesiynau yn yr ysgol, â siawns gwell o gyflawni eu potensial! Fe ddylai pob disgybl sydd ym mlynyddoedd 10-13 bellach fod yn anelu at adolygu am o leiaf dwy awr bob nos wrth baratoi.

Yn dilyn sesiwn hynod lwyddiannus ym mis Chwefror i’n rhieni ar ‘Sut i gefnogi’ch plentyn i adolygu’, rydym wedi cynnwys taflen ar y cysylltiad isod. Mae cyfres o strategaethau llwyddiannus y gallwch annog a chefnogi eich plentyn i’w defnyddio wrth adolygu. Manteisiwch ar y wybodaeth yma! Fel y gwyddoch, mae eich plentyn wedi derbyn hyfforddiant yn y strategaethau yma gan gwmni Learning Performance – gwiriwch eu safwê nhw am rhagor o wybodaeth.

Dymuniadau gorau i bob un o’n disgyblion fydd yn sefyll arholiadau dros yr wythnosau nesaf!

Gai hefyd ddiolch i’n hathrawon am yr holl waith ychwanegol sydd wedi, ac yn parhau i ddigwydd wrth baratoi ein disgyblion ar gyfer yr arholiadau. Mae nifer fawr o sesiynau adolygu yn parhau yn ystod oriau cinio ac ar ôl ysgol – sicrhewch bod eich plentyn yn ymwybodol ohonynt ac yn mynychu cymaint o’r rhain â phosib.

Os ydych am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni yn yr ysgol?

Amserlen adolygu : Amserlen Adolygu 2016

Cefnogaeth adolygu i rieni : Cefnogaeth adolygu – Taflen rhieni

Safwe ‘Learning Perfomrance’: http://www.learningperformance.com/